Jane Hutt: Yn wir, ac rwy’n meddwl mai dyma lle mae'n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda diwydiant o ran y cyfleoedd ar gyfer y sail sgiliau. Rydym ni’n ystyried ffyrdd y gallwn ddatblygu sgiliau a phrofiad nid yn unig ein gweithlu a'n pobl ifanc, ond hefyd, yn amlwg, drwy'r cynlluniau prentisiaeth yr ydym ni’n eu cefnogi.
Jane Hutt: Wel, rwy'n cytuno’n llwyr â'r Aelod. Os edrychwch chi ar y cyfleoedd sydd gennym ni o ran ein seilwaith, nid yn unig cyflawni ein hymrwymiad lleihau carbon, ond yr effaith budd lluosydd ar gymaint o ganlyniadau: cartrefi wedi'u hinswleiddio'n well, mynd i'r afael â thlodi tanwydd, helpu canlyniadau iechyd, addysg a llesiant, creu swyddi a gweithgarwch economaidd. Ond byddaf yn dweud ei...
Jane Hutt: A gaf i ei gwneud yn eglur ein bod ni’n gwneud mwy na Llywodraeth y DU? Os edrychwch chi ar y cyllid ar gyfer y mesurau rhyddhad ardrethi a gyhoeddodd y Canghellor yr wythnos diwethaf, byddai'n dod i ychydig dros £12 miliwn. Pe byddem ni wedi dibynnu ar hynny, byddai wedi golygu £8 miliwn yn llai o gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghymru. Mae gennym ni ddau gynllun pwrpasol wedi’u...
Jane Hutt: Mae buddsoddi mewn tai, gan gynnwys eu heffeithlonrwydd ynni, eisoes yn flaenoriaeth buddsoddi yn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Mae ein gweledigaeth hirdymor a'r camau yr ydym ni’n eu cymryd yn y maes pwysig hwn wedi eu nodi yn y strategaeth effeithlonrwydd ynni, a gyhoeddwyd y llynedd.
Jane Hutt: Yn amlwg, mae hwn yn fater lle’r ydym ni wedi gweithio dros gyfnod o amser, fel Llywodraeth sy’n sicr o blaid busnes, i gymryd camau i helpu busnesau newydd a phresennol, ac yn wir i edrych ar yr effaith nid yn unig o ran ailbrisio, ond ein cynllun cymorth busnes. Rydym ni’n ystyried cynllun parhaol newydd o ran rhyddhad ardrethi busnes bach o 2018, ac mae'n bwysig targedu cymorth mewn...
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, mae’r ystadegau a gyhoeddwyd gan yr awdurdod prisio yn dangos y bydd cyfanswm y gwerth ardrethol yn gostwng yn holl awdurdodau’r Cymoedd. Mae hynny'n golygu y bydd y rhan fwyaf o dalwyr ardrethi yn yr ardaloedd hyn yn elwa ar ostyngiad i’w biliau, ac rydym wedi cymryd camau i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwnnw i fusnesau drwy ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i...
Jane Hutt: Bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol o £10 miliwn yn cynorthwyo busnesau y byddai eu hawl i ryddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei effeithio'n andwyol gan ailbrisio. Mae ein rhyddhad ardrethi stryd fawr o £10 miliwn yn targedu busnesau yn eich etholaeth chi yn benodol. Rwy'n gwybod y ceir talwyr ardrethi stryd fawr, gan gynnwys siopau, tafarndai a chaffis, ac, wrth gwrs,...
Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £20 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnesau sy’n cael eu heffeithio gan yr ailbrisio ardrethi—£10 miliwn trwy ein cynllun rhyddhad trosiannol a £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi stryd fawr. Mae hyn yn ychwanegol at ein rhyddhad ardrethi o £100 miliwn i fusnesau bach. Rydym wedi gweithredu i roi sicrwydd a diogelwch i drethdalwyr yng Nghymru...
Jane Hutt: Rwyf yn diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn pwysig hwnnw. Tribiwnlys annibynnol yw Panel Dyfarnu Cymru. Ei swyddogaeth yw dyfarnu ar dor-cyfraith honedig gan aelodau etholedig a chyfetholedig o gynghorau sirol, bwrdeistref sirol a chymuned Cymru, awdurdodau tân a pharciau cenedlaethol, yn ôl cod ymddygiad statudol eu hawdurdod. Mae aelodau'r tribiwnlys yn cael eu penodi gan Weinidogion...
Jane Hutt: Wel, rwyf weithiau yn amau o ble tybed y mae Mohammad Asghar yn credu ein bod ni'n mynd i ddod o hyd i'r cyllid, gyda thoriad o £1.8 biliwn a rhagor o gyni i ddod. Ond rwy'n credu bod angen inni edrych ar y cwestiwn difrifol hwn, y cwestiwn pwysig hwn, yn ofalus. Roeddem yn ymwybodol o benderfyniad Gyrfa Cymru i gychwyn ymgynghoriad ar gynllun rhyddhau gwirfoddol. Ac rydym yn gobeithio’n...
Jane Hutt: Mae Julie Morgan yn codi cwestiwn hanfodol iawn sydd o bwys mawr i’w hetholwyr a phobl yr ydym yn eu cynrychioli yma yng Nghymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi, gallaf gadarnhau, siarad heddiw â'u cymheiriaid yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Maen nhw wedi cadarnhau bod Somaliland fel arfer yn cael ei thrin gan y gymuned ryngwladol yn rhan annatod o Somalia. Felly mae'r Swyddfa...
Jane Hutt: Wel, credaf, o ran eich cwestiwn cyntaf, o safbwynt Llywodraeth Cymru, byddwn ond yn rhy falch i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, gan ystyried ein bod ni yn Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu 100,000 o brentisiaethau, hyd yn oed ar yr adeg anodd hon. Mae hyn yn ymwneud â dewis blaenoriaethau y gwyddom eu bod nhw yn cael y math o effaith a ddisgrifiwch mor dda, Mark...
Jane Hutt: Mae Simon Thomas yn tynnu sylw at un lleoliad arbennig o bwysig lle cafwyd y rhwystredigaethau hyn. Yn wir, tynnodd Nick Ramsay sylw yn gynharach at lawenydd pobl Tyndyrn, gan dynnu sylw at ardaloedd cyfagos. Felly, credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod problemau yn dal i fodoli ond, hyd yn hyn, mae dros 621,000 eiddo ledled Cymru yn gallu cael band eang cyflym iawn, diolch i’r rhaglen....
Jane Hutt: Rwy'n falch fod Huw Irranca-Davies wedi codi’r cwestiwn hwn. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn dymuno gweld mwy o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn gallu mwynhau'r profiad ar ac oddi ar y cae, ac mae’n condemnio unrhyw drais yn ystod gemau a thu allan iddyn nhw, fel y gwnaethoch chi ddisgrifio. Byddwn yn ymgynghori â chydweithwyr yn y Llywodraeth am y cyfleoedd sydd gennym i...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Suzy Davies. Yn wir, rwyf wedi ymwneud llawer ag effaith a chanlyniad pedwerydd tân ar stad ddiwydiannol Llandŵ, a ddigwyddodd nos Iau—ymwelais ar fore Gwener a ddoe eto, hefyd, gan gwrdd â Chyfoeth Naturiol Cymru, a gyhoeddodd orchymyn atal dros dro wedyn, gan weithio gyda busnesau lleol fel maes carafannau Llandŵ ac, yn wir, y gymdogaeth yno. Bydd y rhai sy'n...
Jane Hutt: Wel, diolch, Steffan Lewis, am y cwestiwn hwn. Rwyf yn credu bod cwestiynau am hyn wedi'u codi gydag Ysgrifennydd y Cabinet sawl tro o'r llawr. Yn sicr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth gynnal ein busnes. Felly, diolch ichi am y cwestiwn heddiw.
Jane Hutt: Mae'r rhain yn hanfodol o ran y cyfleoedd y mae dinas-ranbarth Abertawe yn eu cyflwyno, yn enwedig o ran cyfleoedd y fargen ddinesig hefyd. Bu i ni gyhoeddi, fel y gŵyr Mike Hedges, bron £29 miliwn ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru, er mwyn gwella diogelwch a helpu i ysgogi twf economaidd a hyrwyddo teithio llesol. Mae'r dinas-ranbarthau wedi gallu dylanwadu ar brosesau...
Jane Hutt: Diolch yn fawr i R.T. Davies am y cwestiynau hynny—cwestiynau etholaethol i raddau helaeth yr wyf yn ymdrin â nhw fel Aelod Cynulliad Bro Morgannwg. Ond rwy'n credu, o ran y cwestiwn cyntaf, sydd mewn dwy ran, rwyf yn deall—ac rwyf wedi bod gwneud llawer, yn wir, i annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori â phob un o'r cynghorau tref a chymuned yr effeithir arnyn nhw o ran y cynnig ar...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Llŷr Gruffydd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael tystiolaeth i gadarnhau'r pryderon hyn sydd wrth wraidd y cwestiwn hwn heddiw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf i, o ran seicoleg, bydd yn peidio â bod yn y Gymraeg a'r Saesneg yn 2018—Cymraeg a Saesneg—felly mae’n amlwg fod hynny yn rhan fawr o’r penderfyniad hwnnw, a hefyd, bod y llyfr bioleg TGAU ar gael fis Hydref y...
Jane Hutt: Diolch, Lywydd. Nid oes newidiadau gennyf i'w hadrodd ar fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad busnes a’r cyhoeddiad ym mhapurau’r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau ar ffurf electronig.