Jenny Rathbone: Rwy'n croesawu cyflwyno'r datblygiad garddwriaeth a'r grantiau lefel mynediad, ond ar hyn o bryd dim ond chwarter cyfran y person y dydd o ffrwythau a llysiau a gynhyrchwn, felly mae honno'n ffordd hir iawn i'w theithio. Sut y gallwch chi gyflymu'r newid sydd ei angen arnom fel bod llawer mwy o'n ffrwythau a'n llysiau, sydd i fod yn draean o'n deiet, yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru?
Jenny Rathbone: Diolch i Blaid Cymru am y cynnig hwn, i gyd-fynd â COP27, a hefyd am yr angerdd y ddangosodd Delyth Jewell wrth gyflwyno'r ddadl. Rwyf innau hefyd am dalu teyrnged i'r adroddiad rhagorol a bendithiol o fyr gan Shea Buckland-Jones ar ran WWF, sy'n crynhoi'n union sut nad ydym yn ystyried ein cyfrifoldebau byd-eang a'n hangen i beidio â pharhau i ecsbloetio gwledydd rhannau deheuol y byd,...
Jenny Rathbone: Nodyn i Gareth Davies—mae’r gacen wedi lleihau dros y 12 mlynedd diwethaf, a dyna pam fod y sector cyhoeddus cyfan yn ei chael hi mor anodd gyda'i gyllidebau, gyda'r adnoddau sydd ganddo i ddarparu’r gwasanaethau. Felly, nid oes mwy o arian, gan fod y posibilrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn ysgwyd y goeden arian hud yn sydyn ac yn rhoi mwy o arian i ni yn anfeidrol fach. Felly, fy...
Jenny Rathbone: Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Rwy'n falch o glywed mai dim ond 30 y cant o'r meini prawf oedd cost. Ond rwy'n meddwl mai un o'r materion sy'n codi—hynny yw, mae yna sawl mater. Un, wrth gwrs, yw bod cost bwyd wedi codi, ac felly, mae'n anodd iawn cymharu'r contractwr blaenorol â'r contractwr presennol wrth i chwyddiant bwyd godi'n gyflym. Ond roedd gan gontractwr blaenorol y...
Jenny Rathbone: Iawn. Rwy'n deall ei fod o fewn eich portffolio i edrych ar effaith holl bolisïau'r Llywodraeth ar gydraddoldeb, ac mae hynny, yn amlwg, yn cynnwys Dechrau'n Deg, er fy mod yn deall nad chi yw'r Gweinidog sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb am y rhaglen honno mewn gwirionedd. Felly, rwy'n awyddus iawn i edrych ar sut mae ehangu cam 1, am £20 miliwn, a oedd yn golygu bod 2,500 o blant ychwanegol wedi...
Jenny Rathbone: 7. Sut mae'r asesiad effaith cydraddoldeb ar gyfer ehangu cam 2 y ddarpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg yn cymharu â'r asesiad a gwblhawyd ar gyfer cam 1? OQ58664
Jenny Rathbone: 2. Pa feini prawf hanfodol ar wahân i'r gost a ddefnyddiodd y Comisiwn i ddewis y contractwr newydd ar gyfer ffreutur y Senedd? OQ58658
Jenny Rathbone: Yn bersonol, os nad ydym ni'n mynd i drosglwyddo'r risg a'r atebolrwydd amgylcheddol i genedlaethau'r dyfodol, dydw i ddim yn gweld sut y gallwn ni fod yn adeiladu gorsafoedd niwclear, oherwydd does neb yn gwybod beth i'w wneud â'r holl wastraff sy'n cael ei gynhyrchu, ac mae hynny'n sicr yn ffordd o drosglwyddo'r risg yna. Rwyf eisiau croesawu'r ffaith eich bod chi'n canolbwyntio ar...
Jenny Rathbone: —gael cyngor annibynnol ar gyfer gwneud hynny. Felly, y cwestiwn yw pam nad ydych chi'n credu ei bod hi'n bosibl ymestyn hyn i unrhyw un sydd ag angen am y cyngor rhad ac am ddim hwn o'r flwyddyn gyntaf.
Jenny Rathbone: Diolch yn fawr i chi am eich datganiad. Mae hyn yn gofyn cymaint o gwestiynau ag y mae'n eu hateb, ond mae hi'n ddefnyddiol cael gwybod yr wybodaeth a roesoch i ni. Y cyllid hwn o £35 miliwn ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd am y ddwy flynedd nesaf, a yw hynny bob blwyddyn, neu dros y ddwy flynedd?
Jenny Rathbone: Iawn, £35 miliwn dros ddwy flynedd felly. Iawn, mae hynny'n dda. Rwy'n credu mai un o'r problemau sydd gennym ni yw nad yw pobl yn gwybod sut i ymdrin â hyn—nid arbenigwyr amgylcheddol mohonyn nhw. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi am greu'r ganolfan hon, ond rwy'n pryderu mai dim ond i'r sector tai cymdeithasol yn unig y bydd ar gael yn y flwyddyn gyntaf, oherwydd er bod...
Jenny Rathbone: Rwy'n credu eich bod chi'n ceisio cymharu dau beth gwahanol yno. Mae'n ymwneud â'r cyflymder y mae angen ichi gael ambiwlans at rywun sy'n tagu, o'i gymharu â'r cyflymder y mae angen ichi gyrraedd rhywun sy'n cael strôc. Nid wyf yn meddwl y dylem ni benderfynu beth ddylai'r canllawiau fod ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Caiff hynny ei wneud gan glinigwyr. Rwy'n meddwl bod angen inni wella...
Jenny Rathbone: Rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig, oherwydd, fel sydd eisoes wedi'i gydnabod, dyma'r pedwerydd prif achos marwolaeth, felly mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni ei gael yn iawn. Ond byddwn yn gochel rhag syniad James Evans y gallem gael ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys a fyddai'n darparu gofal o'r ansawdd rydych ei angen pan fydd rhywun yn cael strôc. [Torri ar draws.] Os wyf wedi...
Jenny Rathbone: Gallai fod yn ddigon posibl darparu'r math o wasanaethau adsefydlu sydd gennych mewn golwg mewn ysbyty bwthyn, ond ni fydd yn bosibl darparu rhagoriaeth glinigol oni bai bod gennych fàs critigol o gleifion i'w gyfiawnhau. Mae'n bwysig iawn fod gennym unedau strôc ar gael i'n holl boblogaethau o fewn pellter gyrru rhesymol, ond nid oes amheuaeth, os ydych yn cael strôc, fod angen ichi fynd...
Jenny Rathbone: Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig iawn, a chredaf ei fod yn amserol iawn hefyd. Ond fel y dywedodd Laura Anne Jones, rwy'n credu bod lefel yr aflonyddu rhywiol mor gyffredin fel bod gwir angen ymateb ar draws y gymdeithas gyfan. Ond mae'n bendant yn ategu pwysigrwydd addysg orfodol ar berthnasoedd a rhywioldeb, gan fod angen addysgu pobl ifanc ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Mae'r...
Jenny Rathbone: —am hyn. Yn olaf, os yw cynigion Gordon Brown ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yn cynnwys datganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru, a'u bod yn cael eu derbyn gan Lywodraeth yn y dyfodol, a fyddem angen y ddeddfwriaeth hon felly? Ac yn y cyfamser, sut y gallwn wella'r rhan y mae awdurdodau cyhoeddus yn ei chwarae yn y mater pwysig hwn?
Jenny Rathbone: Cyfraniad diddorol gan Sioned Williams, ac rwy'n rhannu eich angerdd ynghylch sicrhau bod pawb yn cael yr hyn mae ganddynt hawl iddo, ond hynny, wrth gwrs, yw prif sail cynigion Llywodraeth Cymru i geisio helpu pobl drwy'r cyfnod hynod anodd hwn. Dyna pam y mae gennym 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Felly, rwy'n bendant yn cefnogi datganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru, fel yr...
Jenny Rathbone: Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn yr ymyriad, oherwydd fel cyn-arweinydd cyngor sir Fynwy, fe fyddwch yn ymwybodol fod y grant datblygu disgyblion yn un o'r ffyrdd y mae cyllid i fod i gael ei gyfeirio tuag at roi cyfleoedd i bobl ifanc na all eu teuluoedd fforddio talu amdanynt eu hunain. Felly, ar ôl gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedodd Sam Rowlands am y ddeddf gofal gwrthgyfartal sydd...
Jenny Rathbone: Rwy'n croesawu'r fenter yn fawr i sefydlu cwmni gwladol newydd. Mae angen i ni ddysgu o brofiad Norwy, y gwnaethon nhw, ar ôl darganfod olew yno, sefydlu'r hyn sydd bellach yn gronfa cyfoeth sofran fwyaf y byd. A beth gawsom ni? Dim; mae'r cyfan wedi diflannu mewn pwff o fwg ac mae'r cwmnïau preifat wedi mynd â'r arian i gyd. Felly, rwyf wedi bod yn rhwystredig ers tro nad yw Cyfoeth...
Jenny Rathbone: —nad yw bwyd yn dod i mewn i'r farchnad gyfanwerthu? A pha fuddsoddiadau a ydych chi'n ymwybodol ohonyn nhw y gallai Banc Datblygu Cymru fod yn eu buddsoddi i gynyddu swm y bwyd yr ydym ni'n ei dyfu yng Nghymru?