Altaf Hussain: Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun gweithredu newydd i wella bywydau pobl yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu i'w groesawu. Mae pobl ag anableddau dysgu yn aml yn wynebu heriau bywyd ychwanegol. Maen nhw'n fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd ychwanegol, megis awtistiaeth, epilepsi a phroblemau deintyddol, i enwi dim ond rhai. Nid bob tro, ond...
Altaf Hussain: Mae pobl ag anabledd dysgu yn dioddef ynysigrwydd mwy sylweddol oherwydd camddealltwriaeth rhwng lleoliadau gofal preswyl a gwasanaethau byw â chymorth pan fo pobl yn cael cymorth o fewn eu tenantiaethau eu hunain. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r ffyrdd y bydd pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd/gofalwyr yn ganolog i'r gwaith o gynllunio'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw? Diolch.
Altaf Hussain: Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Mae angen canolbwyntio mwy ar atal, nid darpariaethau adweithiol yn unig, cefnogi iechyd meddwl da fel rhan o raglen sy'n sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i leihau'r tebygolrwydd y bydd afiechyd yn digwydd yn y lle...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn. Roeddwn am ymyrryd yn gynharach. Mae'n ymwneud â'r boen, ac endometriosis, nad yw'n ymwneud ag un organ yn unig—mae'n broblem sy'n effeithio ar sawl organ. Tynnu sylw'n unig a wna poen. Mae'n tynnu sylw at y ffaith fod yn rhaid ichi weld y claf cyfan, rhywbeth nad yw'n digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi bod yn trin y symptomau. Dyna pam fy mod wedi bod yn...
Altaf Hussain: Weinidog, mae gwefan cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud, 'Yn ogystal â dangos cynlluniau uchelgeisiol Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ehangu a gwella ansawdd ac ystod y cyfleoedd dysgu a hyfforddi yn y fwrdeistref sirol, mae hefyd yn dangos sut mae uwchgynllun adfywio'r cyngor yn ceisio gweithio ochr yn ochr â phartneriaid allweddol i sicrhau newid cadarnhaol sylweddol a hirdymor i ganol...
Altaf Hussain: Rwy'n falch o fod yn un o ymddiriedolwyr Brynawel, gwasanaeth adsefydlu cyffuriau ac alcohol yn ne Cymru sy'n gweithio i gefnogi pobl sydd wedi dod yn ddibynnol. Yr hyn a wyddom yw bod llawer o bobl ledled Cymru sy'n gallu byw bywydau normal, gweithredol, ond sydd, ar yr un pryd, yn cynnal ffordd o fyw sy'n dibynnu fwyfwy ar alcohol fel rhan allweddol o'u bywyd cymdeithasol a theuluol. Mae...
Altaf Hussain: Hoffwn ddatgan buddiant gan fy mod yn un o ymddiriedolwyr Canolfan Adsefydlu Brynawel. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, a diolch i fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru am gyflwyno’r pwnc pwysig hwn i’w drafod ar lawr y Senedd. Ceir llawer o agweddau ar y ddadl hon y mae pob un ohonom yn cytuno â hwy. Mae niwed, dibyniaeth, ac yn anffodus, marwolaethau sy’n...
Altaf Hussain: Hoffwn siarad am un mater bach iawn. Mae'r hyn a ddywedoch chi am y staff clinigol, y nyrsys, pawb, yn wych. Ond rwyf wedi ysgrifennu'r paragraff hwn: mae rheolwyr wedi'u penodi heb ddisgrifiad swydd, neu ar y gorau, gyda disgrifiad swydd sy'n disgrifio'r agweddau rheoli. Maent wedi dod yn ymgorfforiad o hunan-ffocws, hunan-ddatblygu, hunan-gynnydd, hunan-warchod, hunan-ymestyn...
Altaf Hussain: Gadewch imi orffen, felly. Mae cyflwr presennol y GIG yn golygu bod angen mesurau unioni ar frys. Rydym yn dal i fethu nodi’r problemau sylfaenol yn y GIG, a dyna pam yr ymddengys nad yw ein mesurau unioni byth yn dwyn ffrwyth. Gadewch imi gael y gair olaf, syr. Wrth i’r system iechyd a gofal symud yn ei blaen, ac wrth i’r ffocws newid i ailsefydlu gwasanaethau a chefnogi iechyd a...
Altaf Hussain: Mae'r pandemig COVID-19 wedi profi y tu hwnt i bob amheuaeth mai iechyd da yw conglfaen ein cymdeithas. Mae COVID wedi peri cymaint o alar a cholled, ac nid oes unrhyw agwedd ar ein bywydau heb ei heffeithio. Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, mae’r GIG yn sefydliad y gallwn oll fod yn falch ohono. Ond mae Llywodraeth Cymru yn methu cynhyrchu cynllun sy'n targedu'r rhestrau aros cynyddol yng...
Altaf Hussain: Weinidog, beth yw eich asesiad o'r cyfraniad economaidd cyffredinol i Abertawe a rhanbarth ehangach datblygiad SA1, a pha gyfleoedd sydd ar gael i ddyblu ein hymdrechion ar dwf economaidd rhanbarthol i adeiladu allan o'r pandemig hwn?
Altaf Hussain: Prynhawn da, Weinidog. Mae’n ffaith sy'n peri pryder fod llawer o bractisau deintyddol wedi'i chael hi'n anodd dychwelyd i normalrwydd wrth inni gefnu ar y pandemig. Nid yw archwiliadau arferol yn cael eu cynnig. Mae pobl yn gyndyn o drafferthu eu deintyddion am apwyntiadau gan eu bod yn teimlo efallai na fyddai archwiliad yn cael ei ystyried yn ddigon pwysig. Ac mae llawer o bobl yn methu...
Altaf Hussain: Beth yw targedau'r Gweinidog ar gyfer twf economaidd yn ystod tymor y Senedd hon?
Altaf Hussain: Rwyf am wneud un pwynt olaf, syr. Mae pobl Pen-y-bont ar Ogwr yn haeddu gwell, a rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod ganddynt fan lle gallant fagu teulu a chael cymuned a chartref sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Diolch.
Altaf Hussain: Fy natganiad i yw na fyddaf yn ymladd unrhyw etholiadau ar ôl 10 mlynedd fel cynghorydd cymuned etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nawr, gadewch imi siarad am Ben-y-bont ar Ogwr. Rwyf am ei wneud yn syml. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn arfer bod yn dref fywiog, yn llawn bywyd, busnesau a siopwyr. Mae llawer o bobl bellach yn siopa ar-lein, neu'n mynd i Gaerdydd neu...
Altaf Hussain: Diolch. Weinidog, mae Cymru, ynghyd â gweddill y DU, yn dangos unwaith eto ein bod yn wlad sy’n croesawu’r rheini sy’n ffoi rhag gwrthdaro. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin, yn ogystal â'r troseddau rhyfel echrydus a gyflawnwyd gan wladwriaeth Rwsia, wedi dadleoli miliynau o bobl ac mae arnynt angen cartref. Mae Cymru’n iawn i groesawu cymaint ohonynt ag y gallwn. Felly, a wnaiff y...
Altaf Hussain: 4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Cymru'n cyflawni ei dyletswyddau i'r rheini sy'n ffoi rhag ymosodiad Rwsia ar Wcráin? OQ57947
Altaf Hussain: Mae'n ddrwg gen i. Fe wnaf fi orffen. Rhowch eiliad i mi, os gwelwch yn dda.
Altaf Hussain: Mae hyn yn bwysig i'w ddweud am Wcráin, mewn gwirionedd. Rydym yn dyst i wrthdaro parhaus yn y lluoedd arfog a thorri hawliau dynol rhyngwladol, sy'n parhau i ddinistrio iechyd a llesiant dynoliaeth, a'r dioddefaint dynol a welwn yn fyw yn Wcráin. Rhaid i ni ailddiffinio'r ddealltwriaeth o iechyd a chwmpas eu diddordeb a'u cyfrifoldeb proffesiynol o ran yr hawl i iechyd. Gadewch i mi wneud...
Altaf Hussain: Os gwelwch yn dda.