Mr Neil Hamilton: Mae trais rhywiol yn ail yn unig i lofruddiaeth ar y raddfa droseddu, ac mae wedi'i gondemnio'n briodol ac yn cael ei gosbi'n llym iawn pan gaiff cyflawnwyr eu heuogfarnu. Ond yr un peth y mae'r cynnig hwn yn ei anwybyddu ar y llaw arall, os yw trais rhywiol yn drosedd mor ddifrifol, yw bod cyhuddo rhywun yn anghywir o drais rhywiol yn fater difrifol iawn hefyd. Mae pawb yn gwybod am y stigma...
Mr Neil Hamilton: Cawn y sesiynau ymchwiliol hyn mor aml oherwydd pwysau eithriadol ar y gwasanaeth iechyd, ond mae hynny'n dangos bod y pwysau eithriadol wedi dod yn drefn arferol mewn rhai ffyrdd a dyna'r broblem systemig sydd gennym yma. Mae llawdriniaethau wedi cael eu canslo yn awr am y trydydd diwrnod yn olynol yn Hywel Dda a gellid maddau i bobl, felly, am feddwl y dylem newid enw'r bwrdd iechyd i Hywel...
Mr Neil Hamilton: Gŵyr y Gweinidog nad oes prinder ymgeiswyr am fwy o wariant lle mae gwir angen, boed hynny'n golygu'r gwasanaeth iechyd neu leihau tlodi tanwydd neu beth bynnag. Credaf y bydd y rhan fwyaf o drethdalwyr Cymru yn crafu eu pennau, felly, pan fyddant yn darganfod y bydd £1.2 miliwn yn cael ei wario ar sefydliadau fel Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru—lle mae dwy ran o dair o'i hincwm yn...
Mr Neil Hamilton: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hadnoddau i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd? OAQ54857
Mr Neil Hamilton: Dywedodd y Gweinidog yn y datganiad fod yn rhaid inni, yn y DU, feithrin cydweledigaeth o'r math o economi a'r cysylltiadau masnachu sydd arnom eu heisiau â'r UE yn y dyfodol. Wrth gwrs, rwy'n cymeradwyo'r farn honno, ond nid yw'n dal dŵr mewn gwirionedd gan fod holl iaith y datganiad a'r agweddau y mae'r Gweinidog ei hun, yn benodol, wedi'u coleddu yn y blynyddoedd diwethaf, yn gwrthddweud...
Mr Neil Hamilton: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gweithredu'r penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE?
Mr Neil Hamilton: Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn yr atebion sobr a difrifol y mae wedi eu rhoi i gwestiynau cynharach, ac yn wahanol iawn i'r pantomeim a gawsom ni ar ddechrau'r cwestiynau heddiw. Erys y ffaith fod gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd ymhlith gwledydd sydd â data cymaradwy. Rydym ni'n bedwerydd ar ddeg ar hugain o 36 yn y ffigurau diweddaraf yr wyf i...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad: 'am y tro cyntaf erioed, rydym yn perfformio ar gyfartaledd yr OECD ym mhob un o'r tri maes: sef darllen, gwyddoniaeth, a mathemateg.' Ond a wnaiff hi gydnabod bod llai o reswm dros longyfarch ein hunain yma, efallai, na'r hyn sy'n ymddangos? Gan fod ei graffiau ei hun yn dangos bod cyfartaledd yr OECD ei hun yn gostwng;...
Mr Neil Hamilton: Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi na ellir gwahanu trefniadau llywodraethu yn y pen draw oddi wrth y rhai a benodwyd i gyflawni'r gweithredoedd llywodraethu angenrheidiol eu hunain. Mae'r Gweinidog ei hun, yn achos Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, yn chwarae rhan bersonol weithgar iawn. Mae wedi cadeirio'r cyfarfodydd atebolrwydd misol ers mis Gorffennaf 2018 ac mae'r prif weithredwr,...
Mr Neil Hamilton: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau llywodraethu ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru? OAQ54757
Mr Neil Hamilton: Felly, y llynedd, bu cynnydd o bron i 5 y cant yn allyriadau byd-eang Tsieina, a 7 y cant yn India. Yn 2018, roedd y cynnydd yn allyriadau byd-eang India yn 10 gwaith cyfanswm allbwn blynyddol Cymru o garbon deuocsid. Felly, hyd yn oed pe gallem roi holl economi Cymru ar stop, ac yn wir, pe na bai Cymru yn bodoli ar y blaned ac yn diflannu ar amrantiad, byddai India'n gwrthdroi’r budd i’r...
Mr Neil Hamilton: Ymddengys mai siarad am y newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio a chreu mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy yw'r nod allweddol, heb ystyried twf economaidd, cefnogi twristiaeth, na newid tirweddau yn wir. Ar dudalen 36 yn y ddogfen, mae'n dweud bod y Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd a bod ganddi ymrwymiad allweddol i ddatgarboneiddio. Dywed hefyd y bydd...
Mr Neil Hamilton: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gennyf—[Torri ar draws.]
Mr Neil Hamilton: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi dewis y pwnc hwn ar gyfer y ddadl y prynhawn yma gan y credaf fod y 'Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, i Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn arbennig, yn cyfateb yn amgylcheddol i ddiddymu'r mynachlogydd ac eglwysi gan Harri VIII. Yn y rhagair i'r ddogfen hon, dywed y Prif Weinidog, erbyn 2040, 'Rydym yn gwybod bod heriau...
Mr Neil Hamilton: Mae'n debyg bod y Prif Weinidog yn gwybod bod Cyllid a Thollau ei Mawrhydi wedi cyfrifo bod Cymru yn cyfrannu tua £5,800 y pen mewn treth, ac mae Trysorlys ei Mawrhydi yn cyfrifo bod gwariant cyhoeddus, ar bob lefel yng Nghymru, yn cyfateb i tua £10,300 y pen. Ac felly mae hynny, i bob pwrpas, yn gymhorthdal enfawr, yn bennaf gan drethdalwyr Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Felly, mae dyfodol...
Mr Neil Hamilton: Er fy mod yn rhannu amheuon Llywodraeth Cymru ynghylch tynnu llinell yng nghanol môr Iwerddon, a gwneud Gogledd Iwerddon yn rhan o'r UE i bob pwrpas, yn hytrach na'r DU, at ddibenion masnach, onid y broblem go iawn yma yw y byddai'r Blaid Lafur, a phob un o'r pleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin sy'n cefnogi aros yn wir, yn gwneud popeth yn eu gallu yn y bôn—byddant yn defnyddio pob esgus, waeth...
Mr Neil Hamilton: Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ond a gaf fi ddarparu cyfieithiad er budd y Cynulliad o'r hyn a ddywedodd? Dangosodd y ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf mai'r amseroedd aros yn adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru yw'r rhai gwaethaf erioed. Hynny yw, mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn aros yn hwy na'r amser aros targed a osodwyd gan GIG Cymru. Treuliodd 25 y cant o bobl a...
Mr Neil Hamilton: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros yn adrannau achosion brys ysbytai Cymru? OAQ54596
Mr Neil Hamilton: Nid oes angen tanseilio mwy ar hurtrwydd yr honiad y byddai Cymru'n gyfartal â'r Almaen yn yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni i gyd yn gwybod am ddeinameg fewnol y ffordd y mae'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio. [Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yn rhaid i mi symud ymlaen gyda fy araith. [Torri ar draws.] Rhaid imi symud ymlaen gyda'm haraith.
Mr Neil Hamilton: Gall y bonheddwr anrhydeddus, yr wyf yn ei barchu'n fawr, wneud ei araith ei hun, ond rwy'n mynd i fwrw ymlaen â'm un i. Yn y bôn, mater o ddemocratiaeth yw hyn yn y pen draw, ac ni allwn ni gael ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd hyd nes y byddwn wedi cyflawni'r cyntaf. Dyna holl ddiben y broses hon. Dyna pam, fel y dywedodd David Melding, fel un sy'n frwd o blaid...