Michelle Brown: Diolch i chi am eich diweddariad, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n rhaid imi ddweud ei bod hi'n drueni i bobl sydd angen Betsi Cadwaladr nad yw datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys mwy o newyddion da na honiadau eang cyffredinol y bu gwelliannau anfesuradwy mewn rhai meysydd. Nawr, nid wyf am ailadrodd yr ystadegau gwarthus ynglŷn â Betsi Cadwaladr; rydym ni i gyd yn ymwybodol...
Michelle Brown: Iawn. Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddai'n dda iawn gennyf wybod pa fath o gytundeb lefel gwasanaeth rydych wedi'i sefydlu gyda deiliad y fasnachfraint newydd, yn enwedig mewn perthynas â'r targedau a'r dangosyddion perfformiad a nodwyd yn y cytundeb lefel gwasanaeth hwnnw. Pa mor llym rydych yn gorfodi'r dangosyddion perfformiad hynny yn y cytundebau lefel...
Michelle Brown: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur llwyddiant gwelliannau i wasanaethau sy'n deillio o'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd? OAQ52823
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, er ei bod yn drueni i mi orfod dweud mai prin yw'r manylion ynddo, ac yr ymddengys mai rhestr o ddyheadau ydyw i raddau helaeth, er bod y dyheadau hynny i'w canmol. Mae eich datganiad yn trafod cynllun, ond ni allaf weld cynllun manwl yn eich datganiad. Felly, tybed a fyddech yn rhoi gwybod inni pan gaiff y cynllun manwl ei gyhoeddi, ac a fyddwn ni'n...
Michelle Brown: Diolch am y rhestr o sgwarnogod, Ysgrifennydd y Cabinet. Af ymlaen i drafod yr agwedd ymarferol ar hyn. Hoffwn wybod beth rydych yn ei wneud mewn gwirionedd i helpu prifysgolion a cholegau i farchnata eu hunain i'r sylfaen myfyrwyr rhyngwladol ehangach a mwy proffidiol. Er enghraifft, a ydych wedi gofyn i'r is-gangellorion mewn colegau AB pa gymorth ymarferol y gallwch ei roi iddynt? Er...
Michelle Brown: Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Aeth yr is-bennaeth yn ei blaen i ddweud: Mae ein partneriaeth gyda Tsieina wedi dod yn gryf iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, drwy gymorth Brexit o bosibl. Mae eich plaid chi—ac wrth hynny golygaf blaid y Democratiaid Rhyddfrydol rydych yn ei chynrychioli, yn hytrach na'r Blaid Lafur rydych yn ei gwasanaethu—eisiau anwybyddu pleidleisiau...
Michelle Brown: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth amser yn ôl, gofynnais i chi a oeddech yn credu y byddai ymadael â'r UE yn arwain at unrhyw fanteision i sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch ac fe ddywedoch nad oeddech. Mewn erthygl gan y BBC yn gynharach y mis hwn, tynnwyd sylw at y ffaith bod ein colegau'n gweld bod cyfleoedd i'w cael ar gyfer addysg bellach ac uwch i'r rheini sy'n mynd...
Michelle Brown: Nac oedd, mewn gwirionedd.
Michelle Brown: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn ymuno â'r Gweinidog i roi teyrnged i'r rheini a gynigiodd eu hunain i fabwysiadu plentyn sydd angen cartref cariadus a sefydlog, ac rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Er nad yw'r Gweinidog wedi sôn am niferoedd o ran y gwelliannau a oedd yn nodi yn ei ddatganiad, croesawaf y newyddion y lleolir plant yn gynt gyda theuluoedd sy'n mabwysiadu, bod...
Michelle Brown: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Fel Angela Burns, rwy'n anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Corey Sharpling, a fu farw yn anffodus mewn tirlithriad. Ac rwyf hefyd yn cydymdeimlo â phobl eraill yn y DU a fu farw neu sydd wedi dioddef anaf yn y storm ddiweddar. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y lle hwn yn gwneud eu gorau glas i'w helpu nhw a'r bobl hynny y mae eu...
Michelle Brown: Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Wrth gwrs, ceir amrywiol fathau o anabledd ac ar un ystyr, mae pob anabledd yn unigryw i'r person dan sylw. Mae pobl anabl yn wynebu problemau gyda chael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a gwasanaethau, boed yn rhai cyhoeddus neu breifat. Mae'n wir fod hawliau pobl anabl wedi gwella dros y 40 mlynedd diwethaf, ond nid yw hynny'n dweud llawer o gofio sut...
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. A ydych yn awyddus i wybod sut all gwasanaeth mamolaeth ddarganfod yn sydyn ei fod 15 bydwraig yn brin? Pa bryd wnaethon nhw ddarganfod eu bod 15 bydwraig yn brin? Mae'n rhaid bod staff ymroddedig a gweithgar, y byddwch yn ddiamau yn cuddio y tu ôl iddyn nhw heddiw, wedi seinio'r larwm am brinder staff a chanlyniadau hynny ers amser...
Michelle Brown: Prif Weinidog, gwelaf fod y Llywodraeth yn Lloegr yn cyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn bach trydydd parti. Hoffwn gael gwybod gennych chi, rydych chi'n dweud nawr eich bod chi'n mynd i'w, am ba hyd yr ydych chi'n mynd i barhau i geisio rheoleiddio'r dioddefaint yn hytrach na'i wahardd yn llwyr.
Michelle Brown: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr yr hoffech chi gymryd yr ystyr hwnnw o fy nghwestiwn, ond, yn eich araith olaf i gynhadledd y Blaid Lafur fel Prif Weinidog, gwnaethoch fôr a mynydd o ddweud bod yr hyn yr ydych chi wedi ei gyflawni yng Nghymru yn dangos yr hyn y gall Llafur ei wneud pan fydd mewn grym. Efallai eich bod chi wedi ymgolli yn eich hapusrwydd o ymadael, ond fe...
Michelle Brown: 1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o welliannau i amseroedd aros ysbytai ers iddo ddod yn Brif Weinidog? OAQ52698
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hunanwerthuso yn ymarferiad mewnol pwysig, ond pan gaiff ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwn, ym mha ffordd fydd yn llunio rhan o'r broses ehangach o werthuso ac asesu? A phan fo ysgolion yn gweithredu yn ôl model cyllido sydd yn gweld ysgolion yn cystadlu am ddisgyblion, a fydd hunanwerthuso'r ysgolion a'r consortia yn ddim ond...
Michelle Brown: 'Dim gwelliannau arwyddocaol ym maes addysg yng Nghymru tan 2022'. Nid fy ngeiriau i ond geiriau prif arolygydd ysgolion Cymru. Nawr, efallai na fyddai hynny'n rhy ddrwg pe bai'r system addysg yng Nghymru yr orau yn y byd, neu hyd yn oed yr orau yn Ewrop. Byddai'r orau yn y DU ein gwneud yn llai pryderus ein bod yn wynebu pedair blynedd o ddiffyg cynnydd. Ond nid yw hynny'n wir. O dan y...
Michelle Brown: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio eich bod yn gyfarwydd ag achos brawychus a thrallodus Reece Yates, y baban a fu farw yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac y cynhaliwyd ei gwest ddoe. Fel y gwyddoch, mae hon yn un o ysbytai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Clywodd y cwest y byddai Reece wedi bod yn fwy tebygol o oroesi ei gymhlethdodau pe bai wedi cael ei drin yn...
Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n synnu braidd y byddech yn credu y byddai diogelu plentyn yn ymylol i unrhyw beth, ond fe symudaf ymlaen. A allwch ddweud wrthyf a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â ffordd y gall plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref gael gwiriadau meddygol tebyg neu'r un gwiriadau meddygol â phlant sy'n...
Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. O ran yr egwyddor ynglŷn ag a yw plant yn ddiogel gyda'u rhieni, buaswn yn cytuno'n llwyr â chi—ni ddylem ymdrin â hyn o'r safbwynt fod plant mewn perygl anorfod gyda'u rhieni. Fodd bynnag, mae Sally Holland wedi nodi risg. Mae'n amlwg fod yna risg gan fod un plentyn a oedd yn cael ei addysgu yn y cartref, plentyn nad oedd yr awdurdodau yn...