Nick Ramsay: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, cyflwynwyd y cwestiwn hwn cyn i ddifrifoldeb y sefyllfa bresennol ddatblygu. Mae'n debyg y byddwch yn ymwybodol fod y freuddwyd o efeillio'r Fenni yn fy etholaeth â thref Chinamhora yn Zimbabwe wedi newid o fod yn freuddwyd i fod yn realiti sy'n datblygu'n gyflym, wrth i sawl cyfarfod gael eu cynnal yn ddiweddar. Mae hyn yn wych ar gyfer cysylltiadau...
Nick Ramsay: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau gefeillio trefi rhyngwladol ledled Cymru? OAQ55268
Nick Ramsay: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nick Ramsay: Diolch am hynny, Rhun. Fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd annibyniaeth y cynghorau iechyd cymuned. Ond nid mater o annibyniaeth yn unig yw hynny, nage? Mae hefyd yn gwestiwn o'u hystwythder, oherwydd maen nhw'n gallu mynd i'r sefydliadau iechyd hynny heb fawr o rybudd, bod yn ffrind ac yn llais diffuant i'r bobl sydd yno, ac ysbrydoli'r math yna o hyder. Felly, mae'n rhaid amddiffyn y gallu...
Nick Ramsay: Trefnydd, fel yr ydym ni wedi ei glywed gan lawer o gyfraniadau heddiw yn y Siambr hon, mae'r rhain yn amseroedd sy'n peri pryder, cyfnod tywyll, heb fawr o oleuni ym mhen draw'r twnnel; ni wyddom ble mae pen draw y twnnel hwnnw. Fel sydd bob amser yn wir yng Nghymru, pan fo argyfwng mawr yn digwydd, mae ein cymunedau yn ymateb i'r her, ac mae nifer o unigolion yn dod ymlaen i gynorthwyo'r...
Nick Ramsay: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nick Ramsay: Diolch am ildio. Fe sonioch chi fod rhai mathau o ganser sy’n anos gwneud diagnosis ohonynt nag eraill, ac mae hynny wedi fy atgoffa o achos etholwr y mae Angela Burns, ein llefarydd iechyd, wedi bod yn ymwneud ag ef gyda mi hefyd. Bu farw gwraig yr etholwr a welsom, yn anffodus, o ganser yr ofari; ni chredaf i ddiagnosis gael ei wneud tan gam 4. Mae'n anodd iawn gwneud diagnosis o rai...
Nick Ramsay: Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddech yn glyfar yn crybwyll y doll teithwyr awyr, gan wybod yn iawn fod yr ochr hon i'r Siambr yn cefnogi datganoli'r doll teithwyr awyr yn llawn. Felly mae rhai pethau rydym yn cytuno arnynt, ac mae pethau eraill nad ydym yn cytuno arnynt. Roedd y newidiadau treth incwm y soniwyd amdanynt yn ymwneud â throthwyon, ond mater arall yw hynny. A gaf fi, yn fy...
Nick Ramsay: Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn bod yn ddrygionus pan ddywedais y gair 'cyni'—roeddwn yn gwybod y byddai'n cymell ymateb tebyg i hwnnw. Ac mae sail i rywfaint o'r hyn a ddywedwch o ran twf wrth gwrs, ac rydych yn iawn i dynnu sylw at y pethau hynny. Ond rwy'n credu bod angen inni edrych ar yr ochr olau hefyd. Ac mae newyddion da yn y gyllideb hon ar gyfer y DU, a gobeithio y bydd...
Nick Ramsay: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae Canghellor y Trysorlys heddiw, yn ei gyllideb, wedi cyhoeddi nifer o ymrwymiadau ariannu allweddol i fentrau bach a chanolig eu maint, yn ogystal ag i'r diwydiant lletygarwch a manwerthu, yng ngoleuni bygythiad COVID-19, a godwyd gan lefarydd Plaid Cymru yn awr. Mae'r cyhoeddiad heddiw hefyd yn cynnwys £360 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i Lywodraeth...
Nick Ramsay: Weinidog, rydych newydd roi dadansoddiad clinigol, sy'n ddealladwy efallai—ar ddechrau eich ateb yn y fan honno—o effaith newidiadau i'r dreth incwm ar refeniw. Mae'r hyn rydych wedi'i ddweud, wrth gwrs, yn gwbl gywir yn dechnegol, ond mae cynyddu neu leihau trethi yn cael effeithiau eraill, wrth gwrs, effeithiau y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ymdrin â hwy ers amser maith: newidiadau...
Nick Ramsay: A wnewch chi ildio, Jenny?
Nick Ramsay: Dim ond o ran eich pwynt blaenorol yn y fan yna, mae'r ystadegyn sydd gennyf o'm blaen yn bendant yn dweud bod Llywodraeth Cymru bellach wedi benthyca'r £38 miliwn hwnnw yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n barod i drafod hynny gyda chi'n ddiweddarach. Efallai fy mod wedi camddeall, ond credaf fod yr arian hwnnw wedi ei fenthyca.
Nick Ramsay: Mae'n gwbl amlwg bod maes awyr fel Caerdydd yn ddarn pwysig nid yn unig o seilwaith trafnidiaeth Cymru, ond hefyd o seilwaith trafnidiaeth y DU hefyd, ac yn wir, wrth gwrs, fel cysylltiad i rannau eraill o'r byd ac, yn fwy diweddar, i Qatar drwy'r cysylltiadau a wnaed â'r cwmni awyrennau hwnnw, wrth gwrs, gan ddod yn ganolfan fyd-eang hefyd. Ac nid wyf yn credu bod cyllid yn broblem. Wrth...
Nick Ramsay: Mae'n bleser cael cyfrannu at y ddadl hon. Roeddwn braidd yn or-awyddus yn gynharach fel y cyfeiriais un o'm pwyntiau gwreiddiol, a dweud y gwir, at y Gweinidog yn fuan wedi iddo ddechrau siarad. Taniodd fy mrwdfrydedd gymaint fel ei fod yn gwybod beth yw fy safbwynt i ynglŷn â hyn.
Nick Ramsay: Diolch, Gweinidog, am dderbyn yr ymyriad. Fel y gwyddoch chi, a minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sydd wedi bod yn ystyried y mater hwn yn ddiweddar, yn sicr nid oes gennym ni fel pwyllgor ddim diddordeb mewn bychanu Cymru na bod yn negyddol er mwyn bod yn negyddol. Byddwch yn gwybod, fodd bynnag, ein bod wedi gofyn i swyddogion, o ran y benthyciadau hynny a'r benthyciadau...
Nick Ramsay: Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn brin, felly byddaf yn gryno. Yn gyntaf oll, mater a gafodd ei godi gan nifer o Aelodau yn y Siambr hon heddiw: sef llifogydd. A gaf i gytuno â'r sylwadau blaenorol hynny o ran cefnogaeth sydd ar gael i fusnesau a chartrefi, yn wir, ledled Cymru? Yn enwedig y cartrefi hynny nad ydyn nhw'n gallu cael yswiriant llifogydd confensiynol. Fe wnes i ymweld ag un...
Nick Ramsay: Rydych chi newydd fynd â mi yn ôl i 2007, a chredaf fod eich grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta yn un o'r grwpiau trawsbleidiol cyntaf i mi eu mynychu, a daethoch â dyn ifanc gyda chi i'r cyfarfod hwnnw a oedd wedi bod yn dioddef o anhwylder bwyta. Felly, rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch, fod dynion yn aml yn amharod i gyfaddef bod ganddynt anhwylder bwyta neu broblem iechyd...
Nick Ramsay: Diolch am ildio, Julie. Ar ddechrau eich cyfraniad, fe sonioch am waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes hwn a edrychodd ar bob un o'r meysydd hyn. Fel y gwyddoch, fe wnaethom bwynt o gymryd tystiolaeth gan y bobl ifanc eu hunain, ac un o'r negeseuon pwysicaf a gawsom gan y bobl ifanc hynny oedd pwysigrwydd sefydlogrwydd, yn enwedig o ran lleoliadau. Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn...
Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog ildio?