Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Rwy'n codi i siarad i welliant 78, sef yr unig welliant yn y grŵp hwn. Un o egwyddorion canolog y Bil hwn yw ceisio chwalu ffiniau rhwng gwahanol rannau o'r sector addysg ôl-16, sydd yn hanesyddol wedi cael eu gweld yn ynysig oddi ar ei gilydd. Fodd bynnag, yn naturiol, efallai, mae pryder yn dod gyda symudiad tuag at system mwy cyfannol, ac fe glywyd hynny yn ystod ein...
Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Ie, licien i jest roi ar gofnod bod Plaid Cymru yn cefnogi barn y Gweinidog ar y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones, 81, 82, 83 ac 84. Nid yw rhyddid mynegiant yn ddiamod, ac, fel nodwyd yn y ddadl, mae gennym ddeddfwriaeth yn barod i ddiogelu rhyddid mynegiant mewn sefydliadau addysg uwch ac i warchod myfyrwyr a staff y sefydliadau hynny rhag aflonyddu a...
Sioned Williams: Diolch, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl ar grŵp 5, ac yn benodol i siarad i welliant 166, a gyflwynwyd yn fy enw i. Yn ystod ein gwaith craffu ar y Bil fel y’i cyflwynwyd, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon a’r trefniadau newydd y bydd yn eu creu yn cynnal ac yn ymestyn yr egwyddor hir sefydlog ynghylch rhyddid...
Sioned Williams: Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi'r egwyddor o sicrhau adnoddau i gwrdd, hyrwyddo ac ehangu'r galw am addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg, ac fe fuom ni'n lleisio ein pryderon am hyn yn ystod Cyfnod 1 a 2, pryderon a oedd wedi cael eu rhannu yng Nghyfnod 1 gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg. Roeddwn i'n falch wedyn o weld felly yn...
Sioned Williams: Mae Plaid Cymru'n cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp yma, ac yn sicr gwelliant 6, sy'n ymateb, fel y clywon ni, i faterion a godwyd yn ystod Cyfnod 2 o graffu. Fel y dywedodd y Gweinidog a Laura Anne Jones, mae'n gyfnod o ddiwygiad arwyddocaol ym maes ADY, ac mae'n hanfodol i sicrhau bod y Bil hwn, sy'n cyflwyno diwygiadau mawr ym maes addysg drydyddol, yn cyflawni dros ein dysgwyr ADY hefyd....
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Dirprwy Weinidog.
Sioned Williams: Rwy'n falch bod y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop ac i alw am ddatganoli'r pwerau i ddeddfu i wella bywydau a diogelu diogelwch pobl draws yng Nghymru. Mae'n amlwg pa mor hanfodol yw'r ymrwymiadau hynny, o ystyried sut mae troseddau casineb yn erbyn pobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol wedi...
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog, i nodi Wythnos y Ffoaduriaid.
Sioned Williams: Rwy'n edrych ymlaen at ymweld ag arddangosfa Cartref oddi Cartref Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn ddiweddarach yr wythnos hon, sy'n dathlu'r bobl a'r sefydliadau sydd wedi bod â rhan o'r gwaith o wneud Abertawe yn ddinas noddfa ers dros 10 mlynedd. Y cam cyntaf yn unig yw cyrraedd man diogel, wrth gwrs—cam peryglus a blinderus yn aml—ar siwrnai faith i ffoaduriaid, yn...
Sioned Williams: Mae yna nifer o bethau i'w dathlu am sut y mae blaengaredd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a gwaith comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn helpu i lywio gweledigaeth a gweithrediad polisi, ond rŷn ni'n gwybod hefyd bod yna nifer o heriau. Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a fu'n craffu ar waith y comisiynydd, rwy'n cytuno bod nifer o gwestiynau pwysig y...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Roedd adolygiad Reid yn cynnwys pum argymhelliad canolog i Lywodraeth Cymru ar sut i gefnogi ymchwil ac arloesi ar ôl Brexit. Gyda chostau uwch bellach yn lleihau elw busnesau bach ar gyfradd nad yw llawer wedi’i hwynebu o’r blaen, mae llawer o gwmnïau bach bellach yn wynebu sawl her sy’n bygwth sefydlogrwydd ein heconomi. Gallai rhoi’r offer i fusnesau bach...
Sioned Williams: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru? OQ58177
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n bryder, wrth gwrs, bod y cynllun uwchnoddwr wedi gorfod cael ei atal dros dro, gan ein bod ni'n gwybod mai dyma'r cynllun ble y gallwn ni warantu orau bod anghenion ffoaduriaid yn cael eu cwrdd, a bod eu diogelwch a lles yn cael eu diogelu. Rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi hefyd, wrth gwrs, yr angen i sicrhau bod y gefnogaeth briodol honno mewn lle, a...
Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae maint yr argyfwng sy'n wynebu llawer gormod o aelwydydd yng Nghymru yn wirioneddol arswydus. Mae chwyddiant, fel clywsom ni, ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac mae prisiau ynni yn codi 23 gwaith yn gynt na chyflogau. O ystyried yr argyfwng sy'n wynebu'r aelwydydd hyn, mae Plaid Cymru yn cytuno y dylai Llywodraeth y DU adfer y...
Sioned Williams: Unwaith eto, mae arnom angen amserlenni ar gyfer y gwaith hollbwysig hwn. Rhaid peidio â'i ysgubo o'r neilltu. Mae gweithio hybrid hefyd yn elfen allweddol o arfer y gweithle, ac yn anffodus, nid yw'n cael ei grybwyll yn adroddiad y pwyllgor. Felly, hoffwn glywed a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried mynd i'r afael â hyn fel rhan o ddiwygio'r Senedd.
Sioned Williams: Gwnaf. Rwy'n gobeithio mai dim ond cam cyntaf o lawer yw hwn tuag at Senedd sy'n adlewyrchu ac yn cynrychioli'r dinasyddion y mae'n eu gwasanaethu. Fel y dywedodd Mary Wollstonecraft, 'Heddiw yw'r dechrau bob amser.' Rwy'n falch o weld heddiw'n gwawrio.
Sioned Williams: Na, rydych wedi cael digon o gyfle i roi eich barn y prynhawn yma, Darren. Wel, mae yna rai sy'n credu bod pethau—[Torri ar draws.] Mae yna rai sy'n credu bod pethau eisoes yn deg—
Sioned Williams: —nad yw'r anghydraddoldeb strwythurol hwnnw, a drafodwyd gennym yn yr union Siambr hon ddoe, yn bodoli, er bod adroddiad ar ôl adroddiad yn cyfeirio at y gwrthwyneb, ac mae cyfansoddiad y Senedd hon yn profi hynny y tu hwnt i amheuaeth. Mae yna rai sy'n teimlo nad oes angen mesurau statudol arnom i sicrhau gwell cynrychiolaeth. Wedi'r cyfan, fe wnaethom ymffrostio'n falch am ein...
Sioned Williams: Felly, pam y mae cwotâu rhywedd yn gam angenrheidiol? Sut y byddant yn effeithiol? Wel, bydd cwotâu rhywedd yn rhoi ateb cyflym a syml i'r ffaith na ellir ei chyfiawnhau nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol, neu y gallent fod heb eu cynrychioli'n ddigonol, mewn gwleidyddiaeth etholedig. Dengys ymchwil ryngwladol mai hwy yw'r offeryn unigol mwyaf effeithiol ar gyfer cyflymu...
Sioned Williams: Yn syml, dylai'r Senedd adlewyrchu'r Gymru y mae'n ei gwasanaethu. Rhaid i'w Haelodau, y rhai sy'n siarad dros eu cymunedau yn y lle hwn, sy'n craffu ar effaith polisi a deddfwriaeth a'r ffordd y caiff ein cenedl ei llywodraethu, fod yn gynrychioliadol o'r cymunedau hynny. Ar hyn o bryd, dim ond 26 o'r 60 sy'n eistedd yn y Siambr hon sy'n fenywod, er bod hanner poblogaeth Cymru—dros...