Peredur Owen Griffiths: Mae ein hargymhelliad olaf hefyd yn ymwneud â phwerau rheoleiddiol yn y Bil. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu RIA llawn a thrylwyr i gyd-fynd ag unrhyw is-ddeddfwriaeth berthnasol sy'n cael ei gwneud o dan y Bil hwn sy’n gwahardd cynhyrchion plastig untro pellach nad ydynt wedi'u cwmpasu yn barod o fewn y ddeddfwriaeth fel y’i drafftiwyd. Lywydd, rydym yn ddiolchgar...
Peredur Owen Griffiths: Gan droi at farn y pwyllgor, rydym ni’n cefnogi nodau'r Bil i gyflymu'r newid o blastig untro tuag at ddatblygu dewisiadau amgen mwy cynaliadwy, ac rydym ni’n cydnabod manteision amgylcheddol lleihau llygredd plastig. Rydym ni hefyd yn falch o glywed bod y Gweinidog yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod nodau'r ddeddfwriaeth hon yn cael eu cyfleu'n effeithiol, ac rydym...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd, a dwi'n falch i allu cyfrannu yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Buaswn i'n licio diolch i’r Gweinidog am ddod i’r pwyllgor i drafod goblygiadau ariannol y Bil. Dŷn ni wedi gwneud pump o argymhellion, a dŷn ni wedi clywed gan y Gweinidog a diolch iddi am ei sylwadau yn barod ar y rheini, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at gael mwy o fanylion ganddi mewn...
Peredur Owen Griffiths: Trefnydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae pryderon mawr wedi'u mynegi am ddiogelwch gwesty yng Nglynebwy sy'n gweithredu fel tŷ amlfeddiannaeth. Cafodd dyn ei ddarganfod yn farw yng Ngwesty'r Parc yn Waunlwyd, a chafodd un arall ei arestio ar amheuaeth o'i lofruddiaeth. Mae trigolion lleol a oedd yn rhan o gyfarfod cyhoeddus dilynol i drafod eu hofnau ynghylch diogelwch y gwesty yn dweud...
Peredur Owen Griffiths: Mae hwnnw'n sicr yn bwynt da iawn gan Mark, ac efallai y gall y Gweinidog roi sylw i'r pwynt hwnnw pan fydd yn ymateb. Fel y dywedais, roeddwn yn Fienna ac mae dros 60 y cant o'r dinasyddion hynny'n byw mewn tai cymdeithasol a fforddiadwy. Ond yn Fienna, roedd hi'n amlwg fod yr ymdrechion adeiladu'n ymwneud â mwy na thai yn unig; roeddent yn ymwneud ag adeiladu cymunedau—cymunedau go...
Peredur Owen Griffiths: Ydw, yn sicr.
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr am gael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma heddiw.
Peredur Owen Griffiths: Fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, nid ffenomen newydd yw ail gartrefi. Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwyso am gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r mater hwn ers degawdau. Mae problem ail gartrefi wedi mynd o ddrwg i waeth i lawer o'n cymunedau ledled Cymru, boed hynny yn ein cadarnleoedd Cymraeg gwledig neu'n wir yn ein canolfannau trefol. Mae'r argyfwng tai presennol sy'n wynebu cymunedau...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb, Weinidog.
Peredur Owen Griffiths: Mae pum mlynedd wedi bod ers y penderfyniad i ddod â Cymunedau yn Gyntaf, rhaglen wrthdlodi’r Llywodraeth, i ben. Yn dilyn y penderfyniad hwn, lluniodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau adroddiad, a oedd yn argymell, a dyfynnaf, 'bod strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi yn cael ei chyhoeddi, un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau niferus o waith i leihau tlodi i helpu i...
Peredur Owen Griffiths: 2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi? OQ58491
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr am y cynlluniau a'r adroddiadau yma. Dros y penwythnos, fe ges i'r pleser o ganu efo fy nghôr, CF1, gyda chôr arall ar gyfer y sioe deledu efo Rhys Meirion, Canu Gyda fy Arwr, i'w darlledu'n gynnar y flwyddyn nesaf. Dydy hi ddim yn anarferol i ni ymuno â chôr arall, ond yr hyn oedd yn anarferol ar yr achlysur yma oedd bod y corau nid yn unig yn canu ond hefyd yn defnyddio...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb.
Peredur Owen Griffiths: Mae cost gynyddol eitemau hanfodol yn rhywbeth yr ydym i gyd yn rhy gyfarwydd ag ef. Mae'r gyfradd chwyddiant bresennol, sef tua 9.9 y cant, yn achosi problemau ariannol enbyd i bobl yng Nghymru. Mewn amaethyddiaeth, mae cyfradd chwyddiant yn 23.5 y cant yn flynyddol, ond mewn rhai mannau rwy'n credu ei fod hyd yn oed yn uwch. Mae hyn yn achosi i nifer o ffermwyr gwestiynu eu dyfodol yn y...
Peredur Owen Griffiths: 4. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo diogelwch bwyd? OQ58445
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a wnewch chi roi syniad i ni efallai a oeddech chi'n cytuno gydag Andy Burnham ynglŷn â gadael y gyfradd o 20 y cant fel y mae hi, fel y byddai hynny'n cadw'r arian yno, er mwyn i ni fuddsoddi yn wirioneddol yn ein cymunedau ni?
Peredur Owen Griffiths: Mae Bearmach wedi bod yn gyflogwr lleol da ers blynyddoedd lawer yn ardal Bedwas a Thretomos. Ar wahân i'r 50 o swyddi y nodwyd y byddant yn cael eu heffeithio, fel y clywsom, bydd llawer o staff asiantaeth eraill a gyflogwyd ar y safle bellach wedi colli eu hincwm ar yr amser gwaethaf posibl. Bydd hyn hefyd yn ergyd i fusnesau lleol a oedd yn cydweithio â Bearmach, neu'n elwa o fod...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb.
Peredur Owen Griffiths: Y gaeaf hwn fydd un o'r rhai mwyaf heriol yn hanes datganoli, oherwydd bydd yr argyfwng costau byw yn cael effaith greulon a didrugaredd ar bawb bron, ond yn enwedig y rhai mwyaf bregus, heb ymyrraeth sylweddol gan y wladwriaeth. Mae addysg yn un o'r nifer o feysydd lle bydd yr argyfwng hwn i'w deimlo. Bydd rhai plant nad ydynt yn gymwys ar gyfer ein polisi prydau ysgol am ddim yn llwglyd y...
Peredur Owen Griffiths: 7. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i greu'r amgylchedd dysgu gorau ar gyfer plant? OQ58399