Heledd Fychan: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gadarnhau fy mod wedi rhoddi munud o fy amser i Sioned Williams heddiw. Bob dydd, ledled y byd, cyfrifir bod 300 miliwn o bobl yn gwaedu oherwydd mislif. Mae’n weithred cyfan gwbl normal—yr un mor normal â mynd i’r tŷ bach—ond am rhy hir o lawer, mae siarad am fislif wedi bod yn tabŵ. Yn wir, er gwaetha’r ffaith bod mwy o drafod agored wedi bod am...
Heledd Fychan: Mae gan Gymru hanes hir o ryngwladoliaeth. Mae mudiadau undod wedi bodoli ers cenedlaethau gyda chymunedau mor bell i ffwrdd â Somalia, fel y gwyddom o hanes masnachu glo Cymru a'i diaspora hirsefydlog; Lesotho, drwy Dolen Cymru, a sefydlwyd yn 1982, a oedd, wedi'r cyfan, yn enghraifft gyntaf y byd o efeillio rhwng gwledydd; ac Uganda, lle mae sawl elusen wedi gweithio dros bedwar degawd....
Heledd Fychan: Trefnydd, byddwch chi a'r Aelodau eraill yn ymwybodol, dwi'n siŵr, o ganlyniadau arolwg undeb y prifathrawon, NAHT Cymru, a gafodd eu cyhoeddi heddiw, a oedd yn cyfleu darlun pryderus dros ben o ran y pwysau ar gyllidebau ysgolion. Clywsom wythnos diwethaf fod y syniad o ddysgu disgyblion ar lein am ddiwrnod yr wythnos wedi'i grybwyll ym Mhowys, ac, o ran yr arolwg, fod athrawon yn ystyried...
Heledd Fychan: Nid wyf yn dilyn eich cyfrifon Twitter a Facebook yn frwd, rhaid imi gyfaddef; rwy'n hoffi edrych ar ôl fy mhwysedd gwaed. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi gweld yr ymchwil y cyfeirioch chi ati, ac yn sicr gallwn i gyd ailadrodd y manteision dirifedi sy'n gysylltiedig ag addysg awyr agored. Fel y soniodd Huw, mae llawer ohonom wedi cael y pleser o fod yn Llangrannog, Glan-llyn—mae pob un o'r...
Heledd Fychan: Diolch, Sam, am ddod â hyn ger ein bron ni.
Heledd Fychan: Diolch. Roeddwn yn cyfeirio, yn arbennig, at yr awdurdodau o fewn fy rhanbarth.
Heledd Fychan: Un ddarpariaeth statudol hanfodol yw gwasanaethau cymdeithasol, ac, yn benodol, gofal. Gwyddom fod problemau dirfawr o ran recriwtio gofalwyr. O’r herwydd, mae mwy a mwy o unigolion yn dod yn ofalwyr di-dâl er mwyn gofalu am eu hanwyliaid, ac yn wynebu caledi ariannol o’r herwydd. A oes unrhyw drafodaethau wedi bod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran ymestyn y cymorth ariannol...
Heledd Fychan: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i gynnal eu gwasanaethau statudol? OQ58625
Heledd Fychan: A gaf i adleisio'r geiriau sydd eisoes wedi’u mynegi o ran diolch i Sally Holland am ei chyfnod o dros saith mlynedd? Rwy'n credu bod ei darlith ymadael, hefyd, yn rhywbeth i nifer ohonom ni gnoi cil drosto, gan fyfyrio ar yr heriau yr oedd hi'n credu oedd yn dal i wynebu cymaint o blant a phobl ifanc. Hoffwn hefyd groesawu'r comisiynydd plant newydd, sydd wedi dangos yn barod yn ei rôl y...
Heledd Fychan: Yr wythnos diwethaf, Trefnydd, cafodd ei gyhoeddi fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo apêl gynllunio sy'n golygu y bydd bywyd chwarel Craig yr Hesg yn fy rhanbarth i, yn ogystal â'r ardal sy'n cael ei chloddio, yn cael ei hymestyn. Mae hyn er gwaethaf gwrthwynebiadau sylweddol yn lleol, a'r ffaith bod pwyllgor cynllunio cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwrthod y ddau gais. Carwn i,...
Heledd Fychan: Diolch, Luke, am ddod â hyn ger ein bron heddiw.
Heledd Fychan: Mae'n rhaff achub i lawer. Ni allwn orbwysleisio ei bwysigrwydd. Un o'r pethau rwy'n falch iawn eich bod wedi'u pwysleisio heddiw yw'r meini prawf cymhwysedd, oherwydd un o'r pethau sydd wedi cael eu dwyn i fy sylw, gan rai y mae'r bobl ifanc yn eu teuluoedd yn dibynnu'n llwyr ar y lwfans cynhaliaeth addysg, yw'r meini prawf cymhwysedd pan fo'r person ifanc yn ofalwr. Ar hyn o bryd, rhaid i'w...
Heledd Fychan: Dim ond newydd ddechrau ydw i, Janet. Os caf fi barhau, ac os byddwch chi'n dal i fod eisiau ymyrryd ar rywbeth a ddywedais—. Ond i ymateb i Sam Rowlands: wrth gwrs bod angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ond ni fydd hynny'n datrys pethau i bobl sy'n ddigartref yn awr, lle nad oes atebion digonol yn awr. Ac rydym yn gwybod yn barod fod teuluoedd wedi bod yn cael trafferth cael dau ben...
Heledd Fychan: Yr hyn a drafodwn heddiw yw camau brys i gefnogi argyfwng y mae pawb ohonom yn ei weld. Mae pobl yn cael eu gwneud yn ddigartref yn awr. Bydd mwy o bobl yn cael eu gwneud yn ddigartref y gaeaf hwn—
Heledd Fychan: Mae grwpiau o'r fath mor bwysig o ran cefnogi rhieni, a dwi'n siŵr bydd fy nghyd-Aelodau yn cytuno bod angen inni gefnogi sefydliadau a mentrau lleol yn ein cymunedau sy'n cynnig y math yma o gefnogaeth sydd yn achub bywydau. Yn sicr, fe ges i groeso cynnes iawn gan y Metalidads, a chael budd mawr o'u cyfarfod.
Heledd Fychan: Rwyf am orffen gyda dyfyniad a ddefnyddir yn aml gan y Fathers of Metal, 'boed yn far tremolo neu'n ddiddyfnu, yn Napalm Death neu'n glytiau...mae hi bob amser yn dda i siarad.' Rociwch ymlaen.
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. A hithau wedi bod yn Ddiwrnod Rhyngwladol Iechyd Meddwl ar 10 Hydref, hoffwn gymryd y cyfle heddiw i ddathlu un grŵp penodol yn fy rhanbarth, sef y Metalidads.
Heledd Fychan: Mae'r Metalidads, a adwaenir hefyd fel y Fathers of Metal, yn dwyn ynghyd y drindod sanctaidd honno, sef tadolaeth, iechyd meddwl a cherddoriaeth metel trwm ac yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos yn nhref y Barri i annog tadau lleol i ddod allan o'r tŷ ac i ffwrdd oddi wrth y plant a'r partneriaid er mwyn ffurfio cyfeillgarwch newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau a mentrau hwyliog fel...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Yn sicr, fe fyddwn ni yn gofyn ichi ymrwymo i sicrhau bod y ddwy ysgol hon yn rhai Cymraeg neu yn rai fydd yn dod yn ysgolion Cymraeg. Yn amlwg, mae'n allweddol bwysig. Roedden ni'n trafod wythnos diwethaf yr adroddiad 'Cymraeg 2050' a'r angen am fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg os ydyn ni am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Ond, ar yr un pryd, a ninnau mewn...
Heledd Fychan: 4. Beth yw disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran categori iaith y ddwy ysgol arloesol newydd dan ei her ysgolion cynaliadwy? OQ58540