Canlyniadau 1601–1620 o 2000 ar gyfer speaker:Baroness Morgan of Ely

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Tyfu Economi Cymru (17 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Mohammad. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu medrus, gan gynnwys darparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae ein rhaglen sgiliau hyblyg yn cefnogi busnesau ledled Cymru i uwchsgilio eu gweithlu, ac rydym hefyd yn gweithio gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod darpariaeth sgiliau ym mhob rhanbarth yn ymateb i...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Yn amlwg, roedd hynny wedi ei ddweud mewn fforwm gwahanol, ac nid yma yw'r lle, rydw i'n meddwl, i drafod blaenoriaethau'r dyfodol i'r Blaid Lafur. Ond, a gaf i fod yn glir mai llymder sydd wedi achosi'r toriadau sydd wedi digwydd hyd yn hyn, ond bod y Llywodraeth bresennol yn gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod ni'n cario ymlaen i fuddsoddi mewn basic skills, mewn dysgu Saesneg...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Tan ein bod ni'n glir beth y mae'r trafodaethau yn mynd i'w benderfynu, mae'n anodd iawn inni benderfynu beth ddylai fod yn y gyllideb, ond a gaf i fod yn glir gyda chi ein bod ni'n ymwybodol o'r sefyllfa? Mae Ysgrifennydd y gyllideb yn ymwybodol y bydd hwn, efallai, yn fater y bydd yn rhaid edrych arno. Felly, rydw i'n meddwl bod rhaid tanlinellu'r ffaith, wrth gwrs, ein bod ni'n trio delio...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Hyd 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf i ddiolch yn fawr, Llyr, am y cwestiwn? Byddwch chi'n ymwybodol bod cyflogau athrawon yn cael eu penderfynu ar hyn o bryd gan y Llywodraeth yn San Steffan, a byddwn yn derbyn consequential er mwyn talu ar gyfer hynny. Nid yw hynny'n digwydd pan fo'n dod i addysg bellach. O ran beth sy'n digwydd ar hyn o bryd, rŷm ni'n monitro'r sefyllfa, wrth gwrs, gyda beth sy'n digwydd yn y negodi...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Cyfrwng Cymraeg (19 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, er eglurder: mae'r arian hwn wedi'i glustnodi'n glir iawn. Mae wedi'i neilltuo. Mae'n arian penodol ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg, felly nid oes unrhyw bosibilrwydd y bydd yn mynd i mewn i unrhyw gronfeydd cyffredinol. Mae wedi'i dargedu yn glir iawn. Mae'r llwybr dysgu hwnnw—rydym wedi dweud yn glir ein bod yn awyddus i weld ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd os nad ydynt yn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Cyfrwng Cymraeg (19 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Mike. Credaf ei bod yn addas iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwn y prynhawn yma pan ydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar yr agenda hon. O ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw, byddwn yn gweld bron i 3,000 o leoedd newydd yn ysgolion Cymru, a dyna sut y credaf ein bod yn mynd i ddechrau cyrraedd y targed a osodwyd gennym, sy'n darged uchelgeisiol. Mae 16 o awdurdodau lleol...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Cyfrwng Cymraeg (19 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Roeddwn yn falch fod £46 miliwn yn ychwanegol o arian cyfalaf wedi cael ei gyhoeddi y bore yma i gefnogi amrywiaeth o brosiectau i hwyluso'r gwaith o ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Roeddem yn fodlon iawn ag ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd gennym, sy'n golygu bod awdurdodau lleol wedi deall hyn bellach ac wedi deall mai dyma'r cyfeiriad teithio yr hoffem fynd iddo.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, nid ydym ni wedi cael y papur yma yn swyddogol o’n blaenau ni eto achos nid yw’n rhywbeth sydd wedi cael ei derfynu gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn barod. Felly, mae’n rhaid inni aros tan bod yr adroddiad yna’n dod allan, wedyn fe wnawn ni benderfyniad gwleidyddol ynglŷn ag a ydym ni eisiau parhau gyda’r system yna neu a ydym ni eisiau mynd ag ef ymhellach.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch yn fawr. Fel y dywedais i, rwyf wedi cwrdd â'r Ysgrifennydd Parhaol i drafod yr union fater yma ddoe. Mae rhan o beth oedd yn cael ei argymell yn yr adroddiad, rwy'n meddwl, yn ymwneud â diffiniadau o yn union beth sy'n cael ei olygu wrth ba lefel o Gymreictod, ac rwy'n meddwl bod hynny yn issue rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni ei drafod ymhellach. Mae yna ffyrdd o wneud hynny ac...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, wrth gwrs, rŷm ni yn annog aelodau sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru i ddysgu Cymraeg ac mae llawer o gyfleoedd iddyn nhw, ond mae yna adroddiad mewnol sydd yn cael ei ddatblygu yn edrych ar sut rŷm ni fel Llywodraeth yn mynd i ymateb i ofynion 2050. Fe wnes i gyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol ddoe i drafod hynny. 

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Ydw, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at dderbyn canlyniadau adroddiad Brown. Rwyf wedi ysgrifennu at y partneriaethau sgiliau rhanbarthol i ofyn iddyn nhw'n benodol: a wnewch chi roi ystyriaeth i'r digidol yn eich adroddiadau nesaf? Ac rwy'n disgwyl iddyn nhw adrodd yn ôl yn eu hymrwymiad blynyddol nesaf, felly dylai hynny gael ei gyhoeddi yn fuan iawn, iawn ac rwy'n disgwyl gweld newid...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, fe welwch chi fod yna gyfeiriad at undebau llafur ar dudalen 19, ac rwyf i o'r farn—

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Ie. Felly, credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall y swyddogaeth bwysig iawn y gallai'r undebau llafur ei chael yn y gweithle. Drwy roi cyllid i bethau fel rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, yr hyn a welsom yw bod llawer o bobl nad oes ganddyn nhw'r hyder efallai i chwilio am gymorth gan eu cyflogwyr yn barod i wneud hynny drwy gyfrwng undeb llafur, ac mae wedi rhoi cyfle...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n credu, fwy na thebyg, o'r holl faterion yn y cynllun cyflogadwyedd hwn, mai hwn yw un o'r materion, yn fy marn i, y mae gwir angen inni ganolbwyntio arno fel Llywodraeth. Mae Project SEARCH yn brosiect rhagorol; es i ymweld ag ef yr wythnos diwethaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn yn brosiect gyda'r bwrdd iechyd lleol; maen nhw wedi gweithio gyda'r coleg lleol, gyda phobl sydd ag...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Yn gyntaf oll, rydym  wedi cael trafodaeth eithaf eang â cholegau addysg bellach o ran y fformiwla ariannu. Maen nhw wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw erbyn hyn. Rwy'n disgwyl clywed canlyniadau hynny yn yr ychydig wythnosau nesaf, oherwydd gwyddom y bydd yn cymryd—mae angen inni roi blwyddyn yn ôl pob tebyg i golegau addysg bellach i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau mewn...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Nid wyf fi'n meddwl bod lot o ots os ydych chi'n optimistaidd neu'n besimistaidd; mae'n mynd i ddigwydd, felly mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer automation a sut mae hwn yn mynd i gael effaith arnom ni fel unigolion ac fel cymdeithas. Nid oes pwynt i ni esgus ein bod ni'n gallu gwneud unrhyw beth amdano. Mae wedi dechrau ac mi fydd yna gynnydd ac mi fydd hi'n symud yn gyflym...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Mohammad. Ie, rwy'n credu bod y datblygiad hwn yr ydym wedi ei roi ar y bwrdd, £10 miliwn, wedi gwneud i'r system addysg bellach foeli ei chlustiau a chymryd sylw a deall mewn gwirionedd ein bod yn gwbl ddifrifol o ran yr angen iddyn nhw ymateb i anghenion sgiliau yn yr economi leol. Yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i hynny yw bod pobl bellach yn llawer mwy parod i ymdrin...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Fel y mae'r adroddiad yn ei ddangos, rŷm ni’n gosod y sylfeini ar gyfer dull gweithredu mwy holistaidd ar draws y Llywodraeth ar gyfer cyflogadwyedd. Rŷm ni'n cydnabod bod angen cysylltu gwahanol wasanaethau cyhoeddus yn well, sy’n cynnwys trafnidiaeth, iechyd, tai, gofal plant a chymorth cyflogadwyedd, a sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cydweithio fel bod mwy o bobl yn gallu cael...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Llywydd. Ym mis Mawrth eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi cynllun cyflogadwyedd traws-lywodraethol a oedd yn nodi ein gweledigaeth o wneud Cymru yn economi cyflogaeth lawn, uwch-dechnoleg, â chyflogau uchel. Cyflwynodd y cynllun hwnnw strategaeth uchelgeisiol i greu gweithlu hyfforddedig a chynhwysol iawn, yn un a all ymateb yn effeithiol i anghenion sgiliau cenedlaethol a...

3. Cwestiynau Amserol: Trago Mills ( 4 Gor 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Nid wyf yn derbyn ei fod yn ffolineb i ddisgwyl i gwmnïau ddefnyddio'r iaith. Y ffaith yw bod lot o gwmnïau yn gwneud hynny. Os ydych chi'n edrych ar Aldi a Lidl, rwy'n meddwl bod record arbennig gyda nhw. Mae'n rhaid i ni werthfawrogi hynny. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n gwerthfawrogi nad yw hi'n bosibl gyda'r Ddeddf sydd gyda ni nawr i wneud unrhyw beth yn y maes...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.