Julie James: Yn hollol, Huw, roeddwn i'n dod at yn union hynny. Rydym am i'r targedau hynny fod yn ystyrlon ac yn ymestynnol. Er hynny, rydym eisiau iddynt fod yn gyraeddadwy. Nid oes unrhyw bwynt cael targedau a bod pawb yn dweud, 'O wel, wnewch chi byth mohono'. Mae arnom angen iddynt fod yn dargedau realistig a chyraeddadwy, lle gallwn ddiogelu 30 y cant o'n tir, ein dŵr croyw a'n moroedd erbyn 2030....
Julie James: Felly, yn sgil y gwaith pwysig y mae hi wedi bod yn ei wneud, rwy'n falch o gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn cytundeb Dr Llewelyn Jones am flwyddyn arall, ac rwy'n arbennig o falch mai Dr Llewelyn Jones sydd yn y swydd. Nid ymestyn y swydd yn unig a wnawn, ond rydym yn ymestyn ei rôl ynddi, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn i'w wneud. Fe wnaeth adroddiad y pwyllgor...
Julie James: Diolch, Lywydd. Hoffwn innau ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith ac am yr adroddiad diweddar ar y trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim. Rwy'n credu bod adroddiad y pwyllgor yn ystyrlon a chytbwys, ac rwy'n falch iawn o gadarnhau bod y Llywodraeth yn derbyn ei holl argymhellion. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch o galon i Dr Nerys Llewelyn...
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Jack am gyflwyno'r ddadl a rhoi'r cyfle imi siarad am ddiogelwch dŵr ac atal boddi. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau, fel y byddech yn disgwyl, drwy gydymdeimlo â theulu Mark Allen ac unrhyw un arall yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan achosion o foddi, gan eu bod, fel y dywedodd Vikki Howells, yn gwbl ddinistriol, ac maent yn...
Julie James: Diolch, Llywydd. Dim ond i ddiolch eto i bawb sydd wedi gweithio'n galed iawn ar y Bil, pob un o'r pwyllgorau, yr holl Aelodau, ond, yn fwyaf arbennig, i bobl, busnesau a phobl ifanc Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino ac yn galed, ac wedi pwyso'n galed iawn i mi gael y Bil hwn ar y llyfr statud, ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi gallu gwneud hynny drostyn nhw ac ar gyfer ein cenedlaethau i'r...
Julie James: Diolch, Llywydd. Rwyf wrth fy modd yn cynnig y cynnig gerbron y Senedd heddiw ar gyfer Cyfnod 4 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), a gyflwynais i'r Senedd ar 20 Medi 2022. Ers cyflwyno'r Bil, mae wedi symud ymlaen yn llwyddiannus trwy Gyfnodau ym mhroses ddeddfwriaeth y Senedd ar amserlen gyflym. Rwyf fwyaf diolchgar i'r Pwyllgor Busnes am gytuno ar hyn. Rwyf hefyd...
Julie James: Gan droi'n gyntaf i ystyried gwelliant 25, a gynigiwyd gan Janet Finch-Saunders, byddai hyn, fel y dywedodd, yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu digon o gyllid i awdurdodau lleol i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau gorfodi o dan y Bil. Credaf fod hyn yn debyg i newid a gynigiwyd yn ystod Cyfnod 2. Rwyf wedi gwrando eto ar y pwyntiau a wnaed ac, er fy mod yn deall pryderon...
Julie James: Diolch, Llywydd. Cafodd gwelliant 24 ei gyflwyno gan Janet Finch-Saunders, ac mae'n ceisio darparu amddiffyniad o ran diffyg bwriad i gyflenwi pan fo gan rywun gynnyrch untro gwaharddedig. Rwy'n cadarnhau bod gwelliant tebyg wedi'i gyflwyno a'i ystyried yng Nghyfnod 2. Hoffwn ailadrodd yn y fan yma nad yw meddu ar gynnyrch plastig untro sy'n dod o dan gwmpas y Bil ynddo'i hun yn drosedd ac...
Julie James: Gan droi at welliant 41 yn gyntaf, gan fod gwelliant 55 yn ganlyniadol iddo, mae hynny, fel yr eglurodd Delyth yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu bwrdd prosiect goruchwylio a phanel cynghori o fewn 12 mis i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Mae'n darparu amlinelliad byr o ddiben pob corff ac yn cynnig swyddogaethau posibl i bob un. Mae'r memorandwm esboniadol, fel y mae Delyth...
Julie James: Diolch, Llywydd. Fe af i'r afael â gwelliannau 18, 19 a 21 gyda'i gilydd. Yn gyntaf, dim ond i ddiolch i Janet Finch-Saunders am gytuno i gydweithio ar y tri gwelliant yma. Gyda'i gilydd, bydden nhw'n adolygu'r gofynion adrodd yn adran 4 o'r Bil, felly byddai angen i Weinidogion Cymru adrodd nid yn unig ar unrhyw ystyriaethau y maen nhw yn eu gwneud ynghylch gwahardd weips plastig untro neu...
Julie James: Nac ydw, dydw i ddim yn gwrthwynebu.
Julie James: Ydy.
Julie James: Cynnig.
Julie James: Yn ffurfiol.
Julie James: Diolch, Llywydd. Fe wnaf ymdrin â gwelliant 34 yn gyntaf. Byddai gwelliant 34 yn tynnu cynhyrchion plastig ocso-ddiraddadwy o'r rhestr o gynhyrchion gwaharddedig yn Atodlen 1, yn ogystal â'r diffiniad o 'blastig ocso-ddiraddadwy'. Ac mae Janet yn hollol gywir, fe wnes i nodi mewn ymddangosiadau cynharach mewn pwyllgorau ac yn y Cyfarfod Llawn bod plastig ocso-ddiraddadwy yn faes cymhleth...
Julie James: Diolch, Llywydd.
Julie James: Diolch, Llywydd. Bwriad y Bil yw gwahardd cyflenwi a chynnig cyflenwi ar gyfer gwerthu neu am ddim y cynhyrchion sydd wedi'u rhestru yn y Bil i ddefnyddwyr yng Nghymru. Mae gwelliannau 31, 32 a 33 a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders yn cynnig diwygio Atodlen 1 i'r Bil i esemptio'n benodol y defnydd o ffyn cotwm plastig untro at ddibenion fforensig, fel dyfeisiau perthnasol a ddefnyddir at...
Julie James: Diolch, Llywydd. Yng Nghyfnod 2, derbyniais welliant a gyflwynwyd gan Delyth Jewell i leihau nifer yr esemptiadau ar gyfer bagiau siopa plastig untro o'r gwaharddiad a gyflwynwyd gan y Bil, yn benodol i gael gwared ar yr esemptiad sy'n berthnasol pan gaiff claf fag siopa plastig untro pan weinyddir meddyginiaeth neu ddyfais feddygol ar bresgripsiwn, a ddiffinnir fel 'cyfarpar rhestredig' yn y...
Julie James: Mae pob gwelliant yn y grŵp hwn yn ymdrin â'i gwneud yn drosedd i weithgynhyrchu, yn ogystal â chyflenwi neu gynnig cyflenwi, cynnyrch plastig untro gwaharddedig yn rhan Atodlen y Bil. Yn ystod Cyfnod 2, cafodd gwelliannau tebyg ynglŷn â gweithgynhyrchu cynhyrchion untro eu cyflwyno a'u gwrthod gan aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith. Roedd hyn ar y sail bod y...
Julie James: Gan droi at welliant 15, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, mae'r gwelliant hwn yn mewnosod darpariaeth yn adran 2 o'r Bil i nodi sut y dylai'r esemptiadau a gynhwysir yn nhabl 1 o'r Atodlen sy'n ymwneud â gwellt plastig untro gael eu cymhwyso: yn benodol, sut y gall cyflenwr fod yn fodlon ei fod yn credu'n rhesymol bod angen gwelltyn ar berson am resymau iechyd neu anabledd. Mae'n...