Mark Isherwood: Rwyf wedi cael gwybod o ffynhonnell ddibynadwy nad yw pobl wedi gallu cael gafael ar y data priodol er eu bod wedi gofyn amdano, felly byddai’n dda pe baech yn gallu darparu’r data hwnnw. A pheidiwch â sôn wrthyf fi am yr 1980au. Rwy’n gwybod sut beth yw cael eich tad yn dod adref a dweud wrthych fod y cwmni gweithgynhyrchu y mae’n gweithio iddo wedi cau a’i fod yn ddi-waith....
Mark Isherwood: Felly, nid ydych yn mynd i ddweud wrthym pam. A gaf fi awgrymu eich bod chi a’ch cyd-Aelodau wedi bod yn cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd a datblygiad economaidd yng Nghymru ers 1999, a dyna yw’r sefyllfa erbyn hyn? Eich adran chi, rwy’n credu, sy’n gyfrifol am raglen Esgyn, fel rhan o’ch cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi, gan ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Roedd brîff cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol Sefydliad Bevan ym mis Gorffennaf 2016 ar dlodi yn dweud bod ffigurau diweddaraf arolwg yr Adran Gwaith a Phensiynau o aelwydydd o dan yr incwm cyfartalog yn dangos bod aelwydydd incwm isel yn parhau i fod yn broblem sylweddol yng Nghymru, gyda mwy nag un o bob pump o bobl yn byw ar incwm aelwydydd sy’n is na 60 y cant...
Mark Isherwood: Diolch. Fe gyfeirioch at yr ymgynghoriad rheoli ansawdd aer a sŵn lleol. Sut rydych yn ymateb i bryderon a ddaeth i fy sylw fod y cwestiynau yn hwnnw’n awgrymu cyflawni’r asesiad o ansawdd aer ar sail cyfartaleddu unrhyw effeithiau a manteision ar draws poblogaeth Cymru gyfan, yn hytrach na chanolbwyntio ar y rhai mwyaf agored i niwed, a diystyru’r pwysoliad allweddol y dylid ei roi i...
Mark Isherwood: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r modd y caiff ansawdd aer ei reoli o safbwynt sŵn yng Nghymru? OAQ(5)0068(ERA)
Mark Isherwood: Fel y dywed Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, mae ffigurau swyddogol y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2016 yn dangos bod 29 y cant o'r holl blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, sy'n cyfateb i 200,000 o blant. Roedd y Rhwydwaith yn dweud bod hyn yn dal i fod yn uwch na chyfartaledd y DU ac yn fwy na’r gwledydd datganoledig eraill. Sut, felly, ydych chi’n ymateb...
Mark Isherwood: Rwy'n credu efallai mai fi yw’r unig Aelod sydd ar ôl o bwyllgor yr ail Gynulliad a gynhyrchodd yr adroddiad tri chyfnod y mae’r cynigion hyn yn seiliedig arnynt. Mae hynny'n mynd yn ôl yn bell, ac mae hyn yn ailadrodd llawer o argymhellion y pwyllgor hwnnw. Cawsom dystiolaeth gan y Farwnes Warnock; ei hargymhellion gwreiddiol hi a arweiniodd at gyflwyno datganiadau yn 1981. A dywedodd...
Mark Isherwood: Y trydydd o Ragfyr oedd y pumed flwyddyn ar hugain y cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl ag Anableddau, a’r thema oedd cyflawni 17 o nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a garem. Yn y cyd-destun hwn, a gaf i alw, yn ddelfrydol, am ddadl, neu o leiaf am ddatganiad, ar amcanion eleni o dan y diwrnod rhyngwladol, sy'n cynnwys asesu statws presennol...
Mark Isherwood: Yn 2012, sef yr adeg pan roedd y safon i fod i gael ei bodloni gan bob landlord cymdeithasol, dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru bod y prif ddiffyg o ran bodloni’r safon i’w weld mewn ardaloedd lle pleidleisiodd tenantiaid yn erbyn cynigion i drosglwyddo. Dywedodd eich Gweinidog tai ar y pryd wedi hynny nad oedd gan dri awdurdod gynlluniau busnes realistig a bu’n rhaid iddyn nhw...
Mark Isherwood: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd?
Mark Isherwood: Pe baech wedi bod yma byddech wedi fy nghlywed yn rhybuddio yn 2004 ein bod yn wynebu dydd y farn fel rhywun a ddaeth o’r sector bancio cydfuddiannol a gwybod bod yna fom yn tician nad oedd yn cael sylw. Mae’r Canghellor bellach wedi gallu mabwysiadu rheolau mwy hyblyg ar gyfer y diffyg yn y gyllideb, ond ni fuasai wedi gallu gwneud hynny heb ddisgyblaeth ar wariant ers 2010 ac oherwydd...
Mark Isherwood: Gan barhau tuedd y blynyddoedd diwethaf rhagwelir mai economi’r DU yw’r economi fawr sy’n tyfu gyflymaf yn y byd eleni gyda rhagolwg twf o 2.1 y cant gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd yn rhagweld y bydd y diffyg yn gostwng i 3.5 y cant o’r cynnyrch domestig gros eleni ac i 0.7 y cant yn 2021, yr isaf ers dau ddegawd, ac y bydd dyled fel...
Mark Isherwood: O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi addo torri trethi ar gyfer busnesau bach ac yn lle hynny wedi ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a oedd wedi bod yn gynllun dros dro, disgrifiwyd hyn gan Ffederasiwn Busnesau Bach Gogledd Cymru, sy’n cynrychioli busnesau o Arfon ar draws y rhanbarth fel y gwyddoch, yn gwbl gamarweiniol a dyma’r ffurf waethaf ar sbinddoctora. Sut...
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol i'r gwasanaethau iechyd yng Nghymru?
Mark Isherwood: Chwe blynedd yn ôl, etifeddodd Llywodraeth y DU a arweiniwyd gan y Ceidwadwyr, economi a oedd ar fin dymchwel, a'r diffyg uchaf yn y gyllideb mewn cyfnod o heddwch yn hanes y DU. Er mwyn adennill hygrededd ariannol a oedd wedi chwalu, roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Nid yw cyni, a ddiffinnir fel bod heb ddigon o arian, yn ddewis felly. Fel y gŵyr unrhyw ddyledwr, ni allwch...
Mark Isherwood: Diolch am hynny, ac rwy’n ymddiheuro. Mae'r feddygfa, Canolfan Feddygol Rhiwabon, y diweddaraf i gyhoeddi y bydd yn terfynu ei chontract GIG â'r bwrdd iechyd oherwydd ei bod yn methu â llenwi dwy swydd meddyg wag. Fis diwethaf, practis Rashmi ym Mae Colwyn oedd yn gwneud y cyhoeddiad hwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld yr un peth yn digwydd ym Mhrestatyn, Rhuddlan,...
Mark Isherwood: Nid yw’r geiriad gennyf mewn gwirionedd, ond a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar y cyhoeddiad y bydd meddygfa deulu yn cau yn Wrecsam?
Mark Isherwood: Mewn datganiad ym mis Hydref, dywedasoch wrth y Cynulliad ‘rwyf wedi cael fy synnu a fy nhristáu gan dranc diweddar a sydyn dri chwmni bysus lleol’, gan gynnwys GHA Coaches, sy'n darparu gwasanaethau ar lwybrau bysiau ysgol ar draws y gogledd-ddwyrain yn ogystal â Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, ysgrifennwyd atoch adeg eich penodi ym mis Mai—saith wythnos cyn cau GHA...
Mark Isherwood: Er bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi dweud mai'r nod yw gwneud cyrff cyhoeddus i feddwl mwy am yr hirdymor, gan weithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a gyda’i gilydd, a cheisio atal problemau rhag codi a rhoi sylw i faterion cyffredin trwy fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig, rhywbeth sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn dyletswyddau sy'n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau...
Mark Isherwood: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ganolfan Feddygol Rhiwabon yn Wrecsam, sydd wedi dod â’i chontract gyda’r GIG i ben ar ôl methu â llenwi dwy swydd wag am feddygon? EAQ(5)0095(HWS)