Lee Waters: Diolch. Y llynedd, gwnaethom gynyddu ein huchelgais i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, a chyn COP26 y llynedd, gwnaethom gyhoeddi Cymru Sero Net, ein cynllun lleihau allyriadau yr ydym yn awr yn gweithio ar ei gyflawni, a’n cynllun presennol ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd, ’Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd'.
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Roedd hon yn ddadl fer a ffrwythlon gyda llawer o gyfraniadau meddylgar. Diolch am ei chyflwyno, Carolyn, ac am y gwaith y buoch yn ei wneud gyda ni i helpu i lywio dull o weithio gydag awdurdodau lleol gyda'r nod o geisio lledaenu arferion da. Roeddech yn tynnu sylw at pa mor frawychus o gyflym y mae natur yn cael ei disbyddu a llawer o'r ffyrdd ymarferol y gallwn i gyd...
Lee Waters: Diolch am y cwestiwn, ac rwy'n ymwybodol o'r pryderon y mae wedi'u codi o'r blaen ar ran trigolion ynglŷn â'r cyfleuster ar ystad Glasdir yn Rhuthun. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru ymchwiliad ochr yn ochr â Chyngor Sir Ddinbych fis Medi diwethaf, a nododd nifer o fân broblemau a arweiniodd wedyn at gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr, ac ymdriniwyd â'r...
Lee Waters: Mae mynd i'r afael ag allyriadau trafnidiaeth sy'n llygru wedi bod yn ffocws i'n rhaglen waith aer glân. Ac fel y soniais, mae comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru a'r panel adolygu ffyrdd ill dau'n gwneud gwaith a fydd yn ein helpu gyda'r targed hwn mewn golwg.
Lee Waters: Wel, gallaf sicrhau Jack Sargeant mai un o ganlyniadau gweithio gyda Ken Skates am ddwy flynedd a hanner yw fy mod yn deall yn iawn yr angen i weithio'n drawsffiniol ac i weithio'n agos gyda'r maer metro. Gallaf eich sicrhau mai dyna a wnawn. Sefydlwyd cysylltiadau da pan oedd Ken yn gyfrifol am y portffolio trafnidiaeth ac maent wedi'u cadw, rwy'n falch o ddweud. Mewn gwirionedd, mae...
Lee Waters: Rwy'n sicr yn rhannu rhwystredigaeth yr Aelod fod y cynllun wedi taro rhai rhwystrau. Gadewch imi ddweud ychydig o bethau mewn ymateb i'r pwyntiau y mae'n eu codi. Yn gyntaf oll, credaf ei fod yn hyrwyddwr gwych dros y sector preifat a byddwn wedi meddwl, yn yr achos hwn, nad mater i'r Llywodraeth yw arwain y gwaith o gyflwyno e-wefru; nid yw'r Llywodraeth yn darparu gorsafoedd petrol ac nid...
Lee Waters: Bydd ein rhaglen metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau trên, bysiau a theithio llesol ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi cyhoeddi comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns, cyn-Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys, sydd wedi gwneud gwaith mor dda i ni o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd. Ac mae hynny eisoes yn dechrau. Mae'n cyfarfod am y tro cyntaf...
Lee Waters: Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw. Yn sicr, nid bwriad y cynllun yw cyfyngu ar bobl sydd am blannu coed. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw'r telerau ac amodau yn gwneud hynny, a byddwn yn awyddus i glywed mwy gennych am eich enghraifft benodol i weld beth a allai fod wedi mynd o'i le yno. Mewn gwirionedd, gwnaethom gynnwys yn y cynllun y gallu i Coed Cadw ddosbarthu i bobl nad ydynt yn...
Lee Waters: Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn braidd yn wirion, os nad oes ots gennych imi ddweud hynny, oherwydd roedd digon o wybodaeth pan lansiwyd y cynllun gennym yn gynharach eleni. Fe'i gwnaethom yn glir iawn y byddai cam cychwynnol. Roeddem yn awyddus iawn i wneud rhywbeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, nid aros tan y flwyddyn ariannol hon, felly cawsom lansiad ysgafn lle cafwyd chwe...
Lee Waters: Mae'n rhaid inni blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 os ydym am gyrraedd llwybr cytbwys Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU i'n cael i sero net. Rydym wedi agor cynllun cynllunio newydd i greu coetiroedd er mwyn cefnogi rheolwyr tir i ddatblygu cynlluniau i blannu coed, a bydd cynlluniau newydd i gefnogi plannu coetiroedd newydd yn cael eu hagor yn ddiweddarach eleni.
Lee Waters: Yn y Senedd ddiwethaf, cawsom gefnogaeth drawsbleidiol i gyflwyno’r polisi o derfynau cyflymder 20 mya ar ffyrdd lleol. Fe wnaethom sefydlu tasglu a ymgynghorodd yn eang iawn ac a gynhwysodd randdeiliaid wrth weithio drwy fanylion y ffordd orau o lunio a gweithredu'r polisi hwn. Un o’r pethau y cytunwyd arnynt oedd y byddem yn mynd ati mewn wyth ardal i dreialu gwahanol ddulliau o sicrhau...
Lee Waters: Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r cyhoeddiad heddiw fod chwyddiant yn y DU wedi cyrraedd 9 y cant ym mis Ebrill. Mae chwyddiant yn y diwydiant adeiladu yn agosach at 30 y cant, felly mae unrhyw brosiect seilwaith yn cael ei effeithio gan gostau uwch; mae hynny, mae arnaf ofn, yn anochel, o ystyried y ffordd y mae chwyddiant yn codi'n afreolus. Felly, wrth gwrs, nid yw'r prosiect metro'n...
Lee Waters: Rydym yn falch, yn amlwg, ein bod wedi gallu dod i gytundeb o'r diwedd gyda Llywodraeth y DU ar y porthladdoedd rhydd. Mae wedi bod yn drafodaeth hirach nag y dylai fod, ac nid oedd y ffordd y’i cynhaliwyd yn ddelfrydol, ond rwy’n falch inni ddod i gytundeb yn y pen draw. Dangosodd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, gryn dipyn o amynedd i sicrhau canlyniad boddhaol, ac ef sydd wedi bod yn...
Lee Waters: Wrth gwrs, mae gennym Rhentu Doeth Cymru hefyd. Sylwais fod Peredur Griffiths wedi defnyddio ymadrodd am ein math o fframwaith statudol, ac nid wyf yn credu y dylem ddiystyru na thanamcangyfrif hynny; credaf fod hwnnw'n fudd pwysig y gweithiwyd yn galed amdano ac sy'n rhoi mantais inni. Rhaid i unrhyw landlord eiddo a rentir yn breifat gofrestru ei hun a'i eiddo, ac mae Rhentu Doeth Cymru yn...
Lee Waters: Wel, diolch yn fawr iawn i Peredur Griffiths am ei gyfraniad, a oedd, yn fy marn i, yn feddylgar iawn ac yn codi nifer o faterion pwysig y mae angen eu hystyried, ac rwy'n falch iawn fod gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru ddull radical ar y cyd o ymdrin â nifer o feysydd tai, a mecanwaith inni allu trafod hyn a dod o hyd i atebion a rennir i broblemau cymhleth a heriol. Nawr, wrth gwrs, ein...
Lee Waters: Gall awdurdodau lleol ddefnyddio cyllideb y taliadau disgresiwn at gostau tai i gefnogi’r bobl yr effeithir arnynt fwyaf gan y toriadau i fudd-daliadau. Ond eleni, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol doriad o oddeutu £2.3 miliwn yn y gyllideb honno, sef toriad o 27 y cant, o gymharu â’r llynedd, a hynny yn ychwanegol at doriad blaenorol o 18 y cant. Nawr, mae hwn yn ostyngiad enfawr mewn...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mabon ap Gwynfor am ei sylwadau ynglŷn â sefyllfa deuluol y Gweinidog, a byddaf yn eu trosglwyddo iddi? Mae rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yng Nghymru, ac adlewyrchir hynny yn ein rhaglen lywodraethu ac yn y cytundeb cydweithio. Mae’r ymateb brys i ddigartrefedd drwy gydol y...
Lee Waters: Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rheolau mewnfudo newydd ar gyfer pobl y mae'r rhyfel yn Wcráin yn effeithio arnynt. Bydd y rhain yn darparu caniatâd cyfyngedig i aros i bobl sy'n cael caniatâd i ddod i'r DU o Wcráin, a'r rhai a oedd yma cyn i'r rhyfel ddechrau. Byddan nhw, felly, yn osgoi gofynion arferol rheoli mewnfudo. Mae hyn yn golygu nad oes cost i wneud cais, ac...
Lee Waters: Wel, Lywydd, fel mab, ŵyr a gor-ŵyr i löwr, mae'n fraint gennyf ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, a chredaf, ar y cyfan, ei bod wedi bod yn ddadl ragorol. Mae bron i 40 y cant o domenni glo segur y DU yng Nghymru—40 y cant—ac mae tomenni glo'n effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau. Gwyddom fod yna bron i 2,500 o domenni glo segur, gyda 327 yn y categori uwch. Nawr, mae'r rhain yn...
Lee Waters: Yn ffurfiol.