Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am neilltuo amser i'r cynnig hwn a diolch i'r Aelodau sydd eisoes wedi mynegi cefnogaeth. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Dogs Trust, Blue Cross a Cats Protection am eu cefnogaeth yn y cyfnod cyn y ddadl hon. Amcangyfrifir bod tua hanner yr aelwydydd yng Nghymru yn berchen ar...
Luke Fletcher: Diolch am yr ymateb yna, Llywydd.
Luke Fletcher: Yn ddiweddar, tynnwyd fy sylw at wahaniaeth yng nghyfraniadau pensiwn cyflogwyr rhwng staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd. Ar hyn o bryd, gall staff cymorth yr Aelodau ddisgwyl cyfraniad pensiwn cyflogwr o 10 y cant, tra bod y swm cyfatebol ar gyfer staff y Comisiwn yn 26.6 y cant. Roeddwn yn meddwl tybed a wnaiff y Comisiwn edrych eto ar hyn, neu annog y bwrdd taliadau yn wir...
Luke Fletcher: 2. Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael gyda'r Bwrdd Taliadau ynghylch newidiadau i gynllun pensiwn staff cymorth yr Aelodau? OQ58326
Luke Fletcher: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Dwi am gyfeirio at baragraff 4 o'ch datganiad heddiw sy'n sôn am godi uchelgeisiau. Dwi'n cymryd bod hyn yn cynnwys sgiliau iaith Cymraeg hefyd, sydd i'w groesawu, ond mae'n rhaid i fi godi fy mhryder ynglŷn â'r sefyllfa yng nghyngor sir Pen-y-bont. Unwaith eto dwi'n ffeindio fy hun yn codi yn y Siambr hon i godi pryderon ynglŷn â sefyllfa addysg...
Luke Fletcher: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y posibilrwydd o ehangu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf?
Luke Fletcher: I adeiladu ar gwestiwn Jane, ac mae'n gwestiwn y mae'r Gweinidog yn ei ddisgwyl bob tro y mae'n gweld cwestiwn am filgwn rwy'n siŵr, neu os oes unrhyw gyfle imi gysylltu milgwn â chwestiwn atodol, roeddwn yn meddwl tybed a yw'r Gweinidog bellach mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnwys rasio milgwn yn rhan o'r cynllun trwyddedu yn y dyfodol fel y'i nodir yn y cynllun lles...
Luke Fletcher: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.
Luke Fletcher: Mae cydweithredu'n allweddol ar fater masnach, ac mae barn Sam Kurtz ar hyn i'w groesawu. Mae'r ddau ohonom ni ar Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ac mae'r dystiolaeth, yn fy marn i o leiaf, wedi bod yn glir bod Llywodraeth y DU, drwy gydol y broses ar ôl Brexit, wedi methu ag ymgynghori ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn gyson ac yn ystyrlon ar faterion masnach. Rhaid i...
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r cynllun treialu hwn i'w groesawu yn fawr, yn enwedig i'r rhai ohonom ni yn y Siambr sydd wedi ymgyrchu neu sy'n parhau i ymgyrchu dros incwm sylfaenol cyffredinol. Mae'n wir, nid incwm sylfaenol cyffredinol mohono, ond mae'n incwm sylfaenol er hynny, a bydd yn rhoi data a chyfeiriad gwerthfawr i ni ar ein taith ni tuag at incwm cyffredinol. Rydym ni wedi siarad...
Luke Fletcher: Diolch, Lywydd. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd eleni, canfu Sefydliad Bevan mai gan Gymru y mae rhai o'r darpariaethau gwannaf ar gyfer hawliau perchnogaeth a rheolaeth gymunedol yn y DU. Canfu adroddiad arall fod cymunedau'n wynebu proses sydd bellach yn anodd ac yn ddigalon, a'i bod yn debygol iawn fod y sefyllfa yng Nghymru wedi arwain at lawer o gymunedau'n colli asedau'n barhaol. Gall...
Luke Fletcher: O gofio bod dros dri chwarter o holl dir Cymru yn dir fferm, mae’n bwysig ein bod yn defnyddio’r cynnyrch o’r tir hwn ar ein taith i gyflawni sero net. Nid oes unrhyw gynnyrch mwy naturiol na gwlân dafad. Yn anffodus, mae pris cnu gwlân oddeutu 20c—pris sy’n llawer llai na'r £1.40 y mae’n ei gostio i'w gneifio. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi addo defnyddio mwy o wlân mewn...
Luke Fletcher: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Rhun am ei ddadleuon cyson o blaid hydrogen. Mae wedi dadlau o'i blaid ers cryn amser ym Mhlaid Cymru ac yn y lle hwn. Cofiaf y ddadl honno bron i ddwy neu dair blynedd yn ôl; dadl werth chweil. I Aelodau yn y Siambr, mae Rhun wedi cynhyrfu cymaint am hydrogen ag y mae am Gymru'n cyrraedd cwpan y byd, felly rwy'n gobeithio bod hynny'n dangos pa mor frwd y mae'n...
Luke Fletcher: Credaf ei bod yn bwysig inni gofio ar draws y Siambr fod undebau llafur bob amser wedi chwarae rhan bwysig wrth newid amodau’r gweithle ac arferion o fewn y gweithle. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o newid i wythnos waith pedwar diwrnod hefyd. Mae cwmnïau yn y DU wedi dechrau treial mwyaf y byd ar wythnos bedwar diwrnod heb golli unrhyw...
Luke Fletcher: Diolch, Lywydd. Nid oes amheuaeth fod bywyd gweithwyr a'u teuluoedd yn mynd yn anoddach. Mae chwyddiant ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd, mae prisiau ynni'n codi 23 gwaith yn gyflymach na chyflogau, ac mae enillion wythnosol Cymru yn parhau i fod yr isaf o gymharu â gwledydd eraill y DU. Ni allai pwysigrwydd undebau llafur fod yn fwy amlwg yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Fodd bynnag,...
Luke Fletcher: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o gludiant i ddysgwyr?
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Pam ein bod wedi galw am y ddadl hon heddiw? Gallwn ddechrau sôn yn syth bin am fanylion gwahanol gronfeydd ac atgyfodi hen ddadleuon ynghylch Brexit, ond hoffwn ddechrau mewn termau mwy syml: rydym yn wynebu trychineb costau byw. Mae’r rhan fwyaf eisoes wedi dechrau teimlo’i effeithiau ar ôl y cynnydd...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac yn gyntaf hoffwn ddiolch i Helen am gyflwyno'r ddeiseb hon. Mae'r hyn y mae'n galw amdano'n hollol gywir—caiff syndrom Tourette ei anwybyddu gan nifer ac mae'r rhan fwyaf yn ei ystyried yn gyflwr sy'n golygu eich bod yn rhegi'n afreolus, ac rwyf fi fel llawer o bobl eraill wedi bod yn euog o feddwl hynny yn y gorffennol, ond mae llawer mwy iddo. Mae'n gyflwr...
Luke Fletcher: Mae nifer o faterion lles cŵn yn peri pryder yng Nghymru, megis bridio anghyfreithlon a'r problemau y mae llochesau'n eu cael gyda chapasiti. A bod yn deg, gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r materion hyn a gwn fod ganddi ddiddordeb brwd yn lles cŵn yma yng Nghymru. Diolch iddi am hynny. Ddydd Llun, cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau ei sesiwn casglu tystiolaeth gyntaf ar rasio milgwn, pan...
Luke Fletcher: Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor a diolch iddynt am eu holl waith, ac mae'n waith pwysig iawn, wrth inni symud ymlaen, oherwydd yn sgil y ffaith bod daearyddiaeth Cymru yn arfordirol gan fwyaf, mae'r sector morol yn cyfrannu'n helaeth at economi Cymru. Mae polisi morol yn cael effaith uniongyrchol ar fywoliaeth pobl yn ogystal ag ar fywyd gwyllt ac ecosystemau—ac mae llawer o'r...