Canlyniadau 1621–1640 o 2000 ar gyfer speaker:Baroness Morgan of Ely

3. Cwestiynau Amserol: Trago Mills ( 4 Gor 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Mohammad, ac mae croeso i chi ymuno â mi a dod yn un o'r miliwn yn ogystal. Gwn eich bod yn siarad nifer o ieithoedd eraill, felly dylai fod yn weddol hawdd i chi ei dysgu. Felly, dyna chi, rydych chi ar fy rhestr yn ogystal. Diolch yn fawr. Credaf ei bod yn bwysig i ni danlinellu pwysigrwydd y cwmni hwn. Ceir llawer o swyddi yma mewn ardal sydd angen swyddi, felly mewn...

3. Cwestiynau Amserol: Trago Mills ( 4 Gor 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Da iawn a diolch yn fawr i chi, Dawn, nid yn unig am ddod â'r achos yma gerbron y Senedd heddiw, ond hefyd am eich ymrwymiad chi tuag yr iaith.

3. Cwestiynau Amserol: Trago Mills ( 4 Gor 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Hoffwn ddiolch i chi am eich brwdfrydedd dros yr iaith, oherwydd mae angen inni gyrraedd miliwn o siaradwyr ac rydych chi ar y rhestr honno, felly diolch yn fawr iawn i chi. Credaf eich bod yn llygad eich lle—credaf fod pobl yn tanbrisio gwerth addysg Gymraeg. Gwyddom fod llawer o dystiolaeth yn awgrymu ei bod, mewn gwirionedd, yn helpu i ymestyn addysg yn ei ystyr ehangach, ac mae...

3. Cwestiynau Amserol: Trago Mills ( 4 Gor 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, a gaf fi ddweud fy mod wedi fy siomi'n fawr wrth ddarllen sylwadau Bruce Robertson dros y penwythnos, ac ysgrifennais lythyr ato ddydd Llun i fynegi fy siom? Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod ei sylwadau'n gyfeiliornus, a chredaf eu bod yn anghyson â barn y cyhoedd yng Nghymru. Rwy'n hapus i rannu'r llythyr hwnnw gydag Aelodau'r Cynulliad.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Rydw i'n awyddus iawn i sicrhau nad ŷm ni’n aros tan bod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno. Nid wyf i eisiau colli cenhedlaeth arall o blant sydd ddim yn cael y cyfle o gael addysg dda Cymraeg fel ail iaith. Felly, mae’n rhaid i ni wella’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. Rŷch chi’n gallu cael 13 mlynedd o wersi Cymraeg a dod mas yn siarad bron â bod ychydig iawn. Felly, mae...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf fi ddweud fy mod i'n falch iawn nad yw Cyngor Sir Fflint wedi mynd drwyddo â'r awgrym? Nid o'r cyngor y daeth yr awgrym, ond rwyf yn meddwl ei fod yn bwysig eu bod nhw wedi tynnu yn ôl o hynny. Wrth gwrs, rwy'n meddwl y byddai'n cael effaith andwyol ar nifer y plant sydd yn mynd i ysgolion Gymraeg pe na fyddai trafnidiaeth am ddim ar gael. Felly, wrth gwrs, byddem yn annog cynghorau...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf fi ddweud fy mod i yn gefnogol o'r hyn y mae sir Gaerfyrddin yn ei wneud, wrth gwrs? Mae eu hadroddiad nhw a'u cynlluniau nhw wedi eu gwneud yn glir yn y WESP y maen nhw wedi rhoi gerbron y Llywodraeth, felly, wrth gwrs, rŷm ni'n cefnogi hynny. Fues i'n agor ysgol yn Llanelli yr wythnos diwethaf, yn sir Gaerfyrddin—ysgol sydd yn newid o fod yn ysgol ddi-Gymraeg i fod yn ysgol...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Uwchsgilio ac Ailsgilio (27 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Mohammad. Credaf eich bod yn llygad eich lle—mae arnaf ofn fod dirywiad wedi bod o ran nifer y bobl sydd wedi gwneud defnydd o ddysgu rhan-amser. Roedd hynny'n rhannol, wrth gwrs, yn ymateb i'r mesurau cyni a gyflwynwyd, a bu'n rhaid inni flaenoriaethu cyllid a rhoddwyd blaenoriaeth i addysg y blynyddoedd cynnar. Ond gyda natur newidiol cyflogaeth—y ffaith y byddwn yn gweld y...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Uwchsgilio ac Ailsgilio (27 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, credaf mai'r fantais fawr sydd gan fusnesau bach yw y gallant symud yn llawer iawn cyflymach na busnesau mawr. Felly, dyna'r fantais sydd ganddynt mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn eu bod yn manteisio ar y gallu hwnnw—efallai y bydd cwmnïau mawr iawn yn ei chael hi'n anos troi'r llongau enfawr hyn o gwmpas. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Uwchsgilio ac Ailsgilio (27 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhaglenni i gynorthwyo unigolion i uwchsgilio pan fyddant mewn gwaith. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac rydym hefyd yn cynorthwyo cyflogwyr i uwchsgilio eu gweithlu drwy ein Rhaglen Sgiliau Hyblyg.

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg ( 5 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, John. Rwy'n gwybod bod eich cefnogaeth chi tuag at y Gymraeg yn frwd, ac rwy'n gwybod bod yna grŵp y tu fewn i Gasnewydd sydd yn ymgyrchu'n frwd i sicrhau bod mwy o gyfleoedd gan blant, yn sicr, i gael mynediad at addysg Gymraeg. Rwyf wedi bod yn ymweld â'r ysgol ragorol yn eich etholaeth chi yng Nghasnewydd, lle mae cymaint o bobl o ardal ddifreintiedig yn cael addysg...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg ( 5 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Mike. Mae dy Gymraeg di'n gwella pob munud, chwarae teg. Rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi pwyslais ar bwysigrwydd defnyddio'r iaith. Dyna rŷch chi'n ei weld mewn cymunedau fel Caernarfon, wrth gwrs, a byddai'n dda gweld mwy o gymunedau fel Caernarfon. Y ffordd i sicrhau hynny, wrth gwrs, yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a'r ffordd fwyaf hawdd i wneud hynny, wrth gwrs,...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg ( 5 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Neil. Rwy'n credu yr hoffwn i ei gwneud yn glir pa mor bwysig yw'r newid hwn o ran pwyslais os ydym ni am gyrraedd y nod hwnnw. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud hyd yn hyn yw tynnu sylw at hawliau siaradwyr Cymraeg, ac mae hynny'n hollol iawn—mae hynny'n dda, ac mae wedi dod yn ei flaen yn sylweddol. Rydym ni wedi newid yr amgylchedd yn wirioneddol, yn arbennig...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg ( 5 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Siân. Fe fues i yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos diwethaf hefyd, ac rydych chi'n eithaf reit: roedd yna lot o blant yna a oedd gyda lot o hyder. Beth sy'n fy mhoeni i yw nid y plant a oedd yn yr Eisteddfod yr wythnos diwethaf, ond y cannoedd o filoedd sy'n mynd i ysgolion Cymraeg nad oedd yn yr Eisteddfod: rheini sydd ddim â'r hyder. Rheini yw'r rhai y mae'n rhaid i ni eu...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg ( 5 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Suzy. Rwy'n falch ein bod ni'n cytuno bod y system bresennol yn gostus, ei bod yn or-fiwrocrataidd a’i bod yn cymryd lot fawr o amser. Ond rydw i hefyd yn derbyn y ffaith bod lot o waith eisoes wedi’i wneud ar y cynlluniau newydd—y safonau yr oedd pobl yn disgwyl i ddod yn y dyfodol. Ni fyddwn ni'n stopio’n llwyr, ond byddwn ni'n treulio’r amser nesaf yma yn sicrhau...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg ( 5 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf i fod yn glir? Ni fyddwn ni ddim yn rhoi’r gorau i orfodi’r safonau. Rhaid i gyrff gyflawni eu dyletswyddau statudol. Ond, rwyf o’r farn ei bod hi bob amser yn well i ddefnyddio moron yn hytrach na ffyn lle bo hynny’n bosibl. Mae hwnnw'n gyfieithiad ofnadwy, onid yw e? Os oes rhywun yn gallu ffeindio idiom gwell, byddai hynny yn help i mi. Yn y maes ieithyddol, nid yw gorfodi yn...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg ( 5 Meh 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ymddiheuro fy mod i wedi colli fy llais? Felly, fe wnaf i fy ngorau glas i gyflwyno'r datganiad ac i roi'r diweddariad i'r Senedd ar y camau rydym yn eu cymryd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg. Fel y byddwch chi’n ymwybodol, mae pwyslais Llywodraeth Cymru wedi bod ar greu safonau i greu hawliau statudol i bobl Cymru i gael mynnu...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Mai 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Rydych yn llygad eich lle; mae'n bryd inni ailystyried yr ymadrodd 'gwres gwynias technoleg' a'i addasu ar gyfer oes newydd. Rydych yn iawn; os oeddem yn credu bod hynny'n digwydd yn gyflym, credaf y bydd y cyfnod nesaf hyd yn oed yn gyflymach. Felly, rydych yn llygad eich lle; mae angen inni gael ymateb llawer mwy hyblyg i'r newidiadau a fydd yn digwydd. Felly, yn barod, bydd y...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Mai 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Credaf eich bod yn llygad eich lle; mae angen inni wneud mwy o lawer i sicrhau bod pobl yn deall bod prentisiaethau yn llwybr dilys i swyddi o safon. Mae gennym gyfres gyfan o fentrau sy'n ein cynorthwyo i geisio denu pobl, yn arbennig at rai o'r pynciau STEM y sonioch amdanynt yn gynharach, i sicrhau eu bod yn ymateb i'r hyn sydd ei angen ar yr economi. Felly, mae gennym gyfres gyfan...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Mai 2018)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Mohammad Asghar. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn hynod ymwybodol o'r angen i uwchsgilio ein gweithlu mewn meysydd lle mae cyflogwyr yn dweud wrthym fod prinder, a dyna pam fod gennym y strwythur a elwir yn bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, a sefydlwyd i ofyn i'r cyflogwyr hynny fwydo i mewn i'r strwythurau, i ddweud, 'Beth yw'r sgiliau rydych yn chwilio amdanynt fel...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.