Canlyniadau 141–160 o 2000 ar gyfer speaker:Russell George

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhestrau aros y GIG (11 Mai 2022)

Russell George: Diolch, Jenny. Cytunaf â'ch sylwadau ynglŷn ag atal. Credaf fod angen mwy o welyau arnom, ond rwy'n cytuno â chi ar yr egwyddor gyffredinol, serch hynny, oherwydd fel y dywedais yn fy nghyfraniad, mae gennym eisoes 1,000 o welyau gyda phobl nad oes angen iddynt fod ynddynt. Felly, y broblem fawr yw'r oedi wrth drosglwyddo gofal. Os gallwn fynd i'r afael â hynny, bydd yn datrys cyfran fawr...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhestrau aros y GIG (11 Mai 2022)

Russell George: Fel y saif pethau, hyd yn oed cyn y pandemig, roedd miloedd yn aros dros flwyddyn am driniaeth. Mewn gwirionedd, dyblodd y ffigur hwnnw yn y flwyddyn cyn y pandemig. Roedd adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau ambiwlans eisoes yn teimlo’r pwysau bob gaeaf, ac roedd gweithlu’r GIG eisoes yn wynebu heriau sylweddol a phrinder staff. Felly, erbyn hyn yn anffodus, mae gennym yr...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhestrau aros y GIG (11 Mai 2022)

Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ffôl—dyna a ddywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd ynglŷn â chael cynllun i fynd i’r afael â’r ôl-groniadau yn y GIG yng Nghymru cyn i’r pandemig ddod i ben. Ac at beth y mae hynny wedi arwain? Fel y saif pethau, mae Cymru’n gweld yr amseroedd aros gwaethaf a gofnodwyd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yr amseroedd aros hiraf am driniaeth, a'r...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (10 Mai 2022)

Russell George: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, a diolch i chi hefyd am eich papurau briffio i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bob tair wythnos? A gaf i groesawu llawer o'r hyn a ddywedoch chi heddiw? Fodd bynnag, ni ddylai'r rheolau ar fasgiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn rhan o gyfraith frys, yn fy marn i; dylid diddymu hynny o ystyried y sefyllfa...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hepatitis C (10 Mai 2022)

Russell George: Prif Weinidog, clywais eich ateb blaenorol. Gwnaeth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol argymhelliad penodol ynghylch ymgyrch genedlaethol ac, mewn ymateb i hynny, derbyniodd y Gweinidog ar y pryd yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor. Ond un o'r rhwystrau oedd nad oedden nhw'n gweld y dystiolaeth ar gyfer ymgyrch genedlaethol, ac yna dywedodd y Gweinidog y byddai angen...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Russell George: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Russell George: Weinidog, credaf mai'r broblem sydd gennyf fi, a busnesau gwyliau yn fy etholaeth yn sicr, yw nad yw 180 diwrnod yn ddigon i allu llenwi eu llety, o gofio ei bod yn anodd iawn gosod llety gwyliau yn ystod misoedd y gaeaf. Ac nid yw cael defnydd o 100 y cant am 182 diwrnod yn ymddangos yn gynnig realistig o gwbl. Hoffwn ichi roi ymrwymiad heddiw y bydd hyn o ddifrif yn cael ei archwilio'n...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Russell George: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Russell George: Y pwynt yma, fodd bynnag, yw na allant hyd yn oed roi eu heiddo ar y farchnad dai gan nad yw’r caniatâd cynllunio a roddwyd yn caniatáu hynny. Felly, dyma'r broblem yma, lle y ceir anghysondeb llwyr y mae angen mynd i'r afael ag ef.

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal (26 Ebr 2022)

Russell George: Cyfeiriwyd LCM atodol Rhif 4 at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i graffu arno ar 29 Mawrth, er na osodwyd yr LCM ei hun tan 5 Ebrill. Fel pwyllgor, cytunwyd bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymal 181 gan fod y ddarpariaeth yn ymwneud ag iechyd. Gan fod yr LCM wedi'i osod yn ystod y toriad, gyda therfyn amser adrodd o dair wythnos yn unig, ychydig iawn o gyfle a gawsom, yn amlwg, i...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio (26 Ebr 2022)

Russell George: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe af i drwyddyn nhw'n gyflym felly. A gaf i ofyn, Gweinidog, am ganolfannau rhanbarthol sy'n rhydd o COVID? Rwyf wedi sôn am hyn droeon—fe wn i fy mod wedi sôn am hyn droeon, a gwnaeth fy rhagflaenydd yn y swydd hon yr un peth hefyd. Dywedwch wrthym pryd maen nhw'n mynd i ddigwydd. Dywedwch pryd fyddan nhw yn eu lle, oherwydd hoffwn wybod yr ateb i hynny...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio (26 Ebr 2022)

Russell George: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ategu sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â gweithlu'r GIG a'r gwaith aruthrol y maen nhw wedi'i wneud? Ni allwn ailadrodd hynny ddigon, sef ein diolch am eu holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynllun i leihau amseroedd aros, a diolch hefyd i'r Gweinidog, wrth gwrs, am y...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr (30 Maw 2022)

Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Drwy gydol y pandemig, yn gwbl briodol wrth gwrs, rydym wedi canmol ein gweithwyr allweddol, onid ydym, a staff ein GIG am eu hymateb i COVID-19. Ond ni theimlaf fod pob un ohonom wedi cefnogi rôl fferyllwyr ddigon, a dyna pam rwy’n falch iawn heddiw o arwain y ddadl hon i dynnu sylw...

3. Cwestiynau Amserol: Ysbyty Athrofaol y Faenor (30 Maw 2022)

Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae’r ffaith bod ysbyty mawr yn datgan rhybudd du ar noson yn ystod yr wythnos, wrth gwrs, yn dangos nad yw’r GIG yng Nghymru yn barod i gefnogi’r rheini sydd ei angen fwyaf. Rwy'n arbennig o bryderus, wrth gwrs, am y staff yn yr ysbyty, sydd o dan bwysau sylweddol ac sy'n teimlo eu bod hwy eu hunain wedi cael cam, rwy'n siŵr. Hoffwn wybod, Weinidog, am...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Myfyrwyr Safon Uwch (30 Maw 2022)

Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm â myfyrwyr Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Llanidloes yn fy etholaeth fy hun wedi i fyfyriwr penodol gysylltu â mi. Cyfarfûm â nifer o fyfyrwyr. Fe wnaethant amlinellu eu pryderon. Soniais am lawer o'r hyn yr ydych newydd ei ddweud yn awr, Weinidog—soniais am y pecyn cymorth a gyhoeddwyd gennych cyn y Nadolig. Ond daeth un myfyriwr...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Myfyrwyr Safon Uwch (30 Maw 2022)

Russell George: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr safon uwch eleni o ystyried effaith y pandemig ar eu haddysg? OQ57864

3. Cwestiynau Amserol: Ysbyty Athrofaol y Faenor (30 Maw 2022)

Russell George: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi datgan rhybudd du neithiwr? TQ615

10., 11. & 12. Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 (29 Maw 2022)

Russell George: Mae'n ddrwg gen i, a gaf i ofyn—? Rwy'n llwyr werthfawrogi'r hyn y gwnaethoch ei ddweud o ran gadael i bobl Cymru wneud eu penderfyniadau ar farn eu hunain. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y gwnaethoch ei ddweud yn hynny o beth. Fy nghwestiwn am y lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, serch hynny, oedd: rwy'n cytuno ei bod yn synhwyrol, wrth gwrs, i'r staff hynny wisgo gorchudd wyneb wrth...

10., 11. & 12. Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 (29 Maw 2022)

Russell George: Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i am fy nryswch cynharach, roeddwn i'n ceisio tynnu fy ngorchudd wyneb ar yr un pryd â pheidio â chael fy offer cyfieithu ymlaen. Rwy'n ymddiheuro.


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.