Mick Antoniw: Diolch yn fawr i chi am hynny ac am godi hynny. Nid wyf yn gwybod a ydych yn ymwybodol fy mod yn un o'r cyfreithwyr yn achos Orgreave a'r achosion terfysg, lle gwnaethom sicrhau dedfryd 'ddieuog' mewn perthynas â phob un o'r 90 achos roeddwn yn rhan ohonynt, ac yna fe wnaethom roi camau sifil ar waith yn erbyn yr heddlu am erlyniad maleisus ac arestio ar gam. Roedd yr holl achosion sifil...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Ysgrifennais at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy, ym mis Awst eleni, i alw ar gyrff cyhoeddus i ddatgelu gwybodaeth yn llawn yn ystod ymchwiliadau cyhoeddus neu achosion troseddol. Credaf y byddai cyfraith Hillsborough o fudd i'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus i ddigwyddiadau yn Orgreave.
Mick Antoniw: Wel, diolch am y sylwadau hynny, ac nid wyf yn anghytuno â'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud. Mae llawer ohonynt yn bwyntiau rydym wedi'u gwneud yn ein papur 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', ac wrth gwrs mae'r ymchwil diweddar gan Brifysgol Caerdydd, y cyhoeddiad The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, yn wirioneddol bwysig yn fy marn i. Yr hyn sy'n bwysig ynglŷn â'n...
Mick Antoniw: Wel, gallaf ddweud bod safbwynt Llywodraeth Cymru yn dal i fod yr un peth. Rydym yn cefnogi argymhellion comisiwn Thomas, ac rydym hefyd yn cefnogi, yn benodol o fewn hynny, datganoli cyfiawnder a datganoli cyfiawnder troseddol yn arbennig. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn gamau sylweddol iawn ymlaen. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fod...
Mick Antoniw: Diolch yn fawr am y cwestiwn.
Mick Antoniw: Rwyf fi a fy nghyd-Weinidogion wedi gwneud safbwynt Llywodraeth Cymru am ddatganoli cyfiawnder yn glir iawn i'r Arglwydd Ganghellor hwn, ei ragflaenwyr a nifer o Weinidogion eraill y DU, ac yn fwyaf diweddar yr Arglwydd Bellamy, yr Is-ysgrifennydd dros gyfiawnder, ddydd Llun. Mae'n parhau'n siomedig iawn nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon ymgysylltu o ddifrif â'r cwestiwn hwn.
Mick Antoniw: The published arrangements agreed as part of the Review set out clear structures for intergovernmental working, supporting scrutiny by the respective legislatures in turn. All governments must continue to embed these arrangements not just in words, but also in practice.
Mick Antoniw: The Co-operation Agreement is a political agreement. As set out in the Mechanisms document, while Welsh Ministers and Plaid Cymru’s designated members will, at the political level, jointly agree matters within scope of the Agreement, the formal and legal responsibility for those decisions rests with Welsh Ministers.
Mick Antoniw: Clearly, we need to work through all of the content of this 300-page response. However, the fact that the Law Society is now warning prospective new entrants that they will be unable to make a reasonable living from criminal defence work is a damning indictment of the state we are in.
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Mae'r dyfarniad yn glir iawn ynglŷn â mater cymhwysedd, a dyna, mewn gwirionedd, yw'r unig fater y mae'r Goruchaf Lys wedi ymdrin ag ef. Mae'n glir ac yn derfynol yn hynny o beth. O ran sefyllfa Cymru, wel, yr hyn sydd gennym yw cydnabyddiaeth yng Nghymru, o'r maniffestos amrywiol, fod angen diwygio cyfansoddiadol. Mae angen ymgysylltiad o fewn hynny, ac mae'r...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, roeddwn yn credu bod cyflwyniad yr Athro Ciaran Martin yn drawiadol iawn neithiwr, yn dilyn y cyflwyniad blaenorol gan Syr David Lidington. Rwy'n credu bod y rhain yn gyfraniadau pwysig iawn i'n dealltwriaeth o'r materion cyfansoddiadol sy'n amlwg yn ein hwynebu. I ddechrau, rwy'n credu ei bod yn werth inni fod yn glir ynghylch y dyfarniad y bore yma. Roedd y...
Mick Antoniw: Cafodd y dyfarniad ei gyhoeddi y bore yma. Byddaf yn rhoi amser i astudio'r dyfarniad yn ofalus.
Mick Antoniw: Wel, yn gyntaf i gyd, fyddwn i ddim wedi cyflwyno'r Bil, oherwydd mae'r Bil yn chwalu'n yfflon yr holl gysyniad o rwymedigaeth ryngwladol a chyfreithiol. Yn ail, pe byddai hi'n wirioneddol mor enbyd fel ei bod hi'n rhaid i chi wneud rhywbeth, fe fyddai erthygl 16 wedi cael ei defnyddio, fel dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, oherwydd fe fyddai hynny'n...
Mick Antoniw: Gwnaf, fe wnaf i.
Mick Antoniw: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi codi pwyntiau yn y ddadl hon. Rwy'n gwybod bod y gwahaniaeth a'r anghytundeb llwyr yn hyn o beth yn amlwg iawn. Er hynny, rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni i gyd yn ei gydnabod yw pwysigrwydd sylfaenol y mater hwn o ran heddwch yng Ngogledd Iwerddon, a lles economaidd a masnachol hefyd. Os caf i fynd i'r afael â chwpl o'r pwyntiau a...
Mick Antoniw: Roedd Brexit bob amser am fynnu ffin yn rhywle rhwng marchnad sengl yr UE a marchnad fewnol y DU, ond eto mae Llywodraethau olynol y DU a oedd yn cefnogi Brexit wedi gwrthod cydnabod y pwynt hwn a hynny mewn ffordd naïf ac ystyfnig. Rwy'n derbyn, wrth gwrs, y gall unrhyw gytundeb fod yn destun adolygiad technegol ac, yn wir, mae'r DU a'r UE wedi dechrau trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol...
Mick Antoniw: Rydyn ni wedi cyflwyno'r cynnig fel bod y Senedd yn gallu ystyried materion am y Bil a phenderfynu ar gydsyniad. Bydd yr Aelodau yn gweld ein bod ni, yn y memorandwm, yn dweud bod y rhesymau dros beidio â rhoi cydsyniad yn rhesymau da o ran y gyfraith a'r cyfansoddiad. Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld bod Llywodraeth Cymru yn credu bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil. Mae hyn yn wir am...
Mick Antoniw: Diolch i chi, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae hi'n bryder ac yn siom enfawr i mi orfod mynd i'r afael â'r Bil hwn. Er newidiadau rif y gwlith yn Llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf, nid oes fawr ddim wedi newid. Mae hi'n ymddangos nad oes llawer o gynnydd wedi bod, ac rydym ni'n parhau i fod â'r posibilrwydd y bydd y Bil annoeth ac anghyfrifol hwn yn dod yn gyfraith. Mae enw da y...
Mick Antoniw: Rwy'n croesawu casgliadau’r pwyllgor ar wella’r prosesau cydsyniad deddfwriaethol, a gobeithiaf y gallwn barhau i gydweithio i gryfhau gallu’r Senedd ymhellach i graffu ar ddeddfwriaeth ac amddiffyn y setliad datganoli gyda'n gilydd. Mae'r modd y mae Llywodraeth y DU yn gyson yn tramgwyddo gonfensiwn Sewel yn annerbyniol, a chredaf eu bod yn dangos diffyg parch at y sefydliad hwn a...
Mick Antoniw: Os caf droi at Filiau, fel y nododd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad diweddaraf ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 5 Gorffennaf, rydym yn bwrw ymlaen â rhaglen uchelgeisiol o ddeddfwriaeth sylfaenol. Rydym wedi cyflwyno chwe Bil cyntaf tymor y Senedd hon ac mae’r pwyllgor wedi chwarae rhan sylweddol a hollbwysig yn y rheini hyd yma. Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor a’r Cadeirydd am eu gwaith...