Adam Price: Un o'r pethau mwyaf cyffrous am y cynlluniau diwygio yw'r addewid i ddeddfu i warantu cynrychiolaeth gyfartal o ddynion a merched wrth galon ein prif gorff democrataidd. Tra bod cwotâu rhywedd statudol yn ganolog i'r prif gynigion rŷn ni wedi'u cyhoeddi heddiw, ac yn gwbl hanfodol i wireddu'r nod hynny, ac yn gweithio er lles pawb yng Nghymru, ydy'r Prif Weinidog yn gytûn y dylid manteisio...
Adam Price: Un o'r ffyrdd o gadarnhau eich bod chi'n iawn, wrth gwrs, yw gwybod bod y Blaid Geidwadol yn anghytuno â chi, oherwydd maen nhw wedi bod ar ochr anghywir hanes ar bron bob cwestiwn pwysig mewn 300 mlynedd o gynnydd dynol.
Adam Price: Wrth gwrs, mae'r Blaid Geidwadol, yn ôl y disgwyl unwaith eto, yn dweud nad yw pobl Cymru eisiau mwy o wleidyddion. Maen nhw bron yn iawn, wrth gwrs, oherwydd yr hyn nad yw pobl Cymru ei eisiau yw mwy o wleidyddion Torïaidd, fel y gwelsom ni'n cael ei ddangos yn eglur ddydd Iau. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog—[Torri ar draws]. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog—[Torri ar...
Adam Price: Prif Weinidog, efallai y byddai rhai yn meddwl ei fod yn ddewis rhyfedd i ni ddewis cyhoeddi telerau ein cytundeb ar gryfhau democratiaeth Cymru ar yr un diwrnod ag agoriad swyddogol y Senedd arall honno ar lannau afon Tafwys. Rwy'n credu ei fod yn serendipaidd, oherwydd mae'n caniatáu i ni nodi gwrthgyferbyniad, onid yw, gyda'r system sigledig honno yn San Steffan, gyda'r holl bomp a...
Adam Price: Rydych chi'n cyfeirio at y dadansoddiad cynhwysfawr a'r dystiolaeth a aeth i mewn i'r un cwestiwn hwn o ran Lloegr; a allwch chi addo y bydd y teuluoedd hynny sydd wedi dioddef profedigaeth yn cael yr un lefel o ddadansoddiad fforensig a chynhwysfawr ag y mae'r teuluoedd yn Lloegr wedi ei chael drwy'r Uchel Lys o ran y cwestiwn penodol hwn? A fydd cylch gorchwyl ymchwiliad y DU yn cynnwys...
Adam Price: Wel, gall yr Uchel Lys ein helpu ni yn y ffordd honno, oni all? Gan ei fod mewn gwirionedd yn ymchwilio i'r union gwestiwn yr ydych chi newydd ei godi, Prif Weinidog. Dyma mae'n ei ddweud: 'nid oedd unrhyw brawf gwyddonol yng nghanol mis Mawrth 2020 bod trosglwyddiad asymptomatig yn digwydd, ond cydnabuwyd yn eang gan yr arbenigwyr fod trosglwyddiad o'r fath yn bosibl.' 'Roedd ymrwymiad ar...
Adam Price: Fe wnaeth yr Uchel Lys, yn ei benderfyniad, y pwynt cyffredinol, onid wnaeth? Daeth i'r casgliad cyffredinol, o gofio'r ddealltwriaeth gynyddol bod trosglwyddo asymptomatig yn bosibilrwydd gwirioneddol, y dylid bod wedi newid y dull o ryddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal ac, yn benodol, y dylai cleifion asymptomatig fod wedi eu cadw ar wahân i breswylwyr eraill am 14 diwrnod. Y cyngor...
Adam Price: Byddai'r holl elusennau canser yng Nghymru yn cytuno â chi ein bod ni angen pwyslais brys newydd ar ddiagnosis a chanfod cynnar, ond maen nhw'n dweud bod angen gwneud hynny yn ganolog i strategaeth ganser gynhwysfawr newydd i Gymru, yn unol ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd. Nawr, fe'ch clywais chi'n dweud o'r blaen bod y gwahanol ddogfennau presennol sy'n bodoli, ac fe allech chi...
Adam Price: Dyna'r rheswm, wrth gwrs, pam rydym ni yng Nghymru, yn fwy nag unrhyw wlad arall hyd yn oed, angen pwyslais yn ein strategaeth canser ar ddiagnosis cynnar. Y mis hwn, canfu astudiaeth arloesol yn The Lancet y sicrhawyd diagnosis o dros 30 y cant o ganserau yng Nghymru o ganlyniad i fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Cymru oedd â'r trydydd ffigur uchaf ymhlith y 14 gwlad a rhanbarth...
Adam Price: Diolch yn fawr. Bu gan Gymru gyfraddau goroesi canser gwael yn gyson o'i chymharu â gwledydd datblygedig eraill tebyg. Pam mae hynny?
Adam Price: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r hyn rŷch chi wedi ei ddweud, eich bod chi yn mynd i roi ystyriaeth i'r syniad yma o niwrolegydd arweiniol. Fel rhan o'r ystyriaeth hynny, ac fel roedd Peter Fox wedi gofyn, a fuasech chi'n fodlon cwrdd â'r rhwydwaith ymchwil MND i glywed y dadleuon a'r manteision fyddai'n deillio o hynny yn uniongyrchol? Rwy'n sicr y byddai e'n cael...
Adam Price: Ers hynny, mae Bob wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o’r prawf SMART yng Nghymru, a thra bod hyn yn ddatblygiad positif, rwyf ar ddeall fod Bob dal heb gael ei weld gan arbenigwr fel rhan o’r broses hynny, a hyn nawr tua 18 mis—blwyddyn a hanner—ers iddo dderbyn ei ddiagnosis. Cyfeiriaf yn ôl at yr ystadegau a ddyfynnais i ar ddechrau'r ddadl yma, sy’n amlygu’r ffaith fod...
Adam Price: Yn ôl y data, mae'r risg o berson yn datblygu MND o gwmpas un mewn 300. Yng Nghymru, ar unrhyw un adeg, mae tua 200 o bobl yn byw gydag MND. Mae'r rhif yma yn is na'r disgwyl, efallai, o ganlyniad i allu'r clefyd i ddatblygu'n hynod o gyflym. I draean o'r bobl sy'n derbyn diagnosis o MND, mae hyn yn golygu y byddant, mae'n drist i nodi, yn marw o fewn blwyddyn o'r diagnosis hwnnw. Mae dros...
Adam Price: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gennyf fy mod yn gallu cynnal y ddadl yma heno, er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran clefyd niwronau motor, a'r mynediad at driniaeth a chyfleusterau sydd ar gael yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n bleser gyda fi gadarnhau fy mod i wedi cytuno i roi un munud o fy amser i Peter Fox, sydd wedi arwain cymaint ar y mater yma. Mae...
Adam Price: Ac roedd Jim Griffiths, o bentref genedigol fy mam, Betws, hefyd yn gefnogwr brwd o reolaeth gartref i Gymru drwy gydol ei fywyd gwleidyddol. Gall Llywodraeth Cymru hefyd fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r argyfwng costau byw ei hun, wrth gwrs, ar gyfer gweithwyr ar gyflogau is yn y sector cyhoeddus. Ar hyn o bryd dim ond am 39 i 43 wythnos o'r flwyddyn y mae cynorthwywyr addysgu yn cael...
Adam Price: Mae'r Dirprwy Lywydd wedi fy hysbysu yn ddibynadwy mai ar ben Llundain yr oedd y broblem yn awr, ac onid dyna'r pwynt? Nid yw'n ddigon da dweud, 'O, bydd popeth yn iawn pan fydd Llywodraeth Lafur', pan nad yw Cymru erioed, ers y Ddeddf Ddiwygio, erioed wedi ethol mwyafrif o ASau Torïaidd, ac eto bu gennym ni Lywodraethau Torïaidd am fwy na dwy ran o dair o'r amser. Mae Sefydliad Bevan wedi...
Adam Price: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn 2016, cafodd yr Alban reolaeth dros 11 o fudd-daliadau lles a'r gallu i greu rhai newydd. Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru adroddiad yn 2019 a oedd yn nodi y gallai rhoi'r un pwerau dros fudd-daliadau i Gymru ag sydd gan yr Alban roi hwb o £200 miliwn y flwyddyn i gyllideb Cymru. Nawr, roedd datganiad y gwanwyn yr wythnos diwethaf, fel y gwnaethoch...
Adam Price: Rŷn ni i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r pwysau anhygoel sydd ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, ond mae’n fy nharo i fod sefyllfa a oedd eisoes yn wael cyn y pandemig erbyn hyn wedi troi'n argyfyngus. Dwi wedi cael achosion yn ddiweddar o un etholwr yn gorfod aros mewn ambiwlans am 10 awr y tu fas i Glangwili, teulu arall, o Frynaman, yn gorfod aros saith awr i'w plentyn nhw weld...
Adam Price: Fe glywon ni yn gynharach, wrth gwrs, yng nghwestiwn Sioned Williams, y cyfeiriad at adroddiad yr FSB, sy'n dangos sefyllfa heriol iawn ar gyfer siopau yn ein canol trefi, ac roedd 67 y cant o'r cyhoedd a oedd wedi cael eu cwestiynu yn disgrifio eu canol trefi nhw yn llwm neu yn wael o gymharu â dim ond 3 y cant yn sôn am ganol trefi ffyniannus. Ydy'r Gweinidog, yn y cyd-destun heriol...
Adam Price: 9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adferiad busnesau canol trefi yn sir Gaerfyrddin? OQ57828