Carolyn Thomas: Gweinidog, rwy'n croesawu'r ffaith bod perygl llifogydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'n frawychus ac yn ddinistriol, ac rwy'n croesawu'r pecyn ariannu hwn hefyd ar ei gyfer. Ni all llawer o'n hen systemau draenio gymryd faint o law o fath monsŵn yr ydym ni'n ei brofi'n amlach, ac mae angen gwagio ceunentydd a systemau draenio ar ochr y ffordd yn amlach. Hefyd, mae angen mapio pwy sy'n...
Carolyn Thomas: Gweinidog, yn aml iawn gyda'r cyhoeddiadau hyn, nid ydyn nhw'n bethau diriaethol nes eich bod chi'n mynd i ymweld â chyfleuster, rwy'n credu, ac fe wnes i ymweld â Marleyfield House ym Mwcle y llynedd. Mae'r capasiti wedi dyblu ac fe gafodd ei gynllunio gydag ailalluogi mewn golwg, fel gall cleifion adael yr ysbyty, a chryfhau cyn symud ymlaen i'w cartrefi eu hunain. Dyna beth ardderchog....
Carolyn Thomas: Iawn. Ysgrifennaf i at y Gweinidog ynghylch y llall. [Chwerthin.]
Carolyn Thomas: Iawn. Felly, gwnes i annog fy mab i ddysgu pan oedd am ddim. Ni fyddem wedi cael y cyfle i fanteisio ar y gwasanaeth cerddoriaeth hwnnw fel arall, ac ni fyddai ef erioed wedi cael y cyfle i ddysgu oherwydd na allem ni ei fforddio. Felly, a fydd wir am ddim i bobl roi cynnig arni? A hefyd, dysgodd y trombôn oherwydd mai dyma'r unig offeryn a oedd ar ôl iddo roi cynnig arno, ond daliodd ati a...
Carolyn Thomas: Mae'n gân i godi fy ysbryd, y cyhoeddiad hwn. [Chwerthin.] Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Rhianon Passmore, sydd wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo hyn. Dysgais i gerddoriaeth drwy'r recorder yn yr ysgol, ac yna gwnes i roi nodau ar biano fy mam-gu fel y gallwn i ddysgu ar ei phiano hi hefyd. Ac roedd pobl yn dysgu drwy fandiau pres y pyllau glo ar un adeg onid oedden nhw? Dysgodd fy mab...
Carolyn Thomas: —sydd wedi effeithio nid yn unig ar wasanaethau gofal cymdeithasol, ond ar wasanaethau y gellir eu darparu drwy awdurdodau lleol, gwasanaethau ataliol, pob math o bethau a chymorth i bobl. Onid ydych yn cytuno â hynny, Sam Rowlands?
Carolyn Thomas: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Carolyn Thomas: Diolch. Rydym wedi sôn am—. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld toriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus, a effeithiodd ar yr arian a oedd ar gael i ofal cymdeithasol drwy'r cynghorau. Rydym wedi sôn am fethu symud pobl ymlaen—[Torri ar draws.] Na, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus dan 10 mlynedd o gyni, sydd wedi effeithio ar—
Carolyn Thomas: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae preswylydd sydd wedi bod yn aros i weld meddyg ymgynghorol orthopedig ers bron i ddwy flynedd wedi cysylltu â mi, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae eu harthritis wedi datblygu o fod yn gymedrol i fod yn ddifrifol. Mae'n ddealladwy fod y preswylydd yn bryderus y bydd amseroedd aros hwy am lawdriniaeth ddewisol yn golygu y bydd eu cyflwr yn parhau i waethygu....
Carolyn Thomas: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddelio â'r ôl-groniad o lawdriniaeth ddewisol yng Ngogledd Cymru? OQ58010
Carolyn Thomas: Rwy'n falch o ddweud bod Llafur wedi ennill mwy na'r holl bleidiau eraill gyda'i gilydd yn Lloegr, ond mae'r gwir lwyddiant i Lafur yma yng Nghymru, lle mae'r Prif Weinidog yn rhedeg Llywodraeth boblogaidd a blaengar, ac roedd bron i hanner yr holl enillion Llafur ar draws y DU gyfan yma yng Nghymru, sy'n wych. Hoffwn longyfarch pob cynghorydd newydd a gobeithio y byddan nhw'n mwynhau'r...
Carolyn Thomas: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo cyflogaeth yn y sector cyhoeddus?
Carolyn Thomas: Rwy'n credu bod gan y Ceidwadwyr Cymreig wyneb yn cyflwyno'r ddadl hon, sy'n rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru am stiwardiaeth wael ar economi Cymru. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi torri cyllid i wasanaethau cyhoeddus o dan bolisïau cyni. Gwasanaethau cyhoeddus yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru. Creodd ymgyrch bresennol Llywodraeth gyfredol y DU dros Brexit fynydd o fiwrocratiaeth a...
Carolyn Thomas: Diolch. Cafodd fy enw ei grybwyll yn gynharach. A wnewch chi ailadrodd yr hyn a ddywedoch, gan fy mod am egluro hynny, os gwelwch yn dda, ar gyfer y cofnod?
Carolyn Thomas: Nid dyna a ddywedoch chi. Fe ddywedoch chi fy mod yn erbyn polisi Llafur Cymru. Felly, diolch am gywiro hynny. Mae hynny'n iawn.
Carolyn Thomas: Mae'n ddrwg gennyf, ond mae gyda CLlLC hefyd. Diolch. Nid Llafur Cymru.
Carolyn Thomas: —ac mae angen i Lywodraeth Dorïaidd y DU gamu i'r adwy a darparu'r cyllid sydd ei angen ar fyrder i wasanaethau cyhoeddus, nid eu torri. Diolch.
Carolyn Thomas: Roeddwn yn cyfeirio at y clwb rygbi, felly rwy'n gwybod amdano, ond gwn am adeiladau'r Frenhines hefyd. Mae'r holl gyllid hwn yn bwysig iawn, boed yn arian Ewropeaidd, yn arian gan Lywodraeth Cymru, neu'n gyllid gan Lywodraeth y DU hefyd. Mae'n bwysig iawn sicrhau cyfleusterau i'n trigolion, felly gallaf gytuno â chi. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu hybiau dysgu. Ymwelais â Tŷ...
Carolyn Thomas: Gwnaf siŵr, Gareth.
Carolyn Thomas: A gaf fi ddatgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint, am y diwrnod olaf? Pan fyddwch yn cerdded o amgylch y gymuned rwy'n falch o fod yn rhan ohoni, gallwch weld beth sydd wedi'i gyflawni diolch i bolisïau a buddsoddiad Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio gyda chyngor sir y Fflint o dan arweiniad Llafur: ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, darpariaeth feithrin newydd estynedig, buddsoddiad...