Darren Millar: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gynnydd rydych wedi’i wneud mewn perthynas â gweithredu eich blaenoriaeth o leihau maint dosbarthiadau babanod i uchafswm o 25 yng Nghymru?
Darren Millar: Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Hoffwn hefyd gofnodi diolch grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i'r Athro Diamond, ac yn wir i holl aelodau'r panel, yn enwedig ein henwebai, yr Athro David Warner, am ei gyfraniad at y gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud. Rydym ni’n sicr yn croesawu'r cyhoeddiad; rydym ni’n llwyr groesawu'r argymhellion a wnaed i symud oddi wrth gymorth ffioedd dysgu,...
Darren Millar: Weinidog, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd sydd ar ddod ym mis Tachwedd? Bu rhywfaint o bryder nad oes llawer o fodurwyr ledled Cymru, ac, yn wir, mewn rhannau eraill o'r DU, yn cael prawf llygaid yn ddigon aml, a bod hyn yn arwain at gynnydd i’r risg o ddamweiniau traffig. Hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y...
Darren Millar: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am y cwestiwn yna. Gwrandewais yn ofalus iawn. Un peth na wnaethoch gyfeirio ato, wrth gwrs, yw'r arloesedd mewn gofal meddyg teulu, yn enwedig yn y gogledd, o ran y gwaith sy'n mynd ymlaen ym Mhrestatyn, gydag ymagwedd tîm amlddisgyblaeth i ofal cleifion. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i werthuso pa un a yw'r model yn fodel...
Darren Millar: Mae yna beth a elwir yn ddatganoli; efallai nad ydych wedi sylwi arno. Mae gennym bolisïau gwahanol yng Nghymru i’r hyn sydd gan eich plaid yn Lloegr, am fod ein system addysg yn wahanol; mae gan Gymru anghenion gwahanol. Nawr, yr hyn a ddywedais y diwrnod o’r blaen oedd na ddylem byth ddweud ‘byth’ a chau’r drws yn llwyr ar unrhyw syniadau. Nid ydym yn barod i wneud hynny. Mae’n...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig yr holl welliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies AC. Mae’n rhaid i mi ddweud, yn anffodus, na fyddwn yn cefnogi cynnig UKIP y prynhawn yma am fod y Ceidwadwyr Cymreig, a dweud y gwir, yn cydnabod bod Cymru yn wahanol i Loegr. Rydym yn credu bod y dirwedd addysg yn wahanol, ac o ganlyniad i hynny, nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o...
Darren Millar: A hir y parhaed y sefyllfa honno—hir y parhaed y sefyllfa honno. Ond wrth gwrs, mae yna ffiniau gweinyddol, ac wrth gwrs, byddai llawer o aelodau o’ch grŵp yn hoffi i’r ffiniau hynny fod yn fwy pwysig, gawn ni ddweud, mewn termau economaidd nag y maent ar hyn o bryd. Ond mae’n bwysig ein bod yn rhoi cyfle i ogledd Cymru dyfu, ein bod yn datganoli’r pwerau, ein bod yn sicrhau bod...
Darren Millar: Rwy’n hapus i—.
Darren Millar: Wrth gwrs, mae’n bwysig fod Llywodraethau yn gweithio gyda’i gilydd, o Fae Caerdydd i San Steffan a Llundain, a llywodraeth leol a neuaddau tref, yn wir, yn gweithio gyda chi hefyd. Ond yn y pen draw, y rhanddeiliaid yng ngogledd Cymru—yr awdurdodau lleol, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y prifysgolion, y sector addysg bellach, y trydydd sector a phawb o gwmpas y bwrdd—sydd...
Darren Millar: Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Rwy’n falch iawn o glywed rhai o’r cyhoeddiadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma o ran ychydig mwy o wybodaeth am rai o’r gwelliannau arfaethedig i’r A55, ac yn wir, y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â ble mae pethau arni gyda’r metro. Rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth, wrth...
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am fy niddordeb brwd mewn diwygio ariannol, ar ôl mynychu’r grŵp trawsbleidiol ar ddiwygio ariannol yn y Cynulliad blaenorol. Roeddwn yn falch iawn o weld eich bod wedi bachu ar syniad y Ceidwadwyr Cymreig o sefydlu banc datblygu yma yng Nghymru, yn y cyhoeddiad a wnaed ddoe. Mae’n rhywbeth rwyf wedi dadlau drosto ers amser, ac rwy’n falch...
Darren Millar: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrannwyd i’r portffolio economi a’r seilwaith mewn perthynas â chymorth busnes ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf? OAQ(5)0024(FLG)
Darren Millar: Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Rydych chi wedi ymateb i nifer o gwestiynau y mae Llyr Gruffydd eisoes wedi’u gofyn ynglŷn â’r amserlen. Ond, a gaf i ofyn hyn i chi? Un o'r pethau y gwnaethoch chi sôn amdanynt yn y datganiad oedd pwysigrwydd llwybrau gwahanol i addysgu. Rwyf i wedi clywed yr hyn yr ydych chi newydd ei glywed wrth ateb Llyr Gruffydd ynglŷn â’r cyfleoedd y...
Darren Millar: Brif Weinidog, roeddwn yn falch iawn o weld y cyfeiriad at yr A55 a'r gwelliannau y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’w gwneud i'r A55 yn eich rhaglen lywodraethu, ond nid oes llawer iawn o fanylder o ran beth y gall y gwelliannau hynny fod neu beth na allent fod. Byddwch chi’n ymwybodol ein bod ni wedi cael problemau yn ymwneud â thagfeydd ar rai rhannau o'r A55. Rydym wedi cael...
Darren Millar: Brif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cyfeillion Llyfrgell Gymunedol Bae Cinmel, a sefydlodd elusen er mwyn cymryd gweithrediad y llyfrgell ym Mae Cinmel drosodd ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fygwth ei chau? A ydych chi’n derbyn bod her i awdurdodau lleol gwledig yn arbennig o ran gallu cynnig mynediad digonol at wasanaethau llyfrgell dim ond oherwydd y gost...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. Rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy nghalonogi’n fawr o glywed ymateb y Gweinidog i’r cynnig rydym wedi ei gyflwyno heddiw. Rwy’n credu ei bod yn dda fod Llywodraeth Cymru o leiaf yn cydnabod yn awr fod cynlluniau’r gweithlu yn y gorffennol, a’r ffordd yr aethpwyd ati i gynllunio’r gweithlu, wedi bod yn annigonol a bod angen ymgysylltu’n ehangach â’r...
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn rhannu fy mhryder wrth ddarllen canfyddiadau ‘The Good Childhood Report’ Cymdeithas y Plant, a ddywed fod un o bob saith o ferched yng Nghymru yn anhapus gyda’u bywydau ac un o bob naw o fechgyn yn anhapus gyda’u bywydau hefyd? Pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthdroi’r duedd hon, sy’n ymddangos fel pe bai’n...
Darren Millar: Weinidog, yng ngogledd Cymru, yn wir, y gwelwyd un o lwyddiannau dull y weinyddiaeth flaenorol o adfywio, ym Mae Colwyn, lle rydym wedi gweld adfywiad y dref honno. Ond wrth gwrs, mae llawer o drefi glan môr eraill o gwmpas Cymru a allai elwa o ddull adfywio strategol. A wnewch chi ystyried ein cynnig polisi yn etholiadau diweddar y Cynulliad ar gyfer menter trefi glan môr ledled Cymru, fel...
Darren Millar: Weinidog, rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn rhoi sylw i’r maes pwysig hwn, ond pa waith rydych chi’n ei wneud yn benodol, neu y mae eich swyddogion yn ei wneud, i ymgysylltu â’r sectorau addysg—nid addysg uwch yn unig, ond y sector addysg bellach hefyd—i wneud y gorau o’r manteision posibl y gall amaethyddiaeth fanwl eu cynnig i faint y cynnyrch, yn enwedig o ran cnydau, ar...
Darren Millar: Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda—un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â chydnabod cymhwyster bagloriaeth Cymru gan brifysgolion ledled y DU? Rwyf wedi cael nifer o achosion yn fy etholaeth eleni o rai prifysgolion, a hyd yn oed adrannau mewn prifysgolion, yn gwrthod y fagloriaeth fel cymhwyster sy'n dderbyniol iddyn nhw er mwyn caniatáu i...