Canlyniadau 141–160 o 7000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles OR speaker:Jeremy Miles OR speaker:Jeremy Miles

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Teithio Llesol (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Rydym am alluogi mwy o blant i gerdded, mynd ar sgwter a beicio i'r ysgol. Rydym yn cefnogi hyn drwy ymgorffori teithio llesol yn yr arfarniad o ysgolion a cholegau newydd a ariennir drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy a thrwy ariannu gwelliannau o ran cerdded a beicio drwy ein cronfa teithio llesol a'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau bob blwyddyn.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ieithoedd Tramor Modern (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y croeso y mae hi wedi ei roi i'r gwaith sydd ar y gweill a hoffwn ei chyfeirio at yr ateb rwyf newydd ei roi i John Griffiths ar y camau y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig iawn yw bod y camau a gymerwn yn y maes polisi hwn, fel gydag unrhyw un arall, yn seiliedig ar y realiti yn hytrach nag ar ein golwg fyd-eang benodol ni....

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ieithoedd Tramor Modern (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch i John Griffiths am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n cytuno ag ef; mae'n bryderus. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn dewis astudio ieithoedd tramor modern. Mae wedi gohebu â mi yn y gorffennol yn enwedig ynglŷn â'r dirywiad yn y ddarpariaeth Almaeneg, ac rwy'n cydnabod hynny. Y patrwm rydym yn ei weld yw, lle mae myfyrwyr yn cofrestru ar gyfer cymwysterau yn y meysydd...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ieithoedd Tramor Modern (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Yn sicr. 'Dyfodol Byd-eang' yw ein strategaeth ar gyfer dysgu ieithoedd rhyngwladol, a chyhoeddais ein strategaeth ddiwygiedig tuag at ddiwedd y llynedd. Mae honno'n amlinellu sut y byddwn ni a'n partneriaid 'Dyfodol Byd-eang' yn parhau i gefnogi ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion am dair blynedd arall.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysgu Sgiliau (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Ie. Holl bwynt y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yw casglu data'r diwydiant ar gyfer y gwaith cynllunio y mae colegau addysg bellach yn gallu ei wneud er mwyn darparu. Ond hefyd, mae'r berthynas rhwng colegau addysg bellach eu hunain a'r sectorau penodol yn gwbl hanfodol i'w galluogi i ymateb yn hyblyg ac mewn ffordd sy'n mynd i'r afael ag anghenion y farchnad lafur leol ac sy'n cynnig yr...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysgu Sgiliau (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Mae'r cydweithio hwnnw o fewn y Llywodraeth ac yn fwy eang o lawer na hynny yn rhan wirioneddol bwysig o'n dyfodol ni o ran y ddarpariaeth sgiliau yng Nghymru. Rwy'n credu bod cydweithio rhwng addysg bellach, addysg uwch a phrif chwaraewyr y sector fel Airbus yn gyfres gyffrous iawn o ddatblygiadau ar y gorwel, lle mae gennych chi ymchwil dechnegol,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysgu Sgiliau (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Mae adrannau'r economi ac addysg yn cydweithio'n agos iawn i sicrhau bod anghenion sgiliau'n cael eu diwallu, gyda rôl allweddol ar gyfer partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae cyfrifon dysgu personol yn un enghraifft yn fy maes i, gydag ymyriadau wedi'u targedu mewn meysydd fel sero net a gyrru cerbydau nwyddau trwm eisoes yn sicrhau canlyniadau llwyddiannus.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Pynciau STEM (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn hynod bwysig hwnnw, Altaf Hussain. Mae angen inni arfogi ein dysgwyr. Boed yn dewis dilyn trywydd gyrfaoedd mewn pynciau STEM neu beidio, mae angen inni arfogi ein holl ddysgwyr i wynebu dyfodol o newid technolegol ac economaidd cyflym, ac mae sgiliau digidol a'r math o hyblygrwydd a chreadigrwydd sy'n mynd gyda rhai o'r rheini, ochr yn ochr â'r wybodaeth ei hun, yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Pynciau STEM (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £1.5 miliwn mewn cyllid grant eleni i gefnogi'r gwaith o gyflawni mentrau STEM, gyda'r prif nod o gefnogi a datblygu gweithgareddau cyfoethogi STEM, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac annog pobl i ddilyn pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ysgolion a Chymunedau Gwledig (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Rwyf wedi bod yn glir gyda phob cyngor—nid wyf am enwi unrhyw gyngor yn benodol—rwyf wedi bod yn glir gyda phob cyngor fy mod yn disgwyl iddynt gyflawni'r uchelgeisiau y maent wedi'u hamlinellu yn eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac yn amlwg dyna yw bwriad y cynghorau eu hunain hefyd. Rwyf hefyd wedi dweud y byddwn yn ystyried i ba raddau y mae rhwymedigaethau'r cynlluniau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ysgolion a Chymunedau Gwledig (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. O ran cau'r ysgol benodol mae'r Aelod yn sôn amdani, gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw yn gynharach y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r penderfyniad wedi'i ohirio o ran ei gymryd mewn i effaith ar gyfer eleni, fel bod cyfle'n cael ei gymryd i edrych a oedd cynllun amgen ar gyfer sicrhau sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae'r adolygiad hwnnw wedi...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ysgolion a Chymunedau Gwledig (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fis Awst diwethaf, fe wnes i lansio comisiwn i ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg. Fe wnes i gymeradwyo hefyd gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg pob un o’r 22 awdurdod lleol, sy’n nodi sut mae’r awdurdodau lleol yn bwriadu gwella addysg cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fe ges i sgwrs fanwl iawn â'r myfyrwyr a oedd wedi dod i ymgyrchu y tu allan i'r Senedd, ac roedd hi'n bwysig cael y cyfle i glywed wrthyn nhw'n uniongyrchol yr hyn oedd yn eu pryderu nhw o ran pwysau costau byw. Yn addysg bellach ac yn addysg uwch, mae gan y Llywodraeth ystod o bethau rŷn ni'n eu gwneud i gefnogi myfyrwyr. O ran addysg bellach,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn pwysig hwn. Dwi ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn, os byddaf i'n gwbl onest â hi, ond mae'n swnio i fi fel pe bai angen edrych i mewn iddo fe. Mae'n amlwg yn destun pwysig, mae'n amlwg bod unrhyw rwystr i fyfyrwyr yng Nghymru gael mynediad llawn a hafal i'w hawliau, ac yn sicr yng nghyd-destun budd-daliadau, yn rhywbeth pwysig. Felly, mi wnaf i ymrwymo i...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Wel, mae gan gynghorau lleol gyfrifoldebau cyfreithiol wrth gwrs yn y cyd-destun hwnnw. Felly, mae eisoes system i orfodi safonau i gael eu cytuno â nhw yn lleol. Felly, mae hynny ar waith eisoes, felly mae hawliau gan bobl, mae hawliau iddyn nhw gael hynny wedi cael ei weithredu. Un o'r pethau rŷn ni wedi bod yn ei wneud fel Llywodraeth—roedd e'n sôn am y cwestiwn o gyfarfodydd wyneb yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Wel, dwi jest eisiau dweud hefyd, o ran casglu data ar lefel leol—mae e, wrth gwrs yn bwysig, fel mae'r Aelod yn dweud—mae darn o waith yn digwydd eisoes gyda grŵp bach o awdurdodau lleol i ddeall sut, er enghraifft, yng nghyd-destun sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg lleol, beth yw hynny o ran ôl troed lleol, a sut i allu cysoni'r data yna yn genedlaethol, fel bod gennym ni ddarlun...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Cwestiwn pwysig iawn, os caf ddweud hynny. Mae'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad, yn benodol ymhlith plant ysgol pump i 15 oed, ac mae hynny, wrth gwrs, yn destun pryder. Ond, fel mae'r Aelod yn ei ddweud yn ei gwestiwn, nid dyna'r unig ffynhonnell sydd gennym ni. Mae arolwg blynyddol y boblogaeth yn dangos bod cynnydd wedi bod dros yr un cyfnod, a dyna'r tro cyntaf i'r ddwy ffynhonnell, dros...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n cael y cyfle i fynd i ysgolion cynradd ledled Cymru, fel y mae'r Aelod yn sôn, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn deimlad cyffredin i fi hefyd—bod yr ysgolion llawer yn llai—felly, dwi'n rhannu'r pryder hwnnw efallai gydag e hefyd. Beth rwy'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau fy mod i'n mynnu bod cynnydd yn digwydd yn ôl beth y mae'r cynllun strategol yn ei ddweud. Bydd ganddyn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Cwestiwn pwysig gan yr Aelod, os caf i ddweud. Dwi'n credu, yng nghyd-destun Pen-y-bont yn benodol, un o'r heriau yw bod dim digon o gynnydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan bwysig o'r cyd-destun y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn. Ond rwy'n glir yn fy nhrafodaethau i gyda'r arweinyddiaeth bresennol eu bod nhw'n deall hynny a bod ymrwymiad i wneud cynnydd ar yr hyn sydd gyda...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg (11 Ion 2023)

Jeremy Miles: Diolch i Sarah Murphy am dynnu sylw at y datblygiadau cadarnhaol sy'n digwydd mewn perthynas ag addysg Gymraeg yn ei hardal hi. Cefais gyfarfod cynhyrchiol iawn gydag arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros addysg ychydig wythnosau yn ôl i drafod cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg a lefel eu huchelgais a phwysigrwydd gweithredu'r cynigion a nodwyd yn y cynllun. Mae'r datblygiadau yn...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.