Alun Davies: —sef yr hyn yr hoffwn ei weld, neu mae arnaf ofn eich bod ar y llwybr tuag at fod yn amherthnasol.
Alun Davies: Gallaf weld yr amser. Nid yw'r Ceidwadwyr erioed wedi cydnabod mandad democrataidd pobl Cymru. Pan fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Pan fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Pan fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Pan fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Fe wnaf barhau, mae'r microffon yn gweithio yn awr.
Alun Davies: Edrychwch, dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad fy mod innau hefyd yn cyfaddawdu wrth gefnogi hyn, a dyna'r cyfaddawd rwy'n ei wneud. Y rheswm pam fod hyn yn bwysig, a dyma'r rheswm pam fy mod wedi fy syfrdanu gan ymateb y Ceidwadwyr iddo, yw bod hyn yn ymwneud â dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Nawr, dysgodd pob un ohonom yn y Siambr ar ddechrau'r Senedd hon fod y Ceidwadwyr wedi rhoi'r gorau i...
Alun Davies: Na, rwyf wedi gwrando gormod arnoch—yw darllen yr areithiau a ysgrifennwyd ar eich rhan. Ac fe dderbyniodd Darren Millar yn ei gyflwyniad nad oedd yn meddwl am refferendwm mewn gwirionedd. Nid oedd wedi meddwl ei fod yn bwysig nes i'r Ysgrifennydd Gwladol ddweud wrtho ei fod yn bwysig. A gadewch imi ddweud hyn, a gadewch imi ddweud hyn wrth gloi—
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd ac fel eraill y prynhawn yma, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor a edrychodd ar hyn a diolch i Huw Irranca-Davies am ei arweinyddiaeth ar y pwyllgor hwnnw. Byddwn hyd yn oed yn diolch i Darren Millar. Rwy'n derbyn iddo gael ei roi mewn sefyllfa anodd, ond gwn ei fod hefyd wedi ceisio cyfaddawd ar y materion hyn dros y...
Alun Davies: Dywedwch wrth Suzy Davies.
Alun Davies: Jane, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Alun Davies: Rydych yn dweud eu bod yn ffiniau a orfodir gan San Steffan, ond wrth gwrs, maent yn ganlyniad i waith y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Nid ydynt yn cael eu gorfodi gan unrhyw un; maent wedi'u cynllunio i gynrychioli pobl, ac mae'n gwneud mwy o synnwyr defnyddio ffiniau a fydd yn dod, neu a fyddai'n dod, yn ddealladwy, na phennu set arall heb unrhyw reswm amlwg.
Alun Davies: Credaf fod y Cadeirydd yn hael iawn am eich ymyriadau niferus, rwy'n credu mai dyna a ddywedodd, yn y pwyllgor. Mae'r rheini ohonom sydd wedi bod yn aelodau o bwyllgorau gyda chi wedi arfer â'ch ymyriadau yn y materion hyn, wrth gwrs. Sawl gwaith y gwnaethoch chi ddadlau o blaid refferendwm?
Alun Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac ydy, mae cael eich gweld yn hytrach na'ch clywed yn dipyn o anhawster. Ond roedd yn anoddach, wrth gwrs, i Ogledd Iwerddon, oherwydd yn y dadleuon hir yr adroddwyd arnynt yn y cyfryngau, ynglŷn â dyfodol Gogledd Iwerddon—lle siaradodd pobl o bob rhan o Ewrop, o bob rhan o'r Deyrnas Unedig—nid oedd unrhyw un yno i gynrychioli Gogledd Iwerddon. A chredaf fod...
Alun Davies: Rydym ni, Gweinidog, y mis hwn, yn nodi deugain mlynedd ers y rhyfel yn y Falklands. Ac mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni, fel Senedd, yn cydnabod cyfraniad milwyr o Gymru, yn ddynion ac yn fenywod, yn yr ymgyrch honno. Gwnes i gyfarfod yn ddiweddar â Llywodraeth ynysoedd y Falkland, ynghyd â'n cyd-Aelod Ceidwadol Darren Millar, a buom yn siarad yno am y cyfraniad a'r cysylltiadau rhwng...
Alun Davies: Wn i ddim beth roeddech chi'n ei wneud, Prif Weinidog, ym 1973; roeddwn i yn Ysgol Iau Dukestown yn Nhredegar. Dydw i ddim yn siŵr beth yr oedd Darren Millar yn ei wneud ym 1973, ond rwy'n siŵr nad oedd yn darllen adroddiad yr Arglwydd Kilbrandon, a ddywedodd bryd hynny bod Cymru angen Senedd o 100 o aelodau. Ers hynny, rydym ni wedi cael adroddiadau gan Ivor Richard, gan Laura McAllister,...
Alun Davies: Mae'r hawl sydd gennym heddiw i drafod y materion hyn mewn diogelwch a rhyddid yn hawl na ddylem byth ei chymryd yn ganiataol. Mae ein gallu i gael y ddadl hon wedi'i wreiddio yn ein gwybodaeth, ac un o'r ofnau mawr a deimlaf heddiw—er ein bod bob amser wedi anghytuno weithiau ar draws y Siambr mewn gwahanol bleidiau a mannau am ein dehongliad o hanes a'n gwybodaeth am hanes, rydym bob...
Alun Davies: A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae Darren Millar yn ei wneud? Ac wrth gwrs, nid damwain yw hynny, gan mai'r hyn a wnaeth Stalin, ar ôl cyflawni hil-laddiad, oedd gwahardd gwybodaeth a chuddio ei weithredoedd yn Wcráin. Ac arhosodd y gwaharddiad ar wybodaeth a gychwynnwyd gan y Llywodraeth Sofietaidd yn 1933, rwy'n credu, yn ei le tan 1987. Ac nid yw'n syndod, pan fydd...
Alun Davies: Ar ddiwedd y cyfnod hwn, gorfododd Stalin lawer o bobl Wcráin, miliwn o bobl Wcráin, i adael eu cartrefi a'u pentrefi, a chawsant eu cludo, eu gorfodi drwy rym, i fynd o Wcráin i Rwsia. Mae hynny'n digwydd heddiw. Mae'n digwydd eto. A phan siaradwn am hil-laddiad, a phan siaradwn am ddioddefaint dynol, gadewch inni gofio hefyd nad oedd yr un o'r pethau hyn yn ddamweiniol. Canlyniad i...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i Jane Dodds a Sam Kurtz, sy'n cyd-gyflwyno'r cynnig heddiw, ac i Rhun ap Iorwerth, a fydd yn crynhoi'r ddadl a gawn y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Janet Finch-Saunders, i Jenny Rathbone, i Mark Isherwood, i Peter Fox ac i Vikki Phillips—Vikki Howells—a gefnogodd y cynnig hwn yn...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol, ac nid wyf yn credu bod hynny'n synnu neb. Mae cynllun Rwanda, wrth gwrs, yn annynol, yn anymarferol ac yn debygol iawn o fod yn anghyfreithlon hefyd. Fe'i hysgogwyd gan fuddiannau tymor byr Llywodraeth Dorïaidd asgell dde yn hytrach nag unrhyw ymgais wirioneddol i ddod o hyd i ateb sy'n diogelu pobl mewn argyfwng sy'n dianc rhag rhyfel, dioddefwyr...
Alun Davies: 4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru yng ngoleuni cynllun Llywodraeth y DU i brosesu ceisiadau am loches o'r glannau hyn yn Rwanda? OQ57950
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, fe wnaethom ni ddeffro i'r newyddion y bore yma fod BP yn gwneud elw o £1 biliwn bob mis, elw o £1 biliwn ar adeg pan fo gormod o'r bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli yn y lle hwn yn arswydo o weld eu bil tanwydd nesaf ac nad oes ganddyn nhw syniad sut y byddan nhw'n talu'r biliau hynny. Ond, ar yr un pryd, rydym ni...
Alun Davies: 1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo aelwydydd ym Mlaenau Gwent gyda'r argyfwng costau byw presennol? OQ57949