Canlyniadau 1581–1600 o 2000 ar gyfer speaker:Darren Millar

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Bellach ( 8 Chw 2017)

Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Bellach ( 8 Chw 2017)

Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn cytuno mai’r hyn yr ydym ei angen hefyd mewn gwirionedd ar gyfer ein pobl ifanc yw cyngor gyrfaoedd gweddus? Rwy’n meddwl bod angen ailwampio’r gwasanaeth gyrfaoedd yng Nghymru i wneud yn siŵr fod cyngor gyrfaoedd cywir yn cael ei roi, nid yn unig gan unigolion sy’n gweithio mewn ysgolion neu unigolion sy’n...

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Bellach ( 8 Chw 2017)

Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am gynnig y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol. Rwy’n falch iawn o arwain y ddadl hon ar ddyfodol y sector addysg bellach yng Nghymru, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Gwyddom fod addysg yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi genedlaethol, yn sail i sicrhau llwyddiant, iechyd a boddhad personol, ac yn cyfrannu at ganlyniadau economaidd a...

6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei Ymchwiliad i Waith Ieuenctid ( 8 Chw 2017)

Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Nid oeddech yn rhan o’r ymchwiliad, ond un peth a oedd yn hollol amlwg oedd nad oedd unrhyw gydberthynas uniongyrchol, mewn gwirionedd, rhwng ansawdd y gwasanaethau ieuenctid ar lawr gwlad a’r swm sy’n cael ei wario arnynt gan awdurdodau lleol, fel y nodais yn fy sylwadau yn gynharach. Mae Conwy, er enghraifft, yn awdurdod lleol...

6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei Ymchwiliad i Waith Ieuenctid ( 8 Chw 2017)

Darren Millar: Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwyf am ganmol y Cadeirydd a chlercod y pwyllgor am yr holl waith a wnaethant yn helpu i gynhyrchu’r hyn y credaf ei fod yn adroddiad cadarn iawn, gyda rhestr glir iawn o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth. Roeddwn yn falch iawn o weld ymateb y Gweinidog i’r adroddiad. Credaf ei bod yn deg dweud i ni gael peth gwrthdaro gyda’r Gweinidog yn...

4. 3. Datganiadau 90 Eiliad ( 8 Chw 2017)

Darren Millar: Diolch, Lywydd. Y dydd Sadwrn hwn, 11 Chwefror, fydd tri-chanmlwyddiant genedigaeth y mwyaf o’r emynwyr Cymraeg, William Williams Pantycelyn. Ac mae’n addas fod ei ben-blwydd ar yr un diwrnod ag y bydd Cymru yn chwarae Lloegr yng nghrochan Stadiwm y Mileniwm, oherwydd, yn ystod y gêm chwe gwlad honno, nid oes amheuaeth o gwbl y bydd y cefnogwyr Cymreig yn canu ei waith enwocaf, mae’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Ysgolion Cyfrwng Cymraeg
( 8 Chw 2017)

Darren Millar: Weinidog, roeddwn yn fodlon gyda’ch tôn gadarn mewn perthynas â’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sy’n cael eu datblygu gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Rydych chi a minnau’n rhannu’r uchelgais i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru, ond ni fyddwn byth yn cyflawni’r uchelgais hwnnw oni bai bod digon o athrawon Cymraeg eu hiaith yn ein hystafelloedd...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Chw 2017)

Darren Millar: Mae’n ymwneud â mwy na’r rhai sydd mewn unedau cyfeirio disgyblion y tu allan i ysgolion prif ffrwd; mae gennym broblemau yn ein hysgolion prif ffrwd yn ogystal. Unwaith eto, roedd canfyddiadau’r prif arolygydd yn cyd-fynd yn agos iawn â chanfyddiadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, a oedd yn dangos nad yw plant sy’n fwy abl a thalentog—y plant mwy dawnus hynny—yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Chw 2017)

Darren Millar: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n hapus gyda rhai o’r datblygiadau hynny, ond wrth gwrs, canfu’r prif arolygydd broblemau gyda mwy nag ansawdd yr addysgu a’i amrywioldeb. Canfu broblemau hefyd yn ein hunedau cyfeirio disgyblion. Dywedodd fod y ddarpariaeth mewn unedau cyfeirio disgyblion yn parhau i fod yn arbennig o wael, ac wrth gwrs, rydych chi a minnau’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Chw 2017)

Darren Millar: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd adroddiad blynyddol Estyn, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn nodi bod ansawdd ac amrywioldeb ansawdd addysgu yn broblem fawr yma yng Nghymru. Yn wir, dywedodd y prif arolygydd: ‘Y ffactor pwysicaf o ran pa mor dda y mae dysgwyr yn datblygu a dysgu yw ansawdd yr addysgu. Fodd bynnag, addysgu yw un o’r agweddau gwannaf ar y ddarpariaeth yn y rhan...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
( 7 Chw 2017)

Darren Millar: Wel, mae angen i Ysgrifennydd y Cabinet wneud mwy na gwneud ei ddisgwyliadau’n eglur. Mae hwn yn fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig, ac eto, yn Ysbyty Glan Clwyd, ar hyn o bryd, 112 wythnos yw’r amser aros arferol am lawdriniaeth orthopedig. Mae hynny'n fwy na phedair gwaith targed y Llywodraeth o 26 wythnos. Pa gamau penodol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd, o ystyried bod y...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
( 7 Chw 2017)

Darren Millar: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0432(FM)

11. 9. Dadl Fer: Her Ailgylchu i Fusnesau a Thrigolion yng Nghymru Wledig (25 Ion 2017)

Darren Millar: Diolch i chi, Russell, ac a gaf fi eich llongyfarch ar ddod â’r mater hwn i sylw’r Cynulliad Cenedlaethol? Nid wyf yn mynd i siarad am gasgliadau bin bob pedair wythnos heddiw ac effaith hynny ar ymddygiad ac ymgysylltiad pobl gydag ailgylchu, sy’n negyddol iawn, gallaf ddweud wrthych. Ond rwyf eisiau siarad am fynediad at safleoedd amwynder dinesig, oherwydd mae llawer iawn o wastraff...

6. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymchwiliadau a Gwaith Ymgysylltu ar gyfer y Dyfodol (25 Ion 2017)

Darren Millar: Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei datganiad. A gaf fi gofnodi pa mor effeithiol y bu yn ei chadeiryddiaeth hyd yn hyn, fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw—yn dod â’r pwyllgor at ei gilydd, gan ein galluogi i weithio mewn ffordd lle y ceir consensws o amgylch y bwrdd i ni allu bod mor effeithiol ag y gallwn? Hoffwn dalu teyrnged i chi, Lynne, am eich gwaith, eich ymroddiad a’ch ymrwymiad...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Rhaglen Wella ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
(25 Ion 2017)

Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol o’r pryderon sydd wedi’u mynegi ynghylch cyflymder y cynnydd ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, yn enwedig o ran y cynnydd i ymdrin â rhai o’r heriau iechyd meddwl yn y rhanbarth. Yn dilyn sgandal Tawel Fan, yn gwbl briodol, gosododd y Llywodraeth y bwrdd iechyd o dan weithdrefn mesurau arbennig, ac un o’r rhesymau y gwnaeth...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Seilwaith Critigol (Gogledd Cymru)
(25 Ion 2017)

Darren Millar: Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod wedi bod yn bryderus iawn ers peth amser ynglŷn â pha mor agored yw’r seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd i lifogydd, yn enwedig o gwmpas ardal Hen Golwyn. Wrth gwrs, cafodd Llywodraeth Cymru adnoddau ychwanegol, adnoddau cyfalaf, o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU y llynedd—£400 miliwn ychwanegol. Pa waith yr ydych yn ei wneud...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Seilwaith Critigol (Gogledd Cymru)
(25 Ion 2017)

Darren Millar: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith critigol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0105(EI)

5. 5. Datganiad: Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau (24 Ion 2017)

Darren Millar: Dyma fy mhwynt olaf un. Mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn Aelod o'r Cynulliad ers 10 mlynedd bellach, ac nid oes neb erioed, ar garreg y drws, ac nid oes yr un athro, ychwaith, erioed wedi siarad â mi i ddweud mai maint dosbarth yw'r mater pwysig y mae angen inni fynd i’r afael ag ef yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy’n cytuno â Julie Morgan...

5. 5. Datganiad: Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau (24 Ion 2017)

Darren Millar: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Gwn fod ganddi farn gadarn ar y mater hwn, ac mae'n debyg mai dyna’r arf y gwnaeth hi ei ddefnyddio i gornelu Carwyn i fod yn rhan o’i Gabinet—yn sicr roedd hyn wedi helpu i drefnu eu bargen. Ond pan ddaw at lunio polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth, ni allaf ddeall mewn gwirionedd pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ar...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Ion 2017)

Darren Millar: Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf i alw am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Mae’r cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn cysylltiad â’r defnydd o ymgynghorwyr gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, dros y penwythnos, bod pryderon wedi’u mynegi yn y cyfryngau ynglŷn â gwariant o dros £1.5 miliwn gan fwrdd...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.