Paul Davies: Llywydd, a gaf i hefyd gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Gaerffili? Ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda theulu Jack Lis heddiw. Prif Weinidog, yn eich barn chi, am ba hyd ddylai rhywun 85 mlwydd oed aros am ambiwlans ar ôl dioddef strôc?
Paul Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, rwyf i'n rhannu ymrwymiad y Gweinidog i ddatblygu economi wyrddach, a bydd e' wedi fy nghlywed i'n galw am weithredu yn hyn o beth ar sawl achlysur. Mae angen i ni adeiladu momentwm o lawr gwlad i fyny i gyflawni'r newid ymddygiadol a diwylliannol sydd ei angen i ddatblygu economi werdd, ac...
Paul Davies: Prif Weinidog, yn gynharach eleni, dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd nad oedd y cynlluniau presennol yng Nghymru yn ddigonol. Yn wir, o'r 61 o risgiau a nodwyd gan y pwyllgor yn ei asesiad risg o effaith y newid yn yr hinsawdd yn y DU, roedd yn destun pryder gweld bod 26 o'r risgiau wedi cynyddu o ran brys ers yr adroddiad diwethaf yn ôl yn 2016. Dim ond un yng Nghymru, dim ond un, sydd...
Paul Davies: Yn wir, Prif Weinidog, ac wrth i genhedloedd ddod at ei gilydd yn COP26, mae gennym ni gyfle hollbwysig i wneud rhywfaint o gynnydd gwirioneddol o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Wrth gwrs, mae'n gofyn i wledydd gydweithio, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a phob Llywodraeth ledled y DU yn gwneud yn union hynny—yn meithrin consensws ac yn ceisio gweithio gyda...
Paul Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe, fe wnaethoch chi ddweud bod angen gobaith i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a bod angen hyder ac ymddiriedaeth ar bobl i wneud newidiadau yn eu bywydau eu hunain, ac eto mae'r ddadl hon yn gyffredinol yn ysgogi'r casgliad arferol o felinau trafod, enwogion, gwleidyddion a grwpiau pwyso. Wrth gwrs, mewn gwirionedd, bydd llawer o'r hyn sydd ei...
Paul Davies: Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi'r sector gwirfoddol yn Sir Benfro?
Paul Davies: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cadarnhau ei fod yn dechrau trafodaeth ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gydweithio i gael adferiad tîm Cymru. Er hynny, dylai hyn fod wedi bod yn brif amcan i'r Gweinidog ers ei benodi yn Weinidog yr Economi bron i chwe mis yn ôl erbyn hyn. Nawr, wrth i ni symud i'r dyfodol, mae gan Lywodraeth...
Paul Davies: Os na wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad penodol i Gymru, bydd pobl yn meddwl bod eich Llywodraeth yn osgoi craffu ac yn gwrthod gwneud ei hun yn atebol i'w phobl. Er y bydd ymchwiliad y DU gyfan yn ystyried penderfyniadau rhynglywodraethol, a hynny'n briodol, gallai ymchwiliad i Gymru ganolbwyntio yn llwyr ar y ffordd y mae eich Llywodraeth chi wedi ymdrin â'r pandemig. A gadewch i ni beidio...
Paul Davies: Ond, Prif Weinidog, nid oes dim rheswm pam na all Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn ymchwiliad y DU gyfan ac ymchwiliad Cymru. Mae'n rhaid i Lywodraeth agored a thryloyw fod yn atebol i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, ac mae pobl Cymru yn haeddu atebion. Mae'n ymddangos mai, 'Cyfrifol, ond heb gael ei dwyn i gyfrif' yw mantra'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Nawr, mae sefydliadau fel y...
Paul Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe'i gwnaed yn eglur gennych chi ddoe eich bod chi'n ceisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd ymchwiliad COVID y DU gyfan yn canolbwyntio yn ddigonol ar benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru. Os ydych chi mor bryderus na fydd ymchwiliad y DU gyfan yn ymchwilio yn ddigonol i Lywodraeth Cymru, pam na wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad annibynnol i Gymru?
Paul Davies: Diolch, Llywydd. Ar ran grŵp Senedd y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n anfon fy nghydymdeimlad o'r galon at deulu, ffrindiau a chydweithwyr Syr David Amess. Mae'r newyddion ofnadwy am ei farwolaeth wedi arwain at sioc, dicter a thristwch ymhlith cynifer ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n amlwg bod Syr David yn uchel ei barch a bod pobl ar draws y rhaniad gwleidyddol yn hoff iawn ohono. Mae teyrngedau...
Paul Davies: Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn ystyried dyfodol ei ganolfannau gwastraff ac ailgylchu, ac mae'r opsiynau'n cynnwys lleihau nifer y safleoedd a weithredir gan y cyngor a lleihau oriau agor pob safle. Nawr, ni allaf bwysleisio pwysigrwydd casglu gwastraff ac ailgylchu i'n hamgylchedd, ac yn wir, i'n hiechyd, a phe bai'n rhaid i breswylwyr deithio...
Paul Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn sir Benfro? OQ56992
Paul Davies: Prif Weinidog, mae problem ddifrifol yma i gleifion sy'n ceisio cael gafael ar eu meddygon teulu. Mae Mair Hopkin o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi dweud bod yr argyfwng mewn meddygfeydd teulu wedi rhagflaenu COVID mewn gwirionedd, gyda llawer o gleifion yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiad cyn y pandemig, ac yn gorfod aros sawl wythnos am apwyntiad. Rydym ni wedi clywed gan...
Paul Davies: Prif Weinidog, fel y byddwch chi'n ymwybodol, yn ogystal â chael trafferth yn cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl, ceir pobl ledled Cymru sy'n cael trafferth fawr yn cael gafael ar eu meddyg teulu hefyd, fel y soniwyd yn gynharach yn y sesiwn hon. Mae'r pandemig wedi amlygu'r ffaith nad oes digon o feddygon a staff ym maes gofal sylfaenol. Er fy mod i'n deall bod gweithgarwch recriwtio...
Paul Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Sul diwethaf, a chyn i mi symud ymlaen i ofyn fy nghwestiynau, rwy'n siŵr y gwnewch chi a phawb yn y Siambr hon ymuno â mi i anfon ein dymuniadau gorau i'n cyd-Aelod Andrew R.T. Davies wrth iddo gymryd ychydig o amser nawr i ganolbwyntio ar ei iechyd ei hun. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi darparu...
Paul Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedoch chi, dwi'n codi i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Bu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn trafod y memorandwm hwn ar 16 Medi eleni, a'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad oedd dydd Iau diwethaf. Dwi'n nodi bod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y...
Paul Davies: O, dewch yn eich blaen, Prif Weinidog, os mai modurwyr sydd wedi eu dal yn nhagfeydd parhaus yr M4 yw'r polisi mwyaf ecogyfeillgar sydd gan Lywodraeth Cymru, yna rydym ni mewn trafferthion difrifol, onid ydym ni? Nawr, Prif Weinidog, nid yn unig y mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein cymunedau a'n pobl, ond mae hefyd yn effeithio ar ein byd naturiol a'n bywyd gwyllt hefyd. Bydd...
Paul Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd. Ers y datganiad hwnnw, a allwch chi enwi un mesur arwyddocaol yr ydych chi wedi ei gyflwyno fel Llywodraeth i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd?
Paul Davies: Wel, Prif Weinidog, roeddech chi'n gwneud rhywfaint o hynna cyn hynny, beth bynnag, a'r gwirionedd yw nad oes digon wedi ei wneud ers y datganiad hwnnw i fynd i'r afael o ddifrif â'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Nid yw'r cynnydd hyd yma wedi bod yn ddigon cyflym i sicrhau y bydd gan Gymru allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. A gadewch i mi eich atgoffa bod adroddiad gan y pwyllgor ar...