Llyr Gruffydd: Ond fy nealltwriaeth i yw nad oes yr un o’r amodau hynny yn eu lle ar hyn o bryd, ac a dweud y gwir, mae perygl gwirioneddol fod y Bil hwn yn San Steffan yn enghraifft arall o Lywodraeth y DU yn ymyrryd â materion datganoledig yn fwriadol, gan anwybyddu penderfyniadau a wneir yma, a chan danseilio datganoli ac uniondeb y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn ymdrech i orfodi eu hagenda Geidwadol...
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Bydd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd hon cyn bo hir. Nawr, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi y bydd gweithgareddau'r banc, ac rwy'n dyfynnu, yn darparu 'cymorth ariannol i brosiectau sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â seilwaith’ ac yn darparu 'benthyciadau i awdurdodau cyhoeddus perthnasol ar...
Llyr Gruffydd: Yn wyneb y cynnydd rydym ni yn ei weld ar hyn o bryd yn achosion COVID, mae mwy a mwy o ofid nawr ein bod ni'n gweld rhagor o wastraff, o safbwynt y masgiau wyneb mae pobl yn eu defnyddio'n gynyddol, a byddwn i'n leicio gwybod beth ydych chi, fel Llywodraeth, yn mynd i'w wneud i addysgu pobl ynglŷn â sut mae gwaredu'r masgiau yna mewn modd cyfrifol. Rydym ni'n cofio sut welsom ni nhw yn ein...
Llyr Gruffydd: Hoffwn i hefyd glywed datganiad gennych chi fel Gweinidog materion gwledig, fel y gallwn fynd i'r afael yn wirioneddol â rhai o'r materion yr ydym eisoes wedi clywed amdanyn nhw mewn cysylltiad â phorthiant anifeiliaid, yn enwedig. Mae gwir angen i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol. Clywaf yr hyn yr ydych yn ei ddweud o ran ei fod yn beth i Lywodraeth y DU, ac mai ganddyn nhw yn bennaf y...
Llyr Gruffydd: Diolch, ac rydym wedi rhannu rhai profiadau ofnadwy, onid ydym, ar deithiau o'r gogledd i'r de? Rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedoch chi. Rwyf wedi gwrando am y rhan fwyaf o'r awr ddiwethaf ar eich cyd-Aelodau'n egluro beth yw'r broblem. Yr hyn nad wyf yn ei glywed yw: beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol? Felly, efallai, gyda’r ychydig funudau sydd gennych ar ôl, y gallech...
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Dwi’n ymwybodol o gyfyngiadau amser, felly fe wnaf i ddim ymateb i bob sylw, ond dim ond i ddiolch i’r Gweinidog am ei chyfraniad hi. Mae’n dda clywed y bydd yr adolygiad yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr. Y rhwystredigaeth rŷn ni’n teimlo yw efallai petasai’r broses wedi cychwyn yn gynt, mi fyddem ni’n cyrraedd y llinell derfyn yn gynt a byddem...
Llyr Gruffydd: Nawr, mi fuodd yna oedi o 13 awr cyn i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru gyrraedd y lleoliad ar ôl codi’r larwm. Mi ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthym ni mai'r rheswm am yr oedi oedd bod swyddogion yn ymateb i ddigwyddiadau llygredd eraill â blaenoriaeth uchel a bod pryderon hefyd ynghylch iechyd a diogelwch yr un swyddog oedd ar gael. Fe ddaeth ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Llywydd—neu Dirprwy Lywydd dros dro, dylwn i ddweud. Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r arddodiad yma. Hwn yw'r adroddiad cyntaf ar Cyfoeth Naturiol Cymru y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi'i gyhoeddi yn ystod y Senedd yma, ac mae yn rhywbeth, wrth gwrs, rŷn ni'n bwriadu ei gyhoeddi yn flynyddol. Ac fe fydd hynny wedyn yn cael ei ddilyn, fel...
Llyr Gruffydd: Diolch am hynny. Ces i'r fraint, wythnos diwethaf, o ymweld â'r elusen Almost Home Dog Rescue, yn ymyl yr Wyddgrug, a dwi'n gwybod bod yna Aelodau eraill wedi bod ac ar fin ymweld yn ogystal. Wrth gwrs, mi welwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd yn cymryd anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig, a nawr wrth gwrs, wrth i ni ddod yn ôl i ryw fath o normalrwydd, mae pobl yn sylweddoli efallai fod...
Llyr Gruffydd: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r risg gynyddol i les anifeiliaid o ganlyniad i'r argyfwng costau byw? OQ58242
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Dwi'n meddwl bod rhai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu codi wedi, yn sicr, cyfoethogi y gwaith pwyso a mesur mae'r pwyllgor wedi'i wneud. Mi gawsom ni ein hatgoffa mai un o ganlyniadau ymarferol y diffygion yma yw bod yna draethau yn colli eu baneri glas, ac mae hynny nid yn unig yn dod â goblygiadau amgylcheddol, ond mae...
Llyr Gruffydd: Yn ystod ein hymchwiliad ni, fe glywon ni dro ar ôl tro nad gollyngiadau o’r gorlifoedd yw’r prif reswm dros ansawdd gwael ein hafonydd, a dydyn ni fel pwyllgor ddim yn anghytuno â hynny, wrth gwrs. Ond mae yna dueddiad gan rai i ddefnyddio hynny i geisio diystyru’r nifer annerbyniol o ollyngiadau a thrio troi’r ddadl at lygryddion a sectorau eraill, a dyw hynny'n fawr o help, wrth...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni gynnal ein hymchwiliad byr, penodol i orlifoedd stormydd pan oedd y mater yn cael cryn dipyn o sylw. Roedd yna benawdau newyddion cyson am garthffosiaeth amrwd yn cael ei ollwng i afonydd ledled Cymru a Lloegr. Roedd adroddiadau o ddadlau brwd yn San Steffan ynghylch deddfau llymach i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion. Yna, daeth...
Llyr Gruffydd: Nawr, nid am fy mod am weld mwy o wleidyddion rwy'n cefnogi Aelodau ychwanegol, ond rhaid i bawb ohonom dderbyn bod arnom angen mwy o gapasiti i ymdrin â'r pwerau a'r cyfrifoldebau cynyddol sydd gennym. Mae'n gwneud synnwyr fod pwerau datganoledig ychwanegol a phwerau deddfu ychwanegol a phwerau ychwanegol i amrywio trethi yn golygu y bydd mwy o bwysau ar y capasiti presennol, ac os na...
Llyr Gruffydd: Dwi jest eisiau ehangu ar y pwynt roedd y Llywydd, a dweud y gwir, yn ei wneud ynglŷn â chapasiti a diffyg capasiti yn y Senedd. Byddwch chi'n gwybod fy mod i'n cadeirio pwyllgor yn y Senedd, Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae remit y pwyllgor yna yn eang iawn, fel mae'r teitl yn awgrymu. Rŷn ni'n sôn am yr amgylchedd, rŷn ni'n sôn am newid hinsawdd—sy'n agenda...
Llyr Gruffydd: Nid oeddwn am ddechrau gyda hyn, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy nhristáu a fy mlino gan beth o'r dicter ffug a glywaf gan rai o'r cyfranwyr yn y ddadl hon, lle maent yn grwgnach ynglŷn â chynyddu maint y Senedd a'r gost a ddaw yn sgil hynny. Nid yw'r gwleidyddion hynny'n poeni dim pan fydd Prif Weinidog Prydain yn chwyddo rhengoedd Tŷ'r Arglwyddi yn helaeth. Ni cheir galwadau...
Llyr Gruffydd: Na wnaf, mae'n ddrwg gennyf, oherwydd mae pobl wedi cael eu cyfle i gyfrannu. Nid ydynt wedi'u hethol ac wrth gwrs, penodir llawer ohonynt yn erbyn argymhelliad a chyngor y comisiynydd penodiadau. Wel, pwy oedd yn rhefru am swyddi i'r bechgyn bum munud yn ôl? Pwy oedd yn rhefru am fargeinion ystafell gefn a choridorau tywyll? A phan ddaw'n fater o gost, gwyddom fod Tŷ'r Arglwyddi yn costio...
Llyr Gruffydd: Wel, os oes angen prawf, mae'r datganiad yma, yn fy marn i, yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd ar Betsi Cadwaladr. Rŷch chi'n tincro gyda'r symptomau yn lle mynd i'r afael yn fwy sylfaenol â'r salwch sy'n llethu gwasanaethau ar draws y gogledd.
Llyr Gruffydd: Sawl gwaith ydym ni wedi bod yma o'r blaen o ran Betsi Cadwaladr, Gweinidog? Sawl gwaith y mae'n rhaid i ni ddod yma, ac, a dweud y gwir, gwrando ar eich datganiadau torri a gludo am ymyraethau mwy penodol, mwy o gyfarwyddwyr newydd, mwy o gyfarfodydd teirochrog? Rydych chi fel record wedi torri. Mae'n ddatganiad yr ydych chi a'ch rhagflaenwyr wedi'i wneud ar wahanol ffurfiau dro ar ôl tro,...
Llyr Gruffydd: Na, rwyf wedi gorffen, mewn gwirionedd. [Chwerthin.]