Mark Isherwood: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau ffyniant economaidd yng Nghymru? OAQ(5)0043(EI)
Mark Isherwood: Hoffwn godi dau bwynt. Yn gyntaf, i ategu galwad Bethan Jenkins ynglŷn ag achos Kris Wade, yn enwedig o gofio bod y llofruddiaeth a’r euogfarn wedi dilyn adroddiadau gan bobl ag anawsterau dysgu o gam-drin rhywiol pan oeddent yn derbyn gofal. Byddwn i’n dadlau, ac rwy'n gobeithio y byddech yn cytuno, bod angen i unrhyw ymchwiliad fynd y tu hwnt i'r bwrdd iechyd, y tu hwnt i'r awdurdod...
Mark Isherwood: Wel, yn amlwg, nid yw hyn yn ymwneud â chydio pŵer mawr. Fel yr ydych chi eich hun wedi ei ddweud, rydych chi eisiau cymryd rhan a chael eich cynnwys ochr yn ochr â'r Cynulliadau a Seneddau datganoledig eraill, a Llywodraeth y DU, ond heb, fel y cydnabuwyd gennych hefyd ym mis Medi, feto derfynol. Ond, o gofio y bydd y Bil diwygio mawr neu ddiddymu mawr, fel y’i cyhoeddwyd ac fel yr ydym...
Mark Isherwood: Byddwch yn cofio, pan gawsom ddadl Cyfnod 3 a Chyfnod 4 y ddeddfwriaeth y llynedd—y Ddeddf trais yn erbyn menywod—ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd, er nad oedd yn derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at raglenni tramgwyddwyr, Lywodraeth Cymru wedyn i gasglu rhagor o dystiolaeth ar ddatblygu rhaglenni cyn-carchar i droseddwyr. Pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i hwyluso hynny?
Mark Isherwood: A wnewch chi dderbyn bod y sylwadau a wneuthum yn adlewyrchu’r sylwadau a gefais gan yr elusennau a enwais, a ddywedodd fod y tair cronfa yn gyd-ddibynnol, er mwyn cyflawni’r nodau a rannwn?
Mark Isherwood: Rwy’n gobeithio eich bod wedi fy nghlywed yn dweud fy mod yn cydnabod bod cyllidebau wedi bod yn crebachu. Rwy’n gofyn pam yn union, felly, nad yw Llywodraeth Cymru yn ceisio manteisio i’r eithaf ar y cyfle i wneud pethau’n wahanol er mwyn gwneud iawn am hynny, oherwydd bydd hyn yn eich helpu i reoli cyllidebau llai. Nid cost ydyw, ond buddsoddiad.
Mark Isherwood: Diolch. Rydym yn cytuno â’r cynnig gwreiddiol yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu rhag unrhyw doriadau ariannol, ac wedi cynnwys hyn yn ein gwelliant i gymryd lle hyn yn unol â hynny. Fodd bynnag, mae ein gwelliant yn mynd ymhellach, gan ymateb i alwadau gan ddarparwyr Cefnogi Pobl i sicrhau bod y gwasanaethau ataliol allweddol a ddarperir...
Mark Isherwood: Wythnos diwethaf—. Gwnaf ar hwn.
Mark Isherwood: Unwaith eto, yn anffodus ni alloch fynychu’r cyfarfod yr wythnos diwethaf, ond esboniodd cynrychiolydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain y problemau gyda phrofion hefyd, ac mae angen eu datblygu. Felly, pan gynhaliais eu cyfarfod briffio yn y Cynulliad ar TB gwartheg yr wythnos diwethaf, cyfeiriais at eu sylwadau hanesyddol, ond clywsom yn y cyfarfod hwnnw fod yr adroddiad ar yr hap-dreial...
Mark Isherwood: Fel y dywed NFU Cymru wrthym yn eu briff, TB buchol yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant gwartheg yng Nghymru. Maent yn ychwanegu bod methiant hanesyddol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r clefyd yn effeithiol mewn bywyd gwyllt yn golygu ei fod yn parhau i effeithio nid yn unig ar geidwaid gwartheg a’u teuluoedd ond ar y rhai ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi...
Mark Isherwood: Rwy’n credu bod 13 mlynedd wedi bod ers i mi fynychu cyfarfod Stonewall Cymru am y tro cyntaf—roeddem yn arfer ei alw’n fwlio homoffobig bryd hynny, heb y termau perthnasol ychwanegol a ddefnyddir yn awr. Rwy’n credu eich bod chi’n bresennol bryd hynny hefyd, yn ôl pob tebyg, 13 mlynedd yn ôl. Yn ddiweddar, fodd bynnag, cysylltodd rhieni dyn ifanc a oedd yn dioddef bwlio...
Mark Isherwood: Mae nifer o flynyddoedd wedi bod bellach ers i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynhyrchu datganiad yn nodi bod teithiau ysgol o fudd amlwg i ddisgyblion, ond mae’n bosibl y bydd camddealltwriaethau’n annog ysgolion ac athrawon i beidio â threfnu teithiau o’r fath, ac maent yn awyddus i wneud yn siŵr nad yw pryderon iechyd a diogelwch cyfeiliornus a di-sail yn creu...
Mark Isherwood: Sut rydych yn ymateb—efallai eich bod yn mynd i ddod at hyn, ond nid ydych wedi sôn amdano eto—i egwyddor ganolog y ddogfen ar weledigaeth ar gyfer twf i ogledd Cymru, sef y galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros rai o’r ysgogwyr ar gyfer yr economi a thwf yn fewnol i’r bwrdd?
Mark Isherwood: Yn dilyn cyhoeddi gweledigaeth ar gyfer twf gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru a’i chyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, mae’r cynnig hwn yn ddiedifar yn ymwneud â gogledd Cymru. Cefnogir y weledigaeth gan arweinwyr a phrif weithredwyr y chwe awdurdod unedol yn y rhanbarth, Clwb Busnes Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol...
Mark Isherwood: Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu metro gogledd Cymru, er bod cynigion Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn amwys ac wedi’u datgysylltu oddi wrth y dull cydweithredol a geisir yn y weledigaeth ar gyfer twf nad yw hyd yn oed yn sôn am fetro gogledd Cymru. Fel y mae’r ddogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf’ yn casglu, mae gogledd...
Mark Isherwood: Cynigiaf welliant 1, gan nodi pa mor bwysig yw cael mynediad i Farchnad Sengl yr UE i economi Cymru; gan alw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a’r UE ar ôl i’r DU adael yr UE; gan groesawu’r diddordeb mewn sefydlu cytundebau masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd; a chan alw ar Lywodraeth Cymru i weithio...
Mark Isherwood: Wrth gwrs, mae’r gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill sydd wedi'u cynnwys yn eich datganiad yn cynnwys nyrsys arbenigol sy'n gweithio yn y gymuned a'r cartref. Ym mis Tachwedd 2011, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad ar nyrsys arbenigol. Ar y pryd, er enghraifft, dim ond un nyrs arbenigol sglerosis ymledol oedd yng Nghymru. Nodais na allem fforddio ymateb yn ddifeddwl a gwneud...
Mark Isherwood: O ystyried bod lefelau cyflogau yng Nghymru yn parhau i fod yn is nag yn yr Alban ac yn Lloegr, bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd y DU, bod lefelau diweithdra ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd y DU, a bod ffyniant y pen yng Nghymru, a fesurir gan werth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir, yn parhau...
Mark Isherwood: Diolch. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn gyntaf ar gymhwyso lwfans tai lleol ar rent cymdeithasol ar gyfer darparwyr tai â chymorth? Ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Waith a Phensiynau fod Llywodraeth y DU yn gohirio cymhwysiad cyfraddau lwfans tai lleol ar rent cymdeithasol ar gyfer tai â chymorth tan 2019-20. Byddai wedyn yn cyflwyno...
Mark Isherwood: O ystyried eu bod wedi dweud eu bod yn gwneud datganiad ar hyn cyn datganiad yr hydref, onid yw’n hanfodol felly fod Cymru yn cymryd rhan mewn trafodaethau agos â hwy ynghylch hynny?