Mandy Jones: Weinidog, bydd yn aeaf arnom unwaith eto cyn bo hir, ac mae'n edrych yn debyg y bydd yn un gwael. Pa gefnogaeth y bydd eich Llywodraeth yn ei rhoi i'r awdurdodau lleol a phartneriaid cyflenwi yn y trydydd sector i helpu pobl sy'n cysgu allan yn enwedig?
Mandy Jones: Weinidog, yn 2017 rhagwelwyd y byddai'r dirywiad yn y gwaith o blannu pren meddal yng Nghymru yn arwain at ostyngiad o 50 y cant yn nifer y coed meddal sydd ar gael erbyn 2045. Mae'r diffyg yng nghynhyrchiant coetiroedd conwydd yng Nghymru ers troad y ganrif yn peri cryn bryder ac mae wedi effeithio ar gyflenwad pren. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu nifer y coed y mae Cyfoeth Naturiol...
Mandy Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, Dirprwy Weinidog, a hoffwn dalu teyrnged i bawb a roddodd gymaint mewn gwahanol fathau o frwydrau dros y blynyddoedd. Ni allaf hyd yn oed ddechrau dychmygu arswyd rhyfel ym 1914 na nawr. Rwy'n falch na allaf. Rhaid inni gydnabod aberth miliynau o fywydau, ond hefyd aberth iechyd meddyliol a chorfforol, o fywydau a gynlluniwyd ac a...
Mandy Jones: Cynigiwyd. Iawn, newid araith yn sydyn mewn munud. Bydd fy ngrŵp yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw, ac mae Plaid Brexit hefyd wedi cyflwyno gwelliant yn enw Caroline Jones sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a byrddau iechyd eraill ledled Cymru yn ceisio osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 drwy ailddosbarthu patrymau...
Mandy Jones: Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae'n anodd pan nad oes gennych neb. Rwy'n sefyll yma heddiw fel mam i filwr sy'n gwasanaethu yn y fyddin Brydeinig ac fel rhywun a oedd yn ddigartref am gyfnod byr yn berson ifanc 15 oed. Oherwydd bywyd cartref gwirioneddol wael, roeddwn angen rhywle i aros, felly roeddwn yn byw mewn carafán gyda ffrindiau yn gyfnewid am wneud gwaith achlysurol gyda ffair...
Mandy Jones: Weinidog, mae un o fy aelodau staff newydd gwblhau cwrs Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymwysedig. Roedd hyn yn golygu cael sgyrsiau anghyfforddus iawn am hunanladdiad, a'i nod yw cadw pobl yn ddiogel am nawr. A oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno'r math hwn o gynllun gyda'ch rhaglenni eich hun i athrawon a'r staff priodol yn ysgolion Cymru?
Mandy Jones: Neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd—
Mandy Jones: Na wnaf. Neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd wedi cael chwistrelliad ariannol arall eto, a'r gogledd unwaith eto ar ei golled o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Mandy Jones: Y Blaid Lafur yn San Steffan—
Mandy Jones: Ataliodd y Blaid Lafur yn San Steffan bleidlais ystyrlon, ac eto mae'r Blaid Lafur yng Nghymru eisiau dadl ddiystyr arall a phleidlais ddiystyr arall. Diolch.
Mandy Jones: Na wnaf. Mae'r rhan fwyaf o hawliau gweithwyr yr ydym ni'n eu mwynhau heddiw mewn gwirionedd yn dod drwy Senedd y DU, yn aml yn dilyn ymgyrchoedd gan eich undebau llafur. Mae llawer o hawliau o'r fath yn y DU yn llawer gwell na'r lleiafswm y mae'r UE yn darparu ar eu cyfer. Er enghraifft, gwyliau â thâl: pedair wythnos yw deddfwriaeth yr UE, mae'n 5.6 wythnos yn y DU. Absenoldeb mamolaeth:...
Mandy Jones: Na wnaf. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd—
Mandy Jones: Ydw, rwy'n eich caru chi hefyd, Alun. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n amddiffyn—[Torri ar draws.] Dechreuaf eto. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n diogelu hawliau gweithwyr a'r amgylchedd. Am rwtsh. Yr hyn a wnaiff, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn ddiddiwedd, yw trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros wneud hynny o'r UE i...
Mandy Jones: Rwy'n codi heddiw gyda siom fawr gan fod y Siambr hon, unwaith eto, yn gwastraffu amser ac arian cyhoeddus Cymru. Mae'r cynnig hwn yn—[Torri ar draws.]—anghyson. Os caiff pwynt 1 o'r cynnig ei basio ac os na fydd Senedd y DU yn gweithredu'r Bil cytundeb ymadael, yna nid yw pwynt 2 yn berthnasol, gan na fyddai angen memorandwm cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae'n gwbl...
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyrannu lleoedd ysgolion yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Diolch i chi, Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf, ond nid wyf yn rhannu eich ffydd. Rwy'n cysylltu'n rheolaidd â physgotwyr ar Afon Dyfrdwy y mae ei dalgylch yn cyflenwi dŵr i 3 miliwn o bobl yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Y pysgotwyr hyn yw ein llygaid a'n clustiau ar yr afonydd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru eu hangen. Rwy'n pryderu'n fawr eu bod yn disgrifio gwahaniaeth nos a...
Mandy Jones: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ54476
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, tynnwyd fy sylw at y ffaith bod cwsmer a aeth i brynu tocyn o ap Trafnidiaeth Cymru wedi cael cynnig y pris o £30.05 ar gyfer taith drên drawsffiniol. Yna, gwiriodd y cwsmer hwnnw National Rail, gan ddod o hyd i'r un daith am £22.10. Gallai'r gwahaniaeth hwnnw fwydo ei blant am ddiwrnod neu ddau. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau...
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau tocynnau ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru? OAQ54477
Mandy Jones: Nid oes gennych chi brawf o hyn. Nid yw'n ddim ond rhagdybiaeth ar eich rhan chi ac ar ran y cyfryngau, yn ôl yr arfer. Mae'r Gweinidog yn sôn am brinder nwyddau hanfodol. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r asesiadau hynny a'r paratoadau y mae wedi'u gwneud? Yn olaf, yn y datganiad hwn, soniwch am beryglon ymadael heb gytundeb. Ond, a yw'r Gweinidog yn cytuno ynglŷn â pheryglon dim...