Caroline Jones: A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau arennol yng Nghymru?
Caroline Jones: Er mwyn sicrhau bod y corff llais y dinesydd yn sefydliad effeithiol i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ganddo staff sydd wedi'u hyfforddi'n effeithiol. Gan eich bod ond cystal â'ch hyfforddiant, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn rhoi dyletswydd ar y corff newydd i arfogi a hyfforddi ei holl staff a gwirfoddolwyr yn llawn i'w paratoi nhw ar gyfer cyflawni eu...
Caroline Jones: Credwn fod y ddau welliant yn y grŵp hwn yn hanfodol er mwyn i'r corff llais y dinesydd weithredu'n effeithiol. Heb ddyletswydd gyfreithiol ar gyrff y GIG ac awdurdodau lleol i gydweithredu, mae perygl na fydd llais y dinesydd yn cael ei glywed.
Caroline Jones: Yn ein barn ni, gwelliant 45 yw un o'r gwelliannau pwysicaf yr ydym yn eu trafod heddiw. Mae'r gallu i gynnal ymweliadau dirybudd â chyfleusterau'r GIG wedi galluogi'r cynghorau iechyd cymuned i amlygu methiannau sydd wedi effeithio ar ofal cleifion. Roedd y ffaith bod gweledigaeth y Gweinidog i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned wedi cael gwared ar yr ymweliadau hyn yn peri pryder enfawr...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. I fod yn hyrwyddwr effeithiol, mae'n rhaid i'r corff llais y dinesydd gael ei glywed. Mae'r cynghorau iechyd cymuned wedi bod yn hyrwyddwr effeithiol i gleifion Cymru, yn rhannol, oherwydd eu hawl i gael eu clywed. Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd sylw o sylwadau sy'n cael eu gwneud gan Gynghorau Iechyd Cymuned. Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Angela a Rhun yn ymestyn...
Caroline Jones: Un o'r beirniadaethau mwyaf o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddisodli'r Cynghorau Iechyd Cymuned oedd colli'r llais lleol, rhanbarthol. Rydym ni wedi rhoi ein cefnogaeth i welliannau Angela oherwydd, yn ein barn ni, byddan nhw'n helpu i adfer y cysylltiadau lleol a fyddai'n cael eu colli drwy gael gwared ar y Cynghorau Iechyd Cymuned a'u disodli gan gorff cenedlaethol bach gyda swyddfa yng...
Caroline Jones: Er na allaf gefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio'i wneud. Fodd bynnag, credaf mai'r lle hwn, nid Gweinidogion Cymru, sydd yn y sefyllfa orau i benodi aelodau i gorff llais y dinesydd. Felly, rwyf yn dewis cefnogi gwelliannau Angela. Corff llais y dinesydd yw un o rannau pwysicaf y ddeddfwriaeth hon. Nid oeddwn erioed...
Caroline Jones: Rwy'n cefnogi'r gwelliant yn y grŵp hwn, ac rwy'n cytuno â Phlaid Cymru bod yn rhaid cael cofrestr ar gyfer rheolwyr y GIG. Rwyf wedi dweud sawl gwaith yn y Siambr hon bod yn rhaid inni sicrhau bod rheolwyr y gwasanaeth iechyd yn cadw at yr un rhwymedigaethau â staff clinigol. Mae clinigwyr yn cael eu cynnwys yn y dyletswyddau gofal a roddir iddynt gan eu colegau brenhinol a'r cyrff...
Caroline Jones: Rwyf i hefyd yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Os ydym am gael unrhyw obaith o gyflawni'r ddyletswydd ansawdd, rhaid inni gael canllawiau statudol ar waith sy'n rhoi cyfarwyddyd i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch sut y gallant fynd ati i weithredu'r ddyletswydd ansawdd. Heb ganllawiau statudol, byddwn yn ei adael yn agored i'w ddehongli gan y byrddau iechyd lleol a'r...
Caroline Jones: Meddyliais yn hir ac yn galed ynghylch a ddylwn gyflwyno fy ngwelliannau fy hun i'r Bil hwn, ac yn y diwedd, rwyf wedi dewis cefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau. Holl ddiben diwygio deddfwriaeth yw ei gwella, er mwyn sicrhau y bydd y Ddeddf ganlyniadol o fudd i'r bobl a'n dewisodd ni i'w cynrychioli. Yn hytrach na chael pob un ohonom yn mynd ein ffordd ein hunain gyda...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich diweddariad diweddaraf, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n staff GIG rhagorol ni'n eu cymryd i'n hamddiffyn ni rhag lledaeniad firws COV-2 SARS. Fe fydd rhai o'r mesurau, fel y feddalwedd newydd i alluogi pobl i ymgynghori drwy fideo, yn gwella ein gwasanaeth iechyd ni y tu hwnt i'r argyfwng hwn, ac mae'n rhaid inni...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cytundebau tenantiaeth yn diwallu anghenion tenantiaid mewn tai cymdeithasol?
Caroline Jones: Wel, weithiau mae'n ddewis olaf, ond yr hyn roeddwn yn ei ddweud oedd, rwy'n credu bod angen mwy o waith atal er mwyn sicrhau nad yw plant yn cael eu rhoi mewn gofal yn y lle cyntaf. Ac nid wyf yn credu bod y rhwydwaith cymorth yno. Felly, rwy'n cytuno â chi—weithiau, ond nid yn gyfan gwbl, Rhianon. Diolch. Felly, ble roeddwn i? Roeddwn wedi dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a...
Caroline Jones: Gwnaf, yn sicr.
Caroline Jones: Diolch, Angela. Mae'n amharu'n llwyr ar fywyd y teulu cyfan. Felly, wrth inni roi camau ar waith i wella cyfleoedd bywyd y rhai sydd mewn gofal hirdymor, boed mewn cartref gofal neu gyda theulu maeth, dywedodd y Comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru fod buddiannau plant yn cael eu hesgeuluso yn y llysoedd teulu a'u bod yn pryderu ynglŷn â'r niferoedd uchel iawn o blant sy'n cael eu rhoi mewn...
Caroline Jones: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Yn anffodus, mae nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal wedi dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf. Ac er bod yn rhaid i anghenion a diogelwch y plentyn fod yn unig flaenoriaeth bob amser, rhaid inni wneud popeth a allwn i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal. Oherwydd, fel y mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn ei nodi'n...
Caroline Jones: Weinidog, dros y pump i 10 mlynedd nesaf, mae disgwyl i nifer yr aelwydydd un person gynyddu 15 i 20 y cant. Rydym yn gwybod bod gennym eisoes brinder eiddo un ystafell wely o ansawdd da ar gael i'w rentu'n gymdeithasol. Ceir tua 60,000 o unedau tai cymdeithasol un ystafell wely yng Nghymru, ond mae hanner y rhain yn dai â chymorth neu’n dai gwarchod. Weinidog, o ystyried bod mwyafrif yr...
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, yn ogystal â'ch datganiad ysgrifenedig cynharach am y cynllun gweithredu ar y cyd. Hoffwn ganmol y gwaith sy'n cael ei wneud gennych chi, eich swyddogion, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'n staff anhygoel yn y GIG wrth baratoi ar gyfer COVID-19. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y gwasanaeth 111 bellach ar gael ym mhob rhan o...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae adfywio'r Cymoedd gogleddol yn gofyn am fwy na dim ond datblygu economaidd a gwell cysylltiadau trafnidiaeth. Mae'n rhaid i ni adfywio'r amgylchedd a sicrhau bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn lleoedd y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddyn nhw. Prif Weinidog, yng ngoleuni'r sylwadau gan y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol bod y difrod a achoswyd gan storm Dennis yn rhagflas...
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Mae ein dibyniaeth yn y gorffennol ar lond llaw o gyflogwyr mawr wedi gadael economi Gorllewin De Cymru yn agored i niwed. Byddai cau gwaith dur Port Talbot yn ddinistriol i'r rhanbarth, ac rydym yn wynebu heriau enfawr o ran arallgyfeirio. Ond gallwn hefyd fanteisio ar y cyfleoedd os gallwn edrych i’r dyfodol. Yr heriau mwyaf sy'n ein hwynebu fel cenedl yw...