Canlyniadau 141–160 o 900 ar gyfer speaker:Carl Sargeant

9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (18 Gor 2017)

Carl Sargeant: Ac mae'n amlwg iawn hefyd bod yr Aelod wedi codi mater perfformiad y weinyddiaeth Lafur hon ers 1999, a chafodd ei gefnogi'n fedrus gan weiddi a chyfraniad Mark Isherwood. Gadewch i mi roi rhai ffeithiau iddo am yr hawl i brynu ac, yn wir, roedd ymyriad Joyce Watson yn llygad ei le. Mae'r Llywodraethau Ceidwadol o dan Theresa May a David Cameron wedi methu â darparu cartrefi ar draws y DU....

9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (18 Gor 2017)

Carl Sargeant: Diolch i chi, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gael y ddadl hon ar y Bil a'r sylwadau a wnaed gan y rhan fwyaf o'r Aelodau heddiw. Yn ddi-os, mae yna fanylion y bydd angen i ni eu hystyried ymhellach wrth inni symud drwy'r broses graffu. Mae yna hefyd ymrwymiadau yr wyf wedi eu gwneud mewn meysydd sydd angen eu datblygu, a diolchaf i'r Cadeirydd a'r pwyllgor cyfan am eu hymagwedd adeiladol...

9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (18 Gor 2017)

Carl Sargeant: Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig heddiw. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Cyflwynais i’r Bil fis Mawrth diwethaf, a’i nod yw gwarchod y cyflenwad o dai cymdeithasol rhag erydiad pellach yn wyneb galw uchel a phrinder cyflenwad. Yn ogystal â diddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael, bydd y...

10. 10. Dadl Fer: Trosedd Casineb — A yw ar Gynnydd yng Nghymru? ( 5 Gor 2017)

Carl Sargeant: Wel, rydym yn sicr yn anghytuno ar y mater hwnnw, gan fy mod yn credu bod y weithdrefn adrodd i unigolion hyd yn oed gamu dros y marc i roi gwybod am droseddau casineb yn ddewr iawn yn y lle cyntaf—a’u bod yn cael eu cofnodi’n briodol yn y DU. Rydym i gyd wedi gweld hanes o droseddau casineb yn ailadrodd dro ar ôl tro: esgyniad Hitler a’r Natsïaid; rydym wedi cael Oswald Mosley ac...

10. 10. Dadl Fer: Trosedd Casineb — A yw ar Gynnydd yng Nghymru? ( 5 Gor 2017)

Carl Sargeant: Diolch i chi, Llywydd, a diolch am y cyfle i ddarparu—y cyfle i drafod a siarad am droseddau casineb, a’r camau cadarnhaol rydym yn eu rhoi ar waith yma yng Nghymru. Yn gyntaf oll, eisteddais a gwrandewais wedi fy syfrdanu braidd gan gyfraniad Neil, a’i gyd-Aelod yno, oherwydd eich bod chi, fel Paul Nuttall, yn disgrifio troseddau casineb yn dechnegol fel digwyddiadau ffug, ffigurau...

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am y drafodaeth a gefais gyda hi y bore yma, a hefyd am y mater a gododd gyda mi y prynhawn yma. Mae'r mater ynghylch yr elfen trydydd parti o hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod gyda Lesley Griffiths o ran rheoliadau adeiladu a'r dulliau cydymffurfio a ddefnyddir ar gyfer cael mynediad i adeiladau lle mae risg, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn gofyn iddyn nhw edrych...

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Carl Sargeant: Diolch i chi am eich sylwadau. Nid wyf yn ymwybodol bod cwestiwn ffurfiol yno, Llywydd, ond rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaeth yr Aelod, a byddwn yn ystyried hynny.

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Carl Sargeant: Cwestiynau defnyddiol iawn gan yr Aelod heddiw, ac rwy’n diolch iddi am ei sylwadau, yn enwedig ynghylch y gwasanaethau tân ac achub a'u gallu i weithredu ar y materion y mae hi wedi eu codi. A gaf i yn gyntaf oll roi sylw i’r mater ynglŷn â phrofi a phrofi yn y sector preifat? Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r unigolion yn y lle cyntaf, ac yna rhoddir canllawiau...

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Carl Sargeant: Diolch i chi am eich cwestiynau. Yn gyntaf oll, rwy’n gyfforddus iawn gyda'r gwaith craffu yr ydych chi neu unrhyw Aelod arall yn ei wneud yn y Siambr ar y mater hwn. Rwy’n glir iawn fy mod yn credu na ddylai hyn fod yn bleidiol; mae'n ymwneud ag etholwyr y mae gennym ni i gyd gysylltiad â nhw ac â sicrhau bod diogelwch hyn yn hollbwysig. Felly, does dim ots gennyf am y craffu mewn...

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Carl Sargeant: Mae'r Aelod yn codi dau bwynt diddorol. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth i’w ystyried yn y dyfodol o ran, yn y lle cyntaf, ysmygu mewn ystafelloedd gwesty yn gyffredinol. Y mater arall am reoleiddio gwestai yw hyn: credaf mai’r hyn sy'n bwysig yma yw nad ydym yn cael ein gwthio i mewn i ymdeimlad ffug o ansicrwydd a gwneud rhywbeth am y rheswm anghywir. Mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig...

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Carl Sargeant: Diolchaf i John Griffiths am ei gwestiynau. Byddaf yn cymryd ei bwynt olaf yn gyntaf ac, rwy’n credu, ei bwynt mwyaf perthnasol, mewn gwirionedd. Y bobl y mae angen i ni feddwl amdanyn nhw yn fwy na neb arall yma yw trigolion y blociau hyn, ac mae’n rhaid i i ni roi sylw i hynny uwchlaw popeth arall. Rhaid gwneud yn siŵr bod yna ddiogelwch gwirioneddol ond hefyd bod y canfyddiad o...

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Carl Sargeant: Diolch i chi am eich cwestiynau, David Melding. Llywydd, os caf i—mae nifer o gwestiynau yma. Yn gyntaf oll, ynghylch mannau ceudod, mae’r Aelod yn codi materion sy'n ymwneud â hynny. Byddwn yn amharod i gynnig barn ar hynny cyn yr ymchwiliad cyhoeddus ynglŷn â hynny. Rwy’n credu bod sawl agwedd ar Dŵr Grenfell yr ymddengys iddynt fod yn ffactorau arwyddocaol a gyfranodd at...

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Carl Sargeant: Diolch i chi, Llywydd. Llywydd, diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, landlordiaid, a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru, yng ngoleuni trychineb Tŵr Grenfell. Rwyf wedi ymrwymo i roi’r diweddaraf i’r Aelodau am ein gweithredoedd, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn cytuno nad yw hwn yn fater plaid...

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Carl Sargeant: Er mwyn deall profiadau'r rhai sy'n byw yn yr eiddo sydd wedi eu heffeithio, fe ymwelais i ddoe â thenantiaid yn Abertawe, lle cefais rai trafodaethau cadarnhaol a diddorol iawn, a fydd yn ddefnyddiol wrth ddylanwadu ar y ffordd rydym ni’n gweithio wrth inni symud ymlaen. Roeddwn i’n gallu esbonio'r hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y blociau tŵr uchel yn ddiogel. Roeddwn i’n...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: <p>Cefnogi Tadau </p> (28 Meh 2017)

Carl Sargeant: Do, wrth gwrs, ac rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater hwn. Edrychwch, rydym yn gwbl glir fod dieithrio plant oddi wrth eu rhieni yn ffactor sy’n pennu llwyddiant person ifanc neu uned deuluol, ac rydym yn cydnabod bod hynny’n digwydd ar y ddwy ochr, mamau a thadau hefyd. Rwy’n hyderus fod gan sefydliadau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg allu i gydnabod hyn ac ymdrin...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: <p>Cefnogi Tadau </p> (28 Meh 2017)

Carl Sargeant: Wrth gwrs, a diolch am gwestiwn yr Aelod o ran sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn. Fel y dywedais yn gynharach, mae’r ddau sefydliad, a sefydliadau eraill, yn cefnogi’r ddau riant, teuluoedd, a mamau a thadau uned deuluol. Nid yw’r manylion y mae’r Aelod yn dymuno eu trafod gyda mi wrth law gennyf, yn enwedig manylion ynglŷn â ble mae i’w weld yn teimlo bod cymorth yn brin. Byddwn yn...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: <p>Cefnogi Tadau </p> (28 Meh 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n credu ei bod anffodus, Llywydd, fod yr Aelod yn awgrymu bod fy ateb yn anonest mewn perthynas â hynny. Byddwn yn awgrymu bod yr Aelod—. Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb cyntaf. Mae cynorthwyo tadau a mamau fel ei gilydd i fabwysiadu ymddygiad rhianta cadarnhaol yn rhan annatod o Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, ac rwy’n hynod o falch o’r gwaith a wnânt ar draws yr holl...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: <p>Cefnogi Tadau </p> (28 Meh 2017)

Carl Sargeant: Mae Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn gweithio gyda’r teulu cyfan, gan ddefnyddio dull unigoledig, hyblyg wedi’i deilwra i gefnogi ac ymgysylltu â thadau a mamau. Mae llawer o wasanaethau hefyd yn darparu cymorth pwrpasol wedi’i addasu’n benodol i anghenion arbennig tadau, gan gynnwys tadau nad ydynt yn byw yn y cartref.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: <p>Cymunedau yn Gyntaf</p> (28 Meh 2017)

Carl Sargeant: Mae cyrff cyflawni arweiniol wedi datblygu cynlluniau pontio manwl.


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.