Canlyniadau 161–180 o 500 ar gyfer speaker:Lord Elis-Thomas

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025 (22 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Mi ddywedwyd wrthyf i, pan oeddwn i'n holi barn pobl, fod angen inni ddangos sut y gallai twristiaeth gyfrannu at ein hamcanion ehangach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac, oherwydd hynny, rydyn ni wedi gosod yr uchelgais yna yn ganolog i'r cynllun. Rydyn ni hefyd wedi trafod hyn i gyd yn fanwl gyda'r diwydiant, gyda'r sector. O'r uwchgynhadledd dwristiaeth a gynhaliwyd ym mis Mawrth y...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025 (22 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Sail y brand newydd ydy'r pwyslais yma ar 'flynyddoedd', ond nid mater o un flwyddyn ar y tro yn unig ydy hyn erbyn hyn. Rydyn ni'n ymestyn y blynyddoedd dros ddwy flynedd, fel bod y themâu yma yn gallu cyd-weu â'i gilydd—themâu fel 'chwedlau', 'antur', 'y môr', ac i ddod yn y flwyddyn nesaf, 'Blwyddyn Awyr Agored'. Mae'r rhain yn dod â sefydliadau gwahanol ledled Cymru at ei gilydd o...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025 (22 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n arbennig o addas, yn fy marn i, fy mod i'n gwneud y datganiad yma ar yr adeg hon. Fuodd hi erioed yn fwy addas i ddathlu diwylliant, natur unigryw a hunaniaeth Cymru, ein tirwedd a'r anturiaethau rhyfeddol sydd i'w cael, nac yn wir i wahodd pobl i'r wlad yr ydym ni i gyd yn ei hystyried i fod yn arbennig o brydferth. Dwi'n falch iawn, felly, o'r hyn sydd wedi...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Y Gronfa Iach ac Egnïol (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae'r gostyngiad yn y cyllid yn ostyngiad penodol ar gynllun a oedd yn amlwg yn methu cyrraedd y poblogaethau y'i bwriadwyd ar eu cyfer. Ond yn sicr, ein bwriad yw sicrhau bod pobl iau yn elwa o'r fenter hon. Yr allwedd, i ni, yw gweithio gyda'r canolfannau hamdden eu hunain a chyda'r awdurdodau lleol, a dyna yw bwriad Chwaraeon Cymru. Mae ein Cronfa Iach ac Egnïol yn parhau i fod yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Y Gronfa Iach ac Egnïol (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae'r Gronfa Iach ac Egnïol yn cael ei darparu drwy bartneriaeth rhwng y Llywodraeth, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda Chwaraeon Cymru yn chwarae'r rhan arweiniol yn y gwaith o weinyddu'r gronfa. Canlyniad hynny yw y bydd pob partner yn rhan o'r gwaith o fonitro'r prosiect a goruchwylio'r gronfa.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Rwy'n ddiolchgar eich bod yn gwerthfawrogi'r hyn y buom yn ceisio ei wneud. Mae'n sefyllfa anodd iawn yma, Ddirprwy Gadeirydd: a ddylwn edrych ar yr Aelod ac ymateb iddi hi, neu a ddylwn edrych arnoch chi? Nid wyf am fynd yn groes i'r drefn. [Chwerthin.] Fel y dywedoch chi, mae'r buddsoddiad rydym eisoes wedi'i wneud yn arwydd o'n cefnogaeth i weithgareddau ym Merthyr Tudful. Rwyf wedi ymweld...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae gweddnewidiad Merthyr Tudful a Rhymni dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn ardal sy'n cynnig profiad cyfoethog o'r radd flaenaf i ymwelwyr wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi wrth ddatblygu treftadaeth ddiwydiannol ledled Cymru. Yn ychwanegol at hynny, mae'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn prosiectau cyffrous, Rock UK a BikePark Wales, yn pwysleisio pwysigrwydd...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Treftadaeth Ddiwydiannol yng Nghaerffili (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn am hynny, David. Rwyf wedi treulio peth amser yn ymweld, yn benodol, â'r amgueddfeydd lleol, a'r hyn rwy'n annog cymdeithasau a grwpiau gwirfoddol sy'n poeni naill ai am y dreftadaeth adeiledig neu unrhyw agwedd arall ar yr amgylchedd neu ein cof diwydiannol i'w wneud yw gweithio'n agos gyda'n hamgueddfeydd lleol a hefyd gyda'r amgueddfa genedlaethol ei hun, oherwydd yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Treftadaeth Ddiwydiannol yng Nghaerffili (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, fe fyddwch yn gwybod, Hefin, fod caniatâd eisoes wedi'i roi ar gyfer defnydd preswyl ar y safle hwnnw. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r datblygwr preifat yn cael trafodaethau parhaus am ddyfodol y safle. Fodd bynnag, mae’r Gweinidog perthnasol, sy'n eistedd wrth fy ymyl, wedi clywed yr hyn sydd newydd gael ei ddweud. Mae parc rhanbarthol y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Treftadaeth Ddiwydiannol yng Nghaerffili (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn. Mae gan Gaerffili dreftadaeth ddiwydiannol bwysig iawn—yn wir, treftadaeth adeiledig bwysig iawn yn gyffredinol. Ac i mi, mae'r strwythurau a'r safleoedd diwydiannol—dros 40 ohonynt—yn yr awdurdod sydd wedi'u dynodi'n adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn dangos bod y gorffennol diwydiannol yn cynnig ffordd o ddeall o ble y daethom fel pobl. Ac mae'n rhaid...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Islwyn fel Cyrchfan i Dwristiaid (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Wrth gwrs, rwy'n llwyr gefnogi unrhyw weithgarwch gwirfoddol sy'n digwydd i gefnogi amgylchedd Cymru, yn enwedig amgylchedd nodedig ein coedwigoedd. Hoffwn ddiolch i'r sefydliad gwirfoddol a fu ynghlwm wrth hyn, a sefydliadau gwirfoddol eraill ledled Cymru sy'n cefnogi ein polisïau tirwedd a'n gweledigaeth ar gyfer y dirwedd, am y gwaith a wnânt yn wirfoddol.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Islwyn fel Cyrchfan i Dwristiaid (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch. Gadewch inni ddeall y sefyllfa: nid oes raid i mi weithio gyda Croeso Cymru; maent yn gweithio i mi fel Gweinidog twristiaeth, ac rwy'n falch o ddweud bod gennyf berthynas ragorol â Croeso Cymru a'u tîm rheoli, ac mae hynny'n ymestyn, wrth gwrs, i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ei bod yn amlwg yn bwysig fod yr asiantaethau i gyd yn gweithio gyda'i gilydd. Nid wyf am roi dyddiad ichi pa...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Islwyn fel Cyrchfan i Dwristiaid (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Yr hyn rwy'n arbennig o awyddus i'w hyrwyddo yw'r cysylltiad rhwng y dirwedd anhygoel a'r dreftadaeth ddiwydiannol bwysig iawn. Gan i chi grybwyll Cwmcarn, fe gofiwch imi agor y bwthyn a'r ganolfan antur yno, a ariannwyd drwy raglen cyrchfannau denu twristiaeth, ym mis Gorffennaf eleni. Credaf fod Cwmcarn yn atyniad sylweddol ynddo'i hun, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y gwaith y bu'n rhaid...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Islwyn fel Cyrchfan i Dwristiaid (16 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch, Rhianon. Mae strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru yn nodi blaenoriaethau i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd marchnata yn y DU a thramor, a chyllid datblygu cyfalaf sylweddol ar gyfer busnesau twristiaeth newydd a rhai sy'n bodoli'n barod, ynghyd â chyllid refeniw ar gyfer prosiectau rhanbarthol sylweddol.

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham ( 8 Hyd 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle yma i gyflwyno'r cynnig yma o gymhwysedd deddfwriaethol, a diolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a hefyd i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hadroddiadau positif ar y rheoliadau yma, ac yn arbennig ar y cynigion maen nhw wedi eu hystyried. Cafodd Birmingham, fel y gwyddoch chi, yr hawl i gynnal y gemau...

13. Dadl Fer: Hapus i Redeg (18 Med 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Fel dwi wedi dweud yn aml iawn yn y lle hwn, dydw i ddim yn ffan o'r hyn a elwir yn 'strategaeth'. Dwi'n fwy o ffan o'r hyn mae rhywun yn ei alw yn 'gynlluniau gweithredol', a dyna pam mae'r bartneriaeth yma mor bwysig, yn gweithio ar nifer o flaenoriaethau i wella data a ffyrdd o newid ymddygiad drwy ddatblygu'r hyn dŷn ni'n ei alw'n 'arsyllfa gweithgarwch corfforol'. Mae hwnna wedyn yn...

13. Dadl Fer: Hapus i Redeg (18 Med 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Ond, beth sydd gen i i'w ddweud y prynhawn yma yw ymateb yn fwy cyffredinol ynglŷn â phwysigrwydd symud ac ymarfer corfforol, ac i droi'r ddadl fer yma, fel, yn wir, mae Rhianon wedi gwneud yn barod, yn rhyw fath o apêl ar i bawb ohonom ni yng Nghymru ddysgu gwers pwysigrwydd ymarfer corff yn rheolaidd a'r manteision i iechyd corfforol a meddyliol sy'n dod yn sgil hynny. Fel y dywedwyd,...

13. Dadl Fer: Hapus i Redeg (18 Med 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Rhianon. Mae'n bleser cael cyfle ar ddiwedd sesiwn heddiw i drafod mater sydd yn bleser personal i mi. Dwi'n parhau, os caf gychwyn ar nodyn personol, yn rhedwr, ddim mor gyflym, efallai, ag y dylwn i fod, ond yr amcan sydd gyda fi ydy cwblhau 5 cilomedr dair gwaith yr wythnos, ond nid gyda'i gilydd—ar ddyddiau ar wahân, dwi'n trio dweud. Felly, mae'r cyfle i mi gael dod...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Med 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch am ein helpu i ysgrifennu'r strategaeth. Mae gennym ddrafft yn barod, a byddaf yn sicrhau bod cynaliadwyedd ar y brig, oherwydd yn amlwg, mae twristiaeth werdd a thwristiaeth sy'n darparu ar gyfer y boblogaeth gyfan a phob grŵp oedran—. Mae pobl ag anawsterau symudedd yr un mor bwysig fel ymwelwyr â phobl nad ydynt yn anabl ac yn gallu mwynhau hamdden yng nghefn gwlad. Felly, mae...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Med 2019)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Cytunaf â'r dadansoddiad hwnnw. A gaf fi ddweud hefyd ein bod yn credu bod cyfle gwych o hyd ar gyfer yr hyn a elwir yn 'staycation'? Nid yw'n un o fy hoff eiriau, er i mi gael ychydig o wyliau gartref yr haf hwn a'i fwynhau'n fawr, gan gynnwys llawer o amser—treuliais beth ohono yn Sir Fynwy—ond llawer o amser ar y gororau yn edrych ar sut y gallwn weithio'n agosach ar hyd y cyswllt...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.