Darren Millar: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli'r risg o lifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0054(ERA)
Darren Millar: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n falch iawn o allu ymateb ar ran ein grŵp, ac ymestyn ein cefnogaeth barhaus i raglen Cymru o Blaid Affrica a'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud i greu cysylltiadau rhwng pobl Cymru a phobl Affrica Is-Sahara. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi ymweld â De Affrica flwyddyn neu ddwy yn ôl—mewn gwirionedd, ar ddau...
Darren Millar: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n credu ei bod yn anhygoel eich bod wedi llwyddo i lunio ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad mor drwm ag adroddiad adolygiad Diamond mewn cyfnod mor fyr o amser. Rwy’n croesawu hefyd yr ymgynghoriad a fydd yn awr yn llifo o’ch ymateb; rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol bod yna gyfle ehangach ar gyfer trafodaeth gyhoeddus...
Darren Millar: Brif Weinidog, un o nodweddion eich Llywodraeth yw bod ysgolion da iawn, sy'n darparu'r cwricwlwm cenedlaethol, wedi bod yn cau ar draws y wlad, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru. Nawr, rwy’n sylwi bod cymorth ychwanegol, sydd ar y ffordd, a rhai newidiadau o ran y ffordd y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol feddwl am eu hysgolion yn y dyfodol. Ond beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth bobl...
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn gwybod cystal â minnau fod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cael ei hyrwyddo yn ein hysgolion. Yn anffodus, nid yw’r ddyletswydd yn ddarostyngedig i’w harolygu gan Estyn ar hyn o bryd. Rwy’n teimlo y dylai fod er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn gallu...
Darren Millar: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod fy mod yn dadlau’n gryf dros rianta cadarnhaol, yn arbennig o ystyried yr hyn rwy’n credu sy’n gynlluniau cynamserol gan eich Llywodraeth i wahardd smacio a throseddoli rhieni. Fodd bynnag, nodaf eich bod chi fel Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod gwasanaeth rhianta cadarnhaol yn rhywbeth a ddylai fod ar gael...
Darren Millar: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo rhianta cadarnhaol? OAQ(5)0058(CC)
Darren Millar: 10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei wireddu? OAQ(5)0057(CC)
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Diolch i chi, Weinidog, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw yn amser y Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod bob amser yn ddefnyddiol iawn i ni fel Cynulliad Cenedlaethol fyfyrio ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, a'r gwaith rhagorol y mae hi a'i thîm yn ei wneud ledled Cymru gyfan. Rwyf am gofnodi fy niolch iddi am ymweld â’r gogledd yn rheolaidd, gan gynnwys lleoedd yn fy etholaeth i, i...
Darren Millar: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Gwn am eich ymrwymiad i ysgolion gwledig. Rwy’n gwybod y byddech yn arfer brwydro’n angerddol fel aelod o'r wrthblaid ar ran ysgolion ym Mhowys a oedd dan fygythiad o gau gan yr awdurdod lleol hwnnw, ac, wrth gwrs, roedd llawer o Aelodau Cynulliad eraill sy'n cynrychioli etholaethau gwledig yn y Siambr hon yn gwneud hynny gyda chi. Fel...
Darren Millar: A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda—un gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg a dysgu gydol oes, ar gymorth i bobl ag anableddau dysgu sy'n mynd i addysg bellach? Bydd yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd yr wythnos hon yn y cyfryngau ynghylch y system gymorth sydd ar gael i ddysgwyr mewn addysg bellach ôl-16 sydd ag anableddau dysgu. Wrth gwrs, mae datganiadau ar gael, y...
Darren Millar: Brif Weinidog, fel finnau, rwy'n siŵr eich bod chi’n siomedig iawn ac wedi eich dychryn o ddarllen am achos yr ombwdsmon yr wythnos diwethaf o ran Mr Eifion Wyn Jones, a arhosodd 132 diwrnod am driniaeth canser y brostad. Yr wythnos hon, adroddwyd achos arall yn y 'Daily Post' am ŵr o Brestatyn, Mr Ian Taylor, a arhosodd dros dri mis am ei driniaeth. Rwy'n gweithio ar achos ar hyn o bryd...
Darren Millar: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at driniaethau’r GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0256(FM)
Darren Millar: Wrth gwrs y gwnaf.
Darren Millar: Rydych yn hollol gywir, ac mae yna enghreifftiau da ledled Cymru o gynghorau ieuenctid ar waith, ond yn anffodus, ni cheir cysondeb ledled y wlad, er gwaethaf gwaith Cymru Ifanc a sefydliadau eraill tebyg. Felly, mae gennym hanes ardderchog. Roeddem yn arwain y ffordd o ran ymgysylltu â phobl ifanc yn gynnar iawn ym mywyd y Cynulliad. Fe wnaethom fuddsoddi yn hyn ac rydym wedi parhau i...
Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael cyfle i agor ac arwain y ddadl hon heddiw, sy’n galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu senedd ieuenctid i Gymru. Rwyf eisiau dweud diolch i bob plaid yn y Siambr am y gefnogaeth sydd wedi’i hymestyn i’r cynnig hwn. Dirprwy Lywydd, this Assembly has a proud tradition in relation to supporting children and young people. Since its...
Darren Millar: Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar fynegai yr UE o gynnydd cymdeithasol rhanbarthol—astudiaeth a restrodd Cymru yr isaf o blith gwledydd cartref y DU o ran cael gafael ar wybodaeth sylfaenol, ac, wrth gwrs, mae hynny wedi arwain at bryderon sylweddol ymhlith rhieni yn arbennig, ac mae’n ergyd arall i’w...
Darren Millar: Brif Weinidog, roedd gennych chi gyfle yn y fan yna, mewn ymateb i Llyr Gruffydd, i ailymrwymo eich hun i’r ymrwymiad i chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol ei wneud wrth ffurfio eich Llywodraeth glymblaid, sef na fyddai unrhyw effaith negyddol ar y gyllideb addysg uwch o ganlyniad i roi unrhyw newidiadau ar waith. A wnewch chi achub ar y cyfle i wneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw, ac a ydych...
Darren Millar: Y realiti yw nad yw pob sefydliad yn gofyn am ddeddfwriaeth benodol. Dyma un sy’n croesi nifer o rwystrau. Rwyf wedi dweud eisoes: gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, iawn, gadewch i ni gael y byrddau iechyd yn gweithio gydag adrannau gwasanaethau cymdeithasol. Ond beth am ein system addysg? Nid yw’n cwmpasu’r holl wasanaethau cyhoeddus sydd angen eu cynnwys. Rwyf am ddefnyddio’r...