Peter Fox: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn a ddywedoch chi, sef bod chwarae'n bwysig iawn i iechyd corfforol a meddyliol. Rwy'n croesawu mentrau fel y cynllun Haf o Hwyl i ymestyn chwarae. Fodd bynnag, rwyf wedi cael trafodaethau diweddar gyda Scope, ac maent yn awgrymu bod offer yn aml yn anhygyrch i blant anabl a bod llawer o feysydd chwarae heb gael eu cynllunio...
Peter Fox: Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno ei chwestiwn. Mae cwpan y byd yn gyfle delfrydol i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd, ond gadewch inni edrych ychydig yn ehangach ar y llwyfan byd-eang hwnnw. Mae gan Lywodraeth Cymru 21 o swyddfeydd rhyngwladol ac mae gan bob un gylch gwaith i ddenu mewnfuddsoddiad. Fodd bynnag, mae’n amheus pa mor effeithiol y bu’r rhain o ran sicrhau cyfleoedd newydd i...
Peter Fox: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod cyfleoedd chwarae ar gael ac yn hygyrch i bob plentyn? OQ58356
Peter Fox: Mae fy nghyfraniad yn mynd i fod yn fwy technegol ei natur, rwy'n credu. Yn gyntaf, Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r adroddiad blynyddol hwn, y cyntaf o'r Senedd hon? Mae adroddiad blynyddol yn rhywbeth y dylem ni edrych ymlaen ato. Mae'n rhoi cyfle i ganmol llwyddiant, ond dylai hefyd roi cyfle i ddangos lle mae pethau'n anghywir. Dylai ddangos hunanymwybyddiaeth y...
Peter Fox: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac rwy'n croesawu cyfraniad Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth ynghylch awdurdodau lleol a'r gwaith a wnaethant. Rwy'n cyfrannu at y ddadl hon fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, ac o'r dechrau'n deg hoffwn gadarnhau y byddwn yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron, yn ôl arferiad y grŵp ar gyllidebau atodol. Yn...
Peter Fox: Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth yn rhan o waith craffu'r Pwyllgor Cyllid ar y Bil ac i ddiolch ar goedd am y gefnogaeth a'r cyngor a gynigiwyd gan y tîm clercio a chyfreithiol drwy gydol y broses hon. Hoffwn ddiolch hefyd i chi, Gweinidog, am y ffordd yr ydych chi a'ch swyddogion wedi ymgysylltu'n adeiladol â mi a chyd-Aelodau yn ystod y broses ddiwygio. Diolch...
Peter Fox: Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb, a diolch i chi am gydnabod y materion sy'n ymwneud â Chas-gwent. Dyna un o fy mhrif faterion, oherwydd llygredd aer ar yr A48, ac yn enwedig Rhiw Hardwick, y byddwch yn ymwybodol ohono, sef un o'r ffyrdd mwyaf llygredig yng Nghymru. Mae trigolion wedi bod yn pwyso am ffordd osgoi ers rhai blynyddoedd i helpu i leddfu'r broblem. Fel y gwyddoch chi eisoes,...
Peter Fox: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer yn etholaeth Mynwy? OQ58365
Peter Fox: A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod dros Orllewin De Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn? Mae'n deg dweud bod y sector twristiaeth yn hanfodol i gynifer o'n cymunedau, sydd wedi'u taro mor galed gan y pandemig ac sy'n pryderu'n fawr am effaith bosibl y rheoliadau hyn, fel y mae Tom Giffard a Sam Rowlands wedi'i fynegi'n huawdl. Yn wir, fel y nodwyd yn y dystiolaeth a ddarparwyd gan nifer o gyrff...
Peter Fox: Mae’r mater y mae’r Aelod dros Ddwyrain De Cymru yn ei godi yn un pwysig, wrth gwrs. Felly hefyd sut y caiff gweithwyr a gwirfoddolwyr y trydydd sector eu talu am dreuliau ychwanegol sy'n codi wrth iddynt gyflawni eu rolau—er enghraifft, costau tanwydd. Yn ddiweddar, mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi cysylltu â mi, cymdeithas sy’n gweithio gyda nifer o elusennau i ymgyrchu...
Peter Fox: Na.
Peter Fox: Ydy. Cynnig.
Peter Fox: Cynnig—. Na—
Peter Fox: Mae gwelliant 10 yn mewnosod cyfnod craffu o 28 diwrnod gofynnol lleiaf, fel yr ydym ni newydd ei glywed, cyn y ceir cynnal pleidlais ar Orchymyn ymestyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 7(2). Ar hyn o bryd, fel y mae wedi ei ddrafftio, nid yw'r Bil yn pennu amser gofynnol lleiaf y gall y Senedd graffu ar unrhyw ymgais gan Weinidogion Cymru i ymestyn oes y Ddeddf. Felly, mae pryderon...
Peter Fox: Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i Llyr Gruffydd am ei gefnogaeth drwy gydol hyn ac i fy ngwelliannau yno? Gweinidog, rwy'n falch i chi ddweud y byddwch yn cefnogi gwelliannau 3 a 4 yn enw Llyr Gruffydd. Rwy'n siomedig na allwch chi dderbyn 8, gan fy mod i'n credu ei bod yn deg dweud bod llawer iawn o bryder gan bawb y cawsom dystiolaeth ganddyn nhw fod defnyddio...
Peter Fox: Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 8 yn gofyn am adolygiad o'r Ddeddf ddwy flynedd ar ôl iddi ddod i rym, yn ogystal â phedair blynedd ar ôl iddi ddod i rym. I fod yn gryno, ni fyddaf yn ailadrodd rhai o'r trafodaethau manwl yr ydym wedi eu cael gyda'r Gweinidog yn ystod Cyfnod 2. Fodd bynnag, yn ystod hynt y Bil, codwyd nifer o faterion ynghylch priodoldeb Gweinidogion Cymru yn defnyddio...
Peter Fox: Ychydig iawn sydd gen i i'w ddweud, Llywydd. Rwy'n siomedig na ellir ychwanegu hynny, ond rwyf wedi clywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud. Rwy'n hapus i gynnig hynny.
Peter Fox: Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod gwelliant 7, a gyflwynwyd yn fy enw i. Diben y gwelliant hwn yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd camau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o newidiadau i gyfraith trethiant a wneir gan reoliadau o dan adran 1 o'r Bil. O dan y pwerau yn y Bil, bydd Gweinidogion Cymru yn cael pwerau i wneud newidiadau sylweddol posibl i ddeddfwriaeth...
Peter Fox: Cynnig.
Peter Fox: Cynnig.