Canlyniadau 161–180 o 8000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Berthynas Waith rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Diolch, Llywydd. Er mwyn ei roi yn ei gyd-destun am eiliad, derbyniodd Cymru 22 y cant o ddyraniad DU yr Undeb Ewropeaidd o'r rownd olaf o gronfeydd strwythurol—22 y cant. Cawsom ni 10 y cant o'r gronfa ffyniant bro. Cofiwch, Llywydd—cofiwch—nid oeddem ni i fod un geiniog yn waeth ein byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nonsens oedd hynny yn y pen draw.  I ateb pwynt yr Aelod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Berthynas Waith rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, dim ond i wneud yn siŵr bod hyn ar y cofnod yn gywir, mae'r swm o arian sydd ar gael i Gymru gyfan o'r gronfa ffyniant bro yn llai na'r arian sydd ar gael i dde-ddwyrain Lloegr. Nawr, a ddylen ni synnu at hynny? Wel, nid ydw i'n credu y bydden ni, oherwydd roedd y Prif Weinidog presennol ar gofnod yn ystod ei ymgyrch i fod yn Brif Weinidog wedi dweud ei fod ef ei hun—ef ei...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Berthynas Waith rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, mae ansefydlogrwydd Llywodraeth y DU a newidiadau gweinidogol aml yn y DU wedi'i gwneud hi'n anodd ffurfio cysylltiadau dibynadwy a chynhyrchiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni'n parhau i bwyso am weithredu'r peirianwaith cysylltiadau rhyng-lywodraethol diwygiedig a'r system ragweladwy, barchus y mae'n ei awgrymu.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Argyfwng Costau Byw (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth; rwy'n credu ei fod yn ddatganiad o ffaith y bydd safonau byw yn disgyn yn y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf, i raddau nad ydym ni erioed wedi'u gweld o'r blaen. Llywydd, rwy'n credu bod Jayne Bryant yn gwneud dau bwynt pwysig iawn. Mae'n ymddangos i mi weithiau bod y graddau y mae Llywodraeth y DU wedi ymbellhau o'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Argyfwng Costau Byw (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys yng Ngorllewin Casnewydd, yn wynebu'r cwymp mwyaf a mwyaf serth mewn safonau byw y cafodd eu cofnodi erioed. Y flwyddyn ariannol hon, byddwn ni'n gwario £1.6 biliwn ar gymorth costau byw wedi'i dargedu a rhaglenni cyffredinol i ymdrin â thlodi ac i adael arian ym mhocedi pobl.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae'r rheiny wir yn bwyntiau pwysig iawn y gwnaeth Huw Irranca-Davies y prynhawn yma. Y gobaith gorau sydd gennym ni o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn camu'n ôl o'r dibyn y mae wedi'i greu ei hun yw y bydd yn gwrando, nid yn unig ar leisiau yma yng Nghymru neu yn yr Alban, ond ar y llu o leisiau hynny mewn bywyd academaidd, grwpiau amgylcheddol, ac yn arbennig ym maes busnes. Ac...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddio ei rhaglen ddeddfwriaethol mewn ffyrdd sy'n diystyru confensiwn Sewel ac yn tanseilio'r setliad datganoli yn llechwraidd. O'r Biliau presennol, mae'r Bil Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) mympwyol ac sydd wedi'i lywio gan ideoleg yn peri risgiau sylweddol iawn i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Fasgiwlar (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rŷn ni wedi bod ar ôl hanes gwasanaethau fasgiwlar yn y gogledd yn fwy nag unwaith ar lawr y Senedd. Dwi ddim yn cytuno, dydy’r bwrdd iechyd ddim yn cytuno a dydy’r colegau brenhinol ddim yn cytuno gyda beth mae'r Aelod wedi awgrymu dros y blynyddoedd. Llywydd, mae'r Gweinidog iechyd wedi derbyn bod dal pryderon gyda'r gwasanaeth fasgiwlar yn y gogledd a'r cynnydd wrth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Fasgiwlar (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn, Llywydd. Dros yr wythnosau nesaf, bydd sawl adroddiad yn helpu’r bwrdd gyda’r gwaith angenrheidiol o wella’r gwasanaeth fasgiwlar i gleifion yn Arfon. Bydd hynny'n cynnwys yr ail-arolygiad diweddar o’r gwasanaeth gan Arolygiaeth Iechyd Cymru, archwiliad cynaliadwyedd annibynnol, a'r adroddiad a gafodd ei gomisiynu drwy banel ansawdd fasgiwlar y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogaeth ar gyfer Dibyniaeth ar Gyffuriau (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n dechrau drwy dalu teyrnged i'r gwaith sy'n digwydd ym Mrynawel—prosiect sy'n uno pobl ar draws y Siambr hon yn y gwaith sydd wedi'i fuddsoddi i'w wneud yn llwyddiant. Mae'r dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio yng Nghymru yn ddull lleihau niwed, un sy'n cydnabod y pwysau sy'n bodoli ac sy'n gwthio pobl i'r anawsterau hyn, ac sy'n ystyried camddefnyddio sylweddau fel mater...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogaeth ar gyfer Dibyniaeth ar Gyffuriau (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod. Mae'n iawn i ddweud bod marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau yn y flwyddyn ddiwethaf y mae'r ffigurau ar gael ar ei chyfer wedi cynyddu yng Nghymru, fel y gwnaethon nhw ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, ond fe wnaethon nhw ostwng yn Abertawe. Felly, mae hynny'n beth pwysig i'w gydnabod hefyd. Rwy'n derbyn bod heriau penodol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Adnewyddadwy (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Rwy'n sicr yn cytuno ynghylch pwysigrwydd ynni cymunedol lleol. Yn y datganiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma, rwy'n rhagweld y bydd ganddi rywbeth i'w ddweud am dargedau newydd a mwy uchelgeisiol yn y rhan honno o'r hyn rydyn ni'n ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ein cefnogaeth i Ynni Cymunedol Cymru yn sylweddol. Ein cyn gyd-Aelod Leanne Wood sy'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogaeth ar gyfer Dibyniaeth ar Gyffuriau (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo pobl sydd â phroblemau defnyddio cyffuriau ac alcohol. Rydym ni'n buddsoddi bron i £64 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau yn y flwyddyn ariannol hon, a bydd hynny'n cynyddu i bron i £67 miliwn yn 2023-24.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Adnewyddadwy (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Mae gennym ni gynllun morol. Cyhoeddwyd cynllun morol cyntaf Cymru ym mis Tachwedd 2019 a gosodwyd yr adolygiad tair blynedd gyntaf o'r cynllun hwnnw gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd. Felly, nid wyf i'n hollol siŵr beth mae'r Aelod yn gofyn amdano pan fo'r cynllun hwnnw yn bodoli ac wedi cael ei adrodd yma i Aelodau'r Senedd. Ar fater penodol y gyllideb, mae'r Gweinidog gerbron y pwyllgor...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Adnewyddadwy (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Polisi'r Llywodraeth yw cael Ystad y Goron wedi ei ddatganoli i ni yma yng Nghymru. Rŷm ni wedi cael mwy nag un sgwrs gydag Ystad y Goron ac rŷm ni wedi rhoi yr un syniad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Fel dwi'n gwybod y bydd Llyr Gruffydd yn gwybod, gyda Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig, bydd dim cyfle, dwi ddim yn meddwl, i symud ymlaen gyda'r syniad yna. Ond ym marn y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Adnewyddadwy (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Yr wythnos diwethaf cafodd les gwely'r môr ei dyfarnu i'r prosiect Mona, ac mae hynny’n garreg filltir. Os bydd yr amodau'n iawn, bydd modd denu buddsoddiad mawr o’r sector preifat i greu dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Yn gyntaf oll, mae llawer o bobl yn y gwasanaeth iechyd yn gweithio llai nag wythnos pum diwrnod. Mae'n rhan o natur newidiol y ffordd y mae pobl sydd yn y swyddi hynny lle ceir pwysau mawr yn dewis gwneud eu dyfodol eu hunain. Mae'n rhan o'r rheswm pam mae gennym ni fwy o bobl yn gweithio yng ngwasanaeth iechyd Cymru, ym mhob un agwedd arno, nag erioed o'r blaen. Rydyn ni bob amser yn barod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, cyhoeddwyd ffigurau yr wythnos diwethaf ar berfformiad yn GIG Cymru. Dyma'r gwasanaeth argyfwng a ddisgrifiodd yr Aelod: gostyngodd yr holl arosiadau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ym mis Tachwedd. Gostyngodd cyfanswm y bobl a oedd yn aros; gostyngodd nifer y bobl a oedd yn aros dros 26 wythnos, gostyngodd dros 52 wythnos, gostyngodd dros ddwy flynedd. Gostyngodd nifer y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwyf wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau yr wyf i wedi dweud yn y Siambr hon bod y GIG yng Nghymru o dan bwysau aruthrol ac nad yw'n gallu gwneud yr holl bethau yr hoffem iddo eu gwneud yn y ffordd yr hoffem iddo eu gwneud nhw. Os yw arweinydd Plaid Cymru yn credu bod rhoi label ar hynny rywsut, ar ei ben ei hun, yn gwneud hynny i gyd rhyw fymryn yn well, yna nid yw hwnnw'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (24 Ion 2023)

Mark Drakeford: Mae'r cyllidebau cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gostwng bob blwyddyn; maen nhw 8 y cant yn is y flwyddyn nesaf nag y maen nhw eleni. O ble mae'r Aelod yn meddwl y mae'r arian yn dod i wneud y pethau y mae'n eu hawgrymu? Nid yn unig hynny, ond nid yw ein terfyn benthyg cyfalaf wedi newid ers 2016. Nid penderfyniadau Llywodraeth Cymru yw'r rhain; penderfyniadau'r Llywodraeth y mae...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.