Canlyniadau 141–160 o 500 ar gyfer speaker:Mabon ap Gwynfor

3. Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 (22 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Hoffwn i gymryd y cyfle heddiw dim ond i godi ychydig o bryderon ynghylch y rheoliadau sydd wedi'u gosod ger ein bron. Fel yr eglurodd y Gweinidog, nid yw'r ffi y ceir ei chodi ar gyfer penodi cymrodeddwr annibynnol wedi'i diweddaru ers 1996, felly cynigir ei chodi o £115 i £195. Er nad ydym ni'n sôn am lawer iawn o arian yma, mae'n dal i fod yn gynnydd o ganran enfawr, yn enwedig ar adeg...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Gawn ni gyhoeddiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi ynghylch pa gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau sy'n canfod eu hunain mewn trafferthion ariannol? Mae yna gyflogwyr cymharol fawr bellach mewn cyswllt efo nifer ohonom ni yn sôn am eu pryderon eu bod nhw am orfod rhoi eu gweithlu ar y clwt yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf yma. Hyd yma, does yna ddim cymorth ariannol go iawn...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (16 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: —wedi'i gwneud yng Nghymru, a hynny ar fyrder.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (16 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch am eich amynedd.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (16 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Nid ceisio gwasgu darn o ddeddfwriaeth Lloegr i mewn i gyfraith bresennol Cymru heb basio Deddf Gymreig yw'r ffordd y dylai pethau weithio. Ond ni allwn adael Llywodraeth Cymru oddi ar y bachyn yma; mae wedi bod yn flwyddyn a hanner ers yr etholiad, ac nid ydym wedi gweld deddfwriaeth yn y maes. Gall Llywodraeth Cymru sôn gymaint ag y dymunant am gyfyngiadau amser, rhaglen ddeddfwriaethol...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (16 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Gadewch inni atgoffa ein hunain pam ein bod yn dal i drafod y mater hwn heddiw, bron i bum mlynedd a hanner ar ôl y drasiedi ofnadwy yn Grenfell. Y ffaith ddamniol yw bod y system diogelwch adeiladau bresennol yn system sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli ar draul diogelwch y cyhoedd. Ni wnaf fyth anghofio...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith — 'Cysylltedd digidol — band eang' (16 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth ddeheuig fy nghyfaill Llyr Gruffydd fan hyn, am yr adroddiad yma. Mae'n un sy'n arbennig o berthnasol i Ddwyfor Meirionnydd. Dwi am ganolbwyntio'n benodol ar yr adran sy'n sôn am gysylltu y rhai hynny sydd wedi'u gadael ar ôl. Mae'n rhaid imi fynegi fy siom aruthrol yn yr agwedd eithaf di-hid y mae rhai o'r darparwyr ac eraill yn y maes yn ei dangos...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Safleoedd Atomfeydd Niwclear Newydd (16 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ymateb, ond dwi am i'r Gweinidog esbonio, os gwelwch yn dda, ynghylch beth yn union ydy pwrpas Cwmni Egino bellach, yng ngoleuni y datblygiad yma. Yn flaenorol, mae Gweinidog yr Economi a'r Prif Weinidog wedi sôn am gynlluniau eraill ar gyfer Trawsfynydd, megis meddyginiaeth niwclear. Mae Egino eu hunain, yn eu trafodaethau efo fi, wedi gwneud yn glir...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Safleoedd Atomfeydd Niwclear Newydd (16 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Rolls-Royce ynghylch safleoedd atomfeydd niwclear newydd a pherthynas hyn â Chwmni Egino? OQ58711

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru (15 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Does yna ddim amheuaeth fod twristiaeth yn gyfrannwr pwysig i'r economi. Mae ymwelwyr yn gwario £17 miliwn y diwrnod, neu mae hynny'n dros £6 biliwn y flwyddyn, yn yr economi yma. Ond, dim ond rhan o'r darlun ydy hynny, oherwydd pa iws cael economi gref ar draul ein cymunedau? Ac os ydy'r arian hwnnw yn llifo allan o'r cymunedau hynny, ac, yn wir, allan o Gymru, pa ddefnydd ydy hynny? Mae'n...

8. Dadl Plaid Cymru: Effaith fyd-eang defnydd domestig ( 9 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Felly, beth ddylid ei wneud? Wel, fel dywedodd Dewi Sant, gwnewch y pethau bychan. Er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion sydd yn gyrru newid hinsawdd a'r argyfwng natur, mae'n rhaid sicrhau bod ein cadwyni cyflenwi yn rhai lleol, ac er mwyn gwneud hynny mae angen datblygu strategaeth fwyd lleol a chadarn. Mae yna lawer o enghreifftiau o fentrau bwyd cymunedol llwyddiannus, ac ar adeg...

8. Dadl Plaid Cymru: Effaith fyd-eang defnydd domestig ( 9 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Martin Luther King Jr. a ddywedodd, 'Cyn i chi orffen bwyta brecwast yn y bore, rydych chi wedi dibynnu ar hanner y byd.' Mae i'n gweithredoedd dyddiol, y penderfyniadau a wnawn, a'r ffordd y penderfynwn wario ein harian ganlyniadau pellgyrhaeddol i wledydd a phobl eraill ar draws y byd, fel y soniodd Delyth ar ddechrau'r ddadl hon. Mae amcangyfrifon yn dangos y byddai angen dros 1.7 Daear...

8. Dadl Plaid Cymru: Effaith fyd-eang defnydd domestig ( 9 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i Delyth am gyflwyno a chynnig y cynnig yma. Wel, am wlad sydd yn wledig, mae'n ymddangos yn rhyfedd gweld ein bod ni, fel cenedl, yn mewnforio nwyddau amaethyddol a choedwigaeth o wledydd o ar draws y byd, ond dyna, wrth gwrs, yw'r gwir. O wrtaith i borthiant i goed adeiladu a llawer iawn mwy, mae nifer fawr o'r nwyddau yma yn cael eu cynhyrchu mewn gwledydd eraill. Ac...

5. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffliw adar ( 8 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: 'Ar ôl dadansoddi'r dystiolaeth wyddonol sydd ar gael, nid ydym yn cyflwyno gorfodi lletya dofednod yng Nghymru ar hyn o bryd',

5. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffliw adar ( 8 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: fel rydych chi wedi cyfeirio ato. Rŵan, yn dilyn y datganiad heddiw, hoffwn glywed rhagor o wybodaeth am y risg i’r cyhoedd o’r ffliw yma. Wythnos diwethaf, er enghraifft, clywsom am ddau weithiwr fferm dofednod o Sbaen a brofodd yn gadarnhaol ar gyfer y ffliw adar. Ers 2003, mae yna 868 achos o bobl yn cael ffliw adar a 456 o farwolaethau mewn 21 gwlad, yn ôl y World Health...

5. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffliw adar ( 8 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Mae’r ffliw adar yma wedi pryderu’r sector ers peth amser bellach, ac yn debyg i COVID, mae’n ymddangos bod Cymru yn lagio tu ôl i Loegr o rai wythnosau. Yn dilyn y cyhoeddiad am y canfyddiad yn sir y Fflint ddoe, a’r ardal reolaeth o 3 km sydd wedi ei gosod, mae ffermwyr adar yn pryderu yn naturiol y bydd camau llymach yn cael eu cyflwyno efo...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru ( 8 Tach 2022)

Mabon ap Gwynfor: A gaf i ddweud fy mod i wedi mwynhau'r ymateb yna gan y Gweinidog i Janet Finch-Saunders, ac eithrio'r frawddeg olaf? Rwy'n croesawu'r ymateb yna. Mae’n ddihareb, bellach, wrth gwrs, dweud ein bod yn byw trwy gyfnod o newid digynsail. Rhwng Brexit, COVID a rŵan y rhyfel yn Wcráin, mae hyn oll yn cael effaith andwyol ar y gadwyn gyflenwi, gyda chostau deunyddiau crai, cynhyrchu a chludo yn...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (26 Hyd 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch am yr ymateb. Wel, gan barhau â thema cyllid ar gyfer pysgota a dyframaethu, mae gan gronfa bwyd môr y DU gyllid o £100 miliwn o dan dair colofn: gwyddoniaeth ac arloesi, seilwaith, sgiliau a hyfforddiant. Mae cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn tynnu sylw'n briodol at yr angen i sicrhau bod cymaint ag y bo modd o gronfa bwyd môr y DU sy'n werth £100 miliwn yn dod i Gymru. Mewn...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (26 Hyd 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch, Lywydd. Fe wnaeth grŵp cynghori newydd y Gweinidog ar bysgodfeydd Cymru gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf. Ymhlith y blaenoriaethau a drafodwyd oedd y cynllun ariannu pysgodfeydd—yn lle cronfa pysgodfeydd yr UE. Ond mae yna bryderon fod y cynigion ar gyfer cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn syrthio'n fyr o'r cynllun cronfa pysgodfeydd arforol Ewropeaidd blaenorol a'r...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Hyd 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna.


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.