Rebecca Evans: Mae chwyddiant o dros 10 y cant wedi erydu gwerth cyllidebau llywodraeth leol i raddau pryderus. Yn ogystal ag effaith costau cynyddol ar gyfer ynni, cyflogau, trafnidiaeth a bwyd, mae cynghorau hefyd yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r effeithiau ar eu cymunedau.
Rebecca Evans: Mae'r cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai, a weinyddir gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, 26 y cant yn llai yn 2022-23 nag yn y flwyddyn flaenorol. A chan gofio ein bod mewn cyfnod ofnadwy, o ran y pwysau ar aelwydydd, nid dyma'r amser o gwbl i fod yn torri'r cymorth hanfodol hwnnw. Mewn gwirionedd, mae'r gostyngiad hwnnw'n dilyn gostyngiad o 18 y cant yn 2021-22 o'i gymharu...
Rebecca Evans: Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd ledled Cymru, ac i gefnogi hyn rydym yn buddsoddi dros £197 miliwn mewn gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai, yn ogystal â'r buddsoddiad mwyaf erioed o £310 miliwn mewn tai cymdeithasol y flwyddyn ariannol hon yn unig. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod £10 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi'r...
Rebecca Evans: Mae digartrefedd yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â sut y gallwn weithio gydag awdurdodau lleol i roi atebion trawsbynciol ar waith.
Rebecca Evans: Bydd eich etholwyr yn cael eu hamddifadu. Bydd pob un o'n hetholwyr yn cael eu hamddifadu, am fod cymaint o fwlch mewn cyllid cyhoeddus, ac mae goblygiadau yn sgil hynny i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'r gwasanaethau y mae pobl yn eu cael yn eu cymunedau. Felly, rwy'n credu bod angen inni feddwl o ddifrif am lefel yr heriau a wynebwn yn y gyllideb. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig. Felly...
Rebecca Evans: Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Er mwyn rhoi syniad o sut rydym yn ymdrin â'r trafodaethau cyllidebol ar draws y Llywodraeth, rydym yn edrych, yn anad dim, ar dri nod penodol. Y cyntaf, yn amlwg, yw cyflwyno cyllideb gytbwys, ac mewn gwirionedd, mae hynny'n llawer anos nag y byddech yn ei ddychmygu, o ystyried y ffaith bod cymaint o fwlch yn y cyllid, a dyna ble fydd y...
Rebecca Evans: Er gwaethaf rhywfaint o arian refeniw ychwanegol drwy ddatganiad yr hydref, nid yw hyn wedi bod yn agos digon i lenwi’r bwlch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Golyga hyn fod Gweinidogion yn wynebu penderfyniadau anodd wrth inni baratoi ar gyfer y gyllideb ddrafft eleni.
Rebecca Evans: Yn sicr, ein nod yw defnyddio’r holl arian Ewropeaidd sydd wedi dod i Gymru, ac mae hynny, a dweud y gwir, yn un o’r arfau sydd gennym i allu rheoli ein cyllideb o fewn y flwyddyn ariannol—i wneud penderfyniadau ynghylch pryd yn union rydym yn defnyddio'r cyllid Ewropeaidd hwnnw, i'n helpu i reoli'r gyllideb yn gyffredinol. Felly, mae'n arf y gallwn ei ddefnyddio ac rydym yn ei ystyried...
Rebecca Evans: Rwy’n fwy na pharod i egluro'r sefyllfa ar y ddau fater hynny, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud hynny, yn enwedig mewn perthynas â’r cwestiwn cyntaf. Ar 5 Awst, ysgrifennais at y Pwyllgor Cyllid, ac ers hynny, mae’r llythyr hefyd wedi’i rannu â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, sy’n dangos, ym mlwyddyn ariannol 2020-21, sef blwyddyn anghyffredin...
Rebecca Evans: Byddwn yn dweud bod awdurdodau lleol yn dweud wrthym eu bod yn gweld pwysau a bylchau enfawr yn eu cyllideb, yn y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf, a’u bod yn dibynnu ar eu cronfeydd wrth gefn, yn rhannol, i fynd i'r afael â'r her honno. Rwy’n fwy na pharod i ofyn i fy swyddogion gael trafodaethau pellach gyda’r Trysorlys ar y pwynt penodol ynglŷn â deall cronfeydd...
Rebecca Evans: Rwy’n deall y cwestiwn, ac a bod yn deg â’r Aelod, mae’n gwestiwn y mae’n ei godi’n rheolaidd. Nid wyf yn rhannu’r lefel honno o bryder ynghylch lefel y cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol, gan y credaf, a ninnau ar drothwy blwyddyn neu ddwy anodd iawn i awdurdodau lleol, ei fod yn beth da iddynt fod mewn sefyllfa ariannol well nag y byddent ynddi fel arall. Mae rhan o...
Rebecca Evans: Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol i gydweithiwr yr Aelod, ond rwyf am ddweud hefyd fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd iawn ag arweinwyr llywodraeth leol. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â swyddogion, yn cynnwys trysoryddion ar draws llywodraeth leol, i drafod y pwysau penodol y maent yn ei wynebu. Rhaid imi ddweud bod y gwaith y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyflwyno...
Rebecca Evans: Byddaf yn goleuo’r Aelod ar 13 Rhagfyr, Lywydd, pan fyddaf yn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft. Nid oes llawer i aros tan hynny, ond mae llawer o waith y mae angen ei wneud yn gyflym rhwng nawr a'r adeg honno. Ond ar 13 Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r gyfres gyfan honno o wybodaeth rydym bob amser yn ei chyhoeddi—adroddiad y prif economegydd,...
Rebecca Evans: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei chwestiwn, ac am ailadrodd yr un neges a glywaf gan arweinwyr hefyd o ran y pwysau penodol ar ofal cymdeithasol. Maent hefyd yn awyddus iawn i dynnu fy sylw at y pwysau ym myd addysg, a dyna ddau o'r prif feysydd gwariant ar gyfer awdurdodau lleol. A byddwn hefyd yn croesawu ac yn annog pobl i ymgysylltu â'r gwaith y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn...
Rebecca Evans: Cyn datganiad yr hydref, galwais ar y Canghellor i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus. Er bod rhywfaint o arian ychwanegol wedi'i ddarparu yng nghyhoeddiadau Llywodraeth y DU, nid oedd yn ddigon fynd i’r afael â’r bylchau sylweddol yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Rebecca Evans: Yn sicr. Credaf fod awdurdodau lleol wedi bod yn hynod dryloyw o ran yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu, ac rwy'n falch eu bod wedi gallu cynnig cyfleoedd, ar sail ranbarthol, i holl Aelodau'r Senedd ddeall y pwysau hwnnw'n well ar lefel leol iawn. Gwn y byddent yn fwy na pharod i ymgysylltu eto ag unrhyw gyd-Aelodau nad ydynt wedi gallu mynd i un o'r sesiynau hynny. Yn y sesiynau...
Rebecca Evans: Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb gwreiddiol, sy’n rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau o'r Senedd fy mod yn trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gyda hwy yn rheolaidd fel rhan o’n trafodaethau cyffredinol mewn perthynas â chyllid. Ond hoffwn ddweud yn glir iawn hefyd fod yr hyn a nodir yn y mecanwaith adrodd blynyddol yn cynrychioli un diwrnod o'r flwyddyn yn unig—diwedd y flwyddyn...
Rebecca Evans: Rwyf wedi trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gydag arweinwyr fel rhan o’n trafodaethau parhaus ar bwysau a chyllid. Mae pob arweinydd wedi pwysleisio eu bod eisoes yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i fynd i'r afael â'u pwysau presennol ac yn disgwyl gorfod parhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf.
Rebecca Evans: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gloi'r datganiad y prynhawn yma trwy nodi rhai o'r pethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i gefnogi'r rhai mwyaf bregus ac i amddiffyn dinasyddion yma yng Nghymru, oherwydd dyna'n wir yw'r gwaith sydd o'n blaenau nawr wrth i ni ddechrau cwblhau a ffurfioli ein cyllideb i'w chyflwyno ar 13 Rhagfyr. Dyma'r cyfle y mae'n rhaid i ni ei gymryd i wneud ein...
Rebecca Evans: Rwy'n cytuno â Joyce Watson ar y pwynt arbennig hwnnw. Ond, ydy, rwy'n credu ei bod hi'n ddigon hawdd dyfynnu rhai ffeithiau dethol, ond, na, mae'n ffaith sicr bod y gyllideb fach wedi costio i'r wlad hon, wedi costio pob un ohonom ni, pawb yng Nghymru, biliynau o bunnoedd, ac mae hynny'n ffaith sicr. Roedd hynny ond yn ganlyniad uniongyrchol i haerllugrwydd llwyr y bobl a oedd yn gwneud y...