Canlyniadau 1581–1600 o 2000 ar gyfer speaker:Baroness Morgan of Ely

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, nid wyf yn meddwl ei fod yn briodol i fi ymateb i beth sydd yn fy maniffesto personol i fel siaradwraig dros Lywodraeth Cymru yn fan hyn. Beth y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw, o ran Bil y Gymraeg, wrth gwrs rydym ni'n gobeithio y bydd y Bil yna'n dod ger ein bron ni. Ar hyn o bryd, rydych chi jest mor ymwybodol ag yr ydw i o'r mès sydd yn digwydd o ran Brexit, a dyna'r unig reswm...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, beth roeddem ni'n gobeithio, wrth gwrs, oedd y byddai'r comisiynydd yn gwneud mwy o'r gwaith hyrwyddo yma. A gan fod hynny wedi bod yn anodd, efallai, i'r comisiynydd ei wneud, mae peth o'r gwaith yna wedi dod i mewn ac yn cael ei wneud gan swyddogion y tu fewn i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, yn ddelfrydol, byddwn i'n licio cael pobl hyd-braich, pobl sydd â'r sgiliau y tu fas i'r...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, yr ateb i hynny yw 'llawer mwy nag y maent yn ei wneud yn Lloegr'. Y peth diddorol yw bod yr ardoll brentisiaethau yn cael ei thalu gan gwmnïau mawr, a'u bod, i bob pwrpas, yn cael talebau i'w gwario a dim ond y cwmnïau mawr sydd â mynediad at y system brentisiaethau. Bu'n gymaint o lanastr fel bod y system ei hun yn chwalu yn Lloegr. Nid ydym wedi dilyn y llwybr hwnnw oherwydd credwn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae hyn eto yn rhywbeth arall a drafodais gyda'r cynrychiolydd o'r Almaen. Fe fuom yn trafod sut y llwyddent i ddarbwyllo cwmnïau yn yr Almaen ei bod o fudd iddynt fuddsoddi yn eu gweithwyr eu hunain. Dros y blynyddoedd, credaf ein bod wedi cael cryn dipyn o gyllid Ewropeaidd, ac mae llawer o gyflogwyr yng Nghymru wedi dod i ddibynnu ar arian Ewropeaidd i wella sgiliau eu gweithwyr. Credaf...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Cyfarfûm yn ddiweddar â diwydiannau o'r Almaen i drafod y mater hwn. Fe wnaethant gyflwyno eu model o’r hyn sy’n fodel llwyddiannus yn yr Almaen. Gwn fod fy rhagflaenydd yn y rôl hon wedi bod yn yr Almaen mewn gwirionedd ac wedi edrych ar y model a cheisio deall a oedd unrhyw beth y gallem ei ddysgu o'r system. Rwy'n credu bod natur y systemau addysg yn wahanol...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (20 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n falch hefyd ein bod wedi llwyddo i ddod o hyd i arian ar gyfer y staff cymorth. Mae rhai o'r bobl hyn ar gyflog isel iawn, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni wedi llwyddo i ddod o hyd i'r arian hwnnw ac yn eu cefnogi nhw. Fel yr ydych chi'n dweud, maen nhw'n staff hanfodol o ran gweithrediad y colegau, felly rwy'n falch bod hynny wedi digwydd. O ran uwchsgilio, rwy'n...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (20 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Y ddarpariaeth ran-amser. Ie, darpariaeth ran-amser—yn sicr, rydym yn pryderu ynglŷn â hyn, a dyna pam y bu'n rhaid inni flaenoriaethu. Rydym wedi gwneud dadansoddiad i edrych ar sut effaith fyddai hyn yn ei chael. Wrth gwrs rydym wedi bod yn siarad â'r colegau am hyn. Bu'n rhaid n ni flaenoriaethu. Rydym yn wir yn gwneud yn siŵr fod yna gysondeb. Pan fyddwn wedi penderfynu ymhle i...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (20 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Iawn, dysgu gydol oes yn gyntaf—credaf ei fod yn hanfodol. Rwy'n credu bod swyddogaeth addysg bellach ynghlwm â dysgu gydol oes yn bwysig tu hwnt. Un o'r materion allweddol ger ein bron yn ein cymdeithas heddiw o ran problemau yw tlodi mewn gwaith, felly'r cwestiwn yw: sut allwn ni dynnu pobl o'r sefyllfa honno? Yr ateb, yn fy marn i, yw eu huwchsgilio nhw tra eu bod yn y gwaith o hyd. Er...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (20 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, doedd neb yn dymuno gweld y math o doriadau a gafodd eu gorfodi ar y sector addysg bellach, ond penderfyniad bwriadol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU oedd hwnnw yn unol â chyni. Dyna yw canlyniad y toriadau. Mae'n rhaid inni wneud penderfyniadau, mae'n rhaid inni flaenoriaethu, a hwn oedd y penderfyniad a orfodwyd arnom ni. Nid oeddem yn dymuno ei gymryd, ond roedd yn rhaid inni ei...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (20 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Ochr yn ochr â'r newidiadau i'r ddarpariaeth lawn amser, rwyf hefyd yn cynnig newid y ffordd y caiff y ddarpariaeth ran-amser ei hariannu, ei chynllunio a'i chyflwyno. Roedd cyflwyniad fframweithiau cyllido yn 2014-15, rwy'n ofni, yn cyd-daro â gostyngiad o 37 y cant yn y cyllid a oedd ar gael ar gyfer addysg ran amser, gyda 50 y cant eto'r flwyddyn ganlynol. Felly, ers 2015-16, mae maint y...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (20 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'r sector addysg bellach yn sector ymatebol ac rwy'n disgwyl yn llwyr iddo gofleidio'r fethodoleg well hon, i weithio ar y cyd ac yn rhanbarthol, a sicrhau y bydd pob un o'n dysgwyr addysg bellach yn cael y dechrau gorau posibl ym myd addysg uwch neu gyflogaeth. Mae angen inni ymdrechu'n barhaus i wella canlyniadau i ddysgwyr. Rwy'n awyddus i weld cynnydd yn y duedd o gwblhad llwyddiannus...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (20 Tach 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.  Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio creu economi sy'n gweithio i bawb. Nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen, mae angen inni sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i godi safonau byw a hyrwyddo twf a chynhyrchiant, a hefyd i fynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol economaidd a chymdeithasol sydd wedi bod yn bodoli ers gymaint o amser. Mae'r sector...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg (23 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Mae'r drafodaeth am fynediad agored neu gael perthynas â gwneuthurwr meddalwedd arbennig yn rhywbeth sydd yn fyw iawn, ac yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono. Nid ydym wedi dod i benderfyniad ar hynny, ond rydym yn glir iawn bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried yn ofalus iawn, iawn. Rwy'n credu, fel egwyddor, os mai'r Llywodraeth sydd yn rhoi nawdd iddo fod angen...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg (23 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch yn fawr iawn i chi, ac rwy'n falch eich bod yn sylweddoli bod y dyheadau yn y ddogfen yn dda. Rwyf i o'r farn, mewn gwirionedd, bod llawer o fanylder yn y cynllun. Ceir cyfeiriad clir ynddo. Rydym wedi cael arbenigwyr i'n cynghori ar yr hyn y dylem ni ei wneud. Felly, credaf mewn gwirionedd mai'r hyn sy'n glir yma yw nad cynllun yn unig yw hwn, ond cynllun gweithredu—rydym yn...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg (23 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch yn fawr, ac mae'n dda eich bod chi hefyd yn cydnabod y gwaith arbennig mae Canolfan Bedwyr yn ei wneud lan ym Mangor, ac mae e wir yn waith arloesol, rydw i'n meddwl, sydd yn digwydd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n rhannu'r gwaith yna a bod pobl eraill yn cael y cyfle i ddefnyddio'r dechnoleg yna. Rydw i'n falch eich bod chi hefyd wedi tanlinellu mai beth sydd gyda ni yn fan hyn yw...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg (23 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rydw i yn meddwl—jest ar y pwynt cyntaf, wrth gwrs, nad ŷm ni’n mynd i ddefnyddio peiriannau i drio dysgu pobl sut i siarad Cymraeg, ond rydw i yn meddwl ei bod hi’n bwysig hefyd ein bod ni yn arloesi gydag addysg trwy gyfrwng technoleg, ac rydw i yn meddwl bod yna bosibilrwydd i gynyddu darpariaeth addysgiadol trwy gyfrwng y Gymraeg. Rŷm ni’n gwneud rhywbeth ar hyn...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg (23 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Llywydd. Nawr, ym mis Gorffennaf 2017, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer Cymraeg, Cymraeg 2050. Nawr, prif darged Cymraeg 2050, mae'n bwysig ei nodi, oedd i ni gael gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ond y pwynt arall roedd yn rhaid inni ei danlinellu yn y broses yna oedd ein bod ni eisiau gweld pobl yn defnyddio'r Gymraeg hefyd, a hefyd sicrhau bod y...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Tyfu Economi Cymru (17 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Felly, mae gennym raglen benodol a chlir iawn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei harwain mewn perthynas â sgiliau digidol mewn ysgolion. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn, o ran sgiliau yn y sector, fod angen inni symud yn y maes hwn. Dyna pam rydym wedi comisiynu'r Athro Brown i edrych ar awtomatiaeth, yr effaith y bydd awtomatiaeth a digideiddio yn ei chael ar ein heconomi a'r ffordd orau i ni...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Tyfu Economi Cymru (17 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch i chi. Rydym ni i gyd yn poeni am y diffyg menywod a merched sy'n mynd i mewn i STEM. Mae eisiau i ni gynyddu hynny, a dyna pam mae gyda ni raglen benodol i sicrhau ein bod ni yn ceisio cael mwy o ferched i astudio'r pynciau yma. Mae lot fawr o arian Ewropeaidd wedi cael ei ariannu'n ddiweddar i wthio'r syniad yma ymlaen, i hybu merched i fynd i mewn i'r sector yma. Rydw i yn meddwl...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Tyfu Economi Cymru (17 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Rydych yn llygad eich lle: Llywodraeth Cymru a gomisiynodd yr adroddiad hwnnw gan Estyn, wrth gwrs, gan ein bod yn pryderu nad oeddem, efallai, mewn perthynas â'r fframwaith prentisiaethau uwch, yn sicrhau'r mathau o ganlyniadau roeddem wedi gobeithio amdanynt. Felly, dyna pam y comisiynwyd yr adroddiad gennym. Yn amlwg, rydym o ddifrif ynglŷn â'r argymhellion yn yr adroddiad...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.