Cefin Campbell: Roedd Rhun yn cefnogi, wrth gwrs, o safbwynt y buddiannau economaidd a chreu swyddi—bod potensial mawr i ddyframaeth, bod gyda ni arbenigedd yng Nghymru sydd yn destun edmygedd ar draws Ewrop gyfan, bod gyda ni bryderon bod yr arbenigedd yna a'r gallu sydd gyda ni yng Nghymru yn mynd i gael ei golli, ac, fel y clywon ni, bod Rhun yn sôn am y posibilrwydd bod llawer o'r potensial yn mynd i...
Cefin Campbell: Taflodd Sam abwyd ataf—esgusodwch y gair mwys—ac rwy'n hapus i'w gymryd, ynglŷn â chyfleoedd yn sgil Brexit. Mae arnaf ofn nad wyf yn cytuno'n llwyr â'i ddadansoddiad, oherwydd yr hyn a welaf ar draws ardaloedd arfordirol y DU a'r diwydiant pysgota yw llanast llwyr ar hyn o bryd. Rwy'n edrych ymlaen at weld strategaeth glir, fel yr amlinellodd y Gweinidog, gan Lywodraeth Cymru ynglŷn...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn syml iawn, wrth i fi grynhoi, mae'r cynnig sydd gerbron y prynhawn yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant i ddatblygu polisi ar gyfer pysgodfeydd a dyframaeth, a hynny wedi'i atgyfnerthu gan strategaeth sydd â chynaliadwyedd, buddsoddiad ac ymgysylltu â'r diwydiant yn ganolog iddo. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi...
Cefin Campbell: Felly, gyda rhagolygon cyffrous ar gyfer sector sy'n tyfu’n gyflym, mae angen inni wybod beth yw strategaeth y Llywodraeth yn y dyfodol i gefnogi dyframaeth a physgota môr yng Nghymru, ac, yn wir, beth yw ei strategaeth ar gyfer manteisio ar y potensial i dyfu’r diwydiant yma yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Cefin Campbell: Lywydd, mae gan Gymru—o, mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—mae gan Gymru'r sylfaen wybodaeth a'r cyfalaf naturiol posibl i ddatblygu'r sector dyframaethu ymhellach, ond mae angen i Lywodraeth Cymru ailalinio a chanolbwyntio polisi ac adnoddau ar y sector mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ac integredig. Gall y sector dyframaethu gefnogi'r gwaith o greu swyddi, arloesi, cyfrannu at...
Cefin Campbell: Yn ddiweddar, rôn i’n rhan o ddirprwyaeth Plaid Cymru a fu ar ymweliad â'r cyfleuster dyframaeth arloesol ym Mhenmon, Ynys Môn, gyda'r Aelod o Ynys Môn, a gweld y cyfleoedd y gall y sector eu cynnig i Gymru. Dyma’r sector bwyd sy’n tyfu gyflymaf ar draws y byd. Mae'r staff yn Mowi Ltd ym Mhenmon wedi torri tir newydd gan ddefnyddio technegau arloesol ar gyfer cynhyrchu rhywogaethau...
Cefin Campbell: Gadewch i mi droi yn awr at ddyframaethu. Wrth i'r galw am fwyd môr gynyddu, mae technoleg wedi'i gwneud hi'n bosibl tyfu bwyd mewn dyfroedd morol arfordirol a'r cefnfor agored. Mae dyframaethu'n ddull a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd a chynhyrchion masnachol eraill, adfer cynefinoedd ac ailgyflenwi stociau gwyllt, ac ailboblogi rhywogaethau sydd dan fygythiad ac mewn perygl. Mae'r Gweinidog...
Cefin Campbell: Rhaid dweud felly fod yr effeithiau ar y diwydiant pysgota o adael yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd ag arafwch wrth ddarparu gwell rheolaeth ar bysgodfeydd, yn gwneud dyfodol pysgota môr yng Nghymru yn hynod o ansicr, sydd yn bryder mawr, wrth gwrs. Felly, pa fath o uchelgais sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer creu sector bywiog, cynaliadwy a gwydn yn economaidd ar gyfer y dyfodol o ystyried y...
Cefin Campbell: Nawr, is-adran y môr a physgodfeydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli pysgodfeydd morol yn nyfroedd Cymru. Mabwysiadwyd y model cyflawni canolog hwn dros 10 mlynedd yn ôl. Rhagwelwyd y byddai'r model cyflawni cyfunol newydd yn rhoi cyfle i ddefnyddio adnoddau'n well, yn darparu dull cydlynol o reoli pysgodfeydd Cymru ac yn gwella cyfranogiad y diwydiant pysgota yn y broses o wneud...
Cefin Campbell: Yn anffodus, o fewn rhaglen lywodraethu'r chweched Senedd hon, does dim unrhyw sôn am bysgodfeydd a dyframaeth o gwbl, fel petai nhw ddim yn bodoli o gwbl. Gallwn ni ond dod i'r casgliad, felly, nad yw'r sector hon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae strategaeth pysgodfeydd Cymru 2008 a chynllun gweithredu strategol ar gyfer y sector 2013 bellach wedi hen ddyddio. Efallai y bydd...
Cefin Campbell: Lywydd, Deddf Pysgodfeydd y DU 2020 sy'n darparu'r fframwaith ar gyfer polisi pysgota'r DU ar ôl Brexit. Mae'r Ddeddf yn ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i gynnwys holl ddyfroedd Cymru, a elwir yn barth Cymru. Felly, yn amlwg, mae hwn yn gyfle euraidd i adfywio'r diwydiant a datblygu strategaeth i'w symud ymlaen. Nawr, ymgynghorodd Llywodraeth flaenorol Cymru ar bolisïau morol a...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Pwrpas y ddadl hon yw codi ymwybyddiaeth o ddiwydiant pwysig a fu unwaith yn llewyrchus iawn yng Nghymru, sydd, yn anffodus, wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd lawer. Ond, o gael cefnogaeth bwrpasol gan y Llywodraeth, gallai gyfrannu tuag at adfywio ein cymunedau arfordirol ni yn economaidd a chymdeithasol. Mae gennym ni farddoniaeth, caneuon gwerin a...
Cefin Campbell: Iawn, diolch yn fawr iawn. Mae'r cwestiwn olaf yn debyg iawn i'r cwestiwn gan Laura Anne Jones, ond dwi'n mynd i ddod ato fe o ongl ychydig bach yn wahanol, sef y bwlch cyrhaeddiad yn y data a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru yr wythnos hon, a oedd yn dangos bod llai o raddau uchel A* ac A mewn arholiadau gan blant sydd yn derbyn prydau bwyd am ddim o gymharu â'r dysgwyr hynny sydd yn fwy...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y strategaeth ddrafft honno. Jest i ddilyn ymlaen, rwyf wedi bod yn cyfeirio'n benodol at y sector statudol. Mae amcanion Cymraeg 2050, wrth gwrs, yn cydnabod rôl bwysig y sector ôl-16 ac addysg uwch i wireddu'r weledigaeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ac mae dyletswydd gyda chi fel Llywodraeth i sicrhau bod gan ddysgwyr a...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A fyddai’r Gweinidog yn cytuno â fi mai un o’r pethau pwysicaf sydd angen digwydd er mwyn sicrhau bod mwy o blant yn elwa ar addysg Gymraeg yw sicrhau bod athrawon dwyieithog cymwys ar gael i’w dysgu nhw? Nawr, tra ein bod ni’n cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi bod ers cyfnod y pandemig o ran y nifer sy'n dewis hyfforddi fel athrawon, ar y cyfan...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Fel rŷch chi'n gwybod, dwi wedi mynegi pryderon sawl gwaith yn y Siambr hon am ffermydd yn cael eu prynu gan gwmnïau y tu allan i Gymru ar gyfer gwrthbwyso allyriadau carbon, a bron bob wythnos nawr rŷn ni'n clywed am enghreifftiau o hyn yn digwydd. Ac o ganlyniad, rŷn ni'n colli ffermydd teuluol a cholli tir amaeth da, ac rŷn ni'n gweld coed yn...
Cefin Campbell: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y fframwaith rheoleiddio cyfredol ar gyfer plannu coed at ddibenion gwrthbwyso carbon? OQ57149
Cefin Campbell: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau cyflenwad o athrawon Cymraeg fel rhan o'r strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Drefnydd, gaf i ofyn i chi am ddatganiad llafar ynglŷn â'r sefyllfa ddiweddaraf o ran effaith cyngor cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru ar afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig sy'n sensitif i phosphates? Mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith fawr ar draws rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn deall yn glir yr angen am...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog, am yr ateb, a dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod effaith COVID-19 a Brexit wedi cael effaith niweidiol iawn ar ein trefi gwledig ni. Beth rŷn ni'n gweld yw darlun o ddirywiad yn ein prif trefi marchnad ni ar draws y rhanbarth: siopau, banciau, tafarndai a swyddfeydd post yn cau; canol ein trefi yn wag, footfall yn mynd yn llai; gwasanaethau cyhoeddus yn...