Jane Hutt: [Yn parhau.]—wedi gostwng 1.4 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf a byddwn yn dweud y dylai Cymru fod yn haeddiannol falch o’i lle yn y byd. Mae rhai o’n llwyddiannau mwyaf sylweddol yn canolbwyntio ar gymdeithas gyfartal. O gyfreithiau Hywel Dda at weledigaeth Aneurin Bevan, mae ein system addysg yn seiliedig ar yr un egwyddorion—system gynhwysfawr dda i bawb, waeth beth fo’u cefndir....
Jane Hutt: Wel, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn ar gyfer dadl yn y Siambr heddiw a dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi cyfle i ni siarad am ein perfformiad ar draws tri maes allweddol yr economi, addysg ac iechyd, a chroesawaf y cyfle hwnnw. Rwyf hefyd yn credu ei fod yn addas. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei sylwadau agoriadol,...
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gwybod bod angen i ni edrych arno—sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni o ganlyniad i’r newid hwn yn y gwasanaeth. Mae angen i ni weld sut y mae'n cael ei gyflawni ledled Cymru. Rydych chi wedi rhoi rhywfaint o dystiolaeth heddiw, ond rwy’n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi diweddariad ac ymateb, yn enwedig os oes gennych enghreifftiau ar...
Jane Hutt: Rwy’n sicr yn croesawu gweithred Cyngor Castell-nedd Port Talbot o gyflwyno'r siarter staff â salwch angheuol hon i’w weithwyr. Yn amlwg, gan ddysgu o hynny, byddem yn dymuno gweld hyn yn cael ei rannu a byddem yn annog sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddilyn esiampl Castell-nedd Port Talbot. Ond rydym ni hefyd, fel Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd yn archwilio sut y...
Jane Hutt: Diolchaf i Leanne Wood am y cwestiwn yna, ac fel y bydd hi'n ymwybodol—ac rwy'n gwybod ei bod hi hefyd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog—mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad yn gofyn am ystyriaeth frys a sylwadau ar y mater hwn, yn gofyn iddo fynd i’r afael â’r mater yn uniongyrchol gyda’r awdurdodau priodol yn yr Unol...
Jane Hutt: Diolch, Lywydd. Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd y datganiad ar y gwerthusiad annibynnol o fodel ymateb clinigol y gwasanaethau ambiwlans brys yn digwydd yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn ac, yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad am ddyfodol gwasanaethau bws lleol. Mae'r busnes ar gyfer y...
Jane Hutt: Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei harweinyddiaeth o ran rhoi sylw i hyn ac, yn wir, rwy’n diolch hefyd i Jenny Rathbone, a gadeiriodd digwyddiad diweddar yr aeth nifer o’r Aelodau yma heddiw iddo, ac roedd BAWSO yn rhan o hynny. Mae'n hanfodol ein bod ni’n galluogi ac yn cefnogi ein grŵp arweinyddiaeth trais ar sail anrhydedd Cymru gyfan. Diben hwnnw yw casglu data a sicrhau bod...
Jane Hutt: Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n casglu’r wybodaeth hon ac rydym ni’n deall, na chyflwynwyd unrhyw orchmynion amddiffyn yng Nghymru hyd at fis Medi 2016. Nid yw Llywodraeth Cymru yn goddef unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, ac, ynghyd â'n partneriaid, rydym ni’n gweithio'n galed i fynd i'r afael â’r drosedd erchyll hon.
Jane Hutt: Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, wrth gwrs, yn nodi buddsoddiad ar gyfer gwasanaethau seilwaith trafnidiaeth ar draws pob rhan o Gymru. Mae’n rhaid iddo gynnig atebion cynhwysfawr ar gyfer anghenion trafnidiaeth lleol a chymunedau cyswllt, ond, fel y mae’r Aelod, David Rees, yn ei ddweud, mae'n ymwneud â gwella trafnidiaeth gyhoeddus...
Jane Hutt: Byddwn yn bwrw ymlaen â dull traws-Lywodraeth, Cymru gyfan yn canolbwyntio ar helpu pobl i gael swyddi da, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, a sicrhau bod pobl leol yn cymryd rhan yn y broses o gynllunio gwasanaethau lleol.
Jane Hutt: Rwy’n credu, er bod teithio rhatach yn bwysig iawn, yn enwedig lle mae gwasanaethau bws yn gyfyngedig, wrth gwrs mae'n—. Gall tocynnau teithio rhatach gael eu defnyddio ar reilffyrdd penodol; mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau hynny. Mae teithio rhatach ar y trên ar gael ar rai llwybrau, y byddwch yn ymwybodol ohonynt, yn enwedig yn Wrecsam, Llandudno, Blaenau Ffestiniog, Abertawe a...
Jane Hutt: Rwy’n credu, o ran yr ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud i docynnau bws rhatach dros y blynyddoedd, y byddai’r ffaith ein bod ni'n amcangyfrif y bydd awdurdodau lleol yn ad-dalu rhwng £65 miliwn a £70 miliwn i weithredwyr bysiau yn 2016-17, gan gynnwys £10 miliwn o'u cyllidebau eu hunain ar gyfer cludo deiliaid pasys hŷn ac anabl—. Rydym ni’n parhau, wrth gwrs, gyda'n cynllun ar...
Jane Hutt: Wel, fel y dywedwch chi, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig ar 21 Chwefror. Amlinellodd ei gynlluniau ar gyfer dyfodol teithio ar fysiau am bris gostyngol i bobl ifanc. Rydym ni wedi cytuno ag awdurdodau lleol a'r diwydiant bysiau y bydd y trefniadau teithio gostyngol presennol yn parhau, fel y dywedais wrth ateb eich cwestiwn...
Jane Hutt: Wel, ni wnaeth yr adroddiad, yr adroddiad annibynnol, argymell cael gwared ar y gyfradd comisiwn mewn gwirionedd, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn amlwg yn ystyried argymhellion yr adroddiad; nid yw wedi ei rwymo ganddynt. Mae'n ystyried amrywiaeth o opsiynau o ran a ellir cyfiawnhau gweithredu pellach.
Jane Hutt: Mae ein cynllun teithio rhatach ar fysiau yn hynod boblogaidd, ac mae tua 760,000 o ddeiliaid pas hŷn neu anabl yn byw yng Nghymru, ac rydym ni hefyd yn parhau i gefnogi’r trefniadau teithio ar y bws am bris gostyngol presennol ar gyfer pobl 16, 17 ac 18 mlwydd oed ledled Cymru wrth i ni gynllunio gwahanol gynllun dros y misoedd nesaf.
Jane Hutt: Wel, mae David Melding yn cynnig safbwynt cytbwys ar y perchnogion safle a’r rheini, wrth gwrs, sy'n prynu’r cartrefi hynny sydd ar y safleoedd cartrefi mewn parciau. Rwy’n ymwybodol bod llawer o bryder wedi’i godi; mae deiseb wedi’i chyflwynwyd hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ailadrodd unwaith eto ein bod ni wedi gwneud mwy i ddiogelu preswylwyr cartrefi, sy'n hanfodol,...
Jane Hutt: Rwy’n sylweddoli nad oedd Neil Hamilton yma yn ystod y sesiwn pan wnaethom gefnogi, pan gefnogodd Llywodraeth Cymru, y ddeddfwriaeth cartrefi symudol a gyflwynwyd gan Peter Black. Daeth wedyn yn Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, yr ydych chi’n cyfeirio ati. Mae angen i mi atgoffa'r Aelod fod y ddeddfwriaeth hon yn atgyfnerthu deddfwriaeth flaenorol yn ymwneud â chartrefi symudol parc...
Jane Hutt: Chwaraeodd Llywodraeth Cymru ran weithredol o ran cefnogi Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, a gyflwynodd fesurau diogelu pwysig i drigolion cartrefi mewn parciau.
Jane Hutt: Mae’r ffaith bod gennym ni grŵp trawsbleidiol i’w chroesawu’n fawr, ac rydych chi Rhun ap Iorwerth yn cadeirio hwnnw gan sicrhau’r consensws sydd ei angen arnom ni yma yn y Siambr hon i gefnogi ein Prif Weinidog, sydd yn yr Unol Daleithiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo Cymru o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi erioed, ac mae hynny’n bwyslais allweddol i'r ymweliadau hyn, a hefyd yn wir...