Canlyniadau 161–180 o 2000 ar gyfer speaker:Kirsty Williams

9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020 (15 Rha 2020)

Kirsty Williams: Wrth gwrs. O ran ysgolion cynradd, mae'n rhaid i ni gydnabod—mae'n rhaid i mi gydnabod—mai cyrff llywodraethu unigol sy'n gyfrifol am ysgolion cynradd, wedi'u cynghori gan eu hawdurdodau lleol. Mae cyngor Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y dylai addysg gynradd barhau hyd at ddiwedd y tymor, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl athrawon sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y tymor...

9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020 (15 Rha 2020)

Kirsty Williams: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma? O ran y sylwadau a wnaed gan Mick Antoniw, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod anghysondeb rhwng y pwerau galluogi a nodwyd yn y testun Cymraeg a'r testun Saesneg—cyfeirir atynt yn adran 45(3)(c) yn y testun Cymraeg, ac yn 45(3) yn y testun Saesneg. Gwall teipograffyddol yw hwn yn y...

9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020 (15 Rha 2020)

Kirsty Williams: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar y papur trefn. Fel y nodais yr wythnos diwethaf, yn dilyn cyngor gan y prif swyddog meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, argymhellwyd bod ysgolion uwchradd yn dechrau dysgu o bell o 14 Rhagfyr tan ddiwedd y tymor. Fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon yn dda, mae cyfraddau trosglwyddo yn cynyddu ar hyn o bryd, ac yn anffodus...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Yn sicr, Paul, ac yn wir, mae'r union bwynt a wnaethoch, fod rhoi sylw i lesiant plant, eu llesiant corfforol a'u llesiant meddyliol, yn awr yn fwy nag erioed, yn flaenoriaeth, a dyna pam fod llawer o ysgolion yn awyddus i barhau i ddilyn y cwricwlwm newydd, oherwydd o dan y maes dysgu a phrofiad 'iechyd a llesiant', a'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n sail iddo, mae hynny'n rhoi llawer...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi ofyn i chi ddweud 'diolch' wrthi am yr hyn y mae'n ei wneud ar hyn o bryd? Mae ein GIG a'n staff gofal cymdeithasol wedi gwneud gwaith aruthrol ar ein rhan yn ystod y pandemig hwn, ac mae pobl yn aml yn anghofio bod ein haddysgwyr a gweithwyr addysg proffesiynol a'n gweithwyr ieuenctid hefyd ar y rheng flaen. Felly, dywedwch 'diolch' wrthi gennyf fi a 'diolch' am...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Diolch, Helen Mary. Eleni, fel y dywedais, mae pob un o'n hysgolion wedi wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ond mae llawer yng nghanolbarth a gorllewin Cymru'n gwneud defnydd da o'r canllaw cwricwlwm newydd ac yn meddwl am eu datblygiadau cwricwlwm yn y dyfodol. Rwy'n deall bod mynediad ysgolion at gymorth a dysgu proffesiynol yn cynyddu yn y rhanbarth wrth i ni symud tuag at 2022.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Lledaeniad Coronafeirws yn Asymptomatig (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Wel, Jayne, y peth gorau y gallwn ei wneud i leihau'r tarfu ar addysg yw gostwng lefelau trosglwyddo cymunedol ym mhob un o'n cymunedau, oherwydd trosglwyddo cymunedol sy'n arwain at achosion yn ein hysgolion a'r aflonyddwch rydych yn cyfeirio ato. Rydym yn gweithio ac yn darparu'r cyngor a'r enghreifftiau gorau o arferion da i bob ysgol mewn perthynas â swigod a'r hyn a olygir wrth...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Lledaeniad Coronafeirws yn Asymptomatig (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Diolch, Leanne. Rwy'n cydnabod y straen aruthrol sydd wedi bod ar athrawon ers i ysgolion ailagor yn llawn ym mis Medi, yn union fel y straen aruthrol y mae pob un o'n gweithwyr sector cyhoeddus wedi'i wynebu. Hoffwn ddweud bod y dystiolaeth hyd yma o bapur diweddaraf y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a phapur y gell cyngor technegol yn dweud, wrth edrych ar y boblogaeth addysgu fel...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Lledaeniad Coronafeirws yn Asymptomatig (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Diolch, Leanne. Rwy'n parhau i gael fy arwain gan y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Rydym wedi cytuno'n ddiweddar â sefydliadau addysg uwch ledled Cymru y byddwn yn manteisio ar y cyfle i dreialu profion asymptomatig ar fyfyrwyr a staff, ac rydym hefyd yn bwriadu cynnig profion i fyfyrwyr a staff mewn ysgolion uwchradd, yn ogystal â'r coleg lleol, fel rhan o'r rhaglen profi torfol...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Y Cwricwlwm Newydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Lynne, rwyf mor falch eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwnnw heddiw o bob diwrnod, Diwrnod y Rhuban Gwyn, lle mae pawb yn y Siambr, gobeithio, yn uno yn eu penderfyniad i drechu trais yn erbyn menywod. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom heddiw eisiau cofio'r menywod a gollodd eu bywydau yn sgil trais erchyll a'r menywod sy'n parhau i fyw gyda chanlyniadau'r trais hwnnw o ddydd i ddydd. A dyna'n...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Y Cwricwlwm Newydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Wel, Laura, rydych yn llygad eich lle—blaenoriaeth y Llywodraeth hon yw lleihau'r ymyrraeth i addysg plant yn sgil y pandemig hwn. Yn ddiau, bu'r effaith ar ysgolion yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, ond fel y mae Estyn wedi'i gadarnhau, mae llawer iawn o frwdfrydedd a chefnogaeth i ddiwygio'r cwricwlwm o hyd, ac maent hefyd yn dweud bod ysgolion wedi gwneud enillion pwysig wrth gynllunio...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Y Cwricwlwm Newydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Yn gyntaf oll, a gaf fi awgrymu bod yr Aelod yn darllen y Bil cwricwlwm ac asesu drafft os nad yw eisoes wedi gwneud hynny? Nid oes unrhyw broblem o gwbl. Ni all athrawon flaenoriaethu meysydd dysgu a phrofiad unigol, ac ni fydd ysgolion yn gallu gwneud hynny, oherwydd bod iddynt statws cyfartal o fewn y gyfraith. O ran ymgynghori, mae'n rhaid i mi ddweud eto wrth yr Aelod fod digon o...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Y Cwricwlwm Newydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Diolch, David. Cyhoeddais ddogfen 'Y daith i 2022' fis diwethaf i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu'r cwricwlwm newydd. Bwriadaf gyhoeddi cynllun gweithredu'r cwricwlwm yn gynnar yn 2021 i nodi'r camau ehangach y byddwn yn eu cymryd i gefnogi ysgolion.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Wel, Mark, fel y clywsom gan Jack Sargeant, mae rhagoriaeth yn y maes hwn yn gyraeddadwy, ac rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi eich hun wedi manteisio ar y cyfle i fynd i weld y rhagoriaeth honno drosoch eich hun. Mae hyfforddiant i weithwyr proffesiynol mewn perthynas ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol yn rhan bwysig o'n rhaglen drawsnewid gwerth £20 miliwn ar gyfer ADY, ac...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Diolch, Jack. Mae creu ysgolion cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a llesiant yn un o amcanion allweddol y genhadaeth genedlaethol. Bydd ein diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol yn sicrhau y bydd pob dysgwr yn gallu cael mynediad at addysg o safon uchel er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial llawn.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Diolch, Jack, am roi'r cyfle i mi gofnodi fy llongyfarchiadau diffuant i bawb sy'n ymwneud ag Ysgol Tŷ Ffynnon yn Sir y Fflint, sef yr ysgol gyntaf un yng Nghymru i gael y wobr hon. Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad tîm yr ysgol honno i ddod yn ymgorfforiad byw o'r addewid yng nghenhadaeth ein cenedl i sicrhau ysgolion cwbl gynhwysol sy'n ymdrechu i ddiwallu anghenion eu holl blant.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Ysgolion Arbennig (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Diolch, David. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi, yn wahanol i awdurdodaethau eraill, na wnaethom ddiwygio unrhyw un o'n rheoliadau na'n cyfreithiau presennol sy'n ymwneud â gwasanaethau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Ond rwy'n cytuno â chi, roedd y sefyllfa ar lawr gwlad yn dameidiog o ran gwahanol lefelau o gefnogaeth. Rwy'n ymwybodol o arferion rhagorol, ysgolion na wnaeth gau ac...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Ysgolion Arbennig (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: David, mae'r ansicrwydd sy'n deillio o'r pandemig coronafeirws yn arbennig o heriol i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd, a'r rhai sy'n eu cefnogi ac yn gofalu amdanynt. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi'r dysgwyr, y rhieni a'r gofalwyr hyn yn ystod y cyfnod anodd hwn.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Wel, rwy'n sicr yn cytuno â'r Aelod fod yr adnoddau'n cael eu gwario mewn ffordd bwrpasol, ac mae gennyf bob ffydd y bydd y penaethiaid sy'n gwneud penderfyniadau ar sut i wario'r arian hwn, oherwydd mater iddynt hwy yw penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r arian sydd ar gael iddynt, hefyd wedi bod yn gwneud penderfyniadau i sicrhau bod yr adnoddau'n cael eu gwario mewn ffordd bwrpasol....

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (25 Tach 2020)

Kirsty Williams: Mae canllawiau gweithredol ar gael i bob ysgol a phob awdurdod addysg lleol, sy'n cynnwys cyfeiriad at awyru adeiladau. Dylai pob aelod o staff fod yn destun asesiad risg. Felly, dylai unrhyw wendidau sy'n gysylltiedig â'r unigolyn gael eu hystyried gan yr asesiad risg unigol a chan y cyflogwyr. O ran y system rota y mae'r Aelod wedi'i hawgrymu, yn amlwg, rydym wedi gofyn i ysgolion ac...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.