Jayne Bryant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n flwyddyn anhygoel o heriol, ac mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y pwysau sylweddol ar lywodraeth leol, ac yn benodol, Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn y setliad mwyaf yng Nghymru. Fel is-lywydd Cyfeillion Pont Gludo Casnewydd, rwy'n wirioneddol falch o'r cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r diffyg yn y gwariant cyfalaf...
Jayne Bryant: 2. Beth yw goblygiadau cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 i Orllewin Casnewydd? OQ56464
Jayne Bryant: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi llesiant meddyliol athrawon? OQ56460
Jayne Bryant: A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone am ddod â'r mater hwn i'r Senedd heddiw? Credaf ei fod yn dangos pwysigrwydd y mater yn glir ac yn ailddatgan bod diabetes math 2 yn broblem ddifrifol iawn ledled Cymru. Gwyddom fod diabetes math 2 yn effeithio ar nifer syfrdanol o deuluoedd yma yng Nghymru. Yn ôl data a gyhoeddwyd yn 2019 gan Diabetes UK, mae dros 8 y cant o bobl 17 oed a...
Jayne Bryant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn y byddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi'r sefyllfa ddifrifol mewn perthynas â thipio anghyfreithlon yn ardaloedd Maerun a Dyffryn yn fy etholaeth ar sawl achlysur. Mae'r 'ffordd i unman' enwog yn fan problemus o ran tipio anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol—mae cannoedd o dunelli o sbwriel yn ymestyn mor bell ag y gallwch weld, ac yn ddiweddar, cafodd...
Jayne Bryant: 1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Ngorllewin Casnewydd? OQ56410
Jayne Bryant: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi clywed am frandiau mawr y stryd fawr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ledled y DU, ac mae'r cyfyngiadau, cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref wedi cael effaith enfawr ar ganol ein dinasoedd. Mae'r pandemig eisoes wedi taro canol ein dinasoedd yn galed, a bydd yn newid y ffordd y mae pobl yn eu gweld yn...
Jayne Bryant: 7. Pa gymorth economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i ganol dinas Casnewydd yn ystod pandemig COVID-19? OQ56372
Jayne Bryant: Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fis diwethaf, gallais gynnal dadl fer i dynnu sylw at y pwysau ar ein staff GIG a gofal cymdeithasol rheng flaen a'r hyn y maent wedi'i brofi dros y flwyddyn ddiwethaf. Cefais y fraint o ddarllen datganiadau pwerus ac emosiynol gan nyrsys, cynorthwywyr theatr, parafeddygon ac ymarferwyr ynglŷn â realiti wynebu'r feirws. Mae staff wedi ymlâdd, yn...
Jayne Bryant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn gyfnod anhygoel o anodd i bawb yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, o'r parafeddygon sydd wedi bod ar y rheng flaen i'r staff ymroddedig yn yr ystafelloedd rheoli a'r staff sy'n cynnal y gwasanaeth. Yn anffodus, gwelsom yn gynharach y mis hwn fod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi colli pedwerydd aelod o staff i’r...
Jayne Bryant: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi parafeddygon a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru? OQ56334
Jayne Bryant: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo iechyd meddwl gweithlu’r GIG a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig? OQ56313
Jayne Bryant: Diolch, Prif Weinidog. Drwy gydol y pandemig, rydym ni wedi gweld gwaith a llwyddiannau rhyfeddol gwyddonwyr a pheirianwyr. O gynhyrchu brechlynnau yn yr amser cyflymaf erioed i systemau profi, nodi amrywiolion newydd, cynhyrchu dadansoddiadau data a datblygu meddyginiaethau a chyfarpar diogelu newydd, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at swyddogaeth hanfodol STEM. Ymhlith y llwyddiannau hynny...
Jayne Bryant: 5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o fenywod a merched i astudio a dilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg? OQ56339
Jayne Bryant: Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog. Mae grwpiau gwirfoddol ac elusennau yn gwneud gwaith eithriadol i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Un grŵp o'r fath yw Apêl Sparkle, sy'n cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd gydag anableddau ac anawsterau datblygu, yng nghanolfan Serennu yng Nghasnewydd. Mae eu gwaith yn hollbwysig. Fodd bynnag, maen nhw eu hunain...
Jayne Bryant: 2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng Nghymru? OQ56239
Jayne Bryant: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'r gaeaf hwn wedi bod yn un o'r cyfnodau anoddaf y gall unrhyw un ei gofio i'n GIG. Mae niferoedd staff wedi cael eu taro yn galed, mae nifer y cleifion wedi bod yn uchel, ac mae'r pwysau a'r straen ar ein staff rheng flaen wedi bod yn aruthrol. Er gwaethaf hyn i gyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi sefydlu rhaglen frechu torfol sy'n...
Jayne Bryant: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi delio â COVID-19? OQ56202
Jayne Bryant: Rwy'n credu bod rhai staff o ddifrif yn ofni mynd i'r gwaith. Mae anaf moesol yn sicr yn risg ac mae methu ymateb mor gyflym ag yr hoffent i gleifion neu drosglwyddo cleifion i staff ysbytai yn cael effaith ar ein criwiau a'r rhai sy'n trin galwadau. Maent yn teimlo nad ydynt yn gwneud eu gwaith. Mae'r cynnydd yn nifer y staff sy'n sâl neu'n gorfod hunanynysu neu sydd â COVID hir, yn...
Jayne Bryant: Mae'n debyg mai'r nyrsys sydd wedi cael yr amser anoddaf drwy gydol y pandemig. Neu'n fwy cywir, y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gwneud swyddi arferol nyrsys ar unedau therapi dwys. Hyd yn oed os gallwn ddod o hyd i fwy o welyau, prynu mwy o beiriannau anadlu, mwy o bympiau cyffuriau, ni allwn brynu mwy o'r peth y mae cleifion sâl mewn unedau therapi dwys ei angen fwyaf, sef nyrs...