Mohammad Asghar: Gwnaf, ewch yn eich blaen.
Mohammad Asghar: Gadewch i mi orffen fy araith a rhoddaf yr ateb i chi mewn munud. Byddai corff gweithredol trafnidiaeth strategol yn cydgysylltu’r ddarpariaeth o brofiad teithio di-dor i ddefnyddwyr. Byddai hyn yn darparu swyddogaeth cefn swyddfa ar gyfer tocynnau integredig ar draws pob dull trafnidiaeth, a phob dull talu a ffefrir. Bydd tocynnau integredig ac opsiwn teithio clyfar yn gwneud gwahaniaeth...
Mohammad Asghar: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad y prynhawn yma ar ddatblygiad Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Diben yr adroddiad hwn yw sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn addas i’r diben. I'r perwyl hwnnw, mae'r pwyllgor yn gwneud 13 argymhelliad. Mae'n dda nodi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 13 argymhelliad, a bod Trafnidiaeth Cymru eu hunain wedi croesawu'r adroddiad. Hoffwn gyfyngu fy...
Mohammad Asghar: Weinidog, yng Nghymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, mae anghydraddoldebau iechyd amlwg rhwng y rheini sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig a'r rheini sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf cefnog. Nid yw gordewdra ymhlith plant yn eithriad. Mae mwy na 28 y cant o blant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig naill ai'n rhy drwm neu'n ordew o gymharu â llai na 21 y cant yn yr...
Mohammad Asghar: Mae cysylltiadau agos rhwng ysgolion, colegau addysg bellach a chyflogwyr yn ffactor pwysig wrth helpu pobl ifanc i gyflawni eu huchelgeisiau. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i alluogi colegau a chyflogwyr i gael gwell mynediad at wasanaethau cyngor ar yrfaoedd mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y wybodaeth y maent ei hangen i gyrraedd eu potensial gyrfaol llawn? Diolch.
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Gobeithio y byddwch yn cyflwyno'r cynllun peilot hwn, mae'n well. Mae arolygwyr eisoes yn ystyried darpariaeth cyngor ar yrfaoedd mewn ysgolion wrth wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, y llynedd, dywedodd pwyllgor o Aelodau Seneddol yn San Steffan y dylai ysgolion gael eu graddio'n benodol gan y Swyddfa Safonau mewn Addysg ar ansawdd eu cyngor ar...
Mohammad Asghar: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae cyngor o ansawdd da ar yrfaoedd yn hanfodol i helpu myfyrwyr i gael mynediad at y swyddi a'r sgiliau sydd fwyaf cymwys ar eu cyfer. Ond mae rhai wedi mynegi pryderon am ansawdd ac argaeledd cyngor ar yrfaoedd, gan gyfeirio at brinder cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol gan staff ysgolion. Beth...
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar droseddau casineb trawsryweddol yng Nghymru? Mae ffigurau a gafwyd gan y BBC o heddluoedd yng Nghymru yn dangos bod nifer y troseddau casineb trawsryweddol a gofnodwyd wedi mwy na dyblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n bosib bod rhywfaint o'r cynnydd hwn o ganlyniad i dangofnodi yn y gorffennol a bod mwy o...
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, i ymhelaethu ar gwestiwn Rhianon Passmore, byddwn yn llwyr gefnogi'r penderfyniad gan gyngor Caerffili i brynu 23 o'r cartrefi yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y llygredd aer yn Hafodyrynys. Fodd bynnag, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, gwrthododd y cyngor gynlluniau i ddymchwel y tai ac, yn hytrach, hoelio eu gobeithion ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer ar geir yn...
Mohammad Asghar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waharddiadau disgyblion o ysgolion yng Nghymru?
Mohammad Asghar: A gaf fi gofnodi fy niolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb prydlon wrth fynd i'r afael â fandaliaeth yn yr amffitheatr Rufeinig yng Nghaerllion, a reolir gan Cadw? Deallaf fod gweithgor ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Cadw, Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a'r gymuned leol, wedi cyfarfod ar 23 Mai i ystyried amrywiaeth o opsiynau i fynd i'r afael â'r mater. A...
Mohammad Asghar: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar gynnydd camau cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn erbyn y ddau gwmni sy'n cynghori ar werthiant tir cyhoeddus gan gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, a arweiniodd at golled ariannol i drethdalwyr Cymru? Bydd eich adroddiad cynnydd yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Mohammad Asghar: Mae'r achos dros ffordd liniaru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd yn dal yn gryf, Gweinidog. Cafodd ei gynnig gyntaf yn ôl ym 1991, ac aeth i'r afael â phroblem tagfeydd nad yw wedi cael sylw priodol erioed. Yr M4 yw cyswllt strategol Cymru â gweddill y DU ac Ewrop, ond cawn ein gwasanaethu drwy ffordd ddeuol dila sy'n methu â chyrraedd safonau traffyrdd modern. Yn ystod y ddwy flynedd...
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, yn gyntaf ar yr argyfwng recriwtio yn GIG Cymru? Yn ôl Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, nid yw traean o'r swyddi ymgynghorwyr a hysbysebir yn cael eu llenwi ac mae absenoldeb salwch hefyd yn cynyddu. Yn ôl y coleg mae ysbytai Cymru yn brin o staff a dan ormod o bwysau, ac maent wedi gwneud 16 o argymhellion ar gyfer gwella i...
Mohammad Asghar: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb i John Griffiths ynglŷn â digartrefedd. Efallai y byddwch yn ymwybodol fy mod i wedi codi'r mater hwn o'r blaen yn y Siambr hon, ynghylch sut y gallai podiau digartref leihau cysgu ar y stryd yng Nghymru. Ym mis Chwefror eleni, gosodwyd podiau i ddarparu llety brys dros nos i bobl ddigartref yng Nghasnewydd gan yr elusen Amazing Grace Spaces. Ers hynny,...
Mohammad Asghar: Weinidog, mae ffermwyr Cymru’n chwarae rhan hanfodol yn diogelu a gwella cefn gwlad. Mae llawer o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau gwerthfawr a geir ar dir ffermio Cymru’n dibynnu ar reolaeth weithredol gan ffermwyr. Mae RSPB Cymru yn honni nad yw'r lefelau cymorth presennol yn diogelu'r amgylchedd ac maent yn methu cadw busnesau fferm yn hyfyw na ffermwyr ar y tir. Rwy'n siŵr, Weinidog,...
Mohammad Asghar: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac ymunaf â hi i longyfarch Andrea Garvey. Nod Wythnos Addysg Oedolion yw codi ymwybyddiaeth o werth dysgu oedolion, dathlu cyflawniadau dysgwyr a darparwyr, ac ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau'n gadarnhaol. Y ffaith yw, mae dysgu oedolion yn allweddol i economi flaengar ac amrywiol ar gyfer y dyfodol....
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gawn ni ddatganiad os gwelwch yn dda gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar ganlyniad uwchgynhadledd twristiaeth Cymru yn Llandrindod ym mis Mawrth? Mae'r strategaeth 'Partneriaeth ar gyfer Twf' bresennol ar gyfer twristiaeth yn dod i ben y flwyddyn nesaf, a deallaf fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn ymgynghori â'r sector twristiaeth yn dilyn yr...
Mohammad Asghar: Dirprwy Weinidog, dros y tair blynedd diwethaf, mae dros 32,000 o blant ysgol yn y de wedi elwa ar addysg diogelwch ar y rheilffyrdd hanfodol. Mae Network Rail, wrth gymryd rhan gyda Menter diogelwch Crucial Crew, wedi bod yn darparu sesiynau diogelwch ar y rheilffyrdd i blant mewn ardaloedd yn cynnwys Caerffili, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch...
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, newyddion gwych i gael y buddsoddiad mawr hwn yn ardal Blaenau Gwent. Mae cynllun strategol y Cymoedd Technoleg yn datgan ei nod o greu 1,500 o swyddi newydd dros y 10 mlynedd nesaf. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd tuag at gyflawni'r nod, ac a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i lunio adroddiad blynyddol ar y prosiect hwn i'r Cynulliad, ac i sicrhau bod y...