Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith dilynol a wnaed yn sgil adroddiad Ockenden i ofal ar ward Tawel Fan?
Darren Millar: Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch, Weinidog—diolch i chi am gymryd yr ymyriad—am y refeniw a godir mewn trethi a’r ffordd y caiff ei wario, ond wrth gwrs, yr hyn rydym yn ei wynebu yma yw bod rhai cymunedau’n cael eu taro’n anghymesur gan gynnydd sylweddol, ac nid ydynt yn gweld unrhyw gynnydd sylweddol yn eu gwasanaethau lleol yn sgil y trethi ychwanegol hyn. A ydych yn derbyn bod...
Darren Millar: Rwy’n siŵr y byddant yn gwisgo’u sbectol binc o ran y ffordd y mae’r treial yn mynd. Ond gadewch i mi ddweud hyn wrthych: o ran y dystiolaeth—[Torri ar draws.] O ran y dystiolaeth, mae trigolion lleol yn hynod o anfodlon gyda’u gwasanaethau casglu gwastraff. Maent yn hynod o amhoblogaidd. Yn wir, o ran tipio anghyfreithlon, o ran sbwriel, nid ydynt erioed wedi gweld cymaint o dipio...
Darren Millar: Diolch i chi, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, er fy mod, mae’n rhaid i mi ddweud, yn siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwrthod camu i mewn i atal awdurdodau lleol yng Nghymru rhag parhau â’r arbrawf hwn, sy’n cael ei dreialu, o gasgliadau bin pedair wythnos o amgylch y wlad. A gadewch i ni wynebu’r peth, y rheswm na allwch ddod o hyd i unrhyw...
Darren Millar: Rwy’n hapus i gymryd yr ymyriad.
Darren Millar: Rwy'n falch o’r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n falch iawn fod y Bil yr ydym yn ei drafod yn mynd i roi mwy o bwerau i’r Cynulliad hwn, a bod y Bil yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Geidwadol ar lefel y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol. Hoffwn dalu teyrnged iddynt am gadw at eu gair a chyflwyno Bil sydd yn mynd i roi pwerau ychwanegol i ni. Ac rwyf am ddweud hyn: nid yw'r...
Darren Millar: A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae’r cyntaf yn gais am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar gyflwr yr amddiffynfeydd môr yn Hen Golwyn yn fy etholaeth i. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod wedi codi'r mater hwn ar sawl achlysur yn y Siambr, ac rwy'n bryderus iawn am gyflwr yr amddiffynfeydd hynny. Yr wythnos diwethaf,...
Darren Millar: Nid wyf yn cyhuddo unrhyw un o’r myfyrwyr hynny o wneud cais twyllodrus am fisa. Rwy’n gwneud y pwynt yn syml iawn fod twyll wedi’i ganfod yn y system ac angen rhoi sylw iddo. Nid oedd y system flaenorol yn gweithio. Mae yna gyfleoedd o hyd o dan y trefniadau fisa presennol i bobl wneud cais am fisâu a’u cael.
Darren Millar: Ie, wrth gwrs, rwy’n cydnabod hynny, ac rwyf hefyd yn cydnabod ei bod yn bosibl cymryd rhan yn Horizon 2020 ar ôl Brexit, ac rwy’n credu mai dyna’r pwynt y mae Llyr Huws Gruffydd yn ei wneud, sy’n bwynt pwysig iawn. Dylai’r pethau hyn gael eu trafod a dylent fod ar y bwrdd, ond y pwynt rwy’n ei wneud yw bod yna gyfleoedd i brifysgolion ddatblygu cysylltiadau eraill yn...
Darren Millar: Diolch i chi, Lywydd. Rwyf am ddiolch hefyd i gynrychiolydd Plaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Cynigiaf y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy’n credu bod pawb yn y Siambr hon yn cytuno bod y sector addysg uwch yn bwysig iawn i Gymru. Rydym yn gwybod bod ein prifysgolion, fel y dywedwyd eisoes, yn gyflogwyr...
Darren Millar: Mae’n ddrwg gennyf eich bod yn teimlo mor grintachlyd ynglŷn â lori Nadolig Coca-Cola. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Coca-Cola, fodd bynnag, am y ffordd y maent wedi cyfyngu ar siwgr yn eu diodydd ac wedi ehangu’r modd y mae’n hyrwyddo’r dewisiadau amgen heb siwgr, sef dros 50 y cant o’u gwerthiant yn y DU bellach?
Darren Millar: Rwy’n falch iawn eich bod yn adolygu’r cymhellion sydd ar gael. Os ydych am ddilyn gyrfa mewn addysgu gwyddoniaeth yn Lloegr, rydym i gyd yn gwybod bod y bwrsariaethau’n llawer mwy hael nag y maent yma yng Nghymru. Yn wir, os ydych am fod yn athro ffiseg yn Lloegr, gallwch gael bwrsariaeth o hyd at £30,000, o gymharu â chyn lleied ag £11,000 yma yng Nghymru. Tybed a gaf fi bwyso...
Darren Millar: Rwy’n falch eich bod wedi gallu taflu ychydig mwy o oleuni ar y rhwydwaith cenedlaethol er rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, oherwydd, wrth gwrs, nid oedd yn gyhoeddiad a wnaethoch yn y Siambr hon—fe’u gwnaethoch mewn datganiad i’r wasg, ac rydym yn dal heb dderbyn datganiad ysgrifenedig neu lythyr oddi wrthych, fel Aelodau Cynulliad, i roi gwybod i ni am y datblygiad pwysig...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dangosodd canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr fod system addysg Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU a’n bod oddeutu gwaelod y tabl rhyngwladol ar gyfer llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth. Fe wyddoch gystal â minnau nad yw hynny’n ddigon da, ac rydym yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Mae gwyddoniaeth, yn arbennig, wedi...
Darren Millar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i wella cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru?
Darren Millar: A gaf i alw am ddau ddatganiad Ysgrifennydd Cabinet—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch dyfodol y diwydiant coed yng Nghymru? Bydd yr Aelodau wedi sylwi bod rhai pryderon wedi’u codi gan Clifford Jones Timber, sefydliad sydd wedi'i leoli yn Rhuthun yn fy etholaeth i, am fethiant tir coedwigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau trefn blannu...
Darren Millar: Dychrynais innau braidd hefyd i weld y cyhoeddiad hwn yn cael ei wneud y bore yma, nid yn y lle hwn ond mewn adeilad arall sy’n eiddo i’r Llywodraeth i lawr y ffordd. A gaf fi ofyn chi—[Torri ar draws.]? A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, gan gyfeirio’n benodol at y buddsoddiad sydd wedi’i gyhoeddi yng ngogledd Cymru, rydych wedi awgrymu mai mater syml yw hyn o ailgynhesu a microdonni...
Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gadarnhau y byddwch yn sicrhau bod y ddogfen honno ar gael, ond yn sicr, cyn y ddadl heddiw, gallech fod wedi sicrhau bod peth, o leiaf, o’r crynodeb o’r canfyddiadau ar gael, sydd, yn amlwg, eisoes yn eich dwylo chi.
Darren Millar: Diolch; rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Ni wneuthum fychanu’r cwricwlwm newydd rydym yn ceisio ei gyflwyno yng Nghymru. Gofynnais yn unig am i ni oedi ac ystyried ai diwygiadau cwricwlaidd tebyg i’r rhai sydd wedi digwydd yn yr Alban, sydd wedi methu â chyflawni yn erbyn y mesur PISA, yw’r dull cywir yma yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen i ni fyfyrio o ddifrif ar hynny.
Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gynnig y cynnig hwn heddiw, ac rwyf am wneud hynny’n ffurfiol ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Yr wythnos diwethaf, cafodd Cymru newyddion am ei chanlyniadau yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, neu PISA, fel y cyfeirir ato’n fwy cyffredin, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Cyn cyhoeddi’r canlyniadau hynny,...