Siân Gwenllian: Diolch. Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod bod o'n waith ychwanegol eithaf swmpus mewn rhai achosion. Ac mae yna arian yn y system, achos dwi wedi clywed am achos lle mae yna un ysgol uwchradd yn talu arian mawr—tua £100,000—i'r cyrff arholi allanol, er nad ydy'r rheini, wrth gwrs, yn cyflawni'r un swyddogaeth yn y cylch arholi eleni. Mae'n bwysig bod yr arian sydd yn y system yn cael...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Neis eich gweld chi ar draws y Siambr ac yn y cnawd, fel petai, am y tro cyntaf ers tro. Rydym ni'n dilyn trefn wahanol i'r arfer eto eleni o ran arholi disgyblion TGAU, lefel A ac AS. Trefn safoni asesiadau o dan arweiniad ysgolion ac athrawon unigol sydd gyda ni, i bob pwrpas. Yn gynharach eleni, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban gyhoeddi y byddan nhw'n rhoi taliad untro o...
Siân Gwenllian: Buaswn i'n licio jest canolbwyntio ar un maes pwysig iawn, sef gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar—sector hollbwysig ar gyfer adfer o'r COVID. Mae plant bach ar draws Cymru wedi colli cyfnod ffurfiannol pwysig o'u bywydau, ac mae yna dystiolaeth gynyddol mai yn y fan yma ddylai'r ffocws addysgol fod. Ond mae'n siomedig i weld diffyg uchelgais dybryd yn y rhaglen lywodraethu. Dydy o...
Siân Gwenllian: Mae recriwtio doctoriaid yn parhau i fod yn broblem yn ardal y gogledd, fel rydych chi'n gwybod, efo gormod o lawer o arian yn mynd ar gyflogi locyms a gormod o lawer o swyddi gwag mewn meddygfeydd. Dwi'n falch iawn eich bod chi yn cefnogi galwadau cyson Plaid Cymru am ysgol feddygol ym Mangor, ac rydych chi newydd gadarnhau hynny rŵan eto, a bod hyn yn cael ei weithredu arno fo erbyn hyn....
Siân Gwenllian: Llongyfarchiadau mawr ichi ar eich penodiad. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio efo chi, Jeremy. Byddwch chi'n gwybod y byddaf i'n craffu ar eich gwaith chi'n fanwl, yn herio pan fydd angen, a hynny er mwyn gwella profiadau plant a phobl ifanc Cymru a'r rhai hynny sydd yn eu cefnogi nhw. Gobeithio y byddwch chi'n barod i gyfarfod yn rheolaidd. Roedd gwneud hynny efo eich rhagflaenydd yn...
Siân Gwenllian: Pleser gen i ydy eilio yr enwebiad yna.
Siân Gwenllian: A gaf i gymryd y cyfle hefyd i ddymuno'n dda i'r Dirprwy Weinidog, Dafydd Elis-Thomas, ar ei ymddeoliad o? Diolch yn ddiffuant iddo fo am ei gyfraniad pwysig wrth i'n democratiaeth ni wreiddio a ffynnu. Diolch yn fawr.
Siân Gwenllian: Rwyf newydd orffen. Roeddwn am ddweud, Ann, fy mod yn dymuno'r gorau i chi yn y dyfodol, a diolch yn fawr i chi am eich cyfraniad i'r Senedd dros gynifer o flynyddoedd. Mae wedi bod yn amhrisiadwy.
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bwysicach nag erioed i sicrhau datganoli darlledu i Gymru, nid yn unig er lles ein democratiaeth, ond, fel mae'r pandemig wedi dangos, er lles ein hiechyd cyhoeddus hefyd. Mae Plaid Cymru felly yn croesawu'r adroddiad yma yn frwd iawn. Am y tro cyntaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru, mae gennym ni gonsensws trawsbleidiol o blaid datganoli o leiaf rhai...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diddorol clywed catalog o ddadansoddiadau Mark Reckless am wahanol faterion cyfansoddiadol y Senedd. Diolch iddo am gymryd cymaint o ddiddordeb yn Rheolau Sefydlog ein Senedd genedlaethol, sefydliad y mae o ac eraill yma y prynhawn yma, yn anffodus, eisiau cael ei wared, wrth gwrs, yn groes i fandad cyson ein pobl. Nid buddiannau ein Senedd genedlaethol a'n gwlad...
Siân Gwenllian: Felly, gobeithio y caiff o weld golau dydd ac y gwnawn ni weld yn union beth ydy'r argymhellion ar gyfer cyfeiriad y gwaith yma i'r dyfodol. Jest i droi yn olaf at yr angen, rydw i'n credu, am strategaeth gwbl newydd ar gyfer y celfyddydau a'r sector diwylliannol yng Nghymru, dwi'n meddwl y bydd cynnal diwydiant creadigol bywiog ac arloesol efo cefnogaeth dda yn helpu Cymru i addasu i'r...
Siân Gwenllian: I droi at faes arall sydd yn rhan o'ch dyletswyddau chi, sef digwyddiadau mawr, dwi ar ddeall fod y Llywodraeth wedi comisiynu adroddiad annibynnol am y strategaeth digwyddiadau mawr. Dwi'n deall bod gwaith wedi cychwyn ymhell cyn i'r pandemig ein taro ni a'i fod o wedi cael ei gwblhau hefyd ond nad ydy'r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi. Fedrwch chi egluro pam nad ydy'r adroddiad wedi'i...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ail gam o'r gronfa adferiad diwylliannol gan roi ychydig mwy o sicrwydd i'r sector celfyddydau a diwylliannol. Mae yna un agwedd y mae'r sector wedi ei chodi efo mi yn barod, sef hygyrchedd y cynllun. Oes gennych chi gynlluniau yn eu lle i sicrhau bod y broses ymgeisio yn un deg, yn enwedig i...
Siân Gwenllian: Mae rhanddeiliaid yn y maes yma wedi codi, ac maen nhw'n dal i godi, nifer fawr o bryderon ynglŷn â'r cod yma, gan gynnwys ansawdd gwybodaeth a chyngor, pontio a'r sefyllfa ôl-16, cymwysterau'r cydlynwyr a'r ffaith nad ydy'r cod yn god ymarfer, y broses apeliadau, a'r amser adolygu. Mae hynny'n rhestr hir o bryderon, ac mae angen i'r Llywodraeth ymateb i bob un ohonyn nhw a chynnig mwy o...
Siân Gwenllian: Diolch am y datganiad. Hoffwn i hoelio sylw ar ddau fater penodol. Dwi'n gwybod eich bod chi'n cytuno ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n defnyddio dulliau ataliol wrth ymdrin â materion iechyd meddwl, a thra bod angen, wrth gwrs, ymateb i broblemau, mae'n bwysig hefyd gweithredu i atal problemau cyn iddyn nhw ymddangos. Ac felly, mae angen mynd i'r afael ag un o achosion sylfaenol y problemau...
Siân Gwenllian: Yr ewyllys sydd ar goll ac, yn y cyfamser, mae'r argyfwng tai yn dwysáu a'n cymunedau ni yn gwegian.
Siân Gwenllian: Dwi yn dod i ben, Dirprwy Lywydd. Mae yna fesurau y gellid eu rhoi ar waith yfory nesaf, efo'r ewyllys—
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr i Osian Jones a Chymdeithas yr Iaith am drefnu'r ddeiseb ac i bawb ddaru ei llofnodi hi. Mae sicrhau tai addas yn y llefydd iawn ar gyfer pobl leol yn allweddol. Yng Ngwynedd ar hyn o bryd, mae yna tua 160 o unigolion, sy'n gyplau ac yn deuluoedd hefyd, wedi eu lleoli mewn llety dros dro anaddas am nad oes ganddyn nhw ddim cartref iawn. Mae dros 2,000 o drigolion Gwynedd wedi...
Siân Gwenllian: Dwi'n derbyn y pwynt yna, wrth gwrs, ond mae yna ormodedd o lawer o ddata yn cael ei gasglu, a data yn aml iawn nad ydy'r athrawon eu hunain ddim yn deall pam rydych chi, fel Llywodraeth, eu hangen nhw. A gaf i droi at fy nghwestiwn olaf i i chi—nid yn unig am heddiw, wrth gwrs—a gaf innau hefyd ddiolch yn fawr i chi am eich cydweithrediad parod yn ystod y Senedd yma, ac yn enwedig am...
Siân Gwenllian: Un mater sydd yn sicr yn ychwanegu'n sylweddol at y baich gwaith ydy gosod cyllidebau, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn. Beth sy'n creu cymhlethdod yw pan fo arian yn cyrraedd drwy grant yn hwyr iawn yn y dydd, fel sydd wedi digwydd wythnos yma. Dwi am ddyfynnu un pennaeth a gysylltodd efo fi ddoe. Dyma ddywedodd hi: 'Rydym ni yn treulio mwy o amser yn ysgrifennu am sut i wario'r grantiau...