Darren Millar: Nid yw’n dderbyniol, yn yr oes sydd ohoni—fe gymeraf yr ymyriad mewn eiliad—fod gennym bobl ifanc ag awtistiaeth mewn unedau ymddygiadol oherwydd methiant i wneud diagnosis, yn hytrach nag mewn ysgolion prif ffrwd. Nid yw’n dderbyniol fod hynny’n digwydd, ac eto mae’n digwydd yng Nghymru hyd yn oed heddiw. Rwy’n fodlon cymryd yr ymyriad.
Darren Millar: Roeddech chi a minnau’n aelodau o’r pwyllgor hwnnw, a edrychai ar y Ddeddf honno. Rwy’n gobeithio ac yn credu y bydd yn sicrhau gwelliannau yn fwy cyffredinol yn ein system gofal cymdeithasol, yn enwedig o ran annog a hyrwyddo gwaith gyda’r GIG. Ond nid yw’n mynd i ddatrys y broblem, sy’n rhychwantu nid yn unig y system gofal cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd gwladol, ond hefyd...
Darren Millar: Diolch yn fawr i’r bobl hynny sydd eisoes wedi siarad yn y ddadl hon, yn enwedig Mark Isherwood, wrth gwrs, sydd wedi bod yn cenhadu ar y mater hwn ers blynyddoedd lawer, ac wedi cyflawni rôl ragorol fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth. Rhaid i mi ddweud, rwy’n synnu braidd ynglŷn â safbwynt y Blaid Lafur ar hyn. Cyflwynwyd y ddadl mewn ysbryd o ewyllys da, gan ddisgwyl...
Darren Millar: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ateb i Llyr Gruffydd. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn awyddus i ehangu mynediad at Dechrau’n Deg. Rwy’n credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth ac mae’n drueni fod cymaint o bobl wedi cael eu heithrio rhag cael mynediad at y gefnogaeth sydd ar gael drwy Dechrau’n Deg hyd yn hyn. Ond a allwch roi amserlen ar gyfer pa bryd rydych yn...
Darren Millar: Weinidog, cyfeiriodd adroddiad Cymdeithas y Plant hefyd at y ffaith fod addysg ariannol yn wael iawn a bod llawer o bobl ifanc yn ei chael yn anodd cadw eu tenantiaethau ar ôl iddynt adael gofal. Ac unwaith eto, yn y fforwm ddoe, roedd yn eithaf amlwg fod galw am roi’r hawl i weithwyr cymorth weithio ochr yn ochr â rhai sy’n gadael gofal hyd nes eu bod yn 25 oed Nid yw’n rhywbeth sydd...
Darren Millar: A diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ryddhau i ddiogelu cartrefi a busnesau rhag llifogydd yn fy etholaeth. Ond wrth gwrs, gall unigolion hefyd gymryd peth cyfrifoldeb dros amddiffyn eu heiddo eu hunain. Ac fe fyddwch yn ymwybodol fod grantiau o hyd at £5,000 i berchnogion tai unigol, dros y ffin yn Lloegr, i’w helpu i wneud eu heiddo yn...
Darren Millar: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y risg o lifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(5)0040(ERA)
Darren Millar: Diolch. Roeddwn i'n mynd i ddweud nad ydych chi’n cyfeirio at ffigurau sy'n benodol i Gymru, rwy’n tybio. Un peth yr ydym yn ei wybod yw y bu cynnydd sydyn ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae pethau wedi arafu rhywfaint, fel y dywedais yn fy araith yn gynharach. Dyna’r wybodaeth a adroddwyd sy'n dod yn ôl atom ni. Ond, mae'n rhaid i chi dderbyn bod rhai pobl, nid llawer, wedi defnyddio...
Darren Millar: Rwyf yn dymuno’n siarad yn gryno yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch ein bod ni'n cael y ddadl hon, oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cymryd yr amser i fyfyrio ar yr anoddefgarwch sydd weithiau'n bodoli yn y gymdeithas yma yng Nghymru. Gwyddom fod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru, ar y cyfan, yn bobl oddefgar iawn, ac mae ein cymunedau, ar y cyfan, yn tynnu ymlaen...
Darren Millar: Weinidog, rwy'n ofni bod llawer o bobl ledled Cymru wedi cael llond bol ar aros am hyn. Rydych chi mewn Llywodraeth sydd wedi goraddo am fand eang cyflym iawn ac wedi methu yn llwyr â chyflawni. Roedd hyn yn eich rhaglen lywodraethu [Torri ar draws.] Yr oedd yn eich rhaglen lywodraethu yn ôl yn 2011 y byddech yn cyflwyno band eang cyflym iawn i bob cartref a busnes preswyl yng...
Darren Millar: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Un o'r pethau a nodais yn yr adroddiad ac yr wyf yn ei groesawu’n fawr iawn yw pwyslais cynyddol ar atal ac iechyd cyffredinol, iechyd meddwl a lles. Tybed i ba raddau yr ydych wedi ystyried y cyfleoedd i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i’n hysgolion ledled Cymru. Byddwch yn ymwybodol y bu brosiect gwych, sy'n cael ei arwain...
Darren Millar: Brif Weinidog, roedd hi yn ôl ym mis Rhagfyr 2011 pan wnaeth y Gweinidog addysg ar y pryd, Leighton Andrews, gyhoeddiad am wariant gwerth £1.4 biliwn ar gyfer rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Roedd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys Gorllewin De Cymru ac, yn wir, rhannau eraill o Gymru. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o’r arian hwnnw sydd wedi ei ryddhau, o gofio ein bod ni bum...
Darren Millar: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd hwn yn amlwg yn newyddion a oedd yn peri pryder pan ddaeth yn amlwg ddoe yng ngogledd Cymru, yn enwedig o ystyried y ffaith fod y llwch heb setlo eto ar sgandal Tawel Fan, a achosodd y fath ysgytwad, wrth gwrs, i bobl gogledd Cymru y llynedd. Rwyf fi, fel chithau, yn croesawu’r camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd hyd yn hyn, dros y...
Darren Millar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiswyddo staff gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dilyn pryderon mewn perthynas ag Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh ym Mae Colwyn? EAQ(5)0054(FM)
Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dau faes yn unig yr wyf am eich holi amdanynt, os yw hynny'n iawn. Rwy'n synnu nad ydych wedi crybwyll dementia o gwbl yn eich datganiad y prynhawn yma. Mae dementia yn un o'r pedwar prif glefyd sy’n lladd, clefyd cyffredin dros ben, ac mae hefyd yn tyfu o ran nifer yr achosion yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, ac eto nid oes un cyfeiriad...
Darren Millar: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar welyau sydd ar gael mewn cartrefi gofal nyrsio yng Nghymru? Mae problem benodol yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, lle mae cartref gofal nyrsio i henoed eiddil eu meddwl, Plas Isaf yn Llandrillo-yn-Rhos, yn y broses o gau, sydd wrth gwrs yn achosi cryn darfu ar yr...
Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru?
Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wnaethoch ymrwymiadau blaenorol yn eich rhaglen lywodraethu ddiwethaf yn y Cynulliad blaenorol i sicrhau bod pawb dros 50 oed yn cael archwiliad iechyd blynyddol ac y gallai pawb weld meddyg teulu gyda’r nos ac ar benwythnosau. Fe fethoch gyflawni’r ymrwymiadau hynny. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni eich bod...
Darren Millar: Fe fyddwch yn gyfarwydd â’r ffaith fod Llywodraeth yr Alban hefyd yn ystyried rhai newidiadau tuag at hyn, ac mai’r casgliad y daeth gweithgor yn yr Alban iddo oedd bod y rhain yn faterion cymhleth, ac er y byddai pawb yn hoffi gweld dosbarthiadau llai o faint, byddai’n well gwario’r arian ar bethau eraill. A gaf fi newid i fater arall, a gwn ein bod wedi cael rhywfaint o ohebiaeth...
Darren Millar: Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd â’r consensws barn eang ymhlith llawer o academyddion nad dyma’r ffordd orau i fuddsoddi arian er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer disgyblion iau, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o’r ffaith fod gennym heriau recriwtio sylweddol ledled Cymru bellach o ran staff addysgu. A wnewch chi ystyried edrych unwaith eto ar wneud hyn...