Canlyniadau 141–160 o 5000 ar gyfer speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell

11. Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (12 Gor 2022)

Delyth Jewell: Rwy'n croesawu'r cynlluniau hyn. Bydd cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 20 mya ar y ffyrdd dŷn ni'n sôn amdanynt yn gwneud ein cymunedau'n saffach ac yn llefydd mwy glân ac iach i fyw iddynt. Bydd hyn hefyd yn achub bywydau. Mae pob bywyd sy'n cael ei achub yn rhywbeth pwysicach nag unrhyw beth dŷn ni'n gallu mesur neu werthuso. Mae osgoi unrhyw brofedigaeth yn beth mawr a pheth da. Nawr,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (12 Gor 2022)

Delyth Jewell: Nid rhywbeth y gallwn ni fod yn dystion iddo fel gwylwyr yn unig yw'r anhrefn yn San Steffan—bydd yn cael effaith ddofn ar y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu yng Nghymru. Byddwn i'n gofyn am ddadl yn syth ar ôl y toriad fel y gallwn ni benderfynu sut i ddiogelu datganoli a buddiannau pobl Cymru. Erbyn hynny, bydd Prif Weinidog newydd yn y DU, ac yr wyf i eisiau cael cynllun fel y...

9. Dadl Plaid Cymru: Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ( 6 Gor 2022)

Delyth Jewell: Weithiau, credwn fod tlodi'n gyflwr penodol: rydych naill ai'n dlawd neu beidio. Ond nid dyna sut y mae'n gweithio o gwbl. Bydd cymaint o bobl yn gweld eu bywydau'n croesi'r ffin i anhrefn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac nid codi bwganod yw hynny—mae'n ffaith bendant. Bydd miloedd yn fwy o bobl yn ei chael hi'n anodd byw—i aros yn fyw—oherwydd pethau bob dydd fel biliau bwyd a...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Hawliau Dynol 1998 ( 6 Gor 2022)

Delyth Jewell: Diolch am hwnna. Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi rhoi ymateb i'r ymgynghoriad yn nodi gwrthwynebiad, ac rwy'n cytuno gyda phopeth rydych chi wedi dweud yn yr ymgynghoriad. Mae'n anghrediniol fod y Llywodraeth fwyaf llwgr erioed yn credu bod ganddyn nhw'r hawl foesol i wahaniaethau rhwng y bobl sy'n haeddu cael hawliau dynol a'r rhai sydd ddim. Ond, wrth gwrs, mae'r bobl sydd wir yn credu...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Hawliau Dynol 1998 ( 6 Gor 2022)

Delyth Jewell: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar ddeddfwriaeth Cymru a'r setliad datganoli? OQ58291

7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Iechyd Menywod ( 5 Gor 2022)

Delyth Jewell: Rwyf i hefyd yn croesawu'r datganiad yn fawr. Hoffwn amlygu rhywbeth am effaith prinder therapi adfer hormonau ar fenywod sy'n mynd drwy'r menopos. Mae un etholwr wedi codi rhywbeth eithaf penodol gyda mi, sef yr effeithir yn arbennig o wael ar fenywod sy'n mynd drwy fenopos llawfeddygol. Felly, menopos llawfeddygol yw pan fydd llawdriniaeth, yn hytrach na'r broses heneiddio, yn achosi i'r...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Gor 2022)

Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ynghylch cynllun pensiwn y gweithwyr glo, yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar San Steffan i drin y glowyr hyn a'u gweddwon yn deg o'r diwedd ac ad-dalu'r arian sydd arnyn nhw. Ers 1994, mae Llywodraethau San Steffan wedi pocedi biliynau o bunnau o elw wedi'i wneud gan gynllun pensiwn y gweithwyr glo, oherwydd y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Prydau Ysgol am Ddim i Bawb (29 Meh 2022)

Delyth Jewell: Diolch. Mae'n chwyldroadol, mewn gwirionedd, onid yw, y bydd prydau ysgol am ddim i bawb yn dechrau cael eu cyflwyno o fis Medi ymlaen yng Nghymru. Rwyf mor falch fod hyn yn digwydd o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Hoffwn ofyn i chi, Weinidog, am y cymorth sy’n cael ei roi i awdurdodau lleol i sicrhau bod ysgolion yn gallu ymdopi â’r newid hwn. Rwyf mor ddiolchgar...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Prydau Ysgol am Ddim i Bawb (29 Meh 2022)

Delyth Jewell: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch ariannu prydau ysgol am ddim i bawb yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol? OQ58274

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (28 Meh 2022)

Delyth Jewell: Hoffwn ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ynghylch sut y bydd ymosodiad Llywodraeth y DU ar hawliau dynol yn effeithio ar bobl yng Nghymru, yn ogystal â pholisi a deddfwriaeth Cymru. Rwy'n croesawu'r datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol yr wythnos diwethaf. Dywedodd mai ychydig iawn o ymgysylltu a fu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth y DU i wanhau dylanwad...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith trafnidiaeth (22 Meh 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Nid mater o fynd o un lle i'r llall yn unig yw trafnidiaeth. Mae buddsoddi mewn trafnidiaeth yn dangos i ble rydym yn mynd fel cenedl, ac mae'n gwbl glir nad yw'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn addas i'r diben. Mae'n amlwg fod angen ailwampio unrhyw system lle mae angen i gymudwyr fynd ar lwybr cymhleth drwy wlad wahanol er mwyn cyrraedd cyrchfan i'r cyfeiriad arall yn...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru (22 Meh 2022)

Delyth Jewell: Hoffwn i ddiolch eto i Gadeirydd y pwyllgor, fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, ac i'r tîm clercio am eu gwaith ar y pwnc yma. Beth ddaeth yn glir inni fel pwyllgor—fel sydd wedi cael ei osod mas yn barod—ydy bod NRW yn wynebu nifer o rwystrau, nifer o gymhlethdodau, sy'n ei gwneud hi'n anodd i'r corff wneud ei waith. Mae NRW yn rheolydd pwysig, ond fel mae Llyr Gruffydd, y Cadeirydd, wedi...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Ar gyfer fy ail gwestiwn a’r cwestiwn olaf gennyf fi, hoffwn droi at ddatgoedwigo a chadwyni cyflenwi. Yn COP26, fe ddywedoch eich bod yn benderfynol o newid polisi caffael Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn hyrwyddo cadwyni cyflenwi sy'n deg, yn foesegol ac yn gynaliadwy. Rwy'n croesawu hynny. Nid yn unig y byddai hynny'n lleihau ôl troed byd-eang Cymru, byddai hefyd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Hoffwn dynnu sylw at gyfraniad band eang ffeibr i'n taith i sero net a'n dyfodol cynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod i 30 y cant o'r gweithlu weithio o gartref yn rheolaidd, neu'n agos at gartref, erbyn 2030. Yr hyn sy'n amlwg ydy bod angen rhwydwaith band eang sy'n darparu profiad gwaith symlach a dibynadwy o'n cartrefi a chanolfannau cydweithio cymunedol. Mae...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Meh 2022)

Delyth Jewell: Hoffwn ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ar y datganiad blaenoriaethau ac amcanion strategol i Ofwat. Rwy'n deall y bydd yn cael ei osod gerbron y Senedd yr wythnos nesaf, ond, yn y gorffennol, does dim dadl wedi bod ar y broses, ond yn ddiweddar, yn San Steffan, fe gafwyd dadl. Hoffwn sicrhau bod ASau yn cael yr un cyfle i drafod a herio'r broses, oherwydd mae'n helpu...

9. Dadl Fer: Adfywiad diwylliannol Cymreig ar ôl COVID? Y cynllun ar gyfer cerddoriaeth a mynediad i bawb (15 Meh 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Rhianon—mae hon yn ddadl mor hyfryd, onid yw? Rwy'n falch iawn o gyhoeddiad y Llywodraeth yn y maes. Rwy'n dod o deulu o gerddorion, ac fe elwodd fy chwaer a minnau o gael gwersi cerddoriaeth pan oeddem yn yr ysgol. Cefais wersi canu, gwersi piano a gwersi clarinet. Peidiwch â gofyn imi chwarae'r clarinet; dim ond gradd 1 a gefais yn y clarinet, ac ni fyddai'n swnio'n dda, ond nid...

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Delyth Jewell: Rŷn ni wedi clywed yn barod gan nifer o bobl am y budd byddai'n dod o ddatblygu'r sector hydrogen gwyrdd yng Nghymru a'r angen am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r newid hwn trwy gyflwyno strategaeth benodol. Gwnaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar yr effaith y gall hydrogen gwyrdd ei gael ar drafnidiaeth. Mae degawdau wedi pasio ers arwyddo protocol Kyoto, ac rŷn ni'n ffeindio...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru' (15 Meh 2022)

Delyth Jewell: Mae’n bleser siarad yn y ddadl hon, a hoffwn i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, gweddill y pwyllgor a’r tîm clercio am y gwaith pwysig maen nhw wedi'i wneud gyda’r adroddiad a’r ymgynghoriad byr. Mae gorlifoedd storm yn fater pwysig, ac, fel dŷn ni wedi'i glywed, hefyd mae hyn yn fater emosiynol. Codwyd pryderon gyda ni am ba mor aml mae'r gorlifoedd storm yn gollwng carthion, yr...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol (15 Meh 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Mae mamau newydd wedi cael ychydig o flynyddoedd anodd iawn. Mae'r pandemig wedi arwain at gynifer ohonynt yn mynd drwy lawer o gerrig milltir ar eu pen eu hunain, yn dioddef o unigrwydd ac arwahanrwydd mawr ar adeg a allai fod wedi bod yn hapus iawn fel arall. Os gwelwch yn dda, Weinidog, hoffwn wybod a oes asesiad wedi'i wneud o'r effeithiau y mae'r pandemig wedi'u cael ar...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwpan Pêl-droed y Byd (15 Meh 2022)

Delyth Jewell: Diolch yn fawr iawn. Bydd Cwpan y Byd yn gyfle unigryw i arddangos Cymru i biliynau o bobl—cyfle cyffrous i ddangos ein bod yn genedl fywiog, gynhwysol, ddwyieithog, i apelio at fuddsoddwyr a phobl gyffredin, sydd efallai'n awyddus i ymweld â Chymru, i brynu nwyddau Cymreig, neu i ddod yma i astudio. Weinidog, a ydych wedi ystyried cysylltu â Llywodraeth Gwlad yr Iâ, fel cenedl fach...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.