Jane Hutt: —Nadolig Llawen i chi i gyd.
Jane Hutt: Nadolig Llawen, Jack Sargeant—fe gewch eich banc yn ôl ym Mwcle. Diolch.
Jane Hutt: Mae yna straeon cadarnhaol yn dod o'r sector bancio. Er enghraifft, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cydweithio â Santander i lansio peiriannau ATM newydd sy'n cofio dewis iaith defnyddwyr, a hefyd mae gan Lywodraeth Cymru swyddogion busnes sy'n cynorthwyo busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae gennym linell gymorth sy'n cael ei lansio yn ystod y misoedd nesaf i gynnig cymorth i fusnesau a...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ariannol a digidol yn flaenoriaeth ac yn hollbwysig i mi.
Jane Hutt: Mae fy ffocws yn llwyr ar sicrhau cydraddoldeb mynediad i holl bobl Cymru ni waeth beth yw eu sefyllfa ddaearyddol, ddiwylliannol a phersonol. Diolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl, ac rwy'n croesawu ffocws y ddadl ar wasanaethau bancio yn Gymraeg a'n huchelgais i wneud Cymru'n genedl wirioneddol ddwyieithog. Ond wrth gwrs, nid yw'r cyfrifoldeb dros ein gwasanaethau ariannol yn y DU,...
Jane Hutt: Byddwn yn parhau i gefnogi aelwydydd. Beth ydych chi'n ei wneud, Mark Isherwood?
Jane Hutt: Tybed, Mark Isherwood, a wnewch chi ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r cap gwarthus ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn ar fudd-dal plant. Dyna mewn gwirionedd sy'n gyrru plant i fyw mewn tlodi, Mark Isherwood. Gwnawn, fe wnawn bopeth yn ein gallu i gefnogi aelwydydd yr effeithir arnynt gan yr argyfwng, ond mae'r prif ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf am ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ar y pwnc hynod bwysig hwn, yn enwedig yng nghanol argyfwng costau byw, a fydd, rydym i gyd yn ofni, yn gwthio cyfraddau tlodi plant yma ac ar draws y DU hyd yn oed yn uwch. Lywydd, mae gan Gymru strategaeth tlodi plant; mae un wedi bod gennym ers 2011, a Chymru hefyd oedd gwlad gyntaf y DU i gyflwyno deddfwriaeth i...
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Ni all Cymru, ac ni fydd, yn cadw'n dawel ynghylch camdriniaeth, a dyna pam fod yr adroddiad a’i argymhellion i'w croesawu i'r fath raddau. Rwy'n falch iawn fod yr adroddiad yn cynnwys y gwaith pwysig ac yn gwneud y cysylltiadau â'n hymrwymiad i Gymru fod yn genedl noddfa. Rwyf wedi dweud yn glir ers tro fod ein dull cenedl noddfa yn dangos ein gwerthoedd fel Llywodraeth Cymru. Mae'r...
Jane Hutt: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn ar drais ar sail rhywedd sy’n cael effaith ar fenywod mudol, a diolch i bawb a roddodd dystiolaeth, ond yn enwedig y rheini a rannodd eu profiadau bywyd, a’r gwasanaethau arbenigol sy’n eu cefnogi. A dim ond drwy gydweithio, gan gynnwys ystyried yr holl ffynonellau tystiolaeth a'n canfyddiadau, y...
Jane Hutt: Rwy'n meddwl bod yna ddau beth. Rwy'n dod at y ddeddfwriaeth, ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig iawn ein bod yn clywed gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain ynglŷn â'u harchwiliad a hefyd, ynghylch canlyniadau'r gwaith pwysig iawn sydd wedi'i wneud gan y tasglu pobl anabl, ond fe ddof at faterion deddfwriaethol hefyd. Ar y cyfeiriadau at Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'n...
Jane Hutt: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yn Senedd Cymru, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu. Rydym i gyd yn ymwybodol o ba mor bwysig yw'r mater yma, gan fod angen inni sicrhau bod gan holl bobl fyddar Cymru fynediad at wybodaeth a gwasanaethau. Yr wythnos diwethaf, fe wneuthum ddatganiad i'r Senedd i nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl, ac...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Hefin David. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'ch digwyddiad yfory, fel aelod balch o Unsain a hefyd fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond rwy'n cytuno mai'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod pobl anabl yn cael eu gwerthfawrogi ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys bywyd cyhoeddus, y gweithle, undebau, yw ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd. Rydym yn...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Hefin David. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r gweithgorau a'r tasglu hawliau pobl anabl i ymateb i'r adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19' a gynhyrchwyd yn ystod pandemig COVID-19 ac mae'n bwrw ymlaen â chamau 'Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw’n annibynnol – fframwaith a chynllun gweithredu'.
Jane Hutt: Wel, rwy'n credu fy mod eisoes wedi sôn y prynhawn yma fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd gydag arweinwyr llywodraeth leol. Mae gennym gostau byw ar yr agenda, a byddaf yn codi hyn gyda hwy. Ond yn amlwg, mae fy nghyd-Aelodau, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, hefyd yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar unrhyw gyfle.
Jane Hutt: Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn ymwneud yn fawr â hyn ac yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i weld pa fudd a ddaw yn sgil ECO4 o ran ein sefyllfa. Oherwydd yn amlwg, mae effeithlonrwydd ynni, ac effeithlonrwydd ynni ein rhaglen Cartrefi Clyd, yn hanfodol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ond rwy'n credu, unwaith eto, mai cyfrifoldeb y Gweinidog Newid Hinsawdd...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig hwnnw, oherwydd, fel chi, mae'r hyn rwyf wedi'i ddarllen ac arferion gwael cyflenwyr ynni yn fy mrawychu. Cyfarfûm ag Ofgem yr wythnos diwethaf a buom yn sôn am nodi'r cwmnïau hynny, Mabon, sy'n cyflawni'r arferion gwael hyn, fel y maent hwy wedi'i wneud. Clywsom fwy am hynny yn y wasg yr wythnos hon. Rwyf wedi cynnal sawl trafodaeth, mewn...
Jane Hutt: Mae ein rhaglen Cartrefi Cynnes ar gyfer aelwydydd ar incwm is yn arbed £300 y flwyddyn iddyn nhw ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd cymwys ar incwm isel hefyd yn cael taliad o £200 drwy’r cynllun cymorth tanwydd. Mae ein hymgyrch ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn helpu pobl i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i’w cael.
Jane Hutt: Rwy'n gobeithio y gallwn ddwyn perswâd arnoch gyda'r cynllun peilot incwm sylfaenol. Mae'n rhoi cyfle go iawn i bobl ifanc ystyried eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, mae’r opsiynau hynny'n berthnasol i holl bobl ifanc Cymru. Mae'r warant i bobl ifanc yn hollbwysig—pobl 18 i 25 oed, pob unigolyn ifanc, swydd, hyfforddiant, addysg, prentisiaethau, sefydlu busnes. Clywsom yr holl...