Canlyniadau 161–180 o 9000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies OR speaker:Huw Irranca-Davies OR speaker:Huw Irranca-Davies OR speaker:Huw Irranca-Davies OR speaker:Huw Irranca-Davies OR speaker:Huw Irranca-Davies

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad yr Hydref ar y Gyllideb (15 Tach 2022)

Huw Irranca-Davies: 5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r prif flaenoriaethau i Gymru yn y datganiad yr hydref ar y gyllideb? OQ58692

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22' ( 9 Tach 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd, ac yn fy ymateb byr yma, a gaf fi ddiolch yn gyntaf oll i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad am y ffordd ddifrifol, feddylgar ac ystyriol y mae wedi ymateb i'r ddadl hon, sy'n nodweddiadol o'i ymagwedd tuag at gylch gorchwyl eang gwaith y pwyllgor hwn? Rydym yn croesawu hynny’n fawr. Ac ar y sail honno, a gaf fi droi yn gyntaf oll at y sylwadau gan aelodau...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22' ( 9 Tach 2022)

Huw Irranca-Davies: Mae'n deg dweud nad oeddem wedi disgwyl treulio cymaint o amser yn ystod blwyddyn gyntaf y chweched Senedd yn adrodd ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Biliau'r DU. Fe wnaethom fynegi pryder ynghylch y graddau mae Llywodraeth y DU yn ceisio deddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yn fwyaf arbennig mewn amgylchiadau lle mae'n digwydd gyda chefnogaeth...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22' ( 9 Tach 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pleser yw siarad prynhawn yma a thynnu sylw'r Senedd at waith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystod blwyddyn lawn gyntaf y chweched Senedd. Cyn dechrau, hoffwn gofnodi ein diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei barodrwydd i ymddangos ac ateb ein cwestiynau yn rheolaidd.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22' ( 9 Tach 2022)

Huw Irranca-Davies: Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae ein cylch gwaith yn eithaf sylweddol, ac mae ein cyfrifoldebau craffu bron bob amser yn amodol ar amserlenni a therfynau amser a osodir naill ai gan y Rheolau Sefydlog neu'r Pwyllgor Busnes. Ac mae craffu ar is-ddeddfwriaeth yn rhan o'n gwaith bara menyn. Yn y flwyddyn gyntaf, yn wir, fe wnaethom ystyried mwy na 250 darn o is-ddeddfwriaeth a wnaed gan...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Setliad Datganoli ( 9 Tach 2022)

Huw Irranca-Davies: Mae'r Cwnsler Cyffredinol, Luke Fletcher AS a minnau newydd ddychwelyd o fynychu ail gyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE yn Llundain. Da o beth oedd mynychu hwnnw; mae Alun Davies a chyd-Aelodau—Sam—wedi mynychu o'r blaen, ac mae'n gorff sy'n tyfu, ac mae'n tyfu'n fwy cyhyrog hefyd. Ond un o'r themâu o fewn hynny yw'r angen am ymgysylltiad rheolaidd—beth bynnag yw'r...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Setliad Datganoli ( 9 Tach 2022)

Huw Irranca-Davies: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynglŷn ag effaith y newidiadau diweddar yn Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli? OQ58678

6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod — Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) (26 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch i Sam am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Mae'n hen bryd ein bod yn gwyntyllu manteision addysg a gweithgarwch awyr agored yn y Senedd. Daw'n amserol iawn yn sgil y cwricwlwm newydd, sydd wedi'i lunio gan sylweddoliad pellach o fanteision eang dysgu yn yr awyr agored. Yn wir, mae canllawiau cwricwlwm Llywodraeth Cymru yn nodi y gall dysgu yn yr awyr agored arwain at lefelau uchel...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Awdurdodau Lleol (26 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: Yn y pythefnos diwethaf, roedd Tom Giffard a minnau mewn sesiwn friffio gydag arweinwyr llywodraeth leol o’n hardal ni, ond hefyd ar lefel genedlaethol yng Nghymru, yn cael asesiad eithaf di-flewyn ar dafod am gyflwr difrifol cyllid awdurdodau lleol. Ac wrth gwrs, gwyddom hefyd fod hyn yn wir ar draws y sector gwirfoddol a'r trydydd sector hefyd, ar adeg pan nad yw'r angen am y gwasanaethau...

5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol (25 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: Yn wyneb graddfa anhygoel yr argyfwng newid hinsawdd sy'n ein hwynebu a'r angen i gyrraedd sero net, mae hwn yn ddatganiad i'w groesawu heddiw ac yn enwedig y cynigion ynghylch datblygwr gwladol Cymreig. Yr hyn yr hoffwn i ei ofyn i chi, Gweinidog, yw: fe wyddoch chi ar garreg fy nrws—dydw i ddim yn gofyn i chi wneud sylw ar y cais unigol, peidiwch â phoeni, ac ni fydd yn dod atoch chi...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch. Yn wir, fe fyddaf i'n gryno. Gweinidog, diolch am y datganiad a hefyd am ddod i lansiad adroddiad y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol amser cinio, 'Owning the workplace, securing the future', ynglŷn â sut yr ydym ni'n cynyddu cyfradd perchnogaeth gan y gweithwyr mewn busnesau yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwneud yn dda eisoes, rydym ni'n ystyried sut y gallwn ni fynd ymhellach....

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (25 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n gofyn am un datganiad yn unig fel cyfrwng ar gyfer yr wybodaeth diweddaraf. Roedd gwir deimlad o optimistiaeth flwyddyn yn ôl, pan gamodd Llywodraeth Cymru i'r adwy o ran materion rhaglen arbed ynni cymunedol Caerau Arbed, gyda dros 100 o ddeiliaid tai—nid pob un drwy gynllun Cymru, mewn gwirionedd, y mwyafrif drwy raglen CESP Lloegr—wedi'u heffeithio'n ddwfn, a'u cartrefi a'u...

7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat (12 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ildio?

7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat (12 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch. A fyddech chi felly'n ymateb i sylwadau Crisis ar ffyrdd gwell o ymdrin â'r union fater yr ydych chi'n ei gyflwyno? Rwy'n cytuno â'ch angerdd ac rwy'n cytuno â'r ffaith bod angen inni wneud popeth a allwn. Maent wedi awgrymu ffyrdd eraill. Beth yw eich ymateb i'w mesurau amgen?

7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat (12 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ildio ar y pwynt hwnnw? 

7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat (12 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n cytuno â'r teimlad yn llwyr, ond a wnewch chi ymateb i'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud yn adroddiad Crisis UK—ac rwy'n tynnu sylw, fel yr Aelod gyferbyn, at fy nghofrestr buddiannau hefyd—lle maent yn dweud bod yr union fesurau sy'n cael eu hargymell yn creu risg sylweddol, yn eu geiriau hwy, o lif uniongyrchol o hysbysiadau ymadael a chodiadau rhent, ton o godiadau rhent a throi...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai (12 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad ac am y ddadl heddiw? Rhaid imi ddweud bod llawer o argymhellion a dadansoddiadau da o'i fewn, gan ganolbwyntio'n enwedig ar faterion rhyddhau cleifion a sut yr ymdriniwn â hynny. Rwy'n credu ei fod hefyd yn cydnabod bod hyn yn eithriadol o heriol, yn hynod gymhleth ac nad oes un newid syml a all ddatrys hyn. Mae angen inni wneud amrywiaeth o...

5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (12 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: Rwy’n rhoi cyfle i’r Gweinidog fyfyrio ar y sylwadau a wnaed yr wythnos hon gan y cyn-Weinidog amaethyddol a fu wrthi ers amser maith yn DEFRA, George Eustice, sydd wedi gwawdio'r cynigion sydd bellach yn dod gan Lywodraeth y DU, yn dilyn y gwaith a wnaed, a’r gwaith a wnaed gyda ffermwyr, ar ysgogi lefelau uwch o stiwardiaeth amgylcheddol. Dywed bellach fod y gwaith hwnnw'n cael ei...

5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (12 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad, ac i'r Gweinidog am y datganiad diweddar ar hyn hefyd? Dylwn ddatgan ar y cychwyn fy rôl fel hyrwyddwr yr eog. Ond hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, drwy gydol y degawd y bûm yn gynrychiolydd etholedig, rwyf hefyd wedi hyrwyddo anghenion a dyheadau ffermydd bach a chanolig eu maint, yn enwedig y rhai sy'n ffermio'n gynaliadwy iawn ac sy'n gryf o...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Sgiliau Bywyd Hanfodol (12 Hyd 2022)

Huw Irranca-Davies: Rhan arall o'r cwricwlwm newydd a'r sgiliau craidd yr ydym yn ceisio eu datblygu yn ein pobl ifanc yw hyder. Mae'n ymwneud â phethau cymhleth a sylfaenol iawn, ond mae a wnelo hefyd â phlant hyderus a chreadigol sy'n barod i godi eu llais a chymryd rhan. Yn aml, gallwch ddweud pan fyddwch yn cerdded i mewn i ystafell ddosbarth ac maent yn sgwrsio â'i gilydd—yn ymddwyn yn dda, ond yn...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.