Darren Millar: Rwy'n falch, a dweud y gwir, fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi deffro a gweld beth sy'n digwydd. Dywedais wrthych yn ôl yn 2010 nad oedd y gwasanaeth hwn yn darparu gwerth da am arian i'r trethdalwr, a bod angen sefydlu opsiynau amgen. Mewn gwirionedd, rwyf wedi sôn am nifer o opsiynau amgen y gallech fod wedi edrych arnynt dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyfle i'r awyren lanio mewn...
Darren Millar: Prif Weinidog, mae pêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol, wrth gwrs, yn gyfle enfawr i Gymru wneud enw i'w hun ar y llwyfan rhyngwladol, ond un cyfle y mae eich strategaeth ryngwladol wedi ei golli mewn gwirionedd yw'r cyfle sy'n bodoli ymysg cymunedau ffydd yng Nghymru oherwydd eu cysylltiadau â chymunedau ffydd dramor. Mae llawer o eglwysi, capeli a mosgiau ledled y wlad hon sy'n mwynhau...
Darren Millar: Diolch yn fawr, Lywydd. Nid yw Betsi yn gweithio. Rydych wedi'i glywed dro ar ôl tro yn y Siambr hon dros nifer o flynyddoedd bellach. Mae cleifion yn cael cam. Mae diogelwch cleifion yn cael ei beryglu. Mae rhai cleifion wedi cael niwed; mae eraill wedi marw hyd yn oed o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd yn y bwrdd iechyd. Gwyddom fod amgylchedd gwaith staff yn annerbyniol. Mae'r staff o...
Darren Millar: Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Mae'n ymwneud â chwotâu rhywedd. A ydych yn derbyn nad oes gan y Senedd bwerau i ddeddfu ym maes cyfle cyfartal ar hyn o bryd, ac na allwn gyflwyno cwotâu rhywedd ar y sail honno?
Darren Millar: Pan oeddem yn ystyried y materion hyn fel pwyllgor, roedd yn wir y gallai rhestrau hyblyg ganiatáu ar gyfer creu rhestrau ymgeiswyr 'am yn ail' gan barhau i gynnig y cyswllt atebolrwydd uniongyrchol hwnnw. Felly, gallech ddal i gael cwotâu rhywedd os mai dyna oedd pobl am eu cael, ond gallech hefyd gael cyfle i roi cyswllt uniongyrchol rhwng unigolyn a'i etholwyr. Onid ydych yn credu bod...
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Nid oes gennym y pwerau.
Darren Millar: Wrth gwrs, credaf y dylem i gyd atgoffa ein hunain mai refferendwm a sefydlodd y lle hwn. Ni allwch lywodraethu heb refferenda pan fydd gennych newid cyfansoddiadol sylweddol. Cawsom refferenda ar bwerau pellach. Ymgyrchais dros bwerau pellach i'r Senedd hon yn ôl yn 2011. Pan fydd gennych newid, rhaid ichi gael refferenda i'r cyhoedd gael rhoi eu barn.
Darren Millar: Oeddech, rwy'n cofio.
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Mae'n ddrwg gennyf, fe ddywedoch chi fod y cyn-Brif Weinidog yn awyddus i fenthyca'r holl arian, i bob pwrpas, er mwyn adeiladu ffordd liniaru'r M4. Wrth gwrs, y Prif Weinidog presennol oedd y Gweinidog cyllid ar y pryd; ef oedd yr un a arwyddodd y llythyrau yn gofyn am i'r arian hwnnw gael ei ddarparu ar gyfer ffordd.
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: O, mae'n ddrwg gennyf. Roeddwn yn meddwl mai 10 munud oedd—
Darren Millar: Rhaid inni gofio bod y system bresennol o etholiadau wedi sicrhau cynrychiolaeth o 50:50 ar sail rhywedd yn y Senedd hon yn y gorffennol. Ac ar y sail honno, nid oes gwir angen cymryd y camau penodol hyn. Felly, pam ar y ddaear y byddai'r Llywodraeth hon yng Nghymru eisiau dechrau ar daith a ddaw i ben yn y Goruchaf Lys ar sail bresennol y setliad datganoli? Oherwydd dyna lle y daw i ben, a...
Darren Millar: Credwn—[Torri ar draws.] Rwyf wedi derbyn nifer o ymyriadau.
Darren Millar: Credwn y dylid dewis pobl fel ymgeiswyr nid oherwydd eu rhywedd, na'u hil, na'u crefydd, na'u hanabledd, ond oherwydd eu cryfderau a'u rhinweddau fel ymgeiswyr. Dyna ein cred gadarn. A gofynnaf y cwestiwn hefyd: pam fod angen inni gymryd unrhyw gamau yn hynny o beth o ystyried bod y Senedd wedi cael cynrychiolaeth 50:50—[Torri ar draws.]—cynrychiolaeth 50:50 mewn gwirionedd?
Darren Millar: Mae'r Blaid Geidwadol yn feritocratiaeth. Credwn—[Torri ar draws.] Credwn—[Torri ar draws.]
Darren Millar: Nid oes gennyf nodyn o'r nifer a bleidleisiodd.
Darren Millar: Ond mae gennyf nodyn o—[Torri ar draws.]—mae gennyf nodyn o'r canlyniad, a gwrthododd dwy ran o dair o bobl Cymru gael gwared ar y system cyntaf i'r felin. Gwrthododd dwy ran o dair o'r bobl a bleidleisiodd y syniad hwnnw, a dyna pam y mae'n rhaid iddynt gael cyfle i bleidleisio a dweud a ydynt am wrthod y system cyntaf i'r felin yma yn y Senedd. Oherwydd mae'r gallu i bobl bleidleisio...