Jack Sargeant: Lywydd, yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, daeth y Torïaid i gymunedau fel fy un i yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac addo codi'r gwastad; gwnaethant addo gwneud bywydau'n well. Ac roedd ensyniad clir yn hynny, sef: os gwnewch chi bleidleisio dros y Ceidwadwyr, bydd gennych fwy o arian yn eich pocedi a mwy o gyfleoedd i chi a'r plant. Ond mae hynny ymhell o fod yn realiti, onid yw? Oherwydd, yr...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno datganiad heddiw. Mae hi'n gwybod bod y mater yn un hynod o bwysig i mi, gan mai fi oedd yr Aelod a gyflwynodd y cynnig llwyddiannus yn y Senedd flaenorol i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru, a'r Aelod a wnaeth gadeirio ymchwiliad trawsbleidiol y Pwyllgor Deisebau ar y pwnc. Rwy'n falch iawn o fod yn...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ac rwy'n credu ei bod yn amlwg eich bod yn cytuno y bydd buddsoddi mewn adeiladau ysgolion cyfrwng Cymraeg yn allweddol os ydym am gyflawni o ddifrif a rhoi cyfle i bob rhiant a phlentyn gael addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi cynllun strategol uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sir y Fflint. Tybed a wnewch...
Jack Sargeant: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ehangu addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ58227
Jack Sargeant: A wnaiff yr Aelod ildio?
Jack Sargeant: Diolch i Sam Kurtz am dderbyn yr ymyriad. Fe sonioch chi am y posibilrwydd y gallai Cymru fod yn arweinydd ym maes technoleg adnewyddadwy. A fyddech yn cytuno â mi mai ffordd dda o wneud hynny fyddai dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus o danwydd ffosil a buddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy yng Nghymru?
Jack Sargeant: Rwyf wedi bod yn myfyrio ar yr hyn y mae arloesi yn ei olygu a’r gair 'arloesi’, ac, wrth imi wneud hynny, deuthum o hyd i ddyfyniad gan Steve Jobs, a dywedodd unwaith: 'Weithiau, pan ydych yn arloesi, rydych yn gwneud camgymeriadau. Mae'n well eu cyfaddef yn gyflym, a bwrw ymlaen â gwella agweddau eraill ar eich arloesi.' Ac mae hynny'n fy ysbrydoli'n fawr, oherwydd, pan oeddwn yn...
Jack Sargeant: Rwyf i’n croesawu'r cyfle heddiw i siarad am y ddadl amserol iawn hon. Rwy’n credu y dylai darlledu o Gymru, o bob math, ar ei orau, adrodd ein stori genedlaethol, a dylai adlewyrchu diddordebau ac angerdd Cymru. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth neu newyddion yn unig, er fy mod yn cytuno eu bod yn ffurfio rôl bwysig, ond mae ein cenedl yn angerddol ac yn falch o bêl-droed, ac mae...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o fy ymgyrch i ddadfuddsoddi cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus o danwydd ffosil, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau a gefnogodd y cynnig, sy'n golygu y bydd Cymru'n arwain y ffordd yn y maes hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i Heledd Fychan am godi mater pensiynau ein staff cymorth ein hunain yn ystod y ddadl a gyflwynais ychydig wythnosau'n...
Jack Sargeant: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Cytunaf â'r hyn yr ydych newydd ei ddweud. Roeddwn hefyd yn falch o glywed bod y Torïaid Cymreig wedi cefnu ar eu hymdrechion penderfynol i amddiffyn penderfyniad Llywodraeth y DU i atal cyllid sy'n gysylltiedig â HS2 i Gymru. Nawr, rydym yn gwybod onid ydym, Gwnsler Cyffredinol, fod y setliad presennol, fodd bynnag, yn dal i ganiatáu i Dorïaid y DU esgus bod...
Jack Sargeant: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Nid wyf yn credu y gallai neb yn y Siambr hon wadu'n rhesymol fod protestio neu fudiadau protest wedi newid Cymru a'r Deyrnas Unedig er gwell. Rwy'n gwybod bod gennych chi eich hun, Gwnsler Cyffredinol, hanes o herio'r pwerus pan fydd angen gwneud hynny, gan gynnwys eich gwaith ysbrydoledig gydag eraill i herio erchyllterau apartheid yn Ne...
Jack Sargeant: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith mewn perthynas â Bil Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y DU? OQ58123
Jack Sargeant: 7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y mae Llywodraeth y DU yn glynu wrth egwyddorion confensiwn Sewel? OQ58124
Jack Sargeant: 1. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i ddadfuddsoddi pensiynau staff o danwydd ffosil? OQ58125
Jack Sargeant: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i godi'r pwynt hwn o drefn, ac rwyf i am ofyn i lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ystyried yr iaith a ddefnyddiodd yn ystod ei gyfraniad y prynhawn yma o ran yr undebau llafur ac undebau llafur Cymru, heb unrhyw dystiolaeth—sylwadau amharchus ac annymunol iawn ynghylch llygredd yn undebau llafur Cymru. A minnau'n aelod balch o undeb...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Os caf ddiolch i’r holl Aelodau, gan gynnwys aelodau o'r pwyllgor ac Aelodau o’r Senedd, am eu cyfraniadau, ac wrth gwrs, i’r Gweinidog, nid yn unig am ei hymateb, ond am ei hymrwymiad i gefnogi’r teuluoedd hynny a'r bobl sy’n dioddef o gyflyrau niwroddatblygiadol. Rydym wedi clywed, onid ydym, o bob rhan o'r Siambr, y rheswm pam fod angen inni...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod yn dod i arfer â hyn y prynhawn yma.
Jack Sargeant: Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.
Jack Sargeant: Ddirprwy Lywydd, teitl y ddeiseb yr ydym yn ei thrafod heddiw yw 'Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru'. Mae'r ddeiseb hon wedi derbyn 10,393 o lofnodion. Mae'n dweud bod Syndrom Tourette yn effeithio ar un o bob 100 o blant, nad yw'n gyflwr prin ac mae gan Gymru un arbenigwr nad yw'n gweld plant. Mae'r ddeiseb yn galw am '[l]wybr...
Jack Sargeant: Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am gyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl hon a’r cyfraniadau cadarnhaol gan y rhan fwyaf o Aelodau’r Siambr y prynhawn yma. Fe ddechreuaf, Lywydd, drwy grynhoi—nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd wedi cael ei Shreddies y bore yma, neu ei eirin Dinbych, ond rwy’n sicr yn anghytuno â’r rhan fwyaf o’i gyfraniad. Ond rwy'n croesawu ei...