Canlyniadau 161–180 o 2000 ar gyfer speaker:Altaf Hussain OR speaker:Altaf Hussain OR speaker:Altaf Hussain OR speaker:Altaf Hussain OR speaker:Altaf Hussain OR speaker:Altaf Hussain

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Altaf Hussain: Beth bynnag, gadewch i mi barhau. Bydd y Bil yn cadw'r holl hawliau sylweddol yn Neddf Hawliau Dynol 1998 a'r confensiwn. Unwaith eto, ni allaf weld beth sydd o'i le ar hyn. Gallwn i gyd gytuno bod y GIG yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono. Fodd bynnag, o dan faner y GIG, nid yw'r Ddeddf Hawliau Dynol y mae Llafur eisiau ei chadw bob amser yn diogelu hawliau cleifion. Mae'r GIG...

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rydych chi wedi gwneud gwaith da. Mae'n bleser gen i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Rwy'n talu teyrnged i'r Gweinidog am ddod â'r ddadl i'r Senedd. Hoffwn siarad am y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, ac rydw i am fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r cyhuddiadau bod Llywodraeth y DU yn ceisio erydu hawliau dynol. Mae hawliau unigolion a grwpiau o bobl...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 3 Mai 2022)

Altaf Hussain: Gweinidog, hoffwn i chi sicrhau datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, iddi ymateb i'r Athro Donald Forrester, sydd wedi galw am adolygiad o waith cymdeithasol plant yng Nghymru yn dilyn marwolaeth Logan Mwangi. Dywedodd yr athro wrth BBC Cymru fod cryn nifer o farwolaethau plant wedi bod ledled y DU, y mae angen arolygon i gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol arnyn nhw....

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Strategaethau Adeiladu Cyfoeth Cymunedol (27 Ebr 2022)

Altaf Hussain: Nawr, wrth inni gynllunio ar gyfer adnewyddu ein heconomi, mae cyfleoedd enfawr i gymunedau gymryd rhan yn y gwaith o benderfynu sut y gwneir hynny ac i awdurdodau lleol weithredu fel yr arweinwyr a'r hwyluswyr. Ceir enghreifftiau o hyn yn Lloegr, yn Preston, lle mae ganddynt strategaeth adeiladu cyfoeth uchelgeisiol. Pa strategaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhagweld ar gyfer Cymru er mwyn...

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Therapi Trosi (26 Ebr 2022)

Altaf Hussain: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Nid yw bod yn aelod o'r gymuned LHDT+ yn salwch i'w wella, a rhaid croesawu unrhyw gam y gallwn ni ei gymryd i wahardd therapi trosi er lles. Mae gwahardd therapi trosi yn gam enfawr tuag at ddarparu cydraddoldeb i'r gymuned LHDT. Mae therapi trosi yn wenwynig a gall gael effaith enfawr ar les meddyliol a chorfforol pobl sy'n...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (26 Ebr 2022)

Altaf Hussain: Gweinidog, rwyf i bob amser wedi bod yn falch o Ben-y-bont ar Ogwr fel lle cyffrous a bywiog i fyw ynddo. Ond, mae wedi dod yn amlwg bod canol y dref yn ei chael hi'n anodd, a chymaint o siopau ac adeiladau gwag yn rhoi ymdeimlad o roi'r gorau iddi. Mae llawer o fusnesau wedi cael trafferth mynd yn ôl ar eu traed ers y pandemig. Mae llawer wedi troi at werthu ar-lein, ond mae canol y dref yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (26 Ebr 2022)

Altaf Hussain: Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae llywodraeth leol wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol yng Nghymru fel ysgogwr economaidd allweddol, sy'n gallu nodi anghenion a meithrin perthynas â phartneriaid. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ar wario eu dyraniadau o dan y gronfa ffyniant gyffredin? Ac a yw'n rhannu fy nghyffro ein bod ni'n cydnabod y rhan bwysig...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Perthnasoedd Iach (30 Maw 2022)

Altaf Hussain: Prynhawn da, Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y dylai addysg cydberthynas a rhywioldeb gefnogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd i ddeall sut y mae perthnasoedd a rhywioldeb yn siapio eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill. Dylai dysgwyr gael eu harfogi a'u galluogi i geisio cymorth ar faterion sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb ac i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Datgarboneiddio Tai (30 Maw 2022)

Altaf Hussain: Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Weinidog, mae mwy na 70 y cant o’r 1.4 miliwn o gartrefi sydd gennym yng Nghymru yn eiddo i berchen-feddianwyr. Ar gyfartaledd, mae ein heiddo'n hŷn nag mewn mannau eraill yn y DU, a bydd llawer yn wynebu her i ddatgarboneiddio yn unol â’r targed a osodwyd gennych. Os mai cyflenwad ynni yw’r broblem, sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i deuluoedd...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Mamolaeth (29 Maw 2022)

Altaf Hussain: Diolch, Sioned Williams, am godi'r mater pwysig hwn. Prynhawn da, Prif Weinidog. Yn ystod anterth y pandemig, gwelsom gyfyngiadau enfawr yn cael eu gosod ar famau newydd a'u teuluoedd, nad oedden nhw'n cael ymweld â nhw yn yr ysbyty. Mae'r elusen a'r grŵp ymgyrchu Birthrights wedi monitro'r effaith ar draws y DU i fynegi'r heriau y mae llawer wedi eu hwynebu. Mae'n debyg eu bod nhw wedi...

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i wneud fy natganiad o fuddiant, gan fy mod i'n gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Diolch.

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd a Gweinidog. Rwy'n ddiolchgar, ac mae'n braf bod nôl yma, yn eich plith. Gweinidog, byddwch chi'n ymwybodol o adroddiad archwilio mewnol diweddar yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr a ddatgelodd daliad o £316,192 i gwmni ar gyfer gwaith inswleiddio cartrefi, lle'r oedd y cyfarwyddwr yn aelod o gabinet y cyngor Llafur, a lle cafodd yr arian ei dalu i gwmni na...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Wythnos Waith Pedwar Diwrnod (19 Ion 2022)

Altaf Hussain: Diolch, Weinidog. Gadewch imi fynd ag ef ychydig ymhellach. Weinidog, mae llawer o gyflogwyr eisoes yn cynnig amodau gwaith hyblyg, gan gydnabod y gall sefydliadau elwa'n aml iawn ar drefniadau sy'n ymateb i ffyrdd o fyw pobl, trefniadau teuluol a chyfrifoldebau. A yw'r Gweinidog wedi estyn allan at sefydliadau sy'n cynnig mwy o hyblygrwydd i ddeall tystiolaeth y manteision hynny, ac os...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (18 Ion 2022)

Altaf Hussain: Gweinidog, fis diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o roi tri diffibriliwr—dau i ysgolion cynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac un i ganolfan adsefydlu Brynawel. A dyma dynnu sylw, mewn gwirionedd, unwaith eto at bwysigrwydd datblygu ein rhwydwaith Cymru gyfan a nifer y diffibrilwyr yn y frwydr i achub bywydau. A all y Llywodraeth, yn rhan o'r ymgyrch barhaus hon, ymrwymo hefyd i adolygu cynnydd o...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig (12 Ion 2022)

Altaf Hussain: Iawn, Ddirprwy Lywydd. Ynghyd â hynny, mae yna ddyled feddygol, nad ydym wedi mynd i'r afael â hi hyd yma, ond mae'r Cadeirydd wedi cytuno y byddwn yn edrych ar hynny. Mae'n bryder mawr i mi, yn bersonol, fod hyn yn digwydd yma, ac nad ydym yn gwneud dim yn ei gylch. Diolch yn fawr iawn.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig (12 Ion 2022)

Altaf Hussain: Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae'n bleser gennyf gyfrannu at y ddadl heddiw ar ein hadroddiad, 'Dyled a'r pandemig'. Mae'r pandemig wedi gadael ei ôl mewn gwahanol ffyrdd. I lawer o bobl, fe wnaeth daro'n ariannol—roeddent yn wynebu ansicrwydd ynglŷn â'u swyddi, llai o incwm, biliau uwch. Mae wedi dwysáu'r problemau ariannol y mae teuluoedd wedi bod yn...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Mynediad i Gyfiawnder (12 Ion 2022)

Altaf Hussain: Weinidog, mae gan dechnoleg ddigidol botensial i ail-lunio'r ffordd y mae cyfiawnder yn gweithredu a sut y mae pobl yn cael mynediad ato. Mae'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn buddsoddi tua £1 biliwn i ddiwygio ei systemau gyda'r nod o gyflwyno technolegau newydd a ffyrdd modern o weithio yn y llysoedd, ac mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi creu cronfa arloesi gwerth £5 miliwn i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf (12 Ion 2022)

Altaf Hussain: Weinidog, bydd llawer o'n teuluoedd mwyaf gweithgar yn wynebu heriau ariannol mawr dros y blynyddoedd nesaf, ac nid oherwydd cost tanwydd yn unig. Wrth i'ch Llywodraeth barhau i fwrw ymlaen â'i tharged carbon niwtral, y rhai lleiaf abl i fforddio newid yn eu system wresogi ac agweddau eraill ar eu ffordd o fyw a fydd yn ysgwyddo'r baich o gyrraedd y targedau hinsawdd hyn. Pa asesiad a...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Ion 2022)

Altaf Hussain: Gweinidog, fel cyfaill Senedd i Srebrenica, hoffwn i alw am ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod y datblygiadau sy'n peri pryder yn Bosnia a Herzegovina. Mae llawer o'n cyd-Aelodau yma, gan gynnwys Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gefnogwyr ers tro i Remembering Srebrenica UK, gan sicrhau llais cryf o Gymru ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn San Steffan. Mae dadleuon wedi bod yn...

4. Datganiadau 90 Eiliad (15 Rha 2021)

Altaf Hussain: Yn gyntaf, gadewch imi sôn am Elin a'r hyn a ddywedodd. Iaith yw calon y genedl. Nawr, gadewch imi sôn am yr Athro Robert Owen. Mab i ffermwr oedd Bob Owen, a anwyd yn Chwilog ym mhenrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru ym 1921, a byddai wedi bod yn 100 oed eleni. Fe'i magwyd ar fferm y teulu. Ar ôl bod yn yr ysgol gynradd a'r ysgol ramadeg leol, astudiodd feddygaeth yn Ysbyty Guy yn Llundain,...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.